Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)        Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, N J Davies, O G James, E J King, E T Kirchner a P M Matthews gysylltiad personol â Chofnod 33 "Hysbysiad o Gynnig – Credyd Cynhwysol".

24.

Cofnodion. pdf eicon PDF 342 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 yn amodol ar Gofnod 13, "Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol" – 2) Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines "yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

 

·                     David John Lloyd BEM – Gwasanaethau Gwirfoddol (Sylfaenydd Second Chance).

25.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

26.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Rheolau Gweithdrefn y Cyngor (Cyfansoddiad y Cyngor Rhan 4.1)

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Rheolau Gweithdrefn y Cyngor yn nodi y dylid rhoi 5 niwrnod gwaith clir i gyhoeddi'r Wŷs ac unrhyw Adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd y cyngor. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol gellir hepgor y rheol 5 niwrnod gwaith clir ar yr amod bod cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ac Arweinydd y Cyngor.

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn ymwybodol bod rhai unigolion wedi cael trafferth cael mynediad at wefan y cyngor ddoe (28 Gorffennaf 2021) ac felly roedd wedi cael y cytundeb ysgrifenedig i hepgor y rheol 5 niwrnod.

 

Sylwer: O dan y ddeddfwriaeth, dim ond 3 diwrnod gwaith clir sydd eu hangen. Fodd bynnag, mae'r cyngor bob amser yn ceisio gwella ar hynny ac mae wedi rhoi 4 diwrnod gwaith clir o rybudd.

 

2)            Gwobrau Cyflawniad y Municipal Journal 2021.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y cyngor wedi'i enwebu fel un a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn dau gategori, y Fenter Tai Cymdeithasol Orau a Thîm Gwasanaeth Gorau'r Cyngor. Cyhoeddir yr enillwyr ar 17 Medi 2021 yn Llundain.

 

a)           Y Fenter Tai Cymdeithasol Orau ar gyfer y datblygiadau yn Ffordd Parc yr Helyg a Colliers Way

 

Mae Cyngor Abertawe wedi cwblhau dau gynllun adeiladu newydd yn ddiweddar. Mae'r cartrefi wedi'u hadeiladu i Safon Abertawe ac yn cyfuno technolegau arloesol i helpu i gadw biliau ynni mor isel â phosib. Mae gan bob un o'r cartrefi hyn Bympiau Gwres o'r Ddaear (GSHPs), toeon solar PV, storfeydd batri a Systemau Adfer Gwres drwy Awyru Mecanyddol (MVHR), a byddant yn gallu storio a defnyddio’u hynni eu hunain.

 

Mae'r 34 o gartrefi newydd ar draws dau safle’n cynnwys cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely, a chartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Mae gan yr holl fflatiau eu mynedfeydd preifat eu hunain ac mae gan bob cartref ardd gefn breifat.

 

b)           Tîm Gwasanaeth Gorau'r Cyngor ar gyfer Darparu Rhagor o Gartrefi

 

Mae'r enwebiad terfynol yn dangos cyflawniadau'r strategaeth Darparu Rhagor o Gartrefi hyd heddiw, gan gynnwys Bryn House, ac fel a nodwyd yn adolygiad comisiynu 2016, yn argymell canlyniadau cyflawniadau mewnol presennol wedi'u trawsnewid, a gymeradwywyd gan y cyngor. Fe'i gweithredwyd ym mis Medi 2016 gydag amcan clir o feithrin sgiliau mewnol i gyflawni'r strategaeth Rhagor o Gartrefi, cefnogi newid yn yr hinsawdd, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a hybu mesurau effeithlonrwydd ynni economaidd mewn tai cymdeithasol.

 

Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

3)            Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at y cywiriad / diwygiadau y mae angen eu gwneud i Wŷs y Cyngor.

 

i)             Eitem 11 "Cwestiynau Cynghorwyr" – Cwestiynau 5 a 6.

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bawb fod ymatebion diwygiedig wedi'u dosbarthu mewn perthynas â Chwestiynau Cynghorwyr 5 a 6.

27.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Teithio am Ddim ar Fysus yn Ninas a Sir Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r awdurdod yn ariannu teithio am ddim ar fysus o fewn Dinas a Sir Abertawe o 30 Gorffennaf 2021 drwy gydol gwyliau'r haf. Byddai hyn yn hwb i deuluoedd, twristiaeth a busnes.

 

Nodyn: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black am gost hyn. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r gost yn cael ei datgan ar ôl ei chyfrifo.

 

2)            Dileu Ffïoedd Chwaraeon

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cyhoeddiad diweddar mewn perthynas â dileu ffïoedd chwaraeon a godir gan y cyngor. Dywedodd ei fod yn ymwybodol nad oedd y cyhoeddiad hwnnw'n mynd i'r afael â'r rheini â chytundeb prydles. Bwriedir gwneud cyhoeddiad yn fuan gyda'r nod o fynd i'r afael â'r anghysondeb hwnnw.

 

3)            Adolygiad Mayhill

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr Adolygiad Annibynnol o’r aflonyddwch diweddar yn Mayhill. Fel rhan o'i gylch gwaith mae angen ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau a ofynnwyd gan y gymuned. Byddai'r adolygiad yn cael ei arwain gan yr Athro Elwyn Evans (Prifysgol Abertawe) a'i gefnogi gan Jack Straw a Martin Jones.

 

4)            Phil Roberts (Prif Weithredwr)

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cyhoeddiad diweddar gan Phil Roberts y byddai'n ymddeol ar ddiwedd tymor presennol y cyngor. Dywedodd y byddai teyrnged lawn yn cael ei gwneud yn nes at y cyfnod hwnnw; fodd bynnag, roedd am nodi'r cyfraniad aruthrol y mae Phil Roberts wedi'i wneud i Ddinas a Sir Abertawe a'r awdurdodau blaenorol.

 

5)            Ymddygiad Annerbyniol ger Cartref Prif Weinidog Cymru

 

Condemniodd Arweinydd y Cyngor, ynghyd â'r holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, y golygfeydd a'r protestiadau diweddar y tu allan i gartref preifat Prif Weinidog Cymru.

 

Dywedodd y byddai'n ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i feirniadu’r ymddygiad annerbyniol a chynnig cefnogaeth i Brif Weinidog Cymru. Nododd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol y byddent hefyd yn llofnodi'r llythyr hwnnw.

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

29.

Amrywiaeth mewn Democratiaeth. pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau adroddiad ar y cyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a'r Gweithgor Trawsbleidiol a sefydlwyd i edrych ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth Leol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Bydd y cyngor yn ymrwymo i ddod yn Gyngor Amrywiol i:

 

i)             Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth;

ii)            Dangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb;

iii)           Ystyried darwahanu amserau cyfarfodydd y cyngor a chytuno ar gyfnodau o doriadau i gefnogi Cynghorwyr gydag ymrwymiadau eraill; a

iv)           Nodi cynllun gweithredu o weithgarwch cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

 

2)            Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fydd yn gyfrifol am gynnal adolygiad o'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

 

3)            Deuir ag adroddiad yn ôl i'r cyngor gyda Chynllun Gweithredu a fydd yn nodi sut y gall y cyngor gefnogi'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

30.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Y Cylch Gorchwyl Diweddaraf ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan y Gweithgor Cyfansoddiad. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Chanllaw CIPFA, "Canllawiau Ymarferol Pwyllgorau Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a’r Heddlu (rhifyn 2018)."

 

Penderfynwyd cymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

31.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Pwyllgor Cronfa Bensiwn. pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan y Gweithgor Cyfansoddiad. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i Gylch Gorchwyl Pwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

Penderfynwyd dileu'r nodyn canlynol yng nghylch gorchwyl presennol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn:

 

"Bydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn cael ei Gadeirio gan yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Gyllid".

32.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

Sylwer: Roedd ymateb diwygiedig i Gwestiynau 5 a 6 wedi'i ddosbarthu cyn y Cyfarfod.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

33.

Hysbysiad o Gynnig - Credyd Cynhwysol. pdf eicon PDF 690 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd L S Gibbard.

 

"Mae'r cyngor hwn yn condemnio'r penderfyniad creulon a sbeitlyd gan lywodraeth Dorïaidd y DU i dorri taliadau Credyd Cynhwysol £20 yr wythnos (neu £1040 y flwyddyn) i filiynau o bobl ledled Cymru a'r DU.

 

Gallai'r toriad hwn olygu fod miloedd o breswylwyr Abertawe'n wynebu toriad sylweddol i'w hincwm, a gall gael gwared ar gannoedd o filoedd o bunnoedd o'r economi leol. Bydd ei effeithiau'n drychinebus ar aelwydydd incwm isel.

 

Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor (ac unrhyw arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol sy'n barod i lofnodi) i ysgrifennu llythyr yn nodi’n gwrthwynebiad cryf i'r toriad credyd cynhwysol arfaethedig; i dynnu sylw at yr effeithiau ar breswylwyr a theuluoedd Abertawe; ac annog Llywodraeth Dorïaidd y DU yn y ffordd gryfaf bosib i wrthdroi'r toriad a chadw'r £20 yr wythnos."

 

Yn dilyn dadl, ac yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, gofynnwyd am "Bleidlais" gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (53 o Gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

T J Hennegan

P M Matthews

P M Black

C A Holley

C L Philpott

J E Burtonshaw

B Hopkins

S Pritchard

M C Child

D H Hopkins

A Pugh

J P Curtice

O G James

J A Raynor

N J Davies

L James

C Richards

P Downing

J W Jones

K M Roberts

C R Doyle

M H Jones

M Sherwood

M Durke

P Jones

R V Smith

C R Evans

S M Jones

A H Stevens

V M Evans

E J King

R C Stewart

W Evans

E T Kirchner

G J Tanner

E W Fitzgerald

H Lawson

D W W Thomas

R Francis-Davies

A S Lewis

L G Thomas

L S Gibbard

M B Lewis

G D Walker

F M Gordon

W G Lewis

L V Walton

K M Griffiths

C E Lloyd

T M White

J A Hale

P Lloyd

-

 

Yn erbyn (0 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Ymatal (5 Cynghorwr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

D W Helliwell

M A Langstone

W G Thomas

L R Jones

B J Rowlands

-

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.