Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

169.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 178 “Goddefeb ar gyfer absenoldeb cynghorydd - y Cynghorydd S E Crouch” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd P Lloyd gysylltiad personol â Chofnod 178 "Goddefeb ar gyfer absenoldeb cynghorydd - y Cynghorydd S E Crouch".

170.

Cofnodion. pdf eicon PDF 156 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 fel cofnod cywir, yn amodol ar Gofnod 159 “Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol” a Chofnod 160 “Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor” yn cael eu dileu a'u disodli gan y canlynol:

 

“159 Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

 

1)              Gweddarlledu'r Cyfarfod

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod cyfarfod y cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel gweddarllediad.

 

2)              Cydymdeimladau

 

a)              Y Cynghorydd William Frederick (Fred) Stuckey

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Fred Stuckey. Cynrychiolodd y Cynghorydd Stuckey Ward Etholiadol Townhill o 1999 i 2004.

 

b)              Y Cynghorydd Des W Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot)

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Des W Davies o Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Roedd y Cynghorydd Davies yn gyn-gynghorydd Sir Gorllewin Morgannwg a etholwyd gyntaf ym 1981. Bydd llawer ohonoch yn ei gofio fel cyn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg gynt.

 

c)       Cofio'r rhai a fu farw yn y gyflafan mewn mosgiau yn Seland Newydd

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at y gyflafan ddiweddar yn Seland Newydd. Bu farw hanner cant o bobl a chafodd dwsinau o bobl eraill eu hanafu yn y saethiadau ym Mosg Al Noor a Chanolfan Islamaidd Linwood yn Christchurch, Seland Newydd ar 15 Mawrth 2019. Rhaid i wleidyddion helpu i chwarae rôl wrth fynd i'r afael ag anoddefgarwch mewn cymdeithas.

 

Allwch chi i gyd sefyll fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

 

3)              Y Cynghorydd M C Child – Swimathon 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai ei gydweithiwr ward etholiadol, y Cynghorydd Mark Child, yn cymryd rhan yn Swimathon 2019. Nod y Cynghorydd Child yw nofio 2.5km (sef 1.55 milltir) ddydd Gwener, 29 Mawrth 2019 fel rhan o Swimathon 2019 er mwyn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser y DU a Marie Curie.

 

Mae croeso i chi noddi'r Cynghorydd Child.

 

4)       Darran Kiley - Gwobr Dewi Sant am Ddewrder

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch iawn o gyhoeddi bod Darran Kiley ar rhestr fer rownd derfynol Gwobr Dewi Sant am Ddewrder. Mae cynllun Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir yng Nghymru.

 

Roedd Darran yn gweithio drwy asiantaeth i Is-adran Parciau a Glanhau'r awdurdod ac ym mis Hydref 2017 yn ystod diwrnod o waith yng nghanol y ddinas, daeth wyneb yn wyneb â dyn â chyllell. Cysylltodd Darran â'r heddlu ac yna dilynodd y dyn â'r gyllell. Pan wnaeth y person hwn fygwth aelod arall o'r cyhoedd, ymyrrodd Darran drwy atal y dyn â'r gyllell nes i'r heddlu gyrraedd i'w arestio. Ers hynny mae Darran wedi cael ei gyflogi yn y gwasanaeth Rheoli Gwastraff trwy ei Raglen Hyfforddi.

 

Mae Darran yma heddiw ac ar ran yr awdurdod a phobl Abertawe, hoffwn ddiolch iddo am ei ddewrder a'i longyfarch am gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dewi Sant am Ddewrder.

 

5)       Gwobr Arloesi Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau Corfforaethol yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Arloesi Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch ar ôl cyflwyno ei waith ar Reoli Cwympiadau Pobl Hŷn i Fwrdd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) ym mis Rhagfyr 2018.

