Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorwyr M C Child, P Downing, V M Evans, J W    Jones, R D Lewis, B J Rowlands, R C Stewart, G J Tanner ac M White       gysylltiad personol â Chofnod 40 - “Adroddiad Blynyddol am Weithio    Rhanbarthol 2018/19".

 

2)        Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R Francis-Davies, L S   Gibbard,        E T Kirchner ac R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 42 -   “Adroddiad Blynyddol y Partneriaethau Hamdden 2017/18.

 

3)      Datganodd y Cynghorwyr V M Evans, R C Stewart a D G Sullivan             gysylltiad personol â Chofnod 43 - “Cyd-bwyllgor Penodiadau - Bargen             Ddinesig Bae Abertawe".

34.

Cofnodion. pdf eicon PDF 189 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019.

35.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol  adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

36.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod wrth ei fodd i gyhoeddi bod cynllun Ysgol Gyfun Pentrehafod wedi ennill y wobr "Clod Uchel" yng nghategori "Arloesedd wrth Ddarparu Cyfleuster Addysg Gynaliadwy" ac "Enillydd" yn y categori "Arloesedd wrth Ddarparu Gwerth" yn ystod Gwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019.

 

Mae'r wobr yn cydnabod arloesedd y tîm a oedd wedi helpu i ddarparu cyfleuster addysg gynaliadwy sy'n hyrwyddo arferion ac ymddygiadau cynaliadwy gan yr holl ddefnyddwyr a'r arloesedd a oedd wedi cyfrannu at werth yn nyluniad y mannau dysgu, a'r gwerth hwnnw'n un ariannol a phrofiadol i ddefnyddwyr y cyfleuster. Aeth ati i longyfarch pawb a gyfrannodd at y cynllun.

 

2)              Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn bleser mawr iddo gyhoeddi bod y Cynghorydd Robert Francis-Davies wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anhrydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar.

 

3)              Gwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei bod hi'n dda nodi bod Cronfa Bensiwn Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019. Mae'n un o 4 Cronfa Bensiwn i gael ei henwebi yn y categori Yr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy ar gyfer eu gwaith wrth ddatblygu eu Polisi Amgylcheddol a Llywodraethu Cymdeithasol a'r ffaith eu bod wedi tynnu'n ôl o fuddsoddiadau sy'n gysylltiedig â charbon wrth gydbwyso'u cyfrifoldebau ymddiriedol.

 

Caiff yr enillydd ei gyhoeddi ar 19 Medi 2019 mewn digwyddiad yn Llundain.

 

4)              Y teulu a Ddysgodd Wrando

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei bod hi'n bleser cyfeirio at lyfr a gafodd ei ysgrifennu gan grŵp o blant 7-11 oed sydd â phrofiad o'n system gofal yn Abertawe. Eu nod oedd cynhyrchu llyfr sy'n gallu helpu Gweithwyr Cymdeithasol, Gofalwyr Maeth, Teuluoedd a Phlant eraill i wrando ar ei gilydd yn well, dangos manteision cydweithio ac amlygu'r ffaith ein bod ni i gyd yn ennill pan fyddwn yn defnyddio ymagwedd hawliau plant.

 

Creodd y grŵp ddyfais draethiadol hynod soffistigedig, sef "drych hud" yn y stori a oedd yn galluogi'r teulu i ailddechrau eu diwrnod gwael, pan nad oedd neb yn gwrando, ac yn caniatáu i'r teulu ddechrau eto a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Y pwnc allweddol o bwys i'r grŵp oedd helpu plant eraill i gael y 'Dechrau Gorau' mewn bywyd, ac roedd cael gwrandawiad teg yn hanfodol i hyn.

 

Trafododd y plant eu hatgofion a'u straeon ac yna aethant ati i'w defnyddio nhw i lywio'r stori a'r cyfeiriad y byddai'r llyfr yn ei ddilyn, gan ystyried y brîff y byddai'r llyfr yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol i deuluoedd ar draws Abertawe a Chymru. Roedd hon yn dasg heriol i'r plant o gofio'u profiadau bywyd personol.

 

Llinyn cydamserol trwy'r broses gyfan, ac i'r grŵp cyfan, oedd pwysigrwydd teulu, derbyn gwrandawiad teg, gwneud gwahaniaeth a'r gobaith gorau o gael teulu eu hunain yn y dyfodol.

