Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

86.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, S E Crouch, J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, E J King, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, C Richards, J A Raynor, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, P M Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White gysylltiad personol â Chofnod 94 "Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019-2020 - Ymgynghoriad".

87.

Cofnodion. pdf eicon PDF 172 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2018.

88.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol  adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

89.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gwobr Cyfreithiwr sy'n Ymwneud â Phobl/Tîm y Flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol (LlL)

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch o gyhoeddi bod Stephanie Williams a Stephen Holland o Dîm Gwasanaethau Cyfreithiol Adran Addysg yr awdurdod wedi ennill Gwobr Cyfreithiwr sy'n Ymwneud â Phobl/Tîm y Flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol (LlL). Mae hyn i gydnabod y gwasanaeth rhagorol maent yn ei ddarparu i ysgolion.

 

Roedd y gwerth a roddwyd ar wasanaeth pwrpasol y tîm gan benaethiaid ledled Abertawe wedi creu cryn argraff ar y beirniaid, a'i disgrifiodd fel "estyniad hanfodol o gymuned yr ysgol", ac a ganmolodd "broffesiynoldeb llwyr ac ymagwedd gwrtais y cyfreithwyr arbenigol a oedd yn rhan ohono".

 

Roedd Stephanie Williams a Stephen Holland o'r Gwasanaethau Cyfreithiol yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

2)              Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Mewn Caffael Cyhoeddus Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Cymru 2018-2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch o gyhoeddi bod y Tîm Cyfleusterau yn y gwasanaeth Eiddo Corfforaethol ynghyd â'r Weinyddiaeth Celfi wedi cael canmoliaeth uchel yng ngwobrau GO eleni ar gyfer y Prosiect Gweithio Ystwyth. Mae'r Wobr Budd Cymdeithasol a Chymunedol ym maes Caffael GO yn tynnu sylw at y gwaith da a wnaed wrth adnewyddu'r amgylchedd swyddfa gweithio ystwyth newydd.

 

Mae'r wobr yn cydnabod y rôl hanfodol y gall caffael cyhoeddus ei chwarae yng Nghymru wrth ddarparu cymdeithas fwy cynaliadwy a theg.  Mae'n tynnu sylw at sefydliadau sydd wedi gwreiddio gofynion buddion cymdeithasol a chymunedol yn eu gweithgareddau caffael a chadwyn gyflenwi er mwyn galluogi gwell canlyniadau i ddinasyddion Cymru.

 

 

3)              Gwobrau Gwasanaethau Blynyddol APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus)

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwobrau Gwasanaethau Blynyddol APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus)  a gynhaliwyd ym mis Medi'n cydnabod ac yn dathlu cyflwyno gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol neilltuol. Derbyniwyd dros 370 o gynigion ganddynt eleni gan awdurdodau lleol o bob rhan o'r DU, a chyrhaeddodd Cyngor Abertawe'r rhestr fer mewn pum categori. Cynhaliwyd y gwobrau yng Nghaeredin, ac rwy'n falch o gyhoeddi y cyhoeddwyd mai'r Gwasanaethau Adeiladau oedd enillwyr y Wobr Menter Orau'r Gweithlu.

 

Cydnabuwyd Gwasanaethau Adeiladau Cyngor Abertawe ar gyfer y wobr nodedig hon oherwydd eu rhaglen hyfforddi a datblygu staff ac am eu rhaglen brentisiaeth sydd wedi derbyn bron 200 o brentisiaid ers iddi gychwyn yn 2003. Roedd yr adran wedi cydnabod ac ailgynhyrchu'r ymagwedd arfer gorau hon ar draws ei holl ddarpariaeth gwasanaeth a fydd yn sicrhau bod digon o staff a sgiliau "addas at y diben" ar gyfer y tîm yn y dyfodol.

 

Roedd Emma Lewis a Malcolm Jones o'r Gwasanaethau Adeiladau'n bresennol i dderbyn y wobr.

