Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2017 - 2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd R V Smith, wedi'i eilio gan y Cynghorydd
J P Curtice, y dylid ethol y Cynghorydd Philip Downing yn Arglwydd Faer Dinas a
Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. Arwisgwyd y Cynghorydd P Downing â mantell a Chadwyn Swyddogol yr Arglwydd
Faer. Arwisgwyd Mrs Lilian Downing â Chadwyn Swyddogol yr Arglwydd Faeres. Yna llofnododd yr Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. Bu'r Cynghorydd P Downing (yr Arglwydd Faer) yn
llywyddu |
|
Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2017-2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd J E Burtonshow, wedi'i eilio gan
y Cynghorydd P Lloyd, y dylid ethol y Cynghorydd David Phillips yn Ddirprwy
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. Arwisgwyd y Cynghorydd D Phillips â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy
Arglwydd Faer. Arwisgwyd y Cynghorydd Sybil Crouch â Chadwyn Swyddogol y Dirprwy Arglwydd
Faeres. Yna llofnododd y Dirprwy Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. |
|
Anerchiad Agoriadol Yr Arglwydd Faer Cofnodion: Diolchodd yr Arglwydd Faer i'r cyngor am ei ethol
a llongyfarch y Cynghorydd David H Hopkins a'r Cynghorydd Bev Hopkins ar eu
cyfnodau llwyddiannus yn swyddi'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres. Cyhoeddodd yr Arglwydd Faer yn ystod ei anerchiad
mai'r Parchedig Jason Beynon fyddai ei Gaplan. Gwnaeth orffen ei anerchiad drwy gyhoeddi mai
elusennau'r Arglwydd Faer ar gyfer ei gyfnod yn y swydd fyddai Sefydliad Canser
Golau, Apêl y Pabïau (Cangen Abertawe o'r Lleng Brydeinig Frenhinol) a Nam ar y
Golwg Gorllewin Morgannwg. |
|
Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd R C Stewart, wedi'i
eilio gan y Cynghorydd A S Lewis, y dylai'r cyngor ddiolch i'r Cynghorydd D H
Hopkins am ei gyfnod llwyddiannus fel Arglwydd Faer ac i'r Cynghorydd Bev
Hopkins fel Arglwydd Faeres. Cyflwynodd yr
Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres
sy'n ymddeol. Mewn ymateb i'r diolchiadau,
diolchodd y Cynghorydd D H Hopkins i'r cyngor am ei gefnogaeth yn ystod ei
gyfnod yn y swydd. Myfyriodd hefyd ar ei
ddyletswyddau niferus yn ystod ei gyfnod fel Arglwydd Faer. |