Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

156.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorwyr A M Day, P Downing, W Evans, E W Fitzgerald, D W Helliwell, C A Holley, O G James, E T Kirchner, R D Lewis, A Pugh, M Sykes a W G Thomas gysylltiadau personol â Chofnod 163, “Trefniadau Derbyn 2020 - 2021”;

 

2)              Datganodd y Cyngorydd M C Child gysylltiad personol â Chofnod 164, “Penodi Cofiadur Anrhydeddus Abertawe”;

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, P Downing, W Evans, E W Fitzgerald, P R Hood-Williams, L James, S M Jones, M A Langstone, B J Rowlands, K M Roberts, R V Smith, A H Stevens, D G Sullivan, M Thomas, W G Thomas ac L J Tyler-Lloyd gysylltiadau personol â Chofnod 165, “Adolygiad o'r Siarter rhwng Dinas a Sir Abertawe a'r Cynghorau Tref/Cymuned o fewn y Ffiniau”;

 

4)              Datganodd y Cynghorwyr C A Holley ac A Pugh gysylltiadau personol â Chofnod 167, “Datganiad Polisi Tâl 2019-2020”.

 

Swyddogion

 

5)              Datganodd A Chard, H Evans, A Hill, T Meredith, M Nicholls, B Smith a S Woon gysylltiad personol â Chofnod 167, “Datganiad Polisi Tâl 2019-2020”.

157.

Cofnodion. pdf eicon PDF 195 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2019.

158.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

159.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu'r Cyfarfod

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod cyfarfod y cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel gweddarllediad.

 

2)              Cydymdeimladau

 

a)              Y Cynghorydd William Frederick (Fred) Stuckey

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Fred Stuckey. Cynrychiolodd y Cynghorydd Stuckey Ward Etholiadol Townhill o 1999 i 2004.

 

b)              Y Cynghorydd Des W Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot)

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Des W Davies o Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Roedd y Cynghorydd Davies yn gyn-gynghorydd Sir Gorllewin Morgannwg a etholwyd gyntaf ym 1981. Bydd llawer ohonoch yn ei gofio fel cyn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg.

 

c)       Cofio'r rhai a fu farw yn y gyflafan mewn mosgiau yn Seland Newydd

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at y gyflafan ddiweddar yn Seland Newydd. Bu farw hanner cant o bobl a chafodd dwsinau o bobl eraill eu hanafu yn y saethiadau ym Mosg Al Noor a Chanolfan Islamaidd Linwood yn Christchurch, Seland Newydd ar 15 Mawrth 2019. Rhaid i wleidyddion helpu i chwarae rôl wrth fynd i'r afael ag anoddefgarwch mewn cymdeithas.

 

Allwch chi i gyd sefyll fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

 

3)              Y Cynghorydd M C Child – Swimathon 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai ei gydweithiwr ward etholiadol, y Cynghorydd Mark Child, yn cymryd rhan yn Swimathon 2019. Nod y Cynghorydd Child yw nofio 2.5km (sef 1.55 milltir) ddydd Gwener, 29 Mawrth 2019 fel rhan o Swimathon 2019 er mwyn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser y DU a Marie Curie.

 

Mae croeso i chi noddi'r Cynghorydd Child.

 

4)       Darran Kiley - Gwobr Dewi Sant am Ddewrder

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch iawn o gyhoeddi bod Darran Kiley ar rhestr fer rownd derfynol Gwobr Dewi Sant am Ddewrder. Mae cynllun Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir yng Nghymru.

 

Roedd Darran yn gweithio drwy asiantaeth i Is-adran Parciau a Glanhau'r awdurdod ac ym mis Hydref 2017 yn ystod diwrnod o waith yng nghanol y ddinas, daeth wyneb yn wyneb â dyn â chyllell. Cysylltodd Darran â'r heddlu ac yna dilynodd y dyn â'r gyllell. Pan wnaeth y person hwn fygwth aelod arall o'r cyhoedd, ymyrrodd Darran drwy atal y dyn â'r gyllell nes i'r heddlu gyrraedd i'w arestio. Ers hynny mae Darran wedi cael ei gyflogi yn y gwasanaeth Rheoli Gwastraff trwy ei Raglen Hyfforddi.

 

Mae Darran yma heddiw ac ar ran yr awdurdod a phobl Abertawe hoffwn ddiolch iddo am ei ddewrder a'i longyfarch am fod yn rownd derfynol Gwobr Dewi Sant am Ddewrder.

 

5)       Gwobr Arloesi Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau Corfforaethol yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Arloesi Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch ar ôl cyflwyno ei waith ar Reoli Cwympiadau Pobl Hŷn i Fwrdd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) ym mis Rhagfyr 2018.

 

Ym mis Ionawr 2019, cyflwynodd Craig Gimblett a Tracy Dicataldo y gwaith yn Nhŷ'r Arglwyddi a chawsant Darian Stevenson ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Diogelwch gan ddod yn y 3ydd safle yn y DU. Mae hyn yn dyst i'r gwaith a gyflawnwyd gan Tracy mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bae'r Gorllewin, a oedd wedi lleihau nifer y cwympiadau a nifer y galwadau 999 o ddwy ran o dair.

