Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

 "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorwyr M Durke, C R Evans, V M Evans, R Francis-Davies, L S Gibbard, T J Hennegan, C A Holley, O G James, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, R C Stewart, M Sherwood, D G Sullivan, D W W Thomas, M Thomas ac T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 59 “Datganiad o Gyfrifon 2017-2018”.

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 125 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018;

 

2)              Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2018;

 

3)              Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Awst 2018.

50.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

51.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd  Charles Thomas

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd Charles Thomas. Bu'r Cyn-gynghorydd Thomas yn gwasanaethu Ward Etholiadol St Thomas o 1965 i 1989. Roedd y Cyn-gynghorydd Thomas hefyd yn Gyn-Arglwydd Faer o 1983 i 1984 ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor.

 

Sefwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)              Llongyfarchiadau i David Smith

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr athletwr o Abertawe, David Smith, a enillodd  fedal aur BC1 unigol ym Mhencampwriaethau Boccia'r Byd yn Lerpwl yn ddiweddar. Mae'r teitl hwn wedi ychwanegu at ei lwyddiannau eraill sef medal aur tîm yn y gemau Paralympaidd yn Beijing, medal arian unigol a medal tîm efydd yn Llundain yn 2012 a medal aur unigol yn Rio yn 2016.  Mae David wedi sefydlu clwb Boccia lleol yn yr LC.

 

3)              Y Lluoedd Arfog - Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod yn dda gweld bod ymdrechion y cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog wedi'u cydnabod gyda Dyfarniad Aur dan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Abertawe yw'r unig gyngor yng Nghymru sydd wedi derbyn y wobr hon a drefnir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

4)              Gwobr Ffordd Ddosbarthu'r Morfa

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch iawn o gyhoeddi y dyfarnwyd y wobr 'Gwerth' nodedig i'r awdurdod ym mis Gorffennaf 2018 gan Ragoriaeth Adeiladu Cymru  ar gyfer prosiect Ffordd Ddosbarthu'r Morfa.  Caiff y gwobrau hyn eu cydnabod ar draws amgylchedd adeiledig Cymru fel y safon bennaf ar gyfer arfer gorau yng Nghymru.

 

Cyflwynir y wobr hon i'r prosiect sy'n darparu tystiolaeth ei fod o'r gwerth mwyaf i berchnogion a defnyddwyr fel prif ysgogydd drwy gydol y prosiect.  Gwnaeth y panel beirniadu sylwadau ar y model cyflwyno cymhleth a wnaeth y defnydd gorau o gyllid o'r sectorau preifat a chyhoeddus i gyflwyno prosiect sy'n parhau i weithredu fel catalydd ar gyfer adfywio yn yr ardal.  Roeddent hefyd wedi cyfeirio at y ffordd yr oedd y prosiect wedi parchu cyd-destun hanesyddol pwysig y safle, wrth annog datblygu cynaliadwy ac isadeiledd teithio llesol. Roedd y prosiect yn dystiolaeth o'r rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn parhau i'w chwarae wrth gefnogi datblygu ac adfywio.

 

Penodwyd nifer o gontractwyr lleol i adeiladu'r cynllun dros raglen gyllid fesul cam.  Roedd y rhain yn cefnogi cyfleoedd hyfforddiant drwy gydol y broses dylunio ac adeiladu, yn rhoi cefnogaeth addysgol i ysgolion lleol ac yn rhoi cyfraniadau ffisegol ac ariannol i'r gymuned leol a grwpiau hanesyddol.

 

Dywedodd y beirniaid, “anaml y gall prosiectau o'r fath ddangos tystiolaeth sy'n cefnogi fforymau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, yn ogystal â datblygwyr preifat, ecolegwyr a grwpiau cadwraeth hanesyddol.  Cafodd yr her hon ei goresgyn gan gynllun Ffordd Ddosbarthu'r Morfa”.

 

Mae'r prosiect yn un o chwe phrosiect rhanbarthol sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu cenedlaethol a gynhelir ym mis Tachwedd, lle caiff yr enillydd ei wahodd i dderbyniad arbennig yn y Senedd yn Llundain i ddangos eu cyflawniad ac i gynrychioli arfer gorau ar gyfer y diwydiant adeiladu. Y prosiect yw'r unig gynllun dan arweiniad awdurdod lleol i gael ei wahodd i'r gwobrau cenedlaethol ac mae'n amlygu'r sgiliau arbenigol a'r ymrwymiad i gefnogi'r gymuned leol o staff yn y cyngor.

 

Bydd Mark Thomas, Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

5)       Gwobrau APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus)

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod yr awdurdod wedi cael cryn lwyddiant yng ngwobrau APSE eleni, gyda'r Gwasanaeth Adeiladau Corfforaethol yn ennill gwobr Menter Orau'r Gweithlu.  Mae rhaglen hyfforddiant a datblygiad sylweddol wedi'i chynnal yn y gwasanaeth i sicrhau bod digon o staff â sgiliau ar gyfer y tîm yn y dyfodol.  Mae ennill y wobr hon mewn cystadleuaeth mor nodedig sy'n agored i'r holl DU yn gyflawniad gwych ac yn un y dylai'r cyngor fod yn falch ohono.

 

Yn ogystal, cyrhaeddodd yr awdurdod y rhestr fer mewn tri chategori arall sef Gwasanaethau Adeiladu ac Adeiladau; Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Gwasanaethau Rheoli a'r Fenter Arloesedd a Rheoli Galw Orau.  Aeth ati i longyfarch a diolch i'r holl staff a fu'n rhan o hyn.

