Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

75.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J P Curtice, P Downing, C A Holley, L R Jones, M B Lewis, R D Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, R V Smith, D G Sullivan, D W W Thomas a T M White gysylltiad personol â chofnod 82 "Cyllideb Refeniw 2021/2022".

 

Sylwer:

Roedd y Cynghorydd C A Holley wedi derbyn goddefeb i aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn perthynas â materion a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Roedd y Cynghorydd C E Lloyd wedi derbyn goddefeb i aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn perthynas â materion a oedd yn ymwneud â'r gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys darparu gofal.

 

2)           Datganodd y Cynghorydd R C Stewart gysylltiad personol â chofnod 83 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2020/21-2026/27".

 

3)           Datganodd y Cynghorydd Y V Jardine gysylltiad personol â chofnod 84 "Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2021/22".

 

4)           Datganodd y Cynghorydd Y V Jardine gysylltiad personol â chofnod 85 "Cyfrif Refeniw Tai – Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2020/21–2024/25".

76.

Cofnodion. pdf eicon PDF 316 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021.

 

2)           Cyfarfod Arbennig y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2021.

77.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

78.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

79.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Cronfa Adferiad

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cronfa Adferiad gwerth £20 miliwn wedi’i sefydlu i helpu busnesau a'r cyhoedd i wella o effeithiau COVID-19. Byddai'r gronfa'n targedu'n benodol:

 

Ø    Y gymuned.

Ø    Yr economi leol.

Ø    Pobl a swyddi.

Ø    Lles.

80.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

81.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2022/23 - 2025/26 pdf eicon PDF 752 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, yn manylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2025/26 fel sail am gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

82.

Cyllideb Refeniw 2021/2022 pdf eicon PDF 1002 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol y broses y byddai'n ei dilyn ar gyfer yr eitem hon.

 

Rhoddodd Swyddog Adran 151 gyflwyniad technegol. Gofynnodd y cynghorwyr gwestiynau technegol i Swyddog Adran 151. Ymatebodd y Swyddog Adran 151 yn unol â hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod dau ddiwygiad i'r gyllideb wedi dod i law. Un gan y Grŵp Llafur ac un gan y Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau. Ymdrinnir â diwygiadau i'r gyllideb yn y drefn y cânt eu derbyn, felly byddai diwygiad y Grŵp Llafur yn cael ei ystyried yn gyntaf.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor gyflwyniad ar y gyllideb gan gynnwys diwygiad y Grŵp Llafur. Cynigiwyd diwygiad y Grŵp Llafur gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd D H Hopkins.

 

Diwygiad y Grwp Llafur

 

"Dywedom y byddem yn parhau i fonitro newidiadau mewn dyraniadau a chyhoeddiadau cyllid gan gyllidebau Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. wrth i ni bennu cyfradd derfynol Treth y Cyngor ar gyfer Abertawe.

 

O ystyried cyhoeddiadau diweddar ac i gydnabod yr ymdrech y bydd llawer o deuluoedd a phreswylwyr yn ei hwynebu wrth ddod allan o'r pandemig, rydym yn bwriadu gweithredu i gefnogi’n cymunedau. Felly, gallwn gyhoeddi ein bod yn bwriadu gostwng y cynnydd a nodwyd yn Nhreth y Cyngor 1% ychwanegol i'r 3.99% blaenorol, a oedd yn ostyngiad o'r dybiaeth gynllunio o 5%.

 

Caiff hyn ei ariannu drwy ailddyrannu arian sydd ar gael fel rhan o ostyngiad gwerth £1.166 miliwn yn ein costau cyfalaf a gostyngiad canlyniadol gwerth £0.154 miliwn yng nghostau cynllun gostyngiad treth y cyngor. Felly gallwn ddefnyddio cyfanswm o £1.320 miliwn i leihau Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i 2.99%."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor "Pleidleisio", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (43 o gynghorwyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

