Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 442 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)        Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020.

28.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

29.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Cyn-gynghorydd Keith Marsh

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Keith E Marsh. Cynrychiolodd y Cyn-gynghorydd Marsh Ward Llandeilo Ferwallt yn Ninas a Sir Abertawe am oddeutu 19 mlynedd rhwng 4 Mehefin 1998 a 4 Mai 2017.

 

Eisteddodd pawb yn dawel i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Nick Williams – Cyfarwyddwr Addysg

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod Nick Williams wedi ymddeol fel Cyfarwyddwr Addysg ar unwaith oherwydd afiechyd. Helpodd Nick i wella gwasanaeth addysg yr awdurdod dros nifer o flynyddoedd ac mewn rolau gwahanol. Nododd yr Aelod Llywyddol ei fod yn gobeithio y bydd iechyd Nick yn gwella dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf a dymunodd pob dymuniad gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

 

3)              Gwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod gan Abertawe gynrychiolaeth dda yng Ngwobrau Gwasanaeth Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, gyda phum maes gwasanaeth wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae'r gwobrau hyn wedi bod yn hynod gystadleuol, gyda thros 100 o sefydliadau'n cymryd rhan o bob rhan o'r DU. Y cyflwyniadau gorau yn unig oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori. Roedd yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

 

Ø    Gwasanaethau Adeiladu ar gyfer Menter y Gweithlu ar gyfer Datblygu'r Fenter Taenellu Mewnol.

Ø    Gwasanaethau Adeiladu ar gyfer Tîm Gorau'r flwyddyn.

Ø    Craig-cefn-parc ar gyfer y Fenter Tai ac Adfywio Gorau.

Ø    Tîm Safonau Masnach y flwyddyn.

Ø    Tîm Diwylliant Chwaraeon a Hamdden y flwyddyn.

 

Cyhoeddir yr enillwyr ar 16 Rhagfyr 2020. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan.

 

4)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

a)              Eitem 13 "Ymateb i'r Ymgynghoriad - Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

 

Dosbarthwyd fersiwn ddiwygiedig o ymateb Ymgynghoriad y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Mae'r paragraff mewn llythrennau italig isod wedi'i ychwanegu at ymateb 1b.

 

1b)     Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol gael yr un fframwaith llywodraethu a gweinyddol yn fras â phrif gyngor ar yr amod bod hyn yn gymesur? Rhowch eich rhesymau.

 

Mewn egwyddor, ydw - mae'n ymddangos bod hyn yn briodol ar yr amod ei fod yn gymesur ac nad yw'n datblygu'n 'anghenfil' gweinyddol ar wahân dros amser. Bydd angen sicrhau bod gan y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol adnoddau digonol a bydd angen Swyddog Monitro/Swyddog A151 unigol a staff gweinyddol ar bob Cyd-bwyllgor Corfforaethol, y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cydnabod a'u cefnogi'n ariannol.

 

"Mae'n bwysig bod y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn destun yr un oruchwyliaeth graffu ac archwilio ag awdurdodau cyfansoddol. Er y dylai trefniadau craffu o'r fath fod yn ôl disgresiwn y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cost y ddarpariaeth graffu ychwanegol hon (gan gynnwys costau swyddogion craffu sy'n gweithio gyda'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol) er mwyn peidio ag effeithio ar allu ac adnoddau swyddogion i gyflawni dyletswyddau craffu o ddydd i ddydd ym mhob awdurdod cyfansoddol."

 

Bydd Cyd-bwyllgorau Corfforaethol hefyd yn caniatáu cyfuno adnoddau neu rannu sgiliau ac arbenigedd penodol a gallai helpu i fynd i'r afael â rhai materion sy'n ymwneud â gallu.

 

30.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus - Enwebiad ar gyfer Cyngor y Flwyddyn

 

Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi cael ei enwebu fel Cyngor y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

2)              Technoleg Llanw - Ynys Ynni'r Ddraig

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad mewn perthynas â photensial Technoleg Llanw ym Mae Abertawe fel rhan o gynllun Ynys Ynni'r Ddraig.

 

3)              Diogelu Swyddi yn Abertawe

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei bryder ynghylch tranc rhai o brif siopau'r DU. Dywedodd fod y cyngor yn gwneud popeth posib i ddiogelu swyddi yn Abertawe.

