Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

133.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, J P Curtice, T J Hennegan, E J King, G Owens, G J Tanner ac L V Walton fudd personol yng Nghofnod 141 "Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2018/19-2020/21";

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, J E Burtonshaw, D W Cole, S E Crouch, J P Curtice, N J Davies, P Downing, R Francis-Davies, F M Gordon, J E C Harris, C A Holley, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, M H Jones, S M Jones, E J King, A S Lewis, R D Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, K E Marsh, P N May, P M Meara, H M Morris, G Owens, C L Philpott, C Richards, R C Stewart, R J Stanton, G J Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 142 "Cyllideb Refeniw 2017/18";

 

3)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, J E Burtonshaw, D W Cole, V A Evans, W Evans, C A Holley, E J King, A S Lewis, R D Lewis, P Lloyd, H M Morris, R V Smith, G J Tanner, D W W Thomas ac L G Thomas fudd personol yng Nghofnod 143 “Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2016/17-2020/21”;

 

4)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, P Downing, V A Evans, E J King, P N May, P M Matthews, D G Sullivan, G J Tanner a T M White  fudd personol yng Nghofnod 144 “Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2017/18";

 

5)            Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan a G J Tanner fudd personol yng Nghofnod 145 "Cyllideb Refeniw Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/18";

 

6)            Datganodd y Cynghorwyr T J Hennegan a G J Tanner fudd personol yng Nghofnod 146 "Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017/18-2020/21";

 

7)            Datganodd y Cynghorwyr A C S Colburn, J P Curtice, N J Davies, W Evans, E W Fitzgerald, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, M H Jones, S M Jones, D J Lewis, R D Lewis, K E Marsh, C Richards, R V Smith, D G Sullivan a G D Walker fudd personol yng Nghofnod 147 “Penderfyniad statudol - penderfyniadau i'w gwneud yn unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor 2017/2018";

 

8)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, M C Child, A M Cook, S E Crouch, J P Curtice, P Downing, C R Doyle, V A Evans, R Francis-Davies, F M Gordon, C A Holley, B Hopkins, D Hopkins, Y V Jardine, S M Jones, A S Lewis, D J Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Meara, P N May, P M Matthews, J Newbury, G Owens, D Phillips, C L Philpott, C Richards, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, C M R W D Thomas, D W W Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 148 " "Cronfa Buddsoddi Cymru - Cytundeb Rhwng Awdurdodau a Phwyllgor Llywodraethu ar y Cyd";

 

9)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, M C Child, S E Crouch, P Downing, J W Jones, M H Jones, P Lloyd, D Phillips, R C Stewart ac L G Thomas fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 149 “Enwebu Darpar Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2017-2018" a gadawsant y cyfarfod cyn ei drafod;

 

10)         Datganodd y Cynghorwyr K E Marsh a P N May fudd personol yng Nghofnod 149 "Enwebu Darpar Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2017-2018";

 

11)         Datganodd y Cynghorwyr A M Cook, J E C Harris, B Hopkins, P B Smith, M Thomas ac L V Walton fudd personol yng Nghofnod 150 "Dynodi Prif Swyddog Addysg Statudol Dros Dro";

 

12)         Datganodd y Cynghorydd L James fudd personol yng Nghofnod 152 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr".

 

Swyddogion

 

1)           Datganodd G Borsden, H Evans, M Hawes, M Nicholls, C Sivers a D Smith fudd personol yng Nghofnod 148 "Cronfa Buddsoddi Cymru - Cytundeb Rhwng Awdurdodau a Phwyllgor Llywodraethu ar y Cyd".

134.

Cofnodion. pdf eicon PDF 56 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017;

 

2)           Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017;

 

3)           Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2017.