 

Ym mis Ionawr 2019, cyflwynodd Craig Gimblett a Tracy Dicataldo y gwaith yn Nhŷ'r Arglwyddi a chawsant Darian Stevenson ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Diogelwch gan ddod yn y 3ydd safle yn y DU. Mae hyn yn dyst i'r gwaith a gyflawnwyd gan Tracy mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bae'r Gorllewin, a oedd wedi lleihau nifer y cwympiadau a nifer y galwadau 999 o ddwy ran o dair.

 

Mae ROSPA bellach wedi cysylltu â'r awdurdod, gan bod am ddefnyddio'r gwaith arloesol fel meincnod ledled y DU. Mae hon yn gydnabyddiaeth wych i Abertawe ar lwyfan y DU.

 

Mae Craig Gimblett a Tracy Dicataldo yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

6)       Coleg Gŵyr Abertawe - Gwobrau Prentisiaethau 2019

 

Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi bod nifer o weithwyr y cyngor wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe 2019 yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i bawb. Mae'r coleg yn gweithio gyda 2,500 o brentisiaid a bydd pob un ohonynt yn cyfrannu at ddyfodol yr economi.

 

Mae'r gweithwyr yn bresennol i dderbyn eu gwobrau:

 

a)              Prentis Gosod Briciau y Flwyddyn - Aaron Redden;

b)              Prentis Gofal Plant y Flwyddyn - Ingrid Parker (Ysgol Gymunedol St Thomas);

c)              Prentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad y Flwyddyn - Iestyn Thomas (ddim ar gael oherwydd ymrwymiadau coleg);

ch)     Prentis TG y Flwyddyn - Cameron Lewis;

d)              Prentis Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Flwyddyn - Elizabeth Jarvis;

dd)      Prentis y Flwyddyn - Luke Evans.

 

Hefyd enillodd yr awdurdod Gyflogwr Prentisiaethau'r Flwyddyn (250+ o gyflogwyr). Mae Adrian Chard (Adnoddau Dynol), Helen Beddow a Lee Wyndham (Y Tu Hwnt i Frics a Morter) yn bresennol i dderbyn y wobr ar ran yr awdurdod.

 

7)              Y Cynghorydd M H Jones

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cynghorydd M H Jones yn obeithiol y byddai'n dychwelyd i gyfarfodydd yr wythnos nesaf yn dilyn ei llawdriniaeth a diolchodd i bawb a anfonodd negeseuon o gefnogaeth a dymuniadau gorau ati.

 

8)              Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol y diwygiadau/cywiriadau i Wŷs y Cyngor.

 

a)              Eitem 12 "Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2019-2020”.

 

Dileu cyfeiriad at Gyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 21 Mai 2020.

Ei aildrefnu ar gyfer 28 Mai 2020.

 

b)              Eitem 13 "Datganiad Polisi Tâl 2019-2020"

 

Mae tudalen 123, "Atodiad B: Tâl Prif Swyddogion 2019-2020", wedi'i diwygio a'i dosbarthu. Dylech anwybyddu'r fersiwn brintiedig yng Ngwŷs y Cyngor.

 

160. Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor

 

1)              Dawnus

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ar waith canol y ddinas wedi i gwmni adeiladu Dawnus fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Dywedodd fod yr awdurdod yn meddwl am yr holl bobl yr effeithiwyd arnynt gan fethiant cwmni Dawnus.

 

Diolchodd hefyd i Martin Nicholls a'i dîm am y gwaith caled yr oeddent wedi'i wneud yn dilyn y cyhoeddiad a dywedodd eu bod yn y broses o chwilio am gontractwr newydd i ymgymryd â'r gwaith yng nghanol y ddinas.

 

2)              Cynhadledd MIPIM - 12-15 Mawrth 2019

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad yn dilyn ei bresenoldeb diweddar yng nghynhadledd MIPIM, Cannes, Ffrainc. Dywedodd mai MIPIM oedd marchnad eiddo fwyaf y byd ac yn gyfle delfrydol i gwrdd â'r bobl fwyaf dylanwadol o bob sector o'r diwydiant gwerthu tai rhyngwladol.

