Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

90.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J E Burtonshaw, J P Curtice, P Downing, M Durke, C A Holley, D Helliwell, B Hopkins, D H Hopkins, S M Jones, A S Lewis, R D Lewis, A H Stevens, G J Tanner a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 94 "Datganiad Polisi Tâl 2021-22".

 

Swyddogion

 

2)           Datganodd Jeff Dong, Adam Hill, Tracey Meredith,Phil Roberts a Ben Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod Rhif 94 "Datganiad Polisi Tâl 2021/22" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei drafod.

 

3)           Datganodd Adrian Chard, Huw Evans a Jeremy Parkhouse gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 94 "Datganiad Polisi Tâl 2021-22; fodd bynnag, ni wnaethant adael y cyfarfod gan iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, ateb cwestiynau technegol a chofnodi penderfyniad y cyngor.

 

91.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan yr Aelod Llywyddol.

92.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

93.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

94.

Datganiad Polisi Tâl 2021/22 pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Polisi Tâl 2021-2022.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2021-2022.