135.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

136.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Lindsay Harvey – Prif Swyddog Addysg

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Addysg i Lindsay Harvey, Prif Swyddog Addysg am ei ymroddiad i'w rôl a'i awdurdod. Dychwelodd Lindsay Harvey i'r awdurdod ym mis Mawrth 2015 yn dilyn cyfnod yn gweithio fel Pennaeth y Cwricwlwm ac, yn fwy diweddar, fel Pennaeth Dysgu Digidol i Lywodraeth Cymru.

 

Yn anffodus, bydd Lindsay yn gadael yr awdurdod ym mis Mawrth 2017 i ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd Dros Dro Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.  Ar ran yr awdurdod, dymunwyd y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

 

2)            Mike Hawes, Cyfarwyddwr Adnoddau

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i Mike Hawes, Cyfarwyddwr Adnoddau, am ei ymroddiad i'w rôl a'r awdurdod.  Mae Mike Hawes yn bwriadu ymddeol ym mis Mai 2017; fodd bynnag, gan mai hwn oedd ei gyfarfod cyllidebol olaf â'r cyngor, roedd yn briodol cofnodi diolch yr awdurdod am ei waith dros y blynyddoedd yn sicrhau bod gan yr awdurdod gyllideb gytbwys.

 

3)            Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

a)            Eitem 19 "Aelodaeth Pwyllgorau”.  Dosbarthwyd fersiwn wedi'i diweddaru.

 

b)            Eitem 20 "Cwestiynau'r Cynghorwyr", Cwestiwn 18.  Dosbarthwyd fersiwn ddiwygiedig.

137.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)           Stadiwm Liberty

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod y Cabinet, yn gynharach y diwrnod hwnnw, wedi penderfynu awdurdodi swyddogion i ddechrau trafodaethau manwl o ran cytundeb prydlesu diwygiedig ar gyfer Stadiwm Liberty.

 

2)           Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am gynnydd presennol Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe.

138.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

139.

Cyflwyniad Cyhoeddus -

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

140.

Cyflwyniad Technegol a Chyllidebol

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog Adran 151 gyflwyniad technegol am y 4 adroddiad cyllidebol canlynol:

 

i)          Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2018-2019 i 2020-2021;

ii)         Cyllideb Refeniw 2017-2018;

iii)        Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2016-2017 i 2020-2021;

iv)        Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2017/2018.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol i Swyddog Adran 151.  Ymatebodd Swyddog Adran 151.

 

Yn dilyn cwestiynau technegol, rhoddodd Arweinydd y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet drosolwg gwleidyddol cyffredinol o'r sefyllfa gyllidebol ac yna cafwyd cyflwyniad gwleidyddol am y 4 adroddiad cyllidebol y'u crybwyllwyd uchod.  Yn ogystal, rhoddodd Aelodau perthnasol y Cabinet gyflwyniadau'n ymwneud â'u portffolios.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau i Arweinydd y Cyngor. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelodau perthnasol y Cabinet.

141.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2018/19 - 2020/21. pdf eicon PDF 335 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2018-2019 a 2020-2021 fel sail i gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

142.

Cyllideb Refeniw 2017/18. pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig ardoll Cyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Cymeradwyo Cyllideb Refeniw ar gyfer 2017-2018 fel a fanylwyd yn Atodiad A yr adroddiad;

 

2)        Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2017-2018 fel a nodwyd yn Adran 9 yr adroddiad.

143.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017/18 - 2020/21. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2016-2017 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2017-2018 i 2020-2021. Amlinellodd yr adroddiad y cynigion cyllidebol canlynol yn ei atodiadau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig 2016-2017 a Chyllideb Gyfalaf 2017-2018 i 2020-2021 fel a fanylwyd yn Atodiadau A, B, C, Ch a D yr adroddiad.

144.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2017/18. pdf eicon PDF 357 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn argymell Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad);

 

2)        Cymeradwyo'r Strategaeth Fuddsoddi (Adran 8 yr adroddiad);

 

3)        Cymeradwyo'r Datganiad Darparu Lleiafswm Refeniw (MRP) (Adran 9 yr adroddiad).

145.

