Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr
agenda. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E
Burtonshaw, J P Curtice, A M Day, P Downing, W Evans, R Francis-Davies, E W
Fitzgerald, K Griffiths, T J Hennegan, L James, M H Jones, Y V Jardine, L R
Jones, S M Jones, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, R D Lewis, P Lloyd, P
M Matthews, I E Mann, P N May, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D W W
Thomas, M Thomas, W Thomas, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol
yng Nghofnod 42, “Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) – Y Diweddaraf am yr Ymgynghoriad
Cyhoeddus ar y CDLl Adnau, yr Adolygiad o'r Sylfaen Dystiolaeth a'r Camau
Nesaf." Swyddog 1)
Datganodd H Evans fudd
personol yng Nghofnod 42, “Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) – Y
Diweddaraf am yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y CDLl Adnau, yr Adolygiad o'r
Sylfaen Dystiolaeth a'r Camau Nesaf." |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion
canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
Cyffredin o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017; 2)
Cyfarfod
Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2017. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a) Yr
Henadur Anrhydeddus a'r Cyn-gynghorydd Mair E Gibbs Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar yr Henadur
Anrhydeddus Mair Gibbs. Bu'r Henadur Gibbs yn gwasanaethu cymuned Bonymaen. Hi oedd
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2005 i 2006. Dangosir ei chyfnodau o
wasanaeth isod.
Mae'r cyfnodau
hyn yn cynnwys cyfanswm o dros 25 mlynedd o wasanaeth wrth gynrychioli
preswylwyr Dinas a Sir Abertawe. b) Y
Cyn-gynghorydd June Gates Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd
June Gates. Bu'r Cynghorydd Gates yn gwasanaethu cymuned Mynydd-bach yn ystod y
1980au cynnar. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 1) Gwobrau Gwasanaeth 2017 y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn
Gwasanaeth Cyhoeddus Cyhoeddodd yr Aelod
Llywyddol fod yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer pedair o wobrau
cenedlaethol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn y categorïau
canlynol: Ø Priffyrdd; Ø Rheoli Gwastraff; Ø Gwasanaethau Adeiladu; Ø Menter Orau'r Gweithlu, sy'n cynnwys ein Cynllun Prentisiaethau. Yn ogystal, mae'r
awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cyngor y Flwyddyn. Cynhelir y gwobrau ar 7
Medi 2017 yn Rhydychen. c)
Diwygiadau i Wŷs y Cyngor i)
Dylai Eitem 12, “Cynllun
Rheoli Asedau 2017/2021”, fod yn enw Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes. ii)
Eitem 13, "Aelodaeth
Pwyllgorau” - dosbarthwyd fersiwn wedi'i
diweddaru. iii)
Eitem Frys Hysbysiad o Gynnig Brys a oedd yn
gysylltiedig â thrydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe a'r tu hwnt. Yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf
Llywodraeth Leol 1972, datganodd yr Aelod Llywyddol ei farn y dylid ystyried yr
hysbysiad o gynnig brys, "Trydaneiddio'r Rheilffordd" fel mater brys.
Rheswm dros y cynnig brys: Galluogi
Dinas a Sir Abertawe i ymateb ar frys i'r cyhoeddiad annisgwyl a sydyn gan
Lywodraeth y DU o ran diddymu'r cynllun i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng
Caerdydd ac Abertawe. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Penodi Prif Weithredwr Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at benodiad Phil
Roberts fel Prif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe. Roedd yn hapus iawn gyda'r
penodiad gan fod Phil Roberts yn swyddog effeithiol ac ardderchog. 2)
Dinas-ranbarth Bae Abertawe – Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig Datganodd Arweinydd y Cyngor fod y bwrdd wedi
cwrdd yn anffurfiol ar nifer o achlysuron. Roedd y trefniadau llywodraethu yn y
broses o gael eu drafftio. Hefyd, cyflwynodd y diweddaraf am y Fargen Ddinesig.
3)
Y Diweddaraf am Stadiwm Liberty Datganodd Arweinydd y Cyngor fod cyfarfodydd â
pherchnogion Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe'n parhau o
ran yr opsiwn o gytundeb newydd ynghylch y stadiwm. 4)
Ymweliad gan Lysgennad Tsieina Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cyfarfod â
Llysgennad Tsieina'n gynharach yn yr wythnos.