 

4)              Brechlyn COVID-19

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael ei gyflwyno yn y diwrnodau nesaf.

 

5)              Abertawe – Dinas â digon o ddiffibrilwyr

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor yn cydweithio â'r elusen leol, Heartbeat Trust UK, er mwyn gosod hyd at 200 o ddiffibrilwyr a all achub bywydau. Y nod yw achub bywydau a bod Abertawe'n ennill teitl y ddinas gyntaf â digon o ddiffibrilwyr yn y DU.

31.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd dau gwestiwn gan y cyhoedd. Roedd un gan John Childs mewn perthynas â Chofnod 33 "Y Diweddaraf gan y Gronfa Bensiwn ar Newid yn yr Hinsawdd" a'r llall gan Rebecca Evans (Aelod o'r Senedd) mewn perthynas â Chofnod 41 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn "Ffyrdd Ariannol o ddiogelu masnachu y tu allan yn ddiogel".

 

Ymatebwyd i'r cwestiynau gan Aelodau perthnasol y Cabinet.

32.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2021/2022 pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2021-2022. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr 2020.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)       Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2021-2022;

 

2)       Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru), fel y'u diwygiwyd, mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyfrifo'r canlynol ar gyfer y flwyddyn 2021-2022:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

94,051

 

 

 

Ar gyfer ardaloedd cynghorau cymuned/tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

2,064

 

Clydach

2,676

 

Gorseinon

3,319

 

Tre-gŵyr

1,992

 

Pengelli a Waungron

420

 

Llanilltud Gŵyr

364

 

Cilâ

2,151

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

536

 

Llangyfelach

971

 

Llanrhidian Uchaf

1,640

 

Llanrhidian Isaf

338

 

Casllwchwr

3,508

 

Mawr

768

 

Y Mwmbwls

10,349

 

Penllergaer

1,451

 

Pennard

1,518

 

Penrhys

479

 

Pontarddulais

2,348

 

Pontlliw a Thircoed

1,039

 

Porth Einon

484

 

Reynoldston

335

 

Rhosili

208

 

Y Crwys

713

 

Cilâ Uchaf

583

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe                             

65,722

 

33.

Diweddariad ar y Gronfa Bensiwn a Newid yn yr Hinsawdd. pdf eicon PDF 735 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn adroddiad ar sut mae'r gronfa bensiwn yn mynd rhagddi ar ei hymrwymiad i leihau ôl-troed carbon ei phortffolio ecwiti rhestredig 50% erbyn 2022 a mentrau eraill i fynd i'r afael â risg newid yn yr hinsawdd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi a chymeradwyo'r camau gweithredu a'r cynnydd a nodwyd ym Mharagraff 12 yr adroddiad y mae'r Gronfa Bensiwn wedi'u gwneud o ran bodloni ei hymrwymiad i leihau ei hamlygiad carbon yn ei buddsoddiadau ecwiti rhestredig 50% erbyn 2022.

34.

Datganiad Argyfwng Hinsawdd - Adolygiad Polisi a'r Cynllun Gweithredu Arfaethedig. pdf eicon PDF 832 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad er gwybodaeth a gyflwynodd adolygiad polisi a'r camau gweithredu arfaethedig yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig ar Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd a gyflwynwyd i'r cyngor ar 27 Mehefin 2019.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald gwestiwn mewn perthynas â Pharagraff 2.1.21 (Cynllun Teithio Llesol) yr adroddiad. Gofynnodd a oedd ffigurau'n ymwneud â beicio, wedi'u dadansoddi rhwng defnyddwyr hamdden a chymudwyr?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

35.

Penodi Aelod Lleyg Ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth ar gyfer argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 17 Tachwedd 2020 i benodi aelod lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Penodi Julie Davies yn aelod lleyg o'r Pwyllgor Archwilio gan ddechrau ar 4 Rhagfyr 2020.

 

2)              Bydd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 3 Rhagfyr 2025.

36.

Penodiad Parhaol ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Addysg Statudol pdf eicon PDF 295 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y trefniadau sy'n ymwneud â'r Cyfarwyddwr Addysg.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi cymeradwyaeth ymddeoliad afiechyd Nick Williams.