 

4)              Cynllun Prentisiaethau a Phrentis y Flwyddyn

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cynllun Prentisiaethau'r awdurdod wedi bod yn gweithredu ers 2003 a bod dros 200 o brentisiaid wedi bod yn rhan ohono yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r Cynllun Prentisiaethau'n caniatáu i'r awdurdod ddatblygu cenhedlaeth newydd o seiri, plymeriaid, trydanwyr, plastrwyr a phersonél aml-grefft.

 

Prentis cyffredinol y Flwyddyn oedd Luke Evans a oedd newydd gwblhau ei 4edd flwyddyn.

 

Yr enillwyr eraill oedd:

 

Gwobr Prentis Blwyddyn 1af

Prentis Mecanyddol a Thrydanol y Flwyddyn yw Lewis Morgan;

Prentis Crefft y Flwyddyn yw Joshua Collins.

 

Gwobr Prentis 2il Flwyddyn

Prentis Mecanyddol a Thrydanol y Flwyddyn yw Connor Phillips;

Prentis Crefft y Flwyddyn yw Joshua Phelps.

 

Gwobr Prentis 3edd Flwyddyn

Prentis Mecanyddol a Thrydanol y Flwyddyn yw Llewellyn Richards;

Prentis Crefft y Flwyddyn yw Rory Grey.

 

5)              Y Lluoedd Arfog - Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch bod ymdrechion y cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog wedi'u cydnabod gyda Gwobr Aur dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ni yw'r unig gyngor yng Nghymru sydd wedi derbyn y wobr hon a drefnir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Aeth Spencer Martin a Stephen Jenkins i Lundain yn ddiweddar i dderbyn y wobr.

 

Roedd Spencer Martin a Stephen Jenkins yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

6)              Prosiect Diamond yn ennill Gwobr Diana

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Prosiect Diamond, cynllun sy'n helpu plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe i ddysgu mwy am fywyd yn y brifysgol i'w hysbrydoli, cynyddu eu dyheadau, datblygu eu hyder a'u hunanbarch a grymuso'u llais wedi ennill Gwobr Diana'n ddiweddar.

 

Dechreuodd Prosiect Diamond fel sesiwn ragflas undydd i blant hŷn ond mae wedi tyfu o ganlyniad i'w brwdfrydedd a chefnogaeth gan Dîm Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal Cyngor Abertawe a Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru.  Mae'r bobl ifanc bellach yn mynd i gyfarfodydd a diwrnodau mas rheolaidd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn bwriadu ehangu ymhellach fel y gallant fentora plant iau fel nhw eu hunain i achub ar gyfleoedd nad oeddent o bosib yn meddwl y byddent o fewn cyrraedd iddynt.

 

Sefydlwyd Gwobr Diana ym 1999 gan Lywodraeth Prydain a oedd am barhau ag etifeddiaeth y Dywysoges Diana drwy sefydlu ffordd ffurfiol o gydnabod pobl ifanc a oedd yn gwneud llawer mwy na'r disgwyl yn eu cymunedau lleol.

 

Caiff y bobl ifanc sy'n rhan o Brosiect Diamond eu gwahodd yn awr i fynd i seremoni yng Nghaerdydd i dderbyn eu gwobr. Dyma'r ail dro maent wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith yn ddiweddar ar ôl ennill gwobr yng Ngwobrau Rho Bump Cyngor Abertawe fis diwethaf. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

7)              Gwobrau Cenedlaethol Cerbydluoedd

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi cael ei ddewis i fod ar restrau byr dwy wobr genedlaethol ar gyfer cerbydluoedd. Y gyntaf yw gwobrau Green Fleet i'w cynnal yn Leeds ar 22 Tachwedd 2018, lle mae'r awdurdod ar restr fer y categori Cerbydlu Sector Cyhoeddus y Flwyddyn (canolig i fawr). Yr ail yw Gwobrau What Van i'w cynnal yn Llundain ar 13 Rhagfyr 2018, lle mae'r awdurdod ar restr fer y categori Cerbydlu Gwyrdd y Flwyddyn.