Dywedodd y bu'r cyfarfod yn un cadarnhaol o ran y posibilrwydd o fuddsoddiad
Tsieineaidd yn Abertawe a'r dinas-rhanbarth. 5) Y Diweddaraf am y Ddinas
Diwylliant Roedd Arweinydd y Cyngor yn falch o gyhoeddi bod
Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Ddinas Diwylliant. Diolchodd i
bawb sy'n cymryd rhan yn y cais. 6)
Diddymu'r addewid i drydaneiddio'r rheilffordd
rhwng Caerdydd ac Abertawe Condemniodd Arweinydd y Cyngor y cyhoeddiad
annisgwyl a sydyn diweddar gan Lywodraeth y DU o ran diddymu'r cynllun i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. 7)
Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r
Dyfodol Datganodd Arweinydd y Cyngor
fod y Cynghorwyr J E Burtonshaw ac M Sherwood yn rhannu rôl Aelod y Cabinet
dros Genedlaethau'r dyfodol ar sail chwarterol. Y Cynghorydd J E Burtonshaw
fydd Aelod y Cabinet tan 31 Awst 2017 a bydd y Cynghorydd M Sherwood yn
ymgymryd â'r rôl am 3 mis, gan ddechrau ar 1 Medi 2017. Nodir cyfnodau eu
swyddi isod:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a
oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod: 1) Gofynnodd Mrs Mayberry
gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd
am Gofnod 42, “Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe – Y Diweddaraf am yr
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y CDLl, yr Adolygiad o'r Sylfaen Dystiolaeth a'r
Camau Nesaf”. i)
“A yw'r cyngor yn anwybyddu canllawiau Cynulliad Cymru ar gadw safleoedd
tir glas a Phapur Gwyn Llywodraeth y DU y dylid defnyddio safleoedd tir llwyd
cyn mabwysiadu unrhyw safleoedd tir glas?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd
y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) Gofynnodd Sue Elward
gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau am Gofnod 50, “Cwestiynau gan y
Cynghorwyr – Cwestiwn 8”. i)
“Mae
gan 'ddeiliad y drwydded' gyfrifoldebau niferus, y gallai unrhyw un ohonynt fod
yn destun y drosedd 'methu rheoli tŷ amlfeddiannaeth yn gywir'. Mae
cynghorau eraill yn erlyn yn llwyddiannus dan y symleiddiad eang hwn ac mae
amodau trwyddedu Cyngor Abertawe'n datgan, 'Mae gan y
cyngor y disgresiwn i roi amodau trwyddedu 'eraill' ar waith'. O ystyried hyn, a allwch esbonio pa drosedd y
mae cynghorau eraill wedi bod yn ei defnyddio i erlyn yn llwyddiannus
landlordiaid sy'n methu rheoli eu tai amlfeddiannaeth (HMO)? Mae tramgwyddo unrhyw amod trwyddedu'n cyfateb i
fethu rheoli tŷ amlfeddiannaeth ac nid oes angen unrhyw reswm arall dros
erlyn." Datganodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet
dros Dai, Ynni ac Adeiladau y darperir ymateb ysgrifenedig. 3) Gofynnodd Bill Trimby
gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau am Gofnod 50, "Cwestiynau gan y
Cynghorwyr – Cwestiwn 8". “Mae Dinas a Sir Abertawe wedi datgan mewn ymateb
ysgrifenedig i'r Cynghorwyr Irene Mann a Peter May: Ø Nid oes unrhyw ddeiliad trwydded wedi'i erlyn ddwywaith yn unol â Deddf Tai
2004; Ø Ni fu unrhyw gost i'r trethdalwr y gellid ei phriodoli'n uniongyrchol i
ddeiliaid trwyddedau am gasglu sbwriel. Ø Ni roddwyd unrhyw gosbau cyfreithiol gan y cyngor am dorri adrannau 30 a 32
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ø Y tro diwethaf i'r cyngor erlyn landlordiaid am fethu cydymffurfio ag
amodau trwydded HMO oedd ym mis Mai 2013, ryw 4 blynedd yn ôl. i)
Mae Dinas a Sir Abertawe
yn datgan hefyd fod gan y cyngor "ymagwedd gadarn" at gamau gorfodi.