C Anderson

D H Hopkins

A Pugh

J E Burtonshaw

O G James

J A Raynor

M C Child

Y V Jardine

C Richards

J P Curtice

E T Kirchner

K M Roberts

N J Davies

A S Lewis

M Sherwood

P Downing

M B Lewis

R V Smith

C R Doyle

W G Lewis

A H Stevens

M Durke

C A Lloyd

R C Stewart

C R Evans

P Lloyd

M Sykes

V M Evans

P M Matthews

D W W Thomas

W Evans

P N May

M Thomas

R Francis-Davies

H M Morris

G D Walker

L S Gibbard

D Phillips

L V Walton

F M Gordon

S Pritchard

T M White

B Hopkins

-

-

 

Yn erbyn (0 Cynghorydd(wyr))

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

-

-

-

 

Ymatal (18 o gynghorwyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

P M Black

C A Holley

S M Jones

A M Day

P R Hood-Williams

C L Philpott

E W Fitzgerald

L James

B J Rowlands

S J Gallagher

J W Jones

D G Sullivan

K M Griffiths

L R Jones

L G Thomas

D W Helliwell

M H Jones

L J Tyler-Lloyd

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o gysylltiad personol (0 cynghorwr)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Cefnogwyd y diwygiad ac mae'n dod yn rhan o'r prif argymhelliad.

 

Cynigiwyd diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd M H Jones.

 

Diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau

 

"Heb os nac oni bai, mae'r pandemig byd-eang wedi cael effaith ariannol enfawr ar fywydau'r sawl sy'n talu Treth y Cyngor yn Abertawe. Rydym yn galw ar y Cyngor Llafur i ostwng y cynnydd arfaethedig o 3.99% yn nhreth y cyngor i 1.99% mwy fforddiadwy.

 

Rydym yn cynnig ariannu'r gostyngiad gyda gostyngiad untro o'r gronfa cyfartalu cyfalaf o £2.200 miliwn, i'w ddangos fel cyfraniad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn y gyllideb refeniw o'r un swm, a gostyngiad canlyniadol o £0.440 miliwn i gostau rhagweledig cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor a gyllidebwyd o ganlyniad i'r cynnydd cyffredinol arfaethedig hwnnw yn nhreth y cyngor.

 

Gofynnwn i'r diwygiadau uchod i'r adroddiad Cabinet cymeradwy ar 18 Chwefror 2021 gael eu hadlewyrchu yn y gyllideb refeniw derfynol i'w chytuno yng nghyfarfod y cyngor.

 

Byddai ein diwygiad arfaethedig yn sicr o helpu cyllidebau aelwydydd holl ddinasyddion Abertawe yn y broses o adfer o'r pandemig."

 

Penderfynwyd pleidleisio ar ddiwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau a chollwyd y bleidlais. Felly, parhaodd diwygiad y Grŵp Llafur yn gynnig annibynnol.

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor "Pleidlais" gofynnwyd am bleidlais gofnodedig ar y cynnig annibynnol. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (43 o gynghorwyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

C Anderson

D H Hopkins

S Pritchard

J E Burtonshaw

O G James

A Pugh

M C Child

Y V Jardine

J A Raynor

J P Curtice

E T Kirchner

C Richards

N J Davies

A S Lewis

K M Roberts

P Downing

M B Lewis

M Sherwood

C R Doyle

W G Lewis

R V Smith

M Durke

C E Lloyd

A H Stevens

C R Evans

P Lloyd

R C Stewart

V M Evans

I E Mann

M Sykes

W Evans

P M Matthews

D W W Thomas

R Francis-Davies

P N May

M Thomas

L S Gibbard

H M Morris

L V Walton

F M Gordon

D Phillips

T M White

B Hopkins

-

-

 

Yn erbyn (0 Cynghorydd(wyr))

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

-

-

-

 

Ymatal (18 o gynghorwyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

Cynghorydd(wyr)

P M Black

C A Holley

S M Jones

A M Day

P R Hood-Williams

C L Philpott

E W Fitzgerald

L James

B J Rowlands

S J Gallagher

J W Jones

D G Sullivan

K M Griffiths

L R Jones

L G Thomas

D W Helliwell

M H Jones

L J Tyler-Lloyd

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o gysylltiad personol (0 cynghorwr)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 fel a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel y'i diwygiwyd.