 

Mae'r enwebiadau hyn yn seiliedig ar gyflwyno 40 o faniau trydan, yr ymagwedd gyffredinol y mae'r awdurdod wedi'i mabwysiadu i leihau effaith amgylcheddol ein cerbydlu a'r bwriad i fabwysiadu Polisi Cerbydlu Gwyrdd.

 

8)              Ymgyrch y Rhuban Gwyn

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn fudiad byd-eang sy'n gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.  Dywedodd y bydd yr awdurdod yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ar 26 Tachwedd 2018.

 

9)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

i)                Eitem 17 yr Agenda, “Hysbysiad o Gynnig”

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cyng. C Holley wedi gofyn am dynnu'r Hysbysiad o Gynnig sydd wedi'i argraffu ar dudalennau 60 i 62 o Wŷs y Cyngor yn ôl.

 

ii)              Hysbysiad o Gynnig Brys

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn ystyried bod yr Hysbysiad o Gynnig a gylchredwyd yn fater brys.

90.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gorymdaith y Nadolig

 

Ymddiheurodd Arweinydd y Cyngor am Orymdaith y Nadolig a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2018, gan ddweud ei fod wedi siomi'r disgwyliadau'n fawr.  Dywedodd fod camau wedi'u cymryd yn gyflym a bod y contract â'r cwmni allanol wedi'i derfynu. 

Dywedodd mai'r awdurdod a drefnodd orymdaith lwyddiannus y Nadolig yn 2017 ac y bydd yn ymrwymedig i'w drefnu'n fewnol y flwyddyn nesaf gan ddefnyddio tîm mewnol yr awdurdod a gyflwynodd y Sioe Awyr ac a ymunodd â'r BBC i gyflwyno'r Penwythnos Mwyaf gan BBC Music.

 

2)              Setliad Llywodraeth Cymru

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod wedi derbyn rhywfaint o newyddion gwell am y gyllideb am newid. Er bod yr awdurdod wedi derbyn ffigurau pennawd Cymru gyfan hyd yn hyn, mae'n edrych fel y bydd £1.5m ychwanegol yn cyrraedd yn ystod 2018-2019.

 

Bydd yr arian hwn yn helpu'r awdurdod rywfaint â'r diffyg arian ar gyfer tâl athrawon (a fydd yn helpu i liniaru pwysau ar ysgolion) a phwysau gofal cymdeithasol y gaeaf.

 

3)              Newidiadau i Bortffolios y Cabinet

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi diwygio Portffolio'r Cabinet fel a ganlyn:

 

i)                Dirprwy Arweinydd Portffolio Cabinet y cyngor sy'n gyfrifol am ddeisebau.

 

ii)               Tynnwyd Cymunedau'n Gyntaf o Bortffolio Cabinet y Gwasanaethau Plant a'i ychwanegu at Bortffolio'r Cabinet ar gyfer Cymunedau Gwell.

91.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd un cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd ynghylch yr eitemau canlynol ar yr agenda:

 

1)              Hysbysiad o Gynnig Brys - Brexit

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet perthnasol yn unol â hyn.

 

Ni chafwyd cwestiynau a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

92.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

93.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2019/20 pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2019-2020.  Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2019-2020 erbyn 31 Rhagfyr 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2019-2020;

 

2)    Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995,  fel y'i diwygiwyd, mai dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2019-2020:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

90,069

 

 

 

Ar gyfer Cynghorau Cymuned/Tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,943

 

Clydach

2,622

 

Gorseinon

3,263

 

Tre-gŵyr

1,951

 

Pengelli

416

 

Llanilltud Gŵyr

318

 

Cilâ

2,146

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

505

 

Llangyfelach

940

 

Llanrhidian Uchaf

1,595

 

Llanrhidian Isaf

332

 

Casllwchwr

3,402

 

Mawr

744

 

Y Mwmbwls

9,651

 

Penllergaer

1,363

 

Pennard

1,468

 

Penrhys

412

 

Pontarddulais

2,305

 

Pontlliw a Thircoed

1,042

 

Porth Einon

423

 

Reynoldston

300

 

Rhosili

183

 

Y Crwys

713

 

Cilâ Uchaf

556

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

62,600

 

94.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2019-2020 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2019-2018 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 6 Tachwedd 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW.