Sut gall y cyngor ddatgan bod ganddo "ymagwedd gadarn" at gamau
gorfodi pan nad yw'n defnyddio'r darpariaethau sydd ar gael iddo yn ôl y
gyfraith i ddiogelu buddiannau preswylwyr yr ardal? ii)
A all y cyngor roi
manylion ei "ymagwedd gadarn" gan nad oes unrhyw dystiolaeth weladwy
fod yr ymagwedd hon yn llwyddo?” Datganodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet
dros Dai, Ynni ac Adeiladau y darperir ymateb ysgrifenedig. 4) Gofynnodd John Row
gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau am Gofnod 50, “Cwestiynau gan y
Cynghorwyr – Cwestiwn 8”. i)
“Tudalen 52, paragraff 2.1.
Pam maent yn gwrthod rhoi meintiau ystafelloedd a safonau beiciau yn y ddogfen
Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) newydd, y maent wedi'u cynnwys yn CCA
mabwysiedig Caerdydd ar HMO. Mae meintiau ystafelloedd a safonau beiciau'n
ystyriaethau pwysig a all ddiogelu ein hardaloedd a hyrwyddo llety o safon uwch
i fyfyrwyr. ii)
Mae tudalen 72, paragraff
5.12 yn datgan 'oni bai y ceir ystyriaethau pwysig sy'n eu gorbwyso'n sylweddol
ynghylch crynodiadau niweidiol'. A allwch esbonio hynny? iii)
Tudalen 73, paragraff 5.20.
A oes modd i chi egluro? iv)
Tudalen 77, paragraff
5.27. A allwch esbonio'r pwyntiau hyn (efallai, bod ystyriaethau pwysig ac/neu
amgylchiadau eithriadol yn gorbwyso radiws 50 metr) (ond nid dyma'r ffactor
sy'n penderfynu'n derfynol ar bob achlysur) mewn Saesneg syml. v)
Tudalen 77, paragraff
5.28. A allwch esbonio'r datganiadau hyn (hyd yn oed y cynnig nad yw'n destun
terfynau trothwy sy'n fwy na 50 metr, boed hynny'n ystyriaeth bwysig ai peidio?
vi)
Tudalen 78, paragraff
5.31. Nid wy'n deall. Esboniwch pa % fyddai gennych pan fo mwy na 34 o dai mewn
stryd fach? A allwch roi'r % ar gyfer
strydoedd mwy a chanddynt fwy na 40, 50 a 60 o dai? vii)
Mae tudalen 78, paragraff
5.32 yn datgan, ‘Mewn ardaloedd rheoli, caniateir 1 HMO mewn stryd a chanddi 10
o dai. Yn achos strydoedd a chanddynt 10 eiddo neu lai y tu allan i'r ardal
reoli, caniateir 2 eiddo ar y mwyaf. Pam mae gan un 10% a'r llall 20%?” Datganodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni ac
Adeiladau y darperir ymateb ysgrifenedig. 5) Gofynnodd Jayne Keeley
gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau am Gofnod 50, “Cwestiynau gan y
Cynghorwyr – Cwestiwn 8”. i)
“Mae'n ymddangos bod y materion
negyddol sy'n gysylltiedig â HMO wedi parhau i achosi poen a phryder i bobl yn Uplands a Brynmill. Mae hyn yn
deillio'n uniongyrchol o'r ffaith nad yw'r amodau trwyddedu'n cael eu gorfodi.
Pam rydych wedi methu gorfodi'r amodau hynny, a fyddai wedi helpu i ddiogelu
lles preswylwyr Uplands a Brynmill?" Datganodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni ac
Adeiladau y darperir ymateb ysgrifenedig. 6) Gofynnodd John Williams gwestiynau i
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau am Gofnod 50, “Cwestiynau gan y Cynghorwyr –
Cwestiwn 8”. i)
“Yn gynharach y mis hwn, ceisiodd y cyngor basio canllawiau cynllunio
atodol i ganiatáu terfyn o 25% mewn rhai rhannau o Ward Uplands.
