Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Election of Chair Pro Tem

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr Aelod Llywyddol yn cael anhawster technegol gyda'i seinyddion ac y byddai ychydig funudau'n hwyr yn ymuno â'r cyfarfod.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M C Child (Yr Arglwydd Faer) yn Gadeirydd Dros Dro.

 

Bu'r Cynghorydd M C Child (Yr Arglwydd Faer) yn llywyddu

43.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr M Durke, C A Holley ac A Pugh gysylltiad personol â Chofnod 50 "Adroddiad Blynyddol 2019-2020 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol".

 

2)           Datganodd y Cynghorydd H M Morris gysylltiad personol â Chofnod 51 “Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod.

 

3)           Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R Francis-Davies ac R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 55 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 9".

44.

Cofnodion. pdf eicon PDF 452 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)   Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020.

45.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

 

Bu'r Cynghorydd D W W Thomas (Aelod Llywyddol) yn llywyddu

46.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Cydymdeimladau

 

a)            Yr Henadur Anrhydeddus a'r cyn-Gynghorydd W John F Davies

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol â thristwch at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus a'r cyn-Gynghorydd, W John F Davies. Cynrychiolodd John Ward Treforys am bron 30 o flynyddoedd yn gwasanaethu:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe - 1983 tan 31 Mawrth 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 tan 3 Mai 2012.

 

Bu John yn Arglwydd Faer rhwng 1999 a 2000. Bu hefyd yn gyn-gadeirydd y Pwyllgor Tai ac yn Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Talodd pob un o Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol neu eu Cynrychiolydd Enwebedig deyrnged i'r Henadur Anrhydeddus a'r cyn-Gynghorydd, W John F Davies.

 

b)           Tony Mann, Gŵr y Cynghorydd Irene Mann.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Tony Mann. Tony oedd gŵr y Cynghorydd Irene Mann.

 

c)            Y cyn-Gynghorydd Dai Howells

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Dai Howells.  Cynrychiolodd Dai Ward Pontarddulais am 4 blynedd yn gwasanaethu:

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 1 Mai 2008 tan 3 Mai 2012.

 

Eisteddodd pawb yn dawel i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2) Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

a)           Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)             Yr Athro Farah Bhatti. Llawfeddyg cardiothorasig ymgynghorol Ysbyty Treforys. Gwasanaethau i amrywiaeth yn GIG Cymru.

 

b)           Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)             Alan Curtis. Gwasanaethau i bêl-droed Cymru.

 

ii)            Carol Cecilia Doggett Prif fetron gofal dwys Ysbyty Treforys. Gwasanaethau i arweinyddiaeth a gofal nyrsio i gleifion a staff gofal dwys.

 

iii)           Catherine Julie Palmer. Pennaeth rheoli newid DVLA Gwasanaethau i fodurwyr.

 

b) Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)             Y Parchedig William Glynne George James. Prif Gaplan Heddlu De Cymru. Gwasanaethau i gaplaniaeth yr Heddlu a'r gymuned yng Ngorseinon.

 

ii)            Karen Jane Kembery. Nyrs Glinigol Arbenigol Ysbyty CNPT. Gwasanaethau i nyrsio yng Ngorllewin Morgannwg.

 

3)            Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at y cywiriad/gwelliannau sy'n ofynnol i Wŷs y Cyngor.

 

i)             Eitem 9 "Adroddiad Blynyddol 2019/2020 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Argymhelliad a ddiwygiwyd "Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-2020 i'w gyhoeddi."

 

ii)            Eitem 14 "Rhybudd o Gynnig - Tân Gwyllt"

Mae'r eitem hon wedi'i thynnu'n ôl.

47.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)           Brechiadau COVID-19

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor yr ystadegau diweddaraf sy'n ymwneud â chyflwyno'r brechiadau yn lleol. Talodd deyrnged i ymdrechion pawb.

 

2)            Dyfarniad Cyllid Llywodraeth Cymru – Mynd i'r Afael â Digartrefedd yn y Ddinas

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ddyfarniad cyllid gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r grant o £4.4 miliwn yn cynorthwyo'r awdurdod yn ei ymdrech i fynd i'r afael â digartrefedd yn y ddinas.