95.

Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer argymhellion Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 6 Tachwedd 2018 yn dilyn ei adolygiad o Adran A "Cydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig (Cyflogau, Lwfansau a Threuliau)" o'r Llawlyfr i Gynghorwyr.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r diwygiadau i Adran A "Cydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig (Cyflogau, Lwfansau a Threuliau)" o'r Llawlyfr i Gynghorwyr fel y'u hamlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

96.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

a)              Rhan 3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" - Cylch Gorchwyl y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn;

b)              Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" - Rheolau Gweithdrefnau'r cyngor - "Cyfarfod Arbennig o'r cyngor" a "Cyflwyniad Cyhoeddus a Hawl i Holi";

c)              Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" - Rheolau Gweithdrefnau'r Cabinet - "Gweithdrefn Galw i Mewn";

ch)     Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" - Rheolau Gweithdrefnau Contract -   Goddefebau, Gweithdrefnau Tendrau Unigol a Hepgoriadau;

d)              Rhan 6 "Cynllun Lwfansau Cynghorwyr"

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio Paragraff 7 a) Cylch Gorchwyl y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol fel y'i hamlinellir yn Rhan 3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" Cyfansoddiad y Cyngor.

 

“7 a)   Byddai'r Bwrdd fel arfer yn cwrdd bob chwarter ond gall gwrdd yn ôl y galw”.

 

2)              Ychwanegu'r paragraff canlynol at Gylch Gorchwyl Pwyllgor y Gronfa Bensiwn fel y'i hamlinellir yn Rhan 3 "Cyfrifoldeb ar gyfer Swyddogaethau" Cyfansoddiad y Cyngor:

 

“12.    Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Pensiwn yr Awdurdod".

 

3)              Diwygio Rheol 10 Gweithdrefn y Cyngor sy'n ymwneud â "Chyfarfod Arbennig o'r Cyngor" fel y'i hamlinellir yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y cyngor i'w chynnwys yn yr eitemau busnes canlynol:

 

a)              Cyhoeddiadau/Negeseuon gan yr Aelod Llywyddol;

b)              Cyhoeddiadau/Negeseuon gan Arweinydd y Cyngor;

c)              Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

4)              Diwygio paragraff 26.5 Rheol 26 Gweithdrefn y Cyngor sy'n ymwneud â "Chyflwyniadau Cyhoeddus a Hawl i Holi" fel y'i hamlinellir yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y Cyngor i ddarllen:

 

"26.5 Yn ôl disgresiwn yr Aelod Llywyddol, gall unrhyw Sefydliad Trydydd Sector neu sefydliad arall roi cyflwyniad i'r cyngor ar fater y mae'r cyngor yn gyfrifol amdano. Dyrennir cyflwyniadau ar sail y cyntaf i'r felin.”

 

5)              Diwygio teitl Rheol 26 Gweithdrefn y Cyngor i ddarllen fel a ganlyn:

 

“26. Cyflwyniadau a Chwestiynau gan y Cyhoedd

 

6)              Diwygio ac ailrifo Rheol 14 Gweithdrefn y Cyngor sy'n ymwneud â "Threfn Busnes" fel y'i hamlinellir yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y cyngor i gynnwys y canlynol:

 

Cyhoeddiadau/Negeseuon gan Arweinydd y Cyngor”.