Cyllideb Refeniw Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/18. pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2017-2018 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Cynyddu taliadau rhent yn unol â pholisi rhenti Llywodraeth Cymru fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)        Cymeradwyo'r ffioedd, y taliadau a'r lwfansau fel yr amlinellwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

3)        Cymeradwyo'r cynigion cyllideb refeniw fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad.

146.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 - 2020/21. pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ar gyfer 2017-2018 i 2020-2021.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r gyllideb ddiwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2016-2017;

 

2)        Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2017-2018 a 2020-20121;

 

3)        Lle caiff cynlluniau unigol Atodiad B yr adroddiad eu rhaglenni dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.

147.

Penderfyniad Statudol - Penderfyniadau i'w gwneud yn unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor ar gyfer 2017/18. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu nifer o ddatrysiadau statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        Y dylai'r cyngor gofnodi a mabwysiadu'r datrysiadau statudol a amlinellir isod;

 

2)        Y dylid nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 24 Tachwedd 2016, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2017-2018 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)        89,465 oedd y cyfanswm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn;

 

b)         Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,965

 

Clydach

2,603

 

Gorseinon

3,1036

 

Tregŵyr

1,944

 

Pengelli

407

 

Llanilltud Gŵyr

319

 

Cilâ

2,074

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

488

 

Llangyfelach

946

 

Llanrhidian Uchaf

1,581

 

Llanrhidian Isaf

332

 

Casllwchwr

3,385

 

Mawr

733

 

Y Mwmbwls

9,623

 

Penllergaer

1,360

 

Pennard

1,456

 

Penrhys

410

 

Pontarddulais

2,277

 

Pontlliw a Thircoed

1,028

 

Porth Einon

427

 

Reynoldston

289

 

Rhosili

187

 

Y Crwys

715

 

Cilâ Uchaf

566

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

3)        Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo bellach gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017-2018 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

a)        £686,970,701 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) y Ddeddf;

 

b)        £267,609,668 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a), 32(3)(c) a 32(3a) y Ddeddf;

 

c)         £419,361,033 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn 3(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn;

 

ch)      £310,300,543 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth trethi annomestig dewisol;

 

d)        £1,219.03 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn;

 

dd)      £964,633 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf;

 

e)        £1,208.25 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir trwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

f)          Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,228.61

 

Clydach

1,246.04

 

Gorseinon

1,234.86

 

Tregŵyr

1,225.61

 

Pengelli a Waungron

1,222.99

 

Llanilltud Gŵyr

1,218.75

 

Cilâ

1,218.86

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,223.11

 

Llangyfelach

1,233.62

 

Llanrhidian Uchaf

1,261.98

 

Llanrhidian Isaf

1,226.32

 

Casllwchwr

1,232.43

 

Mawr

1,284.65

 

Y Mwmbwls

1,221.38

 

Penllergaer

1,222.96

 

Pennard

1,259.76

 

Penrhys

1,232.64

 

Pontarddulais

1,246.02

 

Pontlliw a Thircoed

1,242.33

 

Porth Einon

1,222.30

 

Reynoldston

1,234.20

 

Rhosili

1,227.66

 

Y Crwys

1,250.49

 

Cilâ Uchaf

1,240.05

dyma'r symiau a roddwyd trwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a nodwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34 (3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

i)          Rhannau o ardal y cyngor:

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

CH

D

DD

E

F

FF

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

819.07

955.59

1,092.10

1,228.61

1,501.63

1,774.66

2,047.68

2,457.22

2,866.76

Clydach

830.69

969.14

1,107.59

1,246.04

1,522.94

1,799.84

2,076.73

2,492.08

2,907.43

Gorseinon

823.24

960.45

1,097.65

1,234.86

1,509.27

1,783.69

2,058.10

2,469.72

2,881.34

Tregŵyr

817.07

953.25

1,089.43

1,225.61

1,497.97

1,770.33

2,042.68

2,451.22

2,859.76

Pengelli a Waungron

815.33

951.21

1,087.10

1,222.99

1,494.77

1,766.54

2,038.32

2,445.98

2,853.64

Llanilltud Gŵyr

812.50

947.92

1,083.33

1,218.75

1,489.58

1,760.42

2,031.25

2,437.50

2,843.75

Cilâ

812.57

948.00

1,083.43

1,218.86

1,489.72

1,760.58

2,031.43

2,437.72

2,844.01

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

CH

D

DD

E

F

FF

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

815.41

951.31

1,087.21

1,223.11

1,494.91

1,766.71

2,038.52

2,446.22

2,853.92

Llangyfelach

822.41

959.48

1,096.55

1,233.62

1,507.76

1,781.90

2,056.03

2,467.24

2,878.45

Llanrhidian Uchaf

841.32

981.54

1,121.76

1,261.98

1,542.42

1,822.86

2,103.30

2,523.96

2,944.62

Llanrhidian Isaf

817.55

953.80

1,090.06

1,226.32

1,498.84

1,771.35

2,043.87

2,452.64

2,861.41

Casllwchwr

821.62

958.56

1,095.49

1,232.43

1,506.30

1,780.18

2,054.05

2,464.86

2,875.67

Mawr

856.43

999.17

1,141.91

1,284.65

1,570.13

1,855.61

2,141.08

2,569.30

2,997.52

Y Mwmbwls

814.25

949.96

1,085.67

1,221.38

1,492.80

1,764.22

2,035.63

2,442.76

2,849.89

Penllergaer

815.31

951.19

1,087.08

1,222.96

1,494.73

1,766.50

2,038.27

2,445.92

2,853.57

Pennard

839.84

979.81

1,119.79

1,259.76

1,539.71

1,819.65

2,099.60

2,519.52

2,939.44

Penrhys

821.76

958.72

1,095.68

1,232.64

1,506.56

1,780.48

2,054.40

2,465.28

2,876.16

Pontarddulais

830.68

969.13

1,107.57

1,246.02

1,522.91

1,799.81

2,076.70

2,492.04

2,907.38

Pontlliw a Thircoed

828.22

966.26

1,104.29

1,242.33

1,518.40

1,794.48

2,070.55

2,484.66

2,898.77

Porth Einon

814.87

950.68

1,086.49

1,222.30

1,493.92

1,765.54

2,037.17

2,444.60

2,852.03

Reynoldston

822.80

959.93

1,097.07

1,234.20

1,508.47

1,782.73

2,057.00

2,468.40

2,879.80

Rhosili

818.44

954.85

1,091.25

1,227.66

1,500.47

1,773.29

2,046.10

2,455.32

2,864.54

Y Crwys

833.66

972.60

1,111.55

1,250.49

1,528.38

1,806.26

2,084.15

2,500.98

2,917.81

Cilâ Uchaf

826.70

964.48

1,102.27

1,240.05

1,515.62

1,791.18

2,066.75

2,480.10

2,893.45

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

805.50

939.75

1,074.00

1,208.25

1,476.75

1,745.25

2,013.75

2,416.50

2,819.25

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(e) a (3)(f) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand CH a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)        Dylid nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2017-2018 mewn preseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

CH

D

DD

E

F

FF

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

145.50

169.75

193.99

218.24

266.74

315.24

363.74

436.49

509.24

5)        Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(ff) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2017-2018 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a gaiff eu dangos isod:

