Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

170.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr A M Day, A J Jones, J A Raynor a C Richards fudd personol yng Nghofnod 178 Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020";

 

2)           Datganodd y Cynghorwyr P M Black, C A Holley a L G Thomas fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 179 "Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer" a gadawsant y cyfarfod cyn ei ystyried;

 

3)           Datganodd y Cynghorwyr S E Crouch, P M Meara a D Phillips fudd personol yng Nghofnod 181 "Cwestiynau'r Cynghorwyr".

 

Swyddogion

 

1)         Datganodd Martin Nicholls fudd personol yng Nghofnod 177 “Trefniadau'r Prif Weithredwr”.

171.

Cofnodion. pdf eicon PDF 102 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017.

172.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 51 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

173.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Aelod Llywyddol, y Cynghorydd D W W Thomas yn yr ysbyty

 

Dywedodd y Dirprwy Aelod Llywyddol fod yr aelod llywyddol, y Cynghorydd D W W Thomas, yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn gwella ar ôl torri ei bigwrn.  Ar ran y cyngor, dymunodd bob dymuniad gorau a gwellhad cyflym iddo.

 

2)            Cynghorwyr nad ydynt yn sefyll am ailetholiad ar 4 Mai 2017

 

Dywedodd y Dirprwy Aelod Llywyddol fod y cynghorwyr canlynol wedi dewis peidio ag ailsefyll am etholiad yn yr Etholiad Llywodraeth Leol ar 4 Mai 2017.  Talwyd teyrnged i'r cynghorwyr hyn gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol a dirprwy aelodau llywyddol a diolchwyd iddynt am wasanaethu eu cymunedau a phreswylwyr Abertawe yn ystod cyfnod eu swyddi fel cynghorwyr.

 

Cynghorydd

Cyngor

Cyfnod y Swydd

Yr Arglwydd Faer

O

I

 

John C. Bayliss

DASA

03.05.2012

Presennol

Dd/b

R (Bob) A Clay

DASA

04.07.2013

Presennol

Dd/b

Uta C. Clay

DASA

03.05.2012

Presennol

Dd/b

David W. Cole

DASA

03.05.2012

Presennol

Dd/b

Andrew J. Jones

DASA

03.05.2012

Presennol

Dd/b

David J. Lewis

DASA

03.05.2012

Presennol

Dd/b

Paul M. Meara

DASA

01.05.2008

Presennol

Dd/b

John Newbury

CDA

07.05.1987

31.03.1996

2015-2016

DASA

04.05.1995

Presennol

Ioan M. Richard

CBDLl

14.11.1985

31.03.1996

2011-2012

DASA

04.05.1995

Presennol

R. June Stanton

CDA

05.05.1988

31.03.1996

2013-2014

CSGM

04.05.1989

31.03.1996

DASA

04.05.1995

Presennol

Ceinwen Thomas

CDA

23.05.1990

31.03.1996

2014-2015

DASA

04.05.1995

Presennol

C. Miles R. W. D. Thomas

DASA

21.10.2010

Presennol

Dd/b

Neil M. Woollard

DASA

03.05.2012

Presennol

Dd/b

 

Allwedd:

DASA

Dinas a Sir Abertawe

CBDLl

Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw

CDA

Cyngor Dinas Abertawe

CSGM

Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg

 

3)            Gwobr Genedlaethol Ffilm Animeddiedig “Go Forward

 

Llongyfarchwyd y bobl ifanc, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Winding Snake Productions gan y dirprwy aelod llywyddol am lwyddiant eu ffilm "Go Forward" a enillodd y categori Animeiddiad Gorau: 13 oed a'n hŷn yng ngwobrau ffilm Into eleni.

 

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd "Go Forward" gan 15 o bobl ifanc o Abertawe i fynegi profiadau troeon bywyd taith plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal tuag at droi'n oedolion. Mae'r ffilm yn dangos tri pherson ifanc, 6, 12 ac 16 oed, sy'n ceisio dod o hyd i'w ffordd drwy fyd cymhleth ar ffurf gêm fideo.

 

Cyrhaeddodd y bobl ifanc y rhestr fer o dros 300 o enwebiadau yn eu categori, a derbyniwyd y wobr ganddynt mewn seremoni grand yn llawn sêr enwog yn Leicester Square, Llundain ym mis Mawrth.

 

Disgrifiwyd y ffilm gan yr actor a'r beirniad Stephen Mangan fel "yn ardderchog ac yn ddychmygus, yn fedrus iawn yn dechnegol.  Mae ganddi sgript wych ac roeddech yn dod i adnabod pob un o'r plant yn gyflym iawn. Mae'n gadarnhaol ac yn galonogol a mwynheais i'r animeiddio symud ymlaen parhaol.  Mae'n amlwg bod llawer o feddwl a gofal wedi'u cymryd wrth ei chreu.  Roeddwn i'n dwlu ar goesau sigledig Josh! Llwyddiant ysgubol".