 

Arweiniwyd y llyfr gan dîm 'Dechrau Gorau Abertawe' sy'n bodoli i gefnogi rhieni a phlant ar draws ein dinas. Datblygwyd y negeseuon gyda rhieni a phlant yn Abertawe, ar gyfer rhieni a phlant Abertawe trwy hyrwyddo negeseuon magu plant defnyddiol, cadarnhaol sy'n gallu helpu i baratoi rhieni at enedigaeth, a phlant at ddosbarthiadau meithrin, yr ysgol a thu hwnt.

 

Dyma'r trydydd llyfr mewn cyfres o straeon a ysgrifennwyd gan rieni ynghylch Negeseuon Dechrau Gorau Abertawe. Crëwyd a datblygwyd y teulu Jack gan blant ysgol Abertawe, ac mae eu straeon, hyd yn hyn, wedi hyrwyddo pwysigrwydd chwarae yn ystod plentyndod cynnar, a hefyd bwysigrwydd bod mor iach ag y gallwch fod, a threulio amser gyda'ch gilydd. Mae'r trydydd llyfr hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwrando, ac mae'r plant wedi creu stori wych i gefnogi'r agwedd bwysig hon ar blentyndod cynnar a'r tu hwnt.

 

Mae Thomas a Helen Docherty yn dîm o awduron a darlunwyr sydd wedi gweithio ar y llyfr a'r ddau lyfr blaenorol. Partneriaid allweddol eraill a oedd wedi cefnogi creu'r llyfr hwn oedd Kate Phillips, Gary Mahoney a Tom Jones.

 

Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

5)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)               Eitem 10 "Adroddiad Blynyddol 2018/19 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”.  Diwygio'r argymhelliad ar dudalen 31 i ddweud "2018/19" yn lle 2017/18.

 

ii)              Eitem 13 “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor”.  Diwygio'r Pwyllgor a ailenwyd i ddarllen "Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol". Cyfeirnodau ar dudalennau 125, 129 a 130.

37.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe - Y Diweddaraf

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wrth ei fodd ag ymrwymiad Llywodraethau Cymru a'r DU i ryddhau gwerth £18 miliwn o'r arian sydd wedi'i neilltuo i'r Fargen Ddinesig.

 

Dywedodd y bydd mwy o arian yn cael ei ryddhau unwaith y caiff Cyfarwyddwr y Rhaglen ei benodi ac argymhellion yr adolygiad eu gweithredu.

 

2)       Gwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Clive Lloyd a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn gan fod Cronfa Bensiwn Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Cenedlaethol Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol 2019. Mae'n un o 4 Cronfa Bensiwn i gael ei henwebu yn y categori Yr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy ar gyfer eu gwaith wrth ddatblygu eu Polisi Amgylcheddol a Llywodraethu Cymdeithasol a'r ffaith eu bod wedi tynnu'n ôl o fuddsoddiadau sy'n gysylltiedig â charbon wrth gydbwyso'u cyfrifoldebau ymddiriedol.

 

3)        Metro Gorllewin Cymru

 

Ailadroddodd Arweinydd y Cyngor ei gefnogaeth ar gyfer Metro Gorllewin Cymru a dywedodd y byddai cyhoeddiad diweddar Lywodraeth DU o £20 miliwn tuag at Orsaf Drenau Parcffordd Abertawe yn gweithio fel rhan o isadeiledd trafnidiaeth ehangach yn unig.

 

4)       Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Catherine Zeta-Jones

 

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor lwyddiant y digwyddiadau a oedd yn ymwneud â Catherine Zeta-Jones yn derbyn Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas.  Diolchodd i bawb a fu'n gysylltiedig â hyn, yn enwedig y Cynghorydd Robert Francis-Davies.

38.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

39.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

40.

Adroddiad blynyddol ar weithio rhanbarthol 2018/19 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran Gweithio Rhanbarthol yn ystod 2018-2019 yn benodol ar gyfer Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), Bae'r Gorllewin (Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg) a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd M H Jones gwestiwn ynghylch diffyg Craffu mewn perthynas â Bae'r Gorllewin (Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg). Esboniodd y Cynghorydd M C Child y byddai'r Bartneriaeth Ranbarthol yn croesawu'r broses graffu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n ysgrifennu at y Cadeirydd i ofyn am y diweddaraf am y mater craffu.

41.

Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Prif Swyddog Y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn rhoi ei gyfrif ef o daith wella'r cyngor i 2018-2019, a pha mor dda oedd y cyngor yn bodloni ei ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn edrych yn ôl ar feysydd i'w gwella'r flwyddyn flaenorol, a'r heriau a wynebwyd ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer 2019-2020. Mae'r adroddiad yn nodi'r newidiadau a gafwyd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gwneud cynnydd tuag at ganlyniadau llesiant cenedlaethol.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018-2019.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black gwestiwn ynghylch yr ymateb a gafodd o ran Cwestiwn 10 i'r Cynghorydd. Dywedodd nad oedd yr ymateb yn ateb ei gwestiwn, ond ei fod yn rhoi manylion contract y cyngor gyda'r YMCA yn lle. Nid oes gan y YMCA gontract i gynnal asesiadau statudol o ofalwyr ifanc. Gofynnodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu ateb diwygiedig a fyddai'n mynd i'r afael â'r holl bwyntiau yn y cwestiwn gwreiddiol.

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir ymateb ysgrifenedig.

42.

Adroddiad Blynyddol Partneriaethau Hamdden 17/18. pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

43.

Cydbwyllgor Penodiadau - Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe i benodi Cyfarwyddwr y Rhaglen.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Sefydlu Cyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd y Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

 

2)              Penodi Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd R C Stewart) a'r Cynghorydd J P Curtice (Aelod Anweithredol) i Gyd-bwyllgor Penodiadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

 

3)              Dirprwyo'r dasg o greu rhestr fer o ymgeiswyr i Arweinwyr Cyngor y pedwar awdurdod.

44.

Newidiadau i gyfansoddiad y Cyngor. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor:

 

a)              Rhan 2 - Erthyglau'r Cyfansoddiad  - Erthygl 4 "Cyfarfod y cyngor";

b)              Rhan 3 - Cyfrifoldeb am Swyddogaethau - Cynllun Dirprwyo;

c)              Rhan 3 - Ymatebolrwydd ar gyfer Swyddogaethau - Cylch Gorchwyl - Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP);

d)              Rhan 4 - Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.

 

Cyflwynwyd y diwygiadau i Ran 4 - Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Ariannol fel yr amlinellir yn Atodiad A o'r adroddiad er gwybodaeth yn unig, gan fod y newidiadau eisoes wedi cael eu rhoi ar waith gan y Swyddog Monitro yn dilyn trafodaethau â'r Prif Swyddog Cyllid dan Erthygl 15 "Adolygu a Diwygio'r Cyfansoddiad".

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylai enw arfaethedig newydd Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol ddarllen Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol. Mae Cadeirydd ac Aelodaeth y Pwyllgor Datblygu Polisi a ailenwyd yn aros yr un peth â'r corff gwreiddiol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r diwygiadau i Ran 2 - Erthyglau'r Cyfansoddiad - Erthygl 4 "Cyfarfod y Cyngor" fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r diwygiadau i Ran 3 - Cyfrifoldeb am Swyddogaethau - Cynllun Dirprwyo fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad;

 

3)              Cymeradwyo'r diwygiadau i Ran 3 - Ymatebolrwydd ar gyfer Swyddogaethau - Cylch Gorchwyl - Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP) fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad;

 

4)              Y bydd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol yn derbyn cyflog uwch.

45.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Ychwanegodd ychydig o ddiwygiadau i'r adroddiad hefyd.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu enw'r Cynghorydd W Evans.

Ychwanegu lle Llafur gwag.

46.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

47.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 1.  Gofynnod y Cynghorydd P N May:

"Pa fathau o dystiolaeth y mae eu hangen ar y cyngor er mwyn bod yn debygol o erlyn person am dipio anghyfreithlon?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 5.  Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald:

"Faint o breswylwyr oedd wedi ysgrifennu atom, gan anfon eu tocynnau parcio ceir fel prawf prynu ar ôl iddynt dderbyn Tocyn Gorfodi Parcio o ganlyniad i fethu arddangos eu tocyn?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Question 6.  Gofynnodd y Cynghorydd A M Day:

"1)    A ymgynghorir â'r cyngor fel corff ynghylch cau canghennau banciau?

2)             Sut bydd y bobl sydd wedi'u heithrio'n ddigidol yn cael mynediad at wasanaethau bancio ar ôl i ganghennau banciau gau?”

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.