 

2)           Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22 fel a nodir yn Adran 9 yr adroddiad fel y'i diwygiwyd.

83.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2020/21- 2026/27 pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 - 2026/27.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 - 2026/27 fel a fanylir yn Atodiadau A, B C, D, E, F ac G yr adroddiad.

84.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2021/22. pdf eicon PDF 575 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cynyddu rhenti'n unol â pholisi Llywodraeth Cymru fel a nodir yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)            Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel yr amlinellwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

 

3)            Cymeradwy'r cynigion Cyllideb Refeniw fel a nodir yn Adran 4 yr adroddiad.

85.

Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2020/21 - 2024/2025 pdf eicon PDF 565 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 - 2024/25.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2020/21;

 

2)            Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2021/22 - 2024/25;

 

3)            Lle caiff cynlluniau unigol yn Atodiad B eu rhaglenni dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, caiff y rhain eu neilltuo a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros 4 blynedd.

 

4.         Dylid nodi lefelau cydymffurfio Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a'r estyniad terfyn amser.

86.

Penderfyniad statudol - dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r rheoliadau wrth bennu Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22. pdf eicon PDF 316 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu nifer o benderfyniadau statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021.

 

O ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i Gyllideb Refeniw 2021-2022, diwygiwyd y ffigurau yn y Penderfyniad Statudol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi a mabwysiadu'r penderfyniadau statudol fel y'u hamlinellwyd;

 

2)            Nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr 2020, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2021/2022 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)           94,051 oedd y swm a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'i diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn;

 

b)           Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

2,064

Clydach

2,676

Gorseinon

3,319

Tre-gŵyr

1,992

Pengelli a Waungron

420

Llanilltud Gŵyr

364

Cilâ

2,151

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

536

Llangyfelach

971

Llanrhidian Uchaf

1,640

Llanrhidian Isaf

338

Casllwchwr

3,508

Mawr

768

Y Mwmbwls

10,349

Penllergaer

1,451

Pennard

1,518

Penrhys

479

Pontarddulais

2,348

Pontlliw a Thircoed

1,039

Porth Einon

484

Reynoldston

335

Rhosili

208

Y Crwys

713

Cilâ Uchaf

583

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

3)        Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/2022 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)          £782,726,713 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) o'r Ddeddf;

 

(b)          £292,642,850 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(3)(a), 32(3)(c) a 32(3a) o'r Ddeddf;

 

(c)          £490,083,863 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn 3(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn;

 

(d)          £352,223,557 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth trethi annomestig dewisol;

 

(e)          £1,465.80 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn;

 

(f)           £1,641,440 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o'r Ddeddf;

 

(g)          £1,448.35 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir trwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

(h)          Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

1,477.42

Clydach

1,493.93

Gorseinon

1,487.35

Tre-gŵyr

1,465.35

Pengelli a Waungron

1,468.59

Llanilltud Gŵyr

1,463.53

Cilâ

1,458.11

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,463.09

Llangyfelach

1,473.07

Llanrhidian Uchaf

1,533.97

Llanrhidian Isaf

1,457.23

Casllwchwr

1,474.22

Mawr

1,534.29

Y Mwmbwls

1,506.34

Penllergaer

1,456.62

Pennard

1,500.26

Penrhys

1,472.83

Pontarddulais

1,498.06

Pontlliw a Thircoed

1,485.09

Porth Einon

1,460.75

Reynoldston

1,485.66

Rhosili

1,467.58

Y Crwys

1,490.59

Cilâ Uchaf

1,480.94

 

dyma'r symiau a roddwyd trwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a grybwyllwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(i)            Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

