Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

116.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

117.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod dirprwyedig iddo ef a'r Prif Weithredwr lofnodi cytundeb mewn egwyddor ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Nododd fod Bargen Ddinesig Bae Abertawe'n werth £1.3 biliwn ac yn cynnwys 11 prosiect trawsnewid.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Dirprwyo awdurdod ar y cyd i Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr lofnodi cytundeb Bargen Ddinesig mewn egwyddor ar y sail a ddisgrifir yn yr adroddiad;

 

2)            Gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad llawn ychwanegol i'r Cabinet a'r cyngor am unrhyw ymrwymiadau penodol yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017 os caiff y cytundeb Bargen Ddinesig ei lofnodi mewn egwyddor.