Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

57.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

58.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

59.

Penodi Cyfarwyddwr Addysg.

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Addysg. Cynigiodd y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad:

 

i)             I'r Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y cyngor.

ii)            I gynnal pleidlais ysgrifenedig

 

I'r Prif Weithredwr, Phil Roberts, roi adborth o'r Broses Benodi sy'n ymwneud â phenodi Cyfarwyddwr Addysg.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn cael gwared ar y gofyniad:

 

i)             I'r Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y cyngor.

ii)            I gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

2)            Nodi'r diweddariad llafar ar y broses asesu.

 

3)            Penodi Helen Morgan-Rees i'r swydd Cyfarwyddwr Addysg.