Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

70.

TRYCHINEB ABERFAN - HANNER CANMLWYDDIANT

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arglwydd Faer at hanner canmlwyddiant y drychineb yn Aberfan a laddodd 144 o blant ac oedolion, yn bennaf yn Ysgol Iau Pantglas. Bydd yr hanner canmlwyddiant ddydd Gwener 21 Hydref 2016.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol am funud o ddistawrwydd i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

71.

FFILMIO CYFARFODYDD Y CYNGOR

Cofnodion:

Cynigiodd yr Arglwydd Faer y dylid caniatáu i'r cyfryngau a oedd yn bresennol ffilmio'r trafodion a chytunwyd i hyn.

 

72.

Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer, Arglwydd Raglaw, Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Chris Coleman i gyfarfod seremonïol o'r cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at benderfyniad yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2016 (cofnod 46) lle gwnaeth y cyngor bleidleisio i roi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon ac Abertawe, yn benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant gyda thîm pêl-droed Cymru.

 

Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.

 

PENDERFYNWYD rhoi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon ac Abertawe, yn benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant gyda thîm pêl-droed Cymru.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Chris Coleman, gan roi rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo.

 

Ymatebodd Chris Coleman trwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.