 

3)              Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

4)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe.

 

5)              Pencampwyr Camp Lawn y 6 Gwlad ar gyfer 2019 - Cymru

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Gymru ar ddod yn bencampwyr camp lawn y 6 Gwlad ar gyfer 2019. Dywedodd y byddai'r cyngor, ar 25 Ebrill 2019, yn ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i gapten Cymru, Alun Wyn Jones, a gafodd ei eni a'i fagu yn Abertawe.”

171.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

172.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu'r Cyfarfod

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod hwn yn cael ei recordio.

 

2)              Cydymdeimladau

 

a)       Y Cynghorydd Paul James (Cyngor Sir Ceredigion)

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Paul James o Gyngor Sir Ceredigion. Bydd llawer ohonoch yn ei gofio fel aelod o Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ef oedd yr aelod a oedd wedi gwasanaethu am y cyfnod hwyaf a hynny ers 2004.

 

Lladdwyd y Cynghorydd James wrth yrru ei feic yn ystod hyfforddiant ar gyfer taith codi arian o Aberystwyth i Abertawe, a oedd i'w chynnal ym mis Mai 2019.

 

b)       Ymosodiadau Sul y Pasg yn Sri Lanca

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol â thristwch at ymosodiadau Sul y Pasg yn Sri Lanca. Bu farw 321 o bobl a chafodd cannoedd mwy eu hanafu yn dilyn llu o fomio yn targedu eglwysi a gwestai moethus.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

 

3)               Clwb Rygbi Bôn-y-maen - Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Clwb Rygbi Bôn-y-maen am gyrraedd Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru (WRU). Tarodd Clwb Rygbi Bôn-y-maen yn ôl o 14 pwynt gan guro Treorci 28-19 am le yn Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol URC.

 

Bydd Clwb Rygbi Bôn-y-maen yn wynebu Aberhonddu yn Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol URC yn Stadiwm y Principality am 15:15 ddydd Sul, 28 Ebrill 2019. Mae hon yn gamp enfawr i'r clwb o Eastside.

 

Ar ran y cyngor, dymunodd bob lwc i Clwb Rygbi Bôn-y-maen yn y rownd derfynol.

 

4)               Undeb Rygbi Ysgolion Abertawe (SSRU) (dan 15 oed) - Rownd Derfynol Tarian Dewar

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol UR Ysgolion Abertawe (dan 15 oed) am gyrraedd Rownd Derfynol Tarian Dewar. Dechreuodd Cystadleuaeth Tarian Dewar ym 1905 a dyma'r gystadleuaeth hynaf ar gyfer ysgolion yn y byd rygbi. Mae fformat presennol Tarian Dewar yn cynnwys 29 o dimau rhanbarthol sy'n cynrychioli pob rhan o Gymru.

 

Mae Ysgolion Abertawe yn wynebu Ysgolion Caerdydd yn Rownd Derfynol Tarian Dewar yn Stadiwm Principality am 18:15 nos Iau, 2 Mai 2019.

 

Ar ran y cyngor, dymunodd bob lwc i Ysgolion Abertawe yn y rownd derfynol.

 

5)               Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd - Antur Beicio Caderman yn Nwyrain Ewrop

 

Hoffwn ddymuno'n dda i Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer ei Antur Beicio yn Nwyrain Ewrop sydd ar ddod. Bydd Huw a 9 o'i gydweithwyr yn hedfan i Vilnius, Lithwania ar 17 Mai 2019 ac yn beicio oddi yno a drwy Lithwania, Latfia, Estonia, Rwsia a'r Ffindir. Ar ddiwedd yr antur, byddant yn gorffwys yn St. Petersburg, Rwsia am rai dyddiau. Byddant yn beicio ychydig llai nag 800 o filltiroedd dros 6 diwrnod (mwy os ydynt yn mynd ar goll). Ni fydd unrhyw gefnogaeth ganddynt a bydd angen iddynt gario'u holl gyfarpar am hyd y daith.