Byddai hyn wedi caniatáu tua 300 HMO arall i gael eu creu. Mae'n amlwg bod y
cyngor yn cael anawsterau wrth orfodi'r amodau ar dai amlfeddiannaeth
presennol. Sut gall y cyngor ein sicrhau y gallai ymdopi â rheoleiddio hyd yn
oed mwy ohonynt?" Datganodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni ac
Adeiladau y darperir ymateb ysgrifenedig. 7) Gofynnodd John Thomas gwestiynau i Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Tai, Ynni ac Adeiladau am Gofnod 50, “Cwestiynau gan y Cynghorwyr – Cwestiwn
8”. i)
“Ers 2012, heblaw am y landlordiaid sydd wedi'u herlyn go iawn, faint
ohonynt mae'r cyngor wedi cysylltu â hwy ar ôl derbyn cwynion? Pryd a faint
ohonynt oedd yn alwadau dilynol?" Datganodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd ac Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni ac
Adeiladau y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - Prifysgol y Drydedd Oes. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd
adroddiad, a oedd yn ceisio cadarnhau canfyddiadau'r ymgynghoriad ar y Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) Adnau a'r adolygiad dilynol o'r sylfaen dystiolaeth sy'n
sail i strategaeth y CDLl, a chymeradwyo camau nesaf proses y CDLl. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi cynnwys
Atodiad C yr adroddiad a chymeradwyo'r Adroddiad Ymgynghori ar y CDLl Adnau; 2)
Cymeradwyo
cyflwyno CDLl Adnau Abertawe, a'r ddogfennaeth ategol a restrir yn Atodiad Ch yr
adroddiad, i Lywodraeth Cymru a'r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer archwiliad
annibynnol; 3)
Cymeradwyo
awdurdod dirprwyedig ar gyfer Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas (neu'r
swyddog dirprwyedig priodol) i gytuno ar unrhyw newidiadau bach angenrheidiol
i'r CDLl yn y cyfnod cyn ac yn ystod yr archwiliad annibynnol, er mwyn hwyluso
gweithrediad effeithlon y broses archwilio; 4)
Cymeradwyo
Cytundeb Cyflawni ac amserlen ddiwygiedig ar gyfer y CDLl a nodir yn Atodiad Dd yr adroddiad. Sylwer: Gofynnodd E W Fitzgerald y cwestiynau canlynol: i)
“Ar ôl i'r cyngor gymeradwyo'r Cynllun Adnau
ar 16 Mehefin 2016, ar gyfer ymgynghoriad, a oes modd cadarnhau na wnaed unrhyw
newidiadau i ffiniau unrhyw un o'r safleoedd strategol ers hynny? ii)
Nododd y Strategaeth a Ffefrir
fod angen 3,210 o gartrefi newydd yn y Parth Canolog er mwyn i bobl allu byw a
gweithio yn yr un ardal. Faint o gartrefi parhaol sy'n cael eu cyflwyno drwy'r
Cynllun Adnau a pha newidiadau i brosesau sydd wedi cynyddu/lleihau'r ffigur
gwreiddiol? iii)
Mae'r adroddiad yn nodi bod diffyg yn yr
isadeiledd carthffosiaeth a disgwylir i ddatblygwyr dalu am unrhyw welliannau.
Mae Dŵr Cymru wedi gofyn am eglurhad ynghylch y cyfraniadau hyn a
chydnabyddir bod posibilrwydd o anghysondeb yn yr amserlenni. A ydych yn cytuno
y gallai problemau â'r isadeiledd carthffosiaeth achosi oedi o ran dichonoldeb
safle? A ydych hefyd yn cytuno bod hon yn broblem sy'n destun pryder i
Lywodraeth Cymru (tudalen 76), gan nodi bod angen costio gwelliannau i
isadeiledd ac y gall effeithio'n negyddol ar ddichonoldeb/amserau safleoedd a'r
broses o'u cyflwyno yn y pendraw, a dyna pam cynhaliwyd cynhadledd i gynllunwyr
ar y broblem hon ym mis Ionawr eleni? iv)
Mae'r adroddiad Dynodiad Llain Las a Lletem
Las (GBGWD) (Mehefin 2016) yn datgan bod angen rhywbeth i amddiffyn y tir, a
oedd yn cynnwys SD C, yn erbyn cyfuno.