 

Mae'r ffilm wedi bod yn gyfle ardderchog i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt leisio eu barn a rhannu eu profiadau gyda phobl ifanc eraill, ymarferwyr a'r cyhoedd.

 

Llongyfarchodd yr holl staff cysylltiedig ar ran y cyngor.  Rydym ni oll yn hynod falch ac edrychwn ymlaen at wylio'ch ffilm yn ddiweddarach.

 

4)            Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

Dywedodd y dirprwy aelod llywyddol fod angen newid Gwŷs y Cyngor fel a ganlyn:

 

Eitem 10 "Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”.

Tudalen 24, paragraff 1.4.  Newid "2020" i "2050".

174.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Bargen ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Rhoddodd arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

2)            Y Cynghorydd Christine Richards – Ymddiswyddo fel Aelod y Cabinet

 

Diolchodd arweinydd y cyngor i Christine Richards, dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod y Cabinet dros blant a phobl ifanc, am ei holl waith caled ac ymrwymiad i'r awdurdod dros y blynyddoedd.  Dywedodd fod y Cynghorydd Richards wedi penderfynu ymddiswyddo fel aelod o'r Cabinet a dychwelyd i wleidyddiaeth y meinciau cefn.

 

Dywedodd y byddai hi'n cael ei chofio am ei dywediad "Mae angen i ni gydlynu o gwmpas plant".

175.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

176.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dysgwyr sy'n Derbyn Gofal - Gwobrau Into Film 2017, "Go Forward"

Cofnodion:

Dangoswyd y ffilm "Go Forward" gan y dirprwy aelod llywyddol y cyfeiriwyd ati yn ei chyhoeddiadau blaenorol.

 

Rhoddwyd diolch gan y cynghorwyr C Richards a J A Raynor am y cyflwyniad.

177.

Trefniadau'r Prif Weithredwr pdf eicon PDF 174 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Adnoddau) a oedd yn ceisio dilyniant mewn perthynas â swydd y Prif Weithredwr yn dilyn diwedd y trefniadau dros dro ar 31 Mai 2017 a galluogi'r cyngor a etholir ym mis Mai 2017 i benderfynu ar benodiad Prif Weithredwr parhaol.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo bod Phil Roberts yn parhau fel Prif Weithredwr tan 31 Hydref 2017.

178.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020. pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan aelod y Cabinet dros addysg a oedd am fabwysiadu'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) 2017-2020 terfynol a cheisio caniatâd i gyflwyno'r CSGA 2017-2020 statudol terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)            Mabwysiadu'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) 2017-2020 terfynol;

 

2)            Cyflwyno CSGA 2017-2020 statudol terfynol i Lywodraeth Cymru am ei chymeradwyaeth.

179.

Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer. pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn mynd i'r afael â materion a godwyd yng Ngweithgor y Cyfansoddiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2017.  Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ychwanegu'r Cynghorydd P M Black yn ôl ar y rhestr o gynghorwyr sy'n debygol o fod yn Arglwydd Faer yn y dyfodol a chytundeb i newid y cyfnodau gwahardd a restrir yn y protocol.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)           Rhoi'r Cynghorydd P M Black yn ôl ar y rhestr o gynghorwyr sy'n debygol o fod yn Arglwydd Faer a'i ystyried i fod yn ddirprwy Arglwydd Faer yn 2018-2019;

 

2)        Mabwysiadu'r protocol Arglwydd Faer a dirprwy Arglwydd Faer arfaethedig fel a amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

180.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig mewn perthynas â'r meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor:

 

i)             Rhan 2 "Erthyglau'r Cyfansoddiad", "Swyddogion" Erthygl 12;

 

ii)            Rhan 3 "Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau", "Cynllun Dirprwyo".

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Newid swyddogaethau'r Swyddog Priodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 12.5.2 a 12.5.3 o Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn caniatáu i naill ai'r Prif Weithredwr a/neu Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymgymryd â'r swyddogaethau canlynol:

 

i)             Tystio a derbyn datganiadau'r swydd (Adran 83 Deddf Llywodraeth Leol 1972);

ii)            Derbyn datganiadau o ymddiswyddo o swydd (Adran 84 Deddf Llywodraeth Leol 1972);

iii)           Cynnull cyfarfod y cyngor i lenwi sedd wag achlysurol y cadeirydd (Adran 88 Deddf Llywodraeth Leol 1972);

iv)           Derbyn hysbysiad o sedd wag achlysurol gan ddau etholwr llywodraeth leol (Adran 89 Deddf Llywodraeth Leol 1972);

 

2)        Newid rhan 3 “Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau", "Cynllun Dirprwyo", "Swyddogaeth Dewis Lleol – J25" i ddarllen fel a ganlyn:

 

Rhif

Swyddogaeth

Dirprwyo Swyddogaethau

J25

Swyddogaethau mewn perthynas â chymeradwyaeth gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu benderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 53 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.]

Cabinet

 

181.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

Cyflwynwyd  (15) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.