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

CH

D

DD

E

F

FF

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

964.57

1,125.34

1,286.09

1,446.85

1,768.37

2,089.90

2,411.42

2,893.71

3,376.00

Clydach

976.19

1,138.89

1,301.58

1,464.28

1,789.68

2,115.08

2,440.47

2,928.57

3,416.67

Gorseinon

968.74

1,130.20

1,291.64

1,453.10

1,776.01

2,098.93

2,421.84

2,906.21

3,390.58

Tregŵyr

962.57

1,123.00

1,283.42

1,443.85

1,764.71

2,085.57

2,406.42

2,887.71

3,369.00

Pengelli a Waungron

960.83

1,120.96

1,281.09

1,441.23

1,761.51

2,081.78

2,402.06

2,882.47

3,362.88

Llanilltud Gŵyr

958.00

1,117.67

1,277.32

1,436.99

1,756.32

2,075.66

2,394.99

2,873.99

3,352.99

Cilâ

958.07

1,117.75

1,277.42

1,437.10

1,756.46

2,075.82

2,395.17

2,874.21

3,353.25

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton Llangennith, Llanmadoc & Cheriton

960.91

1,121.06

1,281.20

1,441.35

1,761.65

2,081.95

2,402.26

2,882.71

3,363.16

Llangyfelach

967.91

1,129.23

1,290.54

1,451.86

1,774.50

2,097.14

2,419.77

2,903.73

3,387.69

Llanrhidian Uchaf

986.82

1,151.29

1,315.75

1,480.22

1,809.16

2,138.10

2,467.04

2,960.45

3,453.86

Llanrhidian Isaf

963.05

1,123.55

1,284.05

1,444.56

1,765.58

2,086.59

2,407.61

2,889.13

3,370.65

Casllwchwr

967.12

1,128.31

1,289.48

1,450.67

1,773.04

2,095.42

2,417.79

2,901.35

3,384.91

Mawr

1,001.93

1,168.92

1,335.90

1,502.89

1,836.87

2,170.85

2,504.82

3,005.79

3,506.76

Y Mwmbwls

959.75

1,119.71

1,279.66

1,439.62

1,759.54

2,079.46

2,399.37

2,879.25

3,359.13

Penllergaer

960.81

1,120.94

1,281.07

1,441.20

1,761.47

2,081.74

2,402.01

2,882.41

3,362.81

Pennard

985.34

1,149.56

1,313.78

1,478.00

1,806.45

2,134.89

2,463.34

2,956.01

3,448.68

Penrhys

967.26

1,128.47

1,289.67

1,450.88

1,773.30

2,095.72

2,418.14

2,901.77

3,385.40

Pontarddulais

976.18

1,138.88

1,301.56

1,464.26

1,789.65

2,115.05

2,440.44

2,928.53

3,416.62

Pontlliw

973.72

1,136.01

1,298.28

1,460.57

1,785.14

2,109.72

2,434.29

2,921.15

3,408.01

Porth Einon

960.37

1,120.43

1,280.48

1,440.54

1,760.66

2,080.78

2,400.91

2,881.09

3,361.27

Reynoldston

968.30

1,129.68

1,291.06

1,452.44

1,775.21

2,097.97

2,420.74

2,904.89

3,389.04

Rhosili

963.94

1,124.60

1,285.24

1,445.90

1,767.21

2,088.53

2,409.84

2,891.81

3,373.78

Y Crwys

979.16

1,142.35

1,305.54

1,468.73

1,795.12

2,121.50

2,447.89

2,937.47

3,427.05

Cilâ Uchaf

972.20

1,134.23

1,296.26

1,458.29

1,782.36

2,106.42

2,430.49

2,916.59

3,402.69

Holl rannau eraill ardal y cyngor

951.00

1,109.50

1,267.99

1,426.49

1,743.49

2,060.49

2,377.49

2,852.99

3,328.49

 

148.