 

3)            Datblygiad yr Arena a Bae Copr

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddatblygiad yr Arena a Bae Copr. Roedd paneli cyntaf y croen wedi'u dosbarthu a bwriedir i'r bont gael ei chodi ym mis Mawrth 2021. Disgwylir i'r Arena gael ei chwblhau yn hydref 2021.

 

4)            Cyllideb Amlinellol

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y gyllideb amlinellol, gan ddweud bod Craffu wedi dechrau gweithio arni.

48.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd dau gwestiwn gan y cyhoedd.

 

Daeth y cyntaf gan Andrew Rowley mewn perthynas â Chofnod 55 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 3 (Cysylltiadau Teithio Llesol Mayals Road, Clyne a Pharc Sgeti).

 

Daeth yr ail gwestiwn gan Hannah Lawson mewn perthynas â Chofnod 55 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 9 (Safle 9, Marina Abertawe).

 

Ymatebodd aelodau perthnasol y Cabinet i'r cwestiynau.

49.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2019-2020. pdf eicon PDF 274 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau (Jill Burgess) adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi gwaith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019-2020.

50.

Adroddiad Blynyddol 2019/20 - Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn nodi ei gyfrif ef o daith wella'r cyngor i 2019-2020, a pha mor dda mae'r cyngor yn bodloni ei ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r adroddiad yn edrych yn ôl ar feysydd i’w gwella'r flwyddyn ddiwethaf a'r heriau a wynebwyd ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer 2020-2021. Mae'n nodi'r newidiadau a gafwyd o fewn y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn gwneud cynnydd tuag at ganlyniadau llesiant cenedlaethol.

 

Hefyd, darparodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Integredig yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith yn ystod y cyfnod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-2020 i'w gyhoeddi.

51.

Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. pdf eicon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y

Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2021. Argymhellodd yr adroddiad y dylid ail-fabwysiadu'r cynllun presennol fel y nodir yn Adran 3 o'r adroddiad o 2021-2022.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd.

 

2)            Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 a ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.

 

3)            Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y cynllun presennol.

 

4)            Y bydd y cynllun presennol (2020-2021), mewn perthynas â'r meysydd dewisol (fel y'u nodir yn Adran 3) yn aros yr un peth o 2021-2022.

 

5)            Y bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y nodir yn adran 3 o'r adroddiad hwn a bod unrhyw ddiwygiadau i'r rheoliadau a wneir gan Senedd Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.

52.

Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 843 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2020-2021.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black "Pam bod gwahaniaeth o £40m rhwng y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol?"

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

53.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Dywedodd fod yr Arweinydd wedi gwneud y diwygiad canlynol i Gyrff Allanol:

 

Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd P Downing.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Y Pwyllgor Penodiadau - I ddod i rym ar 2 Chwefror 2021.

Dileu'r Cynghorydd R Francis-Davies.

Ychwanegu'r Cynghorydd D H Hopkins.

 

2)            Pwyllgor Cynllunio

Tynnu enw'r Cynghorydd C Richards.

Ychwanegu'r Cynghorydd J E Burtonshaw.

54.

Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break"

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl o 10 munud.

55.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)            ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pymtheg (15) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 3

 

Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott y cwestiwn canlynol:

 

"Comisiynwyd Adroddiad Ecolegydd ar gyswllt yr Olchfa gan Gyngor Abertawe ym mis Rhagfyr 2020 ac fe'i cynhaliwyd ym mis Ionawr 2021. Pam y cyflawnwyd hyn mor hwyr yn y broses a pha gamau a gymerir mewn perthynas â'r adroddiad?"

 

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald gwestiwn:

 

"Mae llwybr beicio wedi'i gynllunio ar gyfer Gorseinon Road yn fy Ward. Mae'n ymddangos mai fi yw'r unig berson yr ymgynghorwyd ag ef. Ni ymgynghorwyd â'r Cyngor Cymuned a thrigolion lleol. Mae hyn yn groes i'r canllawiau Teithio Llesol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Allwch chi esbonio?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu.

 

Cwestiwn 6

 

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiwn:

 

"Rwy'n deall bod proses gyfreithiol fyw ar waith mewn perthynas â hen adeilad Oceana. Fodd bynnag, a allai Arweinydd y Cyngor roi amlinelliad o'r amserlen?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)            'Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.

56.

Rhybudd o Gynnig - Tân Gwyllt pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.