 

6)              Gwobrau Estyn

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol ysgolion cynradd Craigfelen a Chwmrhydyceirw ac ysgolion cyfun Llandeilo Ferwallt a'r Olchfa am gael eu gwahodd i fynd i noson wobrwyo flynyddol Estyn oherwydd eu harolygiadau ysgol rhagorol.  Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn cyflwyno tystysgrif wedi'i fframio i'r ysgolion i gydnabod y gwaith caled a'r ymroddiad sydd wrth wraidd eu llwyddiant.

 

Estyn yw Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

 

7)       Cyfarfod Seremonïol o'r Cyngor - 4 Hydref 2018

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol yr holl gynghorwyr am y cyfarfod seremonïol o'r cyngor a drefnwyd ar gyfer 4 Hydref 21018 am 16:00 i gyflwyno Rhyddid er Anrhydedd i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas.  Fe'i dilynir gan de prynhawn yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer.

 

Anfonwch eich ymatebion at Joanne Jones, fel y gellir gorffen y trefniadau arlwyo erbyn 28 Medi 2018 fan bellaf.

 

8)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

a)              Eitem 15 Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd 2017-2018 (25 Mai 2017 - 23 Mai 2018)

 

Tudalen 148.  Dylid diwygio'r dyddiadau y cyfeiriwyd atynt yn y rhan Diben o'r blwch crynodeb i ddarllen "25 Mai 2017 i 23 Mai 2018”.

 

9)              Llongyfarchiadau i'r Cynghorydd S Pritchard

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd S Pritchard yn dilyn ei briodas yn ddiweddar.

52.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf.

 

2)       Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi'i gadeirio gan Ed Tomp, wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf.

 

3)       Tasglu'r Morlyn Llanw

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Tasglu'r Morlyn Llanw wedi cwrdd ac yn trafod cynlluniau newydd Pwerau'r Morlyn Llanw.  Y nod oedd mynd yn ôl i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2019.

 

4)       Cyrff Llywodraethu Ysgolion a Pholisïau Gwisg Ysgol

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi cymryd y cam anghyffredin yn ddiweddar mewn perthynas â Chorff Llywodraethu Ysgol a'i Bolisi Gwisg Ysgol. Dywedodd er ei fod yn parchu penderfyniad y Corff hwnnw, ei fod yn pryderu ynghylch yr amserlenni sy'n  gysylltiedig â'r contract a faint o wisgoedd sydd ar gael.

 

Dywedodd eto ei fod yn cefnogi ysgolion ond gofynnodd eu bod yn ystyried effaith y fath bolisi ar deuluoedd.

53.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd ynghylch Cofnod 48, "Adroddiad Blynyddol 2017-2018 – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol".  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd unrhyw gwestiwn yr oedd angen ymateb ysgrifenedig ar ei gyfer.

54.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

55.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2017-2018. pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Jill Burgess, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/2018, er gwybodaeth. Roedd yr adroddiad yn nodi gwaith y Pwyllgor Safonau o 25 Mai 2017 i 23 Mai 2018.

56.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwiliad Datganiadau Ariannol Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 390 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2017-2018 Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol eu natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â sefyllfa Dinas a Sir Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol;

 

2)              Cymeradwyo'r datganiad.

57.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwiliad Datganiadau Ariannol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2017-2018 Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol eu natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â sefyllfa Dinas a Sir Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol;

 

2)              Cymeradwyo'r datganiad.

58.

Adroddiad Blynyddol 2017/18- Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 36 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol werthusiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol o daith wella 2017-2018 a pha mor dda y mae'r cyngor yn bodloni gofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2018 a'r blaenoriaethau gwella ar gyfer 2018-2019.     Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried perfformiad yn erbyn canlyniadau cenedlaethol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/2018.

59.

Datganiad o Gyfrifon 2017/18. pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon 2017-2018 ar 30 Medi 2018 neu cyn hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2017-2018 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

60.

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2017/18. pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y cyngor yn ystod 2017-2018 ac yn cymharu perfformiad gwirioneddol yn erbyn y strategaeth a luniwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd P M Black "Beth yw natur y benthyciad gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriwyd ato ar dudalen 132 dan y Portffolio Dyled?"

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

61.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 25 Mai 2017 - 23 Mai 2018. pdf eicon PDF 151 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 25 Mai 2017 i 23 Mai 2018.  Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

62.

Estyn cyfnod swydd ar gyfer Aelod Annibynnol (Cyfetholedig) y Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i ailbenodi Jill Burgess yn aelod annibynnol (cyfetholedig) o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 4 blynedd arall.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailbenodi Jill Burgess yn aelod annibynnol (cyfetholedig) o'r Pwyllgor Safonau am un cyfnod olynol arall yn y swydd;

 

2)              Bydd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ar 18 Hydref 2022.

63.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod:

 

1)              Panel Mabwysiadu Bae'r Gorllewin

Tynnu enw'r Cynghorydd M C Child.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd E J King.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Archwilio

Dileu'r lle llafur gwag

Ychwanegu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

 

2)              Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd B Hopkins.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd S Pritchard.

64.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A”

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet am restr o aelodaeth bresennol y bwrdd NEET.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, gan fod nifer o swyddogion wedi gadael yr awdurdod, ei bod yn y broses o fynd i'r afael â'i aelodaeth ac y byddai'n cylchredeg yr aelodaeth newydd unwaith y byddai ar gael.

 

Cwestiwn 5

Gofynnodd y Cynghorydd Holley i'r aelod perthnasol o'r Cabinet dan ba sail oedd Freedom Leisure yn masnachu h.y. oedd e'n Ymddiriedolaeth Elusennol, yn Ymddiriedolaeth neu'n Gwmni Masnachu.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)              ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.