 

2)              Nodi dechrau'r broses o recriwtio Cyfarwyddwr Addysg Statudol.

 

3)              Estyn penodiad Helen Morgan-Rees yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro hyd nes y bydd y swydd wedi'i llenwi'n barhaol.

37.

Ymateb i Ymgynghoriad - Cyd-bwyllgorau Corfforaethol pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ymateb y cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gydbwyllgorau Corfforaethol fel y darperir gan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cyflwyno'r ymateb i'r ymgynghoriad, fel yr amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad, i Lywodraeth Cymru.

38.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 246 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor:

 

a)              Rhan 3 - Ymatebolrwydd ar gyfer Swyddogaethau - Cylch Gorchwyl - Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP).

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Ailenwi Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi ac Isadeiledd yn 

Bwyllgor Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd.

 

2)              Ailenwi'r PDP Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol yn,

PDP Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol.

 

3)              Bod Cylch Gorchwyl y PDP Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol

 fel yr amlinellir yn Atodiad A "Cylch Gorchwyl y Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP) - Newidiadau wedi'u hamlygu" yr adroddiad.

 

4)              Gwneud unrhyw ddiwygiadau cyfansoddiadol canlyniadol.

39.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 292 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn nodi'r diwygiadau a wnaed gan y Swyddog Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor yn dilyn y newidiadau rheoli a staffio mewn perthynas â Chyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol.

40.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 361 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 5

 

Gofynnodd y Cynghorydd A M Day gwestiwn:

 

"Mae paragraff 2 o'r ymateb ysgrifenedig yn cyfeirio at adolygiad sydd ar ddod. Pryd fydd yr adolygiad yn cael ei gynnal ac a ellir rhannu canlyniad yr adolygiad â chynghorwyr?"

 

Nododd y Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu.

 

2)              'Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

41.

Rhybudd o Gynnig - Incwm Sylfaenol. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr M Sherwood, R C Stewart, A S Lewis, D H Hopkins, J P Curtice, M B Lewis, M C Child, D W W Thomas, S Pritchard, W G Lewis, L V Walton, R Francis-Davies, L S Gibbard, A Pugh a C R Evans

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd M Sherwood a'i eilio gan y Cynghorydd L Gibbard.

 

"Mae'r cyngor hwn:

 

a)              yn credu bod y system fudd-daliadau bresennol yn siomi dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yn Abertawe;

 

b)              Yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle telir swm nad yw'n destun prawf modd i ddinasyddion o'r wladwriaeth i dalu am gostau byw sylfaenol, a delir i bob dinesydd yn unigol, waeth beth fo'u statws cyflogaeth, cyfoeth neu statws priodasol;

 

c)      Yn credu bod angen profi Incwm Sylfaenol Cyffredinol, gan fod gan Incwm Sylfaenol Cyffredinol y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli cymuned drwy:

 

i)                Roi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr a rhoi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;

 

ii)              Gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;

 

iii)             Dileu effeithiau negyddol cosbau budd-daliadau ac amodoldeb;

 

iv)             Rhoi rhagor o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu, y gweithle a chymdeithas.

 

ch)     Nodi gwaith UBI Lab Network wrth ddatblygu cynigion ar gyfer cynlluniau peilot i brofi Incwm Sylfaenol Cyffredinol;

 

d)       Yn credu na ddylid mesur llwyddiant cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith cyflogedig, ond yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut mae nhw’n teimlo, a sut maen nhw’n cysylltu ag eraill a'r amgylchedd o'u cwmpas;

 

dd)     Yn credu, o ystyried ei hanes o arloesi cymdeithasol, llu o arbenigedd, a rhwydweithiau gweithredol ar draws gwasanaethau cymunedol, busnes a gwasanaethau cyhoeddus, fod Abertawe yn ddelfrydol i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol;

 

e)       Yn penderfynu gweithio gyda UBI Lab Network Abertawe a Chymru i ysgogi trafodaethau yn y ddinas a thu hwnt iddi ynghylch incwm sylfaenol;

 

f)        Yn penderfynu anfon copi o'r cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y Canghellor, arweinydd y blaid mewn Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob un o'r gwrthbleidiau yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl Aelodau Seneddol Abertawe".

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.