Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 40 "Adroddiad Archwilio Cymru – Adroddiad Archwilio Cyfrifon – Dinas a Sir Abertawe.

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M C Child, J P Curtice, R Francis-Davies, C Evans, F M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, E T Kirchner, M B Lewis, P Lloyd, H M Morris, B J Rowlands, R V Smith, D W W Thomas a T M White gysylltiad personol â Chofnod 41 "Datganiad o Gyfrifon 2020/21".

 

3)            Datganodd M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 43 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 3" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod.

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 433 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod Cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021.

36.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

37.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)            Gwobrau APSE "Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus" 2021

 

Mae Gwobrau APSE yn cydnabod y gorau mewn gwasanaethau rheng flaen Llywodraeth Leol ledled y DU. Cyhoeddir yr enillwyr yng Nghinio Gwobrau Elusennol Blynyddol APSE, er budd Parkinson's UK, ar 9 Medi 2021. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyngor Cyffredinol y Flwyddyn a hefyd ar gyfer 3 chategori arall yng Ngwobrau APSE 2021.

 

i)             Tîm Gwasanaeth Gorau: Tai a Menter Adeiladu. Tîm Cyflwyno Rhagor o Gartrefi. Gwasanaethau Adeiladu a Thai.

 

ii)            Menter Tai, Adfywio neu Adeilad Newydd Gorau. Rhagor o Gartrefi Safon Abertawe/HAPS (Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer). Gwasanaethau Tai ac Adeiladu.

 

iii)           Menter Fasnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau. Canolbwynt Datblygu Masnachol. Gwasanaethau Masnachol.

 

b)           Gwobrau Tai Cymru 2021

 

Mae Gwobrau Tai Cymru yn cydnabod ac yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru. Cyhoeddir yr enillwyr ar 30 Medi 2021. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn 2 gategori yng Ngwobrau Tai Cymru 2021.

 

i)             Categori Gweithio mewn Partneriaeth. Tŷ Tom Jones.

 

ii)             Categori Arloesedd mewn Tai. Cyngor Abertawe mewn partneriaeth ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

 

Enwebodd y cyngor sefydliadau ar gyfer gwobrau ond nid oedd y cyngor yn arwain y prosiectau:

 

i)             Categori Cefnogi Cymunedau. Prosiect Bwyd Swansea Together.

 

ii)            Categori Rhagoriaeth mewn Iechyd a Lles. Nyrs Digartrefedd Arbenigol Abertawe.

 

c)            Gemau Paralympaidd – Tenis Bwrdd Para – Paul Karabardak

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Paul Karabardak o Waunarlwydd ar ei Fedal Efydd ddiweddar yn y Gemau Paralympaidd 2021 yn nigwyddiad Tenis Bwrdd Paralympaidd. Mae Paul eisoes wedi ennill nifer o Fedalau Ewropeaidd yn dilyn gwaith caled a dyfalbarhad.

 

d)           Rhestr Binc 2021 - Pobl LGBT+ fwyaf dylanwadol Cymru

 

Mae'r Rhestr Binc yn cydnabod Pobl LGBT+ fwyaf dylanwadol Cymru. Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant, Cadeirydd Fforwm LGBT+ Abertawe ac arweinydd Pride Abertawe ar y rhestr honno.

38.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Kabul, Affganistan a Dinas Noddfa Abertawe

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y sefyllfa ofnadwy yn Kabul, Affganistan yn ddiweddar. Rhoddodd sicrwydd i'r cyngor fod Abertawe'n Ddinas Noddfa a'i bod yn helpu'r ffoaduriaid hynny sy'n ffoi rhag erledigaeth i ail ymgartrefu yn Abertawe.

 

2)            Y diweddaraf am COVID-19

 

Rhoddodd arweinydd y cyngor y diweddaraf am bandemig COVID-19.

 

3)            Teithio am ddim ar fyus yn Ninas a Sir Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod wedi ariannu teithio am ddim ar fysus o fewn Dinas a Sir Abertawe yn ddiweddar drwy gydol gwyliau'r haf. Nod y cynllun hwn oedd rhoi hwb i deuluoedd, twristiaeth a busnesau. Bu'n llwyddiant ysgubol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod yn gobeithio cynnal y cynnig eto yn ystod hanner tymor a hefyd yn ystod gwyliau'r Nadolig.

39.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

40.

Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 744 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru, "Adroddiad Archwilio Cyfrifon 2020-2021, Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Ymatebodd Jason Garcia (Swyddfa Archwilio Cymru) i gwestiynau technegol eu natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â sefyllfa Dinas a Sir Abertawe.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol.

41.

Datganiad o Gyfrifon 2020/21. pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon 2020-2021 ar 15 Medi 2021 neu cyn hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2020-2021 a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

42.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2020-2021. pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a amlinellodd Adroddiad Blynyddol Craffu 2020-2021 yn nodi gwaith y tîm craffu dros y cyfnod hwnnw.

43.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

1)            ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pedwar (4) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Rhestrir y cwestiynau atodol y mae angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod:

 

Cwestiwn 1

 

Dywedodd y Cynghorydd C A Holley, ar ôl cau safle Gwaith Felindre, fod hen Awdurdod Datblygu Cymru a chyn Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw yn berchen ar y safle tir llwyd a thir glas, sef cyfanswm o tua 750 erw. Clustnodwyd y tir hwn ar gyfer Parc Busnes 750 erw.

 

Mae'r Parc Busnes bellach ond yn cyfateb i tua 150 erw gyda’r tir sy’n weddill yn cael ei ddyrannu fel tir ar gyfer tai o dan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Pryd y gwnaed y penderfyniad i dynnu'r tir o ddefnydd y Parc Busnes a pham?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)            'Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

44.

Rhybudd o Gynnig - Siarter MND. pdf eicon PDF 818 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S Pritchard ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

Mae’r cyngor yn nodi

 

1.            fod Clefyd Niwronau Motor (MND) yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r llinyn asgwrn y cefn. Gall adael pobl yn gaeth i gorff sy'n methu, sy'n methu â symud, siarad ac anadlu yn y pen draw.

 

2.            Mae risg oes person o ddatblygu MND hyd at 1 o bob 300. Gall effeithio ar bobl o bob cymuned a chefndir.

 

3.            Mae'r clefyd hwn yn lladd tua 30% o bobl o fewn 12 mis o ddiagnosis, mwy na 50% o fewn dwy flynedd. Mae'n effeithio ar bobl o bob cymuned

 

4.            Ar hyn o bryd nid oes gwellhad i Glefyd Niwronau Motor.

 

Mae'r cyngor yn credu

 

1.            bod gan bobl sydd ag MND yr hawl i gael diagnosis cynnar a gwybodaeth.

 

2.            Mae gan bobl sydd ag MND yr hawl i gael mynediad at ofal a thriniaethau o safon.

 

3.            Mae gan bobl sydd ag MND yr hawl i gael eu trin fel unigolion a chydag urddas a pharch.

 

4.            Mae gan bobl sydd ag MND yr hawl i wneud y mwyaf o ansawdd eu bywyd.

 

5.            Mae gan ofalwyr pobl ag MND yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, eu clywed a'u cefnogi'n dda.

 

Penderfyniadau'r cyngor

 

Bydd y cyngor yn ymrwymo i'r siarter MND.

 

https://www.mndassociation.org/app/uploads/2016/02/champion-the-mnd-charter-full.pdf

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.