Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

130.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a swyddogion mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion na ddylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" oni bai bod gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

131.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd rhag mynd i'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd rhag mynd i'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

132.

Penodi'r Prif Swyddog Addysg.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cadarnhau penodiad Prif Swyddog Addysg.  Dywedodd fod y Pwyllgor Penodiadau wedi penderfynu yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017 y dylid argymell Nick Williams am y penodiad i'r cyngor.

 

PENDERFYNWYD y dylid cadarnhau penodiad Nick Williams i swydd y Prif Swyddog Addysg ar ôl ymadawiad deiliad presennol y rôl, Lindsay Harvey.