Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

53.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1) Datganodd y Cynghorydd C Richards fudd personol yng Nghofnod 57, “Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor";

 

2)   Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw fudd personol yng Nghofnod 65 "Cwestiynau'r Cynghorwyr".

54.

Cofnodion. pdf eicon PDF 58 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2017 yn amodol ar:

 

i)                 enwau'r Cynghorydd T J Hennegan a'r Cynghorydd E T Kirchner yn cael eu hychwanegu at y rhestr o'r rhai a oedd yn bresennol;

ii)               enw'r Cynghorydd E T Kirchner yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ymddiheuriadau;

 

2)              Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2017 yn amodol ar:

 

i)                 enwau'r Cynghorydd B J Rowlands a'r Cynghorydd W G Thomas yn cael eu hychwanegu at y rhestr o'r rhai a oedd yn bresennol;

ii)               enw'r Cynghorydd D G Sullivan yn cael ei ychwanegu at y rhestr ymddiheuriadau.

55.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

56.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Y Cynghorydd Janice Dudley, Maer Castell-nedd Port Talbot

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar sydyn y Cynghorydd Janice Dudley, Maer Castell-nedd Port Talbot. Roedd nifer o gynghorwyr Dinas a Sir Abertawe'n adnabod y Cynghorydd Dudley am ei bod hi'n aelod o Gyd-bwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg.

 

b)              Ymosodiadau terfysgol a digwyddiadau trychinebus

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at yr ymosodiadau terfysgol yn Barcelona, Sbaen, ar 18 Awst 2017, Cambrils, Sbaen a Turku, y Ffindir ar 19 Awst 2017. Cafodd nifer o bobl eu lladd a'u hanafu yn yr ymosodiadau.

 

Roedd baneri y tu allan i adeiladau Canolfan Ddinesig y cyngor wedi eu hanner-gostwng.

 

c)              Jillian Thomas, chwaer y Cynghorydd J P Curtice

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Jillian Thomas, chwaer y Cynghorydd J P Curtice.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Capel y Tabernacl, Treforys

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol mai'r Tabernacl Treforys oedd un o ddau adeilad rhestredig Gradd 1 yn unig yn Abertawe (Neuadd y Ddinas yw'r llall).  Dywedodd fod Tabernacl wedi cyrraedd y rhestr fer fel un o 50 o eglwysi gorau Cymru.

 

Hon yw'r unig eglwys yn Abertawe sydd yn y gystadleuaeth ac, ar hyn o bryd, hi sydd ar y brig. Mae gan y cyhoedd tan 31 Awst 2017 i bleidleisio. Gallai ennill y gystadleuaeth helpu i gefnogi a hyrwyddo cais Dinas Diwylliant Abertawe.

 

Dywedodd y dylai pobl sydd am fwrw pleidlais fynd i http://www.sacredwales.org.uk/

 

4)       Gwobrau Cymdeithas Rheolwyr Argraffu a Chyfathrebu (APCOM) 2017

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod DesignPrint, uned argraffu mewnol yr Awdurdod, wedi dilyn ei llwyddiant yng ngwobrau APCOM yn 2016 drwy gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr 'Tîm y Flwyddyn APCOM'. Mae'r gwobrau hyn yn codi proffil DesignPrint ac wedi rhoi hygrededd mewn marchnad gystadleuol, yn enwedig wrth ystyried y gwasanaethau masnachol y mae DesignPrint yn ei gynnig.

 

Cyflwynir y gwobrau yn y gynhadledd genedlaethol eleni yn Dunchurch, Swydd Warwig ar 21 Medi 2017.

 

Yn ychwanegol, Anthony Evans, Rheolwr DesignPrint fydd Llywydd APCOM o 2017 i 2019 ar 22 Medi 2017. Anthony fydd y person cyntaf i fod yn Llywydd APCOM am yr ail dro.

 

Llongyfarchodd Anthony Evans a'r holl staff yn DesignPrint am eu cyflawniad.

 

5)       Taith feicio i godi arian o dafarn Reverend James, Casllwchwr i Ddulyn

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'i gydweithwyr sy'n feicwyr o glwb beicio Beicwyr Rachel yn beicio o dafarn Reverend James, Casllwchwr i Ddulyn ac yn ôl ym mis Medi 2017.

 

Byddant yn codi arian er mwyn ariannu cadair olwyn arbenigol ar gyfer plentyn o Gasllwchwr.  Gellid rhoddi arian yn

 

https://www.justgiving.com/crowdfunding/BeicwyrRachel

57.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Stadiwm Liberty

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad o ran y trafodaethau cyfredol ynghylch cytundeb newydd ar gyfer y stadiwm.

 

2)              Trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn mynd ar drywydd y camau gweithredu a amlinellwyd dan Rybudd o Gynnig y Cyngor ar 27 Gorffennaf 2017.

 

3)              Datblygiad Mynydd Cilfái

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi cwrdd â dirprwyaeth o Seland Newydd ynghylch datblygiad ar Fynydd Cilfái. Roedd yn obeithiol y byddai hyn yn arwain at fuddsoddiad yn y dyfodol.

58.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

59.

Cyflwyniad Cyhoeddus - dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

60.

Cynllun Corfforaethol 2017/22. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn ceisio cyhoeddi Cynllun Corfforaethol a oedd yn cynnwys amcanion lles y cyngor yn unol â'r gofynion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r canllawiau statudol ynghylch cyrff cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Mabwysiadu cynllun corfforaethol 2017-2022.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones y cwestiwn canlynol:

 

i)                "Tudalen 63, y pedwerydd pwynt bwled o'r gwaelod.  Ydych chi'n gallu esbonio "Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn Abertawe mewn tlodi incwm; ond ar gyfer y rhai mewn tlodi, mae lles yn isel?”

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes y darperir ymateb ysgrifenedig.

61.

Côd Llywodraethu Corfforaethol. pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn darparu'r Côd Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig sy'n caniatáu i'r cyngor gymeradwyo'r Côd diwygiedig sy'n seiliedig ar faterion fframwaith Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA)/Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (SOLACE) 2016-2017 ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Cymeradwyo'r Côd Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig.

62.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016/17. pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cyflwyno adolygiad blynyddol drefniadau llywodraethu 2016-2017 i'w cymeradwyo ac i ddarparu copïau o'r ddau lythyr sylwadau a ddychwelwyd i Swyddfa Archwilio Cymru a gwblhawyd gan y rhai â chyfrifoldeb dros lywodraethu a rheoli Dinas a Sir Abertawe a Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016-2017 a nodi'r Llythyrau Sylwadau.

63.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 19 Mai 2016 - 24 Mai 2017. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 19 Mai 2016 i 24 Mai 2017. Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

64.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod:

 

1)              Cyngor Iechyd Cymunedol PABM

Tynnu enw'r Cynghorydd M C Child.

Ychwanegu'r Cynghorydd M Sykes.

 

PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Economaidd ac Isadeiledd

Ychwanegu'r Cynghorydd T M White.

 

2)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Addysg a Sgiliau

Tynnu enw'r Cynghorydd C L Philpott.

 

3)              Pwyllgor Cynllunio

Tynnu enw'r Cynghorydd E J King.

Ychwanegu'r Cynghorydd C Anderson.

 

4)              Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

Ychwanegu'r Cynghorydd A Pugh.

65.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

Cwestiwn 7

 

a)              Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

 

i)                 "A all Aelod y Cabinet ddarparu'r ffigyrau ar gyfer 2016-2017?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (3) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.