 

Diben y daith yw codi arian ar gyfer Bloodwise, elusen sy’n ymroddedig i drechu canser y gwaed. Gallwch roi arian yn uniongyrchol i Huw neu drwy dudalen Just Giving Caderman https://www.justgiving.com/fundraising/caderman2019

 

6)               Cyfarfod Blynyddol y Cyngor - aildrefnwyd ar gyfer 16 Mai 2019

 

Trefnwyd Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar gyfer 23 Mai 2019; fodd bynnag, mae gwrthdaro rhwng y dyddiad hwn ag Etholiadau Senedd Ewrop bydd yn yr arfaeth. Felly mae'r cyfarfod wedi'i aildrefnu ar gyfer 16:00 ddydd Iau, 16 Mai 2019.

 

7)               Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

Cofnodion 159 a 160 o gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019, fel yr amlinellwyd yn gynharach.

173.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

2)              Home Farm

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf ynglŷn â'r penderfyniad am Home Farm. Dywedodd fod penderfyniad y Cabinet yn ceisio diddordeb ar gyfer defnyddio'r safle ac nad oedd yn ymrwymo'r awdurdod i unrhyw beth.

174.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

175.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

176.

Adolygiad Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. pdf eicon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r newidiadau arfaethedig ac i gytuno ar ymchwiliad pellach i symudiad posibl nifer o leoliadau gorsafoedd pleidleisio.

 

Cywirodd ychydig o wallau yn yr adroddiad a gofynnodd am newid yr wybodaeth a argraffwyd mewn perthynas â'r Adrannau Etholiadol i ddarllen fel a ganlyn:

 

Adran Etholiadol Penllergaer

Gorsaf Bleidleisio/Gorsafoedd Pleidleisio: Newid arfaethedig i Neuadd Llewellyn o neuadd bentref yr Hen Ysgol.

 

Adran Etholiadol Sgeti

Sylwadau a dderbyniwyd: Does dim newid.

 

Adran Etholiadol Uplands

Sylwadau a dderbyniwyd: Gweler atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd, ers ysgrifennu'r adroddiad, fod Etholiadau Senedd Ewrop wedi cael eu galw ac arweiniodd hyn at farnu bod Ystafell Ysgol Capel Hill, Heol North Hill o fewn adran etholiadol y Castell yn anaddas. Felly, cysylltodd ag Aelodau Ward Etholiadol y Castell a chytunodd i ddefnyddio Ystafell Ysgol Capel Elim yn lle hynny.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â'r adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio sy’n cael eu crynhoi yn atodiad 2 yr adroddiad;

 

2)              Nodi'r cynigion terfynol i'r Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio fel y'u diwygiwyd ac a amlinellwyd yn atodiad 1 yr adroddiad yn amodol ar gymeradwyo defnyddio Ystafell Ysgol Capel Elim yn hytrach nag Ystafell Ysgol Capel Hill;

 

3)              Mae'r Swyddog Canlyniadau’n parhau i fonitro Dosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar hyn o bryd.

177.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Alun Wyn Jones.

 

Ganwyd Alun Wyn Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen. Ef yw capten presennol tîm cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y Gweilch ac ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod Prydeinig yn olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones;

 

2)              Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 12 Mehefin 2019 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.

178.

Goddefeb ar gyfer absenoldeb cynghorydd - y Cynghorydd S E Crouch. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio goddefeb i'r Cynghorydd S E Crouch gael caniatâd i fod yn absennol oherwydd salwch yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Caniatáu goddefeb i'r Cynghorydd S E Crouch beidio â mynychu cyfarfodydd am y cyfnod hyd at 31 Mai 2020 yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

179.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pum (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol'.