Fodd bynnag, drwy roi'r ymagwedd hon at GBGWD ar waith, yr unig gwestiwn
oedd a ddylai'r tir fod yn lletem las neu'n llain las. A ydych yn cytuno na
ddatrysoch y cwestiwn hwn ond yn lle hynny aethoch ati yn y GBGWD i leihau'n
sylweddol y tir a fyddai'n cael unrhyw
fath o amddiffyn yn erbyn cyfuno? A
ydych hefyd yn cytuno nad oedd hyn yn cyd-fynd â'r ymagwedd gam wrth gam a'r
prosesau a ddisgrifir yn GBGWD, nac yn cael ei gyfiawnhau ar sail amgylchiadau
eithriadol, a bod hyn yn tanseilio hygyrchedd y penderfyniad cynllunio a wnaed
ar y mater hollbwysig hwn? Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd y
darperir ymateb ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Ymrwymiadau Polisi. PDF 133 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor (Aelod y Cabinet dros yr Economi a
Strategaethau) adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu amlinelliad o ymrwymiadau
polisi'r cyngor i Ddinas a Sir Abertawe ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. PENDERFYNWYD: 1)
Mabwysiadu
ymrwymiadau polisi Abertawe. Sylwer: a)
Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y cwestiwn
canlynol: i)
“Tudalen 108, paragraff 2.3. A all
Arweinydd y Cyngor gadarnhau bod £1bn dros bum mlynedd yn gynnydd ar y
cyllidebau presennol? Pa ganran yw'r
cynnydd a sut bydd yn effeithio ar gyllid fesul disgybl?" Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. b)
Gofynnodd y Cynghorydd
P N May y cwestiwn canlynol: i) “Faint
o Hysbysiadau o Gosb Benodol sydd wedi'u cyflwyno oherwydd torri
amodau trwydded tai amlfeddiannaeth?"
Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a
oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a
gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi'r cynnydd
diweddaraf o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad
Estyn. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd A M Day y cwestiwn canlynol: i)
“Faint o Hysbysiadau o Gosb Benodol
sydd wedi'u cyflwyno o ran absenoldebau o'r ysgol a faint yw gwerth yr hysbysiadau
hynny?” Datganodd Aelod Cabinet
dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Rheoli Asedau 2017-2021. PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes adroddiad a oedd yn cynnig Cynllun Rheoli Asedau sydd wedi'i ddiweddaru
ar gyfer y 4 blynedd nesaf. PENDERFYNWYD: 1)
Mabwysiadu'r
Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer 2017-2021 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley y cwestiynau canlynol:
i)
“A ellir cyflwyno'r diweddaraf am yr
Adolygiad o Storfeydd? ii)
A ellir rhannu copi o'r astudiaeth dichonoldeb y
cyfeirir ati ar dudalen 140 'Gwarediadau' â'r cynghorwyr? iii)
A ellir rhannu copi o adroddiad JLL y cyfeirir ato
ar dudalen 141, 'Buddsoddiadau Eiddo' â'r holl gynghorwyr? iv)
A ellir cyflwyno'r diweddaraf am safle Felindre? Datganodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes y darperir ymateb
ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 48 KB Cofnodion: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu. Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi
gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod: 1)
Coleg Gŵyr Abertawe Dileu enw'r Cynghorydd R V
Smith. Ychwanegu enw'r Cynghorydd O G
James. 2)
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Abertawe Dileu enw'r Cynghorydd L V
Walton. Ychwanegu enw'r Cynghorydd P
Jones. PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff
y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Archwilio Dileu enw'r Cynghorydd R V
Smith. Ychwanegu enw'r Cynghorydd S
Pritchard. 2)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi - Lleihau Tlodi Ychwanegu enw'r Cynghorydd O G
James. Ychwanegu enw'r Cynghorydd T M
White. 3)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi - Diogelu Dileu enw'r Cynghorydd L V
Walton. Ychwanegu enw'r Cynghorydd E T
Kirchner. 4)
Pwyllgor y Rhaglen Graffu Dileu enw'r Cynghorydd N J
Davies. Ychwanegu enw'r Cynghorydd P
Jones. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Craffu 2016-17 PDF 13 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu
Adroddiad Blynyddol Craffu 2016-2017, er gwybodaeth. Amlinellodd yr adroddiad waith
craffu'r cyfnod hwnnw. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Frys Cofnodion: Yn unol