Cronfa Buddsoddi Cymru
Cytundeb Rhwng Awdurdodau a Phwyllgor Llywodraethu ar y Cyd
pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu cefndir trefniadau cydrannu'r buddsoddiad arfaethedig ar draws wyth Cronfa Bensiwn Awdurdodau Lleol Cymru, a'r gofyniad i greu cytundeb ffurfiol rhwng y cronfeydd er mwyn sefydlu trefniadau gweinyddol a llywodraethu i reoli'r trefniadau cydrannu.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)           Cofnodi cynnwys y Cytundeb Rhwng Awdurdodau (IAA) drafft a atodwyd yn Atodiad B yr adroddiad;

 

2)           Dirprwyo'r awdurdod i Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gymeradwyo a llofnodi fersiwn derfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau;

 

3)           Sefydlu cydbwyllgor (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel y "Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd") ar ôl cwblhau'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau y cyfeirir ato yn argymhelliad 1 uchod, ac ar sail cymeradwyo'r cylch gorchwyl atodedig;

 

4)           Dirprwyo arfer swyddogaethau penodol i'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd fel y'u nodir yn y cylch gorchwyl ac y dylid nodi'r swyddogaethau hynny a neulltuir i'r cyngor;

 

5)           Cymeradwyo penodi Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn neu ei ddirprwy/dirprwy enwebedig fel cynrychiolydd Dinas a Sir Abertawe ar y Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd;

 

6)           Awdurdodi cynrychiolydd enwebedig Dinas a Sir Abertawe i weithredu o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd er mwyn caniatáu arfer unrhyw swyddogaeth ddirprwyedig;

 

7)           Cymeradwyo Cyngor Sir Gâr (Cronfa Bensiwn Dyfed) fel y cyngor sy'n cynnal y cyfarfod â'r cyfrifoldebau a amlinellir yn y Cytundeb rhwng Awdurdodau;

 

8)           Dirprwyo'r Awdurdod i Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gytuno ar unrhyw ddiwygiadau bach ychwanegol i'r Cytundeb rhwng Awdurdodau.

149.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2017-2018. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio enwebu Arglwydd Faer Etholedig a Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig 2017-2018 er mwyn caniatáu i drefniadau digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaen.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Enwebu'r Cynghorydd Phil Downing fel Arglwydd Faer Etholedig 2017-2018;

 

2)        Enwebu'r Cynghorydd David Phillips fel Arglwydd Faer Etholedig 2017-2018;

 

3)        Nodi adolygiad protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer.

150.

Dynodiad Dros Dro y Prif Swyddog Addysg Statudol. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio ag Adran 532 Deddf Addysg 1996 ac Erthyglau 12.2 ac 12.3 Cyfansoddiad y Cyngor trwy benodi Nick Williams (Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr), fel Prif Swyddog Addysg Statudol ar sail dros dro tan i'r Prif Swyddog Addysg newydd ddechrau yn y swydd.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Penodi Nick Williams (Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr) fel Prif Swyddog Addysg y Cyngor ar sail dros dro tan i'r Prif Swyddog Addysg ddechrau yn y swydd.

151.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Dosbarthwyd gwybodaeth am newidiadau ychwanegol i aelodaeth pwyllgorau.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Penodiadau

Tynnu enw'r Cynghorydd A C S Colburn.

Ychwanegu Sedd Wag y Ceidwadwyr.

 

2)            Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu enw'r Cynghorydd A C S Colburn.

Ychwanegu Sedd Wag y Ceidwadwyr.

 

3)            Gweithgor y Cyfansoddiad

Sylwer: Y Cynghorydd L J Tyler-Lloyd fel Dirprwy Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr.

 

4)            Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Tynnu enw'r Cynghorydd A C S Colburn.

Ychwanegu'r Cynghorydd L J Tyler-Lloyd.

 

5)            Panel Llywodraethwyr yr ALl

Tynnu enw'r Cynghorydd A C S Colburn.

Ychwanegu'r Cynghorydd C M R W D Thomas.

 

6)            Pwyllgor Cynllunio

Tynnu enwau'r Cynghorwyr A C S Colburn a H M Morris.

Ychwanegu'r Cynghorwyr C Anderson ac L J Tyler-Lloyd.

 

7)            Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd A C S Colburn.

Ychwanegu'r Cynghorydd P R Hood-Williams.

 

8)            Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu'r sedd wag annibynnol.

Ychwