Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan.

 Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorwyr J W Jones ac M H Jones gysylltiad personol â Chofnod 19  "Diwygiad i benodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer".

 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 525 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1) Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021.

 

12.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

 

13.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

 

1)             Cydymdeimladau

 

Y Cyn-gynghorydd T P C (Patrick Morgan)

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar cyn-gynghorydd Dinas Abertawe, T P C Morgan (Patrick), a gynrychiolodd Ward Sgeti rhwng 1984–1988.

 

Cyfeiriodd hefyd gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Bethan Caton, gwraig Martin, cyn-Aelod Seneddol dros Gŵyr a Chynghorydd Dinas a fu farw'n ddiweddar. 

 

Eisteddodd pawb yn dawel fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)    Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.

 

Ryan Jones MBE - am ei wasanaethau i'r undeb rygbi ac am wasanaethau codi arian elusennol yng Nghymru.

 

Isobel Marie-Ann Everett MBE - am ei gwasanaeth cyhoeddus ac ar gyfer datblygiad arweinydd y dyfodol (Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar)

 

Mark Andrew Jones MBE - am ei wasanaethau i Wyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg (Gwasanaethau Hacio Moesegol y DVLA)

 

Dr Elizabeth Alexandra Davies BEM - am ei gwasanaethau i'r GIG a chleifion hŷn yn ystod pandemig COVID-19 (Geriatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys)

 

David Jones Lloyd BEM - am ei wasanaethau gwirfoddol (sylfaenydd Second Chance)

 

14.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

 

15.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd dau gwestiwn gan y cyhoedd.

 

Daeth y cyntaf gan Jason Williams mewn perthynas â Chofnod 21 “Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 6 (Parc Sglefrio).

 

Roedd yr ail gwestiwn yn un ysgrifenedig gan Andrew Crowley nad oedd yn gallu bod yn bresennol mewn perthynas â Chofnod 21 “Cwestiynau’r Cynghorwyr’ - Cwestiwn 9 (Pont Pentre Road).

 

Ymatebwyd i'r cwestiynau gan Aelodau perthnasol y Cabinet.

 

16.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2020/21. pdf eicon PDF 505 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Paula O’Connor, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad a ddarparodd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020/21.

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2020/21.

 

17.

Cynllun Rheoli Asedau 2021-25. pdf eicon PDF 584 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo’r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol ar gyfer y cyfnod 2021-2025.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer 2021-2025.

 

 

18.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 116 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Aelod yr Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i amrywiol Gyrff y Cyngor.

 

Dywedodd fod yr Arweinydd wedi gwneud y diwygiad canlynol i'r Corff Allanol:

 

Fforwm Partneriaeth - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Wedi tynnu enwau'r Cynghorwyr Jen A Raynor, Clive E Lloyd a Sam Prichard

Wedi ychwanegu enwau'r Cynghorwyr Robert V Smith, Louise S Gibbard ac Alyson Pugh

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Tynnu enw'r Cynghorydd Hannah Lawson

Ychwanegu enw'r Cynghorydd Oliver G James

 

Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd Jen A Raynor

Ychwanegu enw'r Cynghorydd Hannah Lawson

 

PDP yr Economi ac Isadeiledd

Tynnu enw'r Cynghorydd Matthew Jones

Ychwanegu enw'r Cynghorydd Peter K Jones

 

PDP Pobl

Tynnu enw'r Cynghorydd T Mike White

Ychwanegu enw'r Cynghorydd Matthew Jones

 

PDP Lleihau Tlodi

Tynnu swyddi gwag y Ceidwadwyr

Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr David W Helliwell a Lyndon R Jones

 

PDP Adferiad a Chenedlaethau'r Dyfodol

Tynnu enw'r Cynghorydd Hannah Lawson

Ychwanegu enw'r Cynghorydd T Mike White

 

Pwyllgor Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu enw'r Cynghorydd Will G Thomas

Ychwanegu Sedd Wag y Ceidwadwyr

 

19.

Diwygiad i benodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer pdf eicon PDF 231 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu ac yn cynghori’r cyngor am y weithdrefn ddiwygiedig a fydd yn golygu y bydd tri chadét yr Arglwydd Faer yn cael eu penodi i gynrychioli pob un o Wasanaethau Cadetiaid y Lluoedd Arfog ar gyfer pob blwyddyn ddinesig.

 

20.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a roddodd adroddiad cynnydd i'r cyngor ar amrywiol weithgareddau craffu.

 

 

21.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 530 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

 

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd 10 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. 

 

Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Rhestrir cwestiwn atodol sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

Cwestiwn 8

Gofynnodd Wendy Fitzgerald am fanylion pellach am lefel debygol y symiau o gymorth ariannol y gellid eu darparu i grwpiau.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)         ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd 7 'Cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

 

 

22.

Rhybudd o Gynnig - Cardiau Adnabod i Bleidleiswyr ar gyfer Etholiadau Cyffredinol. pdf eicon PDF 105 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Wedi'i gynnig gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd P M Black.

 

Nododd y Cynghorydd Holley ei fod yn hapus i dderbyn enwau gan y grŵp sy'n rheoli ar yr Hysbysiad o Gynnig pan fydd yn cael ei anfon i Downing Street.

 

Mae'r cyngor yn nodi cynigion yn araith y Frenhines i fynd i'r afael â gallu pobl i brotestio, i gyfyngu ar adolygiad barnwrol ac i fynnu cynhyrchu cardiau adnabod er mwyn pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol.

 

Mae'r cyngor o'r farn bod y cynigion hyn yn tanseilio rhyddid cyfreithiol a chyfansoddiadol ac yn ceisio tawelu gwrthwynebiad i'r Llywodraeth hon yn y DU.

 

Mae'r cyngor o'r farn y bydd mynnu cardiau adnabod ar gyfer pleidleisio yn ychwanegu at gost gweinyddu etholiadau gan y cyngor hwn, yn cynyddu biwrocratiaeth ac yn rhoi ein clercod pleidleisio a'n swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio mewn sefyllfaoedd cyfwynebol a allai fod yn anodd.

 

Mae'r cyngor yn nodi nad oes fawr o dystiolaeth, os o gwbl, o dwyll etholiadol i gyfiawnhau cyflwyno cardiau adnabod i bleidleisiwr ac mae'n credu y bydd cyflwyno'r mesur hwn yn cael effaith anghymesur ar leiafrifoedd ethnig, pobl hŷn a'r rhai ar incwm is, ac y bydd yn arwain at leihad yn nifer y bobl sy'n pleidleisio mewn etholiadau.

 

Mae'r cyngor wedi penderfynu ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i fynegi ei bryder a'i wrthwynebiad i'r holl gynigion hyn.

 

Yn dilyn y ddadl ac yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig.  Cofnodwyd y bleidlais ar yr hysbysiad fel a ganlyn:

O blaid (52 o gynghorwyr)

Cynghorydd(wyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

B Hopkins

P M Matthews

P M Black

D H Hopkins

P N May

J E Burtonshaw

O G James

H M Morris

M C Child

Y V Jardine

C L Philpott

J P Curtice

J W Jones

S Pritchard

N J Davies

M H Jones

A Pugh

A M Day

M Jones

J A Raynor

P Downing

P Jones

K M Roberts

C R Doyle

S M Jones

R V Smith

M Durke

E J King

D G Sullivan

V M Evans

E T Kirchner

G J Tanner

W Evans

H Lawson

D W W Thomas

R Francis-Davies

A S Lewis

L G Thomas

L S Gibbard

M B Lewis

M Thomas

F M Gordon

W G Lewis

G D Walker

K M Griffiths

C A Lloyd

L V Walton

T J Hennegan

P Lloyd

T M White

C A Holley

 

 

 

Yn erbyn (8 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

S J Gallagher

L R Jones

W G Thomas

D W Helliwell

M A Langstone

L J Tyler-Lloyd

P R Hood-Williams

B R Rowlands

 

 

 

 

 

Ymatal (0 Cynghorwr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.