â pharagraff 100B (4) (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd yr Aelod
Llywyddol ei farn y dylid ystyried yn y cyfarfod yr "Hysbysiad o Gynnig
Brys a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr R C Stewart, C E Lloyd, J A Raynor, D H
Hopkins, R Francis-Davies, M Thomas, J E Burtonshaw, M Sherwood, M C Child, A S
Lewis, W Evans a C A Holley” o ran trydaneiddio'r
rheilffordd am y rhesymau a roddwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig Brys a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr R C Stewart, C E Lloyd, J A Raynor, D H Hopkins, R Francis-Davies, M Thomas, J E Burtonshaw, M Sherwood, M C Child, A S Lewis, W Evans a C A Holley. Cofnodion: Rheswm dros y cynnig brys: Galluogi Dinas a Sir Abertawe i ymateb ar frys i'r cyhoeddiad annisgwyl a
sydyn gan Lywodraeth y DU o ran diddymu'r cynllun i drydaneiddio'r
rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Cynigiwyd y cynnig
canlynol gan y Cynghorydd R C Stewart ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd C A
Holley. “Mae'r cyngor hwn
yn condemnio'n gryf y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU i beidio â
chyflawni'r cynllun i drydaneiddio rheilffordd
de-orllewin Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Mae'r cyngor hwn yn
condemnio'r ffaith y gwnaed y penderfyniad hwn gan yr Ysgrifennydd dros
Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru heb unrhyw ymgynghoriad naill ai'n
lleol neu â Llywodraeth Cymru, ar y diwrnod pan ddaeth Senedd y DU i ben am yr
haf, gan atal Aelodau Seneddol lleol rhag cael y cyfle i ofyn cwestiynau am y
penderfyniad a chraffu arno. Mae'r rhesymau a
roddwyd gan y Gweinidog dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru am
ddiddymu'r cynllun i drydaneiddio, sef tarfu ar bobl,
yn wirion, yn sarhaus ac yn drahaus tuag at bobl a busnesau Abertawe a
de-orllewin Cymru. Rydym yn atgoffa'r
Gweinidog fod y cyn-brif weinidog David Cameron, cyn-weinidogion dros
drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi addo'r
buddsoddiad hwn ar achlysuron niferus.
Cytunwyd ar y buddsoddiad ar sail tystiolaeth economaidd, adfywio ac
amgylcheddol gref. Nid yw'r dystiolaeth honno wedi newid. Mae'n rhaid i ni
ddod i'r casgliad, felly, fod gweinidogion y DU wedi camarwain gwleidyddion
lleol, arweinwyr busnes a phobl Abertawe a de-orllewin Cymru ac mae hyn yn
hollol annerbyniol. Rydym yn nodi ein
siom fod Llywodraeth y DU wedi datgan ei chefnogaeth am brosiect Cross Rail 2 gwerth £30bn, ers y cyhoeddiad na fydd y cynllun i drydaneiddio'n cael ei gyflawni ar ran Abertawe. Mae hyn yn dangos trahauster a difaterwch am
bobl de Cymru a rhannau eraill o'r DU ac yn tanlinellu bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â
Llundain. Mae'r cyngor hwn yn
ailddatgan bod angen buddsoddiad mewn isadeiledd trafnidiaeth modern ar y
rhanbarth hwn a chanolfan y rhanbarth er mwyn sicrhau'r ffyniant y mae'r
rhanbarth yn ei haeddu yn y dyfodol. Ar
ben hynny, mae gan y cyngor a phobl y rhanbarth bryderon mawr am effaith
amgylcheddol ac economaidd tymor hir parhau â threnau diesel,
yn hytrach na'r cyflenwad pŵer ystyriol o'r amgylchedd, effeithlon a
chynaliadwy y mae trydaneiddio'n ei gynnig. Er ein bod yn
cefnogi cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn gwahardd cerbydau petrol a diesel yn y DU o 2040, rydym wedi'n drysu ac yn credu y
dylid estyn y gwaharddiad hwn i'r rhwydwaith trenau ac y dylid cael gwared ar
drenau diesel yn llwyr hefyd erbyn 2040. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth y DU i fynd ati
ar unwaith i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy megis Morlyn Llanw Bae
Abertawe fel mater brys, er mwyn i gerbydau trydan y dyfodol gael eu pweru gan
ynni adnewyddadwy glân ac i'w dyheadau gael eu diwallu. Felly, mae'r cyngor hwn yn: 1.
Galw ar Weinidog y DU ar
Drafnidiaeth i ddiddymu'r penderfyniad hwn ar unwaith a chyflawni'r cynllun i drydaneiddio Abertawe, gan archwilio'r dichonoldeb o estyn
y broses drydaneiddio i'r gorllewin o Abertawe. 2.
Gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu
at yr Ysgrifenyddion Gwladol ac Ysgrifennydd perthnasol Cabinet Llywodraeth
Cymru, gan amlinellu ein pryderon fel a nodir yn y cynnig hwn. 3.