984.95

1,149.10

1,313.26

1,477.42

1,805.74

2,134.05

2,462.37

2,954.84

3,447.31

Clydach

995.96

1,161.94

1,327.94

1,493.93

1,825.92

2,157.90

2,489.89

2,987.86

3,485.83

Gorseinon

991.57

1,156.82

1,322.09

1,487.35

1,817.88

2,148.39

2,478.92

2,974.70

3,470.48

Tre-gŵyr

976.90

1,139.71

1,302.53

1,465.35

1,790.99

2,116.62

2,442.25

2,930.70

3,419.15

Pengelli a Waungron

979.06

1,142.23

1,305.41

1,468.59

1,794.95

2,121.30

2,447.65

2,937.18

3,426.71

Llanilltud Gŵyr

975.57

1,138.16

1,300.75

1,463.35

1,788.54

2,113.73

2,438.92

2,926.70

3,414.48

Cilâ

972.08

1,134.08

1,296.10

1,458.11

1,782.14

2,106.16

2,430.19

2,916.22

3,402.25

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

975.40

1,137.95

1,300.52

1,463.09

1,788.23

2,113.35

2,438.49

2,926.18

3,413.87

Llangyfelach

982.05

1,145.72

1,309.39

1,473.07

1,800.42

2,127.77

2,455.12

2,946.14

3,437.16

Llanrhidian Uchaf

1,022.65

1,193.08

1,363.53

1,533.97

1,874.86

2,215.73

2,556.62

3,067.94

3,579.26

Llanrhidian Isaf

971.49

1,133.40

1,295.31

1,457.23

1,781.06

2,104.89

2,428.72

2,914.46

3,400.20

Casllwchwr

982.82

1,146.61

1,310.42

1,474.22

1,801.83

2,129.43

2,457.04

2,948.44

3,439.84

Mawr

1,022.86

1,193.33

1,363.81

1,534.29

1,875.25

2,216.20

2,557.15

3,068.58

3,580.01

Y Mwmbwls

1,004.23

1,171.59

1,338.97

1,506.34

1,841.09

2,175.82

2,510.57

3,012.68

3,514.79

Penllergaer

971.08

1,132.92

1,294.77

1,456.62

1,780.32

2,104.01

2,427.70

2,913.24

3,398.78

Pennard

1,000.18

1,166.86

1,333.56

1,500.26

1,833.66

2,167.04

2,500.44

3,000.52

3,500.60

Penrhys

981.89

1,145.53

1,309.18

1,472.83

1,800.13

2,127.42

2,454.72

2,945.66

3,436.60

Pontarddulais

998.71

1,165.15

1,331.61

1,498.06

1,830.97

2,163.86

2,496.77

2,996.12

3,495.47

Pontlliw a Thircoed

990.06

1,155.07

1,320.08

1,485.09

1,815.11

2,145.13

2,475.15

2,970.18

3,465.21

Porth Einon

973.84

1,136.13

1,298.44

1,460.75

1,785.37

2,109.97

2,434.59

2,921.50

3,408.41

Reynoldston

990.44

1,155.51

1,320.58

1,485.66

1,815.81

2,145.95

2,476.10

2,971.32

3,466.54

Rhosili

978.39

1,141.45

1,304.51

1,467.58

1,793.71

2,119.84

2,445.97

2,935.16

3,424.35

Y Crwys

993.73

1,159.34

1,324.97

1,490.59

1,821.84

2,153.07

2,484.32

2,981.18

3,478.04

Cilâ Uchaf

987.30

1,151.84

1,316.39

1,480.94

1,810.04

2,139.13

2,468.24

2,961.88

3,455.52

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

965.57

1,126.49

1,287.42

1,448.35

1,770.21

2,092.06

2,413.92

2,896.70

3,379.48

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(g) a (3)(h) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand D a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)         Nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2021-2022 mewn preseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

191.81

223.78

255.75

287.72

351.66

415.60

479.53

575.44

671.35

 

5)        Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(I) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2021-22 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a gaiff eu dangos isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,176.76