 

Mae ROSPA bellach wedi cysylltu â'r awdurdod, gan ei fod am ddefnyddio'r gwaith arloesol fel meincnod ledled y DU. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych i Abertawe ar lwyfan y DU.

 

Mae Craig Gimblett a Tracy Dicataldo yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

6)       Coleg Gŵyr Abertawe - Gwobrau Prentisiaethau 2019

 

Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi bod nifer o weithwyr y cyngor wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe 2019 yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i bawb. Mae'r coleg yn gweithio gyda 2,500 o brentisiaid a bydd pob un ohonynt yn cyfrannu at ddyfodol yr economi.

 

Mae'r gweithwyr yn bresennol i dderbyn eu gwobrau:

 

a)              Prentis Gosod Briciau y Flwyddyn - Aaron Redden;

b)              Prentis Gofal Plant y Flwyddyn - Ingrid Parker (Ysgol Gymunedol St Thomas);

c)              Prentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad y Flwyddyn - Iestyn Thomas (ddim ar gael oherwydd ymrwymiadau coleg);

ch)       Prentis TG y Flwyddyn - Cameron Lewis;

d)              Prentis Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Flwyddyn - Elizabeth Jarvis;

dd)       Prentis y Flwyddyn - Luke Evans.

 

Hefyd enillodd yr awdurdod Gyflogwr Prentisiaethau’r Flwyddyn (250+ o gyflogwyr). Mae Adrian Chard (Adnoddau Dynol), Helen Beddow a Lee Wyndham (Y Tu Hwnt i Frics a Morter) yn bresennol i dderbyn y wobr ar ran yr awdurdod.

 

7)              Y Cynghorydd M H Jones

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cynghorydd M H Jones yn obeithiol y byddai'n dychwelyd i gyfarfodydd yr wythnos nesaf yn dilyn ei llawdriniaeth a diolchodd i bawb a anfonodd negeseuon o gefnogaeth a dymuniadau gorau ati.

 

8)              Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol y diwygiadau/cywiriadau i Wŷs y Cyngor.

 

a)              Eitem 12 "Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2019-2020”.

 

Dileu cyfeiriad at Gyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 21 Mai 2020.

Ei aildrefnu ar gyfer 28 Mai 2020.

 

b)              Eitem 13 "Datganiad Polisi Tâl 2019-2020"

 

Tudalen 123, "Atodiad B: Tâl Prif Swyddogion 2019-2020" wedi’i diwygio a’i dosbarthu. Dylech anwybyddu'r fersiwn brintiedig yng Ngwŷs y Cyngor.

160.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Dawnus

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ar waith canol y ddinas wedi i gwmni adeiladu Dawnus fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Dywedodd fod yr awdurdod yn meddwl am yr holl bobl yr effeithiwyd arnynt gan fethiant cwmni Dawnus.

 

Diolchodd hefyd i Martin Nicholls a'i dîm am y gwaith caled yr oeddent wedi'i wneud yn dilyn y cyhoeddiad a dywedodd eu bod yn y broses o chwilio am gontractwr newydd i ymgymryd â’r gwaith yng nghanol y ddinas.

 

2)              Cynhadledd MIPIM - 12-15 Mawrth 2019

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad yn dilyn ei bresenoldeb diweddar yng nghynhadledd MIPIM, Cannes, Ffrainc. Dywedodd mai MIPIM oedd marchnad eiddo fwyaf y byd ac yn gyfle delfrydol i gwrdd â'r bobl fwyaf dylanwadol o bob sector o'r diwydiant gwerthu tai rhyngwladol.

 

3)              Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

4)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe.

 

5)              Pencampwyr Camp Lawn y 6 Gwlad ar gyfer 2019 - Cymru

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Gymru ar ddod yn bencampwyr camp lawn y 6 Gwlad ar gyfer 2019. Dywedodd y byddai'r cyngor, ar 25 Ebrill 2019, yn ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i gapten Cymru, Alun Wyn Jones, a gafodd ei eni a'i fagu yn Abertawe.

161.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnodd David Davies y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 163, “Trefniadau Derbyn 2020-2021”:

 

Tudalen 38, Paragraff Terfynol. Rwy'n sylweddoli bod gan y cyngor enw da am gynnig i rieni eu dewis cyntaf o ysgolion. Fodd bynnag, rwy'n gwerthfawrogi nad yw hyn yn bosibl bob amser ac mae plant yn aml yn cael eu rhoi ar restr aros.

 

Felly a allwch chi roi syniad i mi o gyfran y rhai a roddir ar y rhestr aros sy'n cael mynychu'r ysgol o'u dewis yn y pen draw?”

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

162.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Save the Children.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Dr Pamela Muirhead o elusen “Achub y Plant” i'r cyngor ar dlodi plant, elusen Achub y Plant a'i gwaith yng Nghymru.