Gofyn i'r Arweinydd
ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Gwladol, gan geisio cyfarfod brys ag arweinwyr
awdurdodau lleol de Cymru yn Abertawe cyn gynted â phosib. 4.
Galw ar Lywodraeth Cymru i
ofyn am gyfarfod brys â Llywodraeth Cymru i geisio ariannu drwy gyfalaf
ychwanegol i gwblhau'r gwaith trydaneiddio i Abertawe
a'r tu hwnt. 5.
Galw ar yr Ysgrifenyddion
Gwladol i esbonio sut daeth Llywodraeth y DU o hyd i £1.3bn i ariannu cytundeb
â'r DUP pan na ellid dod o hyd i £430m at ddibenion trydaneiddio.
6.
Galw ar Lywodraeth y DU i
estyn y gwaharddiad arfaethedig ar geir petrol a diesel
i drenau. 7.
Ailadrodd ei gefnogaeth
gref ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe ac yn galw ar Lywodraeth y DU i
gadarnhau'r cyllid ar gyfer y Morlyn Llanw cyn gynted ag y bo modd, gan dderbyn
yr holl argymhellion a wnaed yn Adroddiad Hendry. I gloi, mae'r
cyngor hwn yn condemnio'n ddiamwys y cyhoeddiad i beidio â thrydaneiddio'r
rheilffordd i Abertawe. Mae'n bradychu
pobl Abertawe a'r rhanbarth yn llwyr, gan ddangos trahauster gweinidogion
Llywodraeth y DU, a bydd y penderfyniad, oni bai y caiff ei ddiddymu, yn arwain
at ganlyniadau economaidd ac amgylcheddol tymor hir sylweddol i Abertawe a
rhanbarth de-orllewin Cymru. Cynigiodd y
Cynghorydd P M Black ddiwygiad a oedd yn dileu'r gair Arweinydd yn 2) a 3)
uchod ac yn ei newid i "Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol". Mynegodd y
Cynghorydd R C Stewart a C A Holley eu bod yn derbyn y diwygiad. Felly, roedd
sylwedd yr Hysbysiad o Gynnig Brys fel a ganlyn: “Mae'r cyngor hwn
yn condemnio'n gryf y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU i beidio â
chyflawni'r cynllun i drydaneiddio rheilffordd de-orllewin
Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe. Mae'r cyngor hwn yn
condemnio'r ffaith y gwnaed y penderfyniad hwn gan yr Ysgrifennydd dros
Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru heb unrhyw ymgynghoriad naill ai'n
lleol neu â Llywodraeth Cymru, ar y diwrnod pan ddaeth Senedd y DU i ben am yr
haf, gan atal Aelodau Seneddol lleol rhag cael y cyfle i ofyn cwestiynau am y
penderfyniad a chraffu arno. Mae'r rhesymau a
roddwyd gan y Gweinidog dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru am
ddiddymu'r cynllun i drydaneiddio, sef tarfu ar bobl,
yn wirion, yn sarhaus ac yn drahaus tuag at bobl a busnesau Abertawe a
de-orllewin Cymru. Rydym yn atgoffa'r
Gweinidog fod y cyn-brif weinidog David Cameron, cyn-weinidogion dros
drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi addo'r
buddsoddiad hwn ar achlysuron niferus.