1,372.88

1,569.01

1,765.14

2,157.40

2,549.65

2,941.90

3,530.28

4,118.66

Clydach

1,187.77

1,385.72

1,583.69

1,781.65

2,177.58

2,573.50

2,969.42

3,563.30

4,157.18

Gorseinon

1,183.38

1,380.60

1,577.84

1,775.07

2,169.54

2,563.99

2,958.45

3,550.14

4,141.83

Tre-gŵyr

1,168.71

1,363.49

1,558.28

1,753.07

2,142.65

2,532.22

2,921.78

3,506.14

4,090.50

Pengelli a Waungron

1,170.87

1,366.01

1,561.16

1,756.31

2,146.61

2,536.90

2,927.18

3,512.62

4,098.06

Llanilltud Gŵyr

1,167.38

1,361.94

1,556.50

1,751.07

2,140.20

2,529.33

2,918.45

3,502.14

4,085.83

Cilâ

1,163.89

1,357.86

1,551.85

1,745.83

2,133.80

2,521.76

2,909.72

3,491.66

4,073.60

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,167.21

1,361.73

1,556.27

1,750.81

2,139.89

2,528.95

2,918.02

3,501.62

4,085.22

Llangyfelach

1,173.86

1,369.50

1,565.14

1,760.79

2,152.08

2,543.37

2,934.65

3,521.58

4,108.51

Llanrhidian Uchaf

1,214.46

1,416.86

1,619.28

1,821.69

2,226.52

2,631.33

3,036.15

3,643.38

4,250.61

Llanrhidian Isaf

1,163.30

1,357.18

1,551.06

1,744.95

2,132.72

2,520.49

2,908.25

3,489.90

4,071.55

Casllwchwr

1,174.63

1,370.39

1,566.17

1,761.94

2,153.49

2,545.03

2,936.57

3,523.88

4,111.19

Mawr

1,214.67

1,417.11

1,619.56

1,822.01

2,226.91

2,631.80

3,036.68

3,644.02

4,251.36

Y Mwmbwls

1,196.04

1,395.37

1,594.72

1,794.06

2,192.75

2,591.42

2,990.10

3,588.12

4,186.14

Penllergaer

1,162.89

1,356.70

1,550.52

1,744.34

2,131.98

2,519.61

2,907.23

3,488.68

4,070.13

Pennard

1,191.99

1,390.64

1,589.31

1,787.98

2,185.32

2,582.64

2,979.97

3,575.96

4,171.95

Penrhys

1,173.70

1,369.31

1,564.93

1,760.55

2,151.79

2,543.02

2,934.25

3,521.10

4,107.95

Pontarddulais

1,190.52

1,388.93

1,587.36

1,785.78

2,182.63

2,579.46

2,976.30

3,571.56

4,166.82

Pontlliw

1,181.87

1,378.85

1,575.83

1,772.81

2,166.77

2,560.73

2,954.68

3,545.62

4,136.56

Porth Einon

1,165.65

1,359.91

1,554.19

1,748.47

2,137.03

2,525.57

2,914.12

3,496.94

4,079.76

Reynoldston

1,182.25

1,379.29

1,576.33

1,773.38

2,167.47

2,561.55

2,955.63

3,546.76

4,137.89

Rhosili

1,170.20

1,365.23

1,560.26

1,755.30

2,145.37

2,535.44

2.925.50

3,510.60

4,095.70

Y Crwys

1,185.54

1,383.12

1,580.72

1,778.31

2,173.50

2,568.67

2,963.85

3,556.62

4,149.39

Cilâ Uchaf

1,179.11

1,375.62

1,572.14

1,768.66

2,161.70

2,554.73

2,947.77

3,537.32

4,126.87

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

1,157.38

1,350.27

1,543.17

1,736.07

2,121.87

2507.66

2,893.45

3,472.14

4,050.83

 

87.

Strategaeth Gyfalaf 2020/21- 2026/27. pdf eicon PDF 749 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio'r rhaglen gyfalaf saith blynedd.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf 2020/21-2026/27.

88.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus/Y Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2021/22. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2020/21.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad);

 

2)            Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi (Adran 8 yr adroddiad);

 

3)            Cymeradwyo'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) (Adran 9 yr adroddiad).

89.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)            ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pum (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 3

 

Gofynnodd y Cynghorydd B J Rowlands:

 

"Mae nifer yr Hysbysiadau o Gosb Benodol sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon yn ymddangos yn isel iawn. Esboniwch sut y caiff Hysbysiadau o Gosb Benodol sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon eu cyflwyno?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)         ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd chwech (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.