 

Gofynnodd y cynghorwyr nifer o gwestiynau ac atebwyd pob un ohonynt.

 

Diolchwyd i Dr Pamela Muirhaed am ei chyflwyniad.

163.

Trefniadau Derbyn 2020-2021. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad, a oedd yn ceisio penderfyniad ar y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2020-2021 ar gyfer dosbarthiadau meithrin fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2020-2021 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad;

 

3)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2020-2021 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad;

 

4)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2020-2021 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel a nodir yn Atodiad D yr adroddiad;

 

5)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn/meini prawf mynediad arfaethedig ar gyfer 2020-2021 ar gyfer dosbarthiadau’r chweched yn Atodiad E yr adroddiad;

 

6)              Cymeradwyo'r rhestr o ddigwyddiadau yn Atodiad F yr adroddiad;

 

7)              Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel a nodir yn Atodiad G yr adroddiad.

164.

Penodi Cofiadur Anrhydeddus Abertawe. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad, a oedd yn ceisio penodi’r Barnwr Anrhydeddus Paul Thomas CF yn Gofiadur Anrhydeddus Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diolch i'r Barnwr Anrhydeddus Keith Thomas am ei waith fel Cofiadur Anrhydeddus Abertawe;

 

2)              Penodi’r Barnwr Anrhydeddus Paul Thomas CF yn Gofiadur Anrhydeddus Abertawe gan ddechrau ar 1 Ebrill 2019.

165.

Adolygiad o'r Siarter rhwng Dinas a Sir Abertawe a'r Cynghorau Cymuned / Tref o fewn ei ffin pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn darparu'r diwygiadau a awgrymwyd i Grŵp Adolygu Siarter y Cynghorau Cymuned/Tref ac argymhelliad y Fforwm Cynghorau Cymuned/Tref y dylid mabwysiadu'r diwygiadau.

 

Nododd hefyd o'r 24 Cyngor Cymuned/Tref yn ardal Abertawe:

 

Ø    Roedd 21 wedi mabwysiadu'r Siarter Ddiwygiedig sef Clydach, Gorseinon, Tre-gŵyr, Pengelli a Waungron, Llanilltud Gŵyr, Cilâ, Llangyfelach, Llanrhidian Uchaf, Llanrhidian Isaf, Llwchwr, Mawr, y Mwmbwls, Penllergaer, Pennard, Pen-rhys, Pontarddulais, Porth Einon, Reynoldston, Rhosili, Y Crwys, Cilâ Uchaf;

 

Ø    Byddai 2 yn ystyried y mater yn eu cyfarfodydd cyngor ym mis Ebrill 2019 sef Llandeilo Ferwallt, a Phontlliw a Thircoed;

 

Ø    Nid oedd 1 wedi ymateb, sef Llangynydd, Llanmadog a Cheriton.

 

Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i aelodau Grŵp Adolygu Siarter y Cynghorau Cymuned/Tref am eu gwaith a'u cefnogaeth yn ystod y broses adolygu.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r diwygiadau awgrymedig i'r siarter rhwng Dinas a Sir Abertawe a'r Cynghorau Cymuned/Tref o fewn y ffiniau fel a amlinellwyd yn yr atodiadau i'r adroddiad.

166.

Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2019-2020. pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad, a gyflwynodd fersiwn ddrafft o Ddyddiadur Cyrff y Cyngor 2019-2020.

 

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiwygiad i'r dyddiadur sef canslo Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a drefnwyd ar gyfer 21 Mai 2020 a'i aildrefnu ar 28 Mai 2020.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu’r fersiwn ddrafft ddiwygiedig o Ddyddiadur Cyrff y Cyngor ar gyfer 2019-2020 yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 23 Mai 2019.

167.

Datganiad Polisi Tâl 2019/2020. pdf eicon PDF 330 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Polisi Tâl 2019-2020.

 

Dywedodd bod diwygiad i dudalen 123 “Atodiad B: Tâl Prif Swyddogion 2019-2020” wedi'i ddosbarthu ac y byddai'r fersiwn brintiedig o fewn Gwŷs y Cyngor i'w ddiystyru.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Polisi Tâl 2019-2020 fel y mae wedi'i atodi i Atodiad A yr adroddiad a'r Atodiad B diwygiedig.

168.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pum (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 2  Gofynnodd y Cynghorydd A M Day:

“Beth yw'r strategaeth sy'n datblygu yn dilyn AoS 2020 a phryd bydd cynghorwyr yn ymwneud â hi?”

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 4  Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

“Beth yw'r meini prawf ar gyfer y broses gomisiynu yn y Gwasanaethau Diwylliannol ar gyfer cefnogi grwpiau fel Gŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe? Pwy sy'n gwneud y penderfyniad ar gefnogaeth i'r sefydliadau hynny ac a oes modd i ni gael rhestr o gyrff llwyddiannus ers cychwyn y broses hon a'r model partneriaeth?”

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B.