Cytunwyd ar y buddsoddiad ar sail tystiolaeth economaidd, adfywio ac
amgylcheddol gref. Nid yw'r dystiolaeth honno wedi newid. Mae'n rhaid i ni ddod
i'r casgliad, felly, fod gweinidogion y DU wedi camarwain gwleidyddion lleol,
arweinwyr busnes a phobl Abertawe a de-orllewin Cymru ac mae hyn yn hollol
annerbyniol. Rydym yn nodi ein
siom fod Llywodraeth y DU wedi datgan ei chefnogaeth am brosiect Cross Rail 2 gwerth £30bn, ers y cyhoeddiad na fydd y cynllun i drydaneiddio'n cael ei gyflawni ar ran Abertawe. Mae hyn yn
dangos trahauster a difaterwch am bobl de Cymru a rhannau eraill o'r DU ac yn
tanlinellu bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn
canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â Llundain. Mae'r cyngor hwn yn
ailddatgan bod angen buddsoddiad mewn isadeiledd trafnidiaeth modern ar y
rhanbarth hwn a chanolfan y rhanbarth er mwyn sicrhau'r ffyniant y mae'r
rhanbarth yn ei haeddu yn y dyfodol. Ar
ben hynny, mae gan y cyngor a phobl y rhanbarth bryderon mawr am effaith
amgylcheddol ac economaidd tymor hir parhau â threnau diesel,
yn hytrach na'r cyflenwad pŵer ystyriol o'r amgylchedd, effeithlon a
chynaliadwy y mae trydaneiddio'n ei gynnig. Er ein bod yn
cefnogi cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn gwahardd cerbydau petrol a diesel yn y DU o 2040, rydym wedi'n drysu ac yn credu y
dylid estyn y gwaharddiad hwn i'r rhwydwaith trenau ac y dylid cael gwared ar
drenau diesel yn llwyr hefyd erbyn 2040. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth y DU i fynd ati
ar unwaith i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy megis Morlyn Llanw Bae
Abertawe fel mater brys, er mwyn i gerbydau trydan y dyfodol gael eu pweru gan
ynni adnewyddadwy glân ac i'w dyheadau gael eu diwallu. Felly, mae'r cyngor hwn yn: 1.
Galw ar Weinidog y DU ar
Drafnidiaeth i ddiddymu'r penderfyniad hwn ar unwaith a chyflawni'r cynllun i drydaneiddio Abertawe, gan archwilio'r dichonoldeb o estyn
y broses drydaneiddio i'r gorllewin o Abertawe. 2.
Gofyn i Arweinwyr y
Grŵp Gwleidyddol ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Gwladol ac Ysgrifennydd
perthnasol Cabinet Llywodraeth Cymru, gan amlinellu ein pryderon fel a nodir yn
y cynnig hwn. 3.
Gofyn i Arweinwyr y
Grwpiau Gwleidyddol ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Gwladol, gan geisio
cyfarfod brys ag arweinwyr awdurdodau lleol de Cymru yn Abertawe cyn gynted â
phosib. 4.
Galw ar Lywodraeth Cymru i
ofyn am gyfarfod brys â Llywodraeth Cymru i geisio ariannu drwy gyfalaf
ychwanegol i gwblhau'r gwaith trydaneiddio i Abertawe
a'r tu hwnt. 5.
Galw ar yr Ysgrifenyddion
Gwladol i esbonio sut daeth Llywodraeth y DU o hyd i £1.3bn i ariannu cytundeb
â'r DUP pan na ellid dod o hyd i £430m at ddibenion trydaneiddio.
6.
Galw ar Lywodraeth y DU i
estyn y gwaharddiad arfaethedig ar geir petrol a diesel
i drenau. 7.
Ailadrodd ei gefnogaeth
gref ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe ac yn galw ar Lywodraeth y DU i
gadarnhau'r cyllid ar gyfer y Morlyn Llanw cyn gynted ag y bo modd, gan dderbyn
yr holl argymhellion a wnaed yn Adroddiad Hendry. I gloi, mae'r
cyngor hwn yn condemnio'n ddiamwys y cyhoeddiad i beidio â thrydaneiddio'r
rheilffordd i Abertawe. Mae'n bradychu pobl Abertawe a'r rhanbarth yn llwyr,
gan ddangos trahauster gweinidogion Llywodraeth y DU, a bydd y penderfyniad,
oni bai y caiff ei ddiddymu, yn arwain at ganlyniadau economaidd ac
amgylcheddol tymor hir sylweddol i Abertawe a rhanbarth de-orllewin Cymru. Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd
am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo a mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Roedd
ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. Cwestiwn 1 a)
Gofynnodd y Cynghorydd P M
Black y canlynol: i)
“A all Aelod y Cabinet roi'r
diweddaraf am y broses o osod taenellwyr ym mlociau uchel yr awdurdod ac
amserlen ar ei chyfer?” Nododd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau y darperir ymateb
ysgrifenedig. Cwestiwn 8 a)
Gofynnod y Cynghorydd P N May: i)
“A all Aelod y Cabinet roi mwy o
wybodaeth am yr 'achosion eraill sydd yn yr arfaeth' y cyfeirir atynt yn yr
ymateb ysgrifenedig? Faint ohonynt sydd, a phryd bydd yr awdurdod yn gweld y
canlyniad?" Nododd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau y darperir ymateb
ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan
B Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau
atodol' Rhan B. |