 

7)              Diwygio Paragraff 18.3.1 Rheol 18.3 Gweithdrefnau'r Cabinet sy'n ymwneud â "Dilysrwydd Galw i Mewn" fel y'i hamlinellir yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y Cyngor i ddarllen:

 

“18.3.1 Ni chaiff ei wneud erbyn 23.59 ar 3ydd diwrnod gwaith clir cyhoeddi'r penderfyniad;"

 

8)              Diwygio Rheol 20 Gweithdrefnau Contractau sy'n ymwneud â "Goddefebau, Gweithdrefnau Tendro Unigol a Hepgoriadau" fel y'u hamlinellir yn Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau" Cyfansoddiad y Cyngor fel bod y ddyletswydd i ystyried cymeradwyo neu hepgor yr holl oddefebau, gweithdrefnau tendrau unigol a hepgoriadau yn cael ei throsglwyddo i Bennaeth y Gwasanaethau Masnachol, ac y cedwir cofrestr ohonynt.

 

9)              Dileu'r Cynllun Lwfansau Cynghorwyr fel y'i hamlinellir yn Rhan 6 "Cynllun Lwfansau Cynghorwyr" yn ei gyfanrwydd a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

"Gellir gweld gwybodaeth sy'n ymwneud â Chydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig yn Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau."

97.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

98.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 6   Gofynnodd y Cyng. C L Philpott:

"A all Aelod y Cabinet ddarparu nodyn briffio i'r holl gynghorwyr sy'n amlinellu'r rheolau sydd ar waith o ran cynllun chwistrellu chwyn yr awdurdod?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

99.

Hysbysiad o gynnig - Cynghorydd C A Holley, M H Jones, P M Black, A M Day and J W Jones. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

100.

Eitem Frys

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, yn ystyried y dylai'r "Hysbysiad o Gynnig" gan: y Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, A M Day, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, J W Jones, M H Jones, E J King, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood ac M Thomas mewn perthynas â Brexit gael ei ystyried yn y cyfarfod fel mater o frys.

101.

Rhybydd o Gynnig Brys: Councillors R C Stewart, C A Holley, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, A M Day, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, J W Jones, M H Jones, E J King, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood and M Thomas

Cofnodion:

Rheswm dros y Mater Brys:Adroddir yn helaeth yn y wasg fod y Prif Weinidog yn gobeithio cyflawni cytundeb Brexit ar 25 Tachwedd 2018, pan fydd yn mynd i uwchgynhadledd frys o'r EU ym Mrwsel at y diben penodol hwnnw. Deellir yn gyffredinol y gellid cynnal y bleidlais mor gynnar â 7 Rhagfyr 2018. Felly, mae angen clir i ymdrin â'r Hysbysiad o Gynnig hwn ar frys.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A Holley.

 

Daeth yn amlwg dros y pythefnos diwethaf fod y cytundeb i adael yr UE ym mis Mawrth 2019 yn gytundeb nad yw'n bodloni'r rhai sydd am aros yn y UE na'r Brexitwyr, ac nid oes fawr o obaith y bydd y Senedd yn cytuno arno.

 

Er mwyn mynegi ein barn yn glir i Lywodraeth y DU ynghylch sut dylent ddatrys y sefyllfa hon, mae'r cyngor yn galw ar y Llywodraeth i alw Etholiad Cyffredinol a/neu roi cyfle i'r bobl, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, fwrw pleidlais ynghylch y cytundeb drwy Bleidlais y Bobl. Dylai'r bleidlais gynnwys opsiwn i aros yn yr UE neu adael heb gytundeb.

 

O gofio bod refferendwm Brexit wedi'i lethu gan symiau enfawr o wybodaeth anghywir, mae'r cyngor hwn yn galw ar holl asiantaethau'r Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw wybodaeth berthnasol ar gael yn hawdd i'r cyhoedd.

 

Rydym wedi penderfynu galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog gan nodi'r farn a fynegwyd yn y cynnig hwn."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellwyd uchod fel y'i diwygiwyd.