Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

46.

Cofnodion. pdf eicon PDF 414 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021.

47.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

48.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)            Gwobrau Tai Cymru 2021

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwobrau Tai Cymru'n cydnabod ac yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru. Roedd yn bleser ganddo gyhoeddi bod Cyngor Abertawe wedi ennill mewn 2 gategori yng Ngwobrau Tai Cymru 2021.

 

i)             Categori Gweithio mewn Partneriaeth. Tŷ Tom Jones.

 

ii)             Categori Arloesedd mewn Tai. Cyngor Abertawe mewn partneriaeth ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

 

Llongyfarchiadau i Matt's House Abertawe sydd wedi ennill gwobr hefyd:

 

i)             Categori Cefnogi Cymunedau. Prosiect Bwyd Swansea Together

 

b)           Gwobr y Faner Werdd Gymunedol – Llyn golchi a gardd gymunedol Cyfeillion Mayhill

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd Gymunedol i lyn golchi a gardd gymunedol Cyfeillion Mayhill am y drydedd flwyddyn yn olynol. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

c)            Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)             Eitem 10 “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor”

 

Yn yr argymhelliad, rhaid dileu'r cyfeiriad at Baragraff 1.6" a rhoi "Paragraff 3" yn ei le.

49.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)                  Abertawe - Dinas Hawliau Dynol

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n dod ag adroddiad cyn bo hir sy'n datgan Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol. Hwn fyddai'r cyntaf yng Nghymru.

 

b)           Partner Datblygu

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Urban Slash wedi'i gyhoeddi fel Partner Datblygu'r Awdurdod.

 

c)            Croen yr Arena

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd llawer wedi gweld profion diweddar ar groen yr Arena a bod y profion yn mynd rhagddynt yn dda. Dywedodd hefyd fod y gwaith ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf cyn i ATG wneud y gwaith mewnol.

 

d)           Cronfa Adfer

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i bawb am y ceisiadau a gyflwynwyd i gael cyllid o'r gronfa. Dywedodd eu bod yn cael eu hystyried ac y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud maes o law.

50.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

 

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig, erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Cyflwynodd Nortridge Perrott 3 chwestiwn mewn perthynas â Chofnod 52 "Adolygiad o Gronfeydd Refeniw Wrth Gefn".

 

Ymatebodd y Swyddog Adran 151.

51.

Adroddiad Blynyddol 2020/21 Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad sef ei esboniad ef o daith wella'r cyngor i 2020-21, a pha mor dda yr oedd y cyngor yn bodloni'i ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr adroddiad yn edrych yn ôl ar feysydd i'w gwella'r llynedd; yr heriau a wynebwyd a'r blaenoriaethau newydd a nodwyd ar gyfer 2021/22. Tynnodd sylw at newidiadau a oedd wedi digwydd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau llesiant cenedlaethol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020-21.

52.

Adolygu'r refeniw wrth gefn. pdf eicon PDF 817 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn ac roedd yn ceisio cytundeb ar gyfer unrhyw awgrym i ailddosbarthu'r cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Caiff yr argymhellion a wnaed yn Adrannau 3.10 a 3.11 o'r adroddiad eu cymeradwyo.

53.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro, y Pennaeth Eiddo a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan Weithgor y Cyfansoddiad. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i Reolau'r Gweithdrefnau Prynu a Gwerthu Tir a'r Cynllun Dirprwyo.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a mabwysiadu'r gwelliannau fel yr amlinellir ym Mharagraff 3 ac Atodiad A yr adroddiad.

54.

Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr adroddiad yn ceisio cydymffurfio â Rhan 6, Pennod 2 "Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio: Aelodaeth a Thrafodion" Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drwy sicrhau bod aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'n cynnwys traean o aelodau Lleyg.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Y caiff argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sef bod y Pwyllgor yn cynnwys 15 Aelod (10 Cynghorydd a 5 Aelod Lleyg) ei gymeradwyo.

 

2)            Y bydd y broses o recriwtio'r Aelodau Lleyg ychwanegol yn dechrau'n unol â gweithdrefnau'r cyngor.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley am gyfarfod ag Arweinydd y Cyngor, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn trafod cylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n trefnu'r cyfarfod.

55.

Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2019-2020 & 2020-2021. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a argymhellwyd i'r cyngor gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yr adroddiad yn darparu Adroddiadau Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2019-2020 a 2020-2021. Roedd yr adroddiadau'n amlinellu gwaith y Pwyllgor yn ystod y cyfnodau hynny.

56.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth, a oedd yn cyflwyno adroddiad diweddaraf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar effaith Craffu.

57.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 342 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd chwech (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

58.

Rhybudd o Gynnig - Tan Gwyllt. pdf eicon PDF 281 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd L V Walton a'i eilio gan y Cynghorydd D H Hopkins.

 

“Defnyddir tân gwyllt gan bobl trwy gydol y flwyddyn i nodi digwyddiadau gwahanol. Er y gallant ddod â llawer o fwynhad i rai pobl, gallant achosi pryder ac ofn sylweddol i rai unigolion a hefyd anifeiliaid, anifeiliaid anwes a da byw.

 

Felly, rydym yn galw ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe i:

 

1.            Ofyn i'r holl Arddangosfeydd Cyhoeddus a drefnir o fewn ffiniau'r awdurdod lleol gael eu hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i breswylwyr gymryd y rhagofalon angenrheidiol ar gyfer eu hanifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed.

 

2.            Hyrwyddo Ymgyrch Ymwybyddiaeth y Cyhoedd ynghylch effaith tân gwyllt ar anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed, gan fanylu ar y rheoliadau presennol, a chan gynnwys rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i liniaru'r risgiau.

 

3.            Annog Cyflenwyr Tân Gwyllt Lleol i gadw "fersiwn dawelach" o dân gwyllt na'r hyn a ddefnyddir ar gyfer Arddangosfeydd Cyhoeddus.

 

4.            Ysgrifennu at Lywodraethau'r DU a Chymru, gan eu hannog i adolygu ac ystyried y ddeddfwriaeth bresennol a chyfyngu ar uchafswm lefelau sŵn y tân gwyllt y gellir ei werthu i aelodau'r cyhoedd at ddefnydd preifat i 90 dB."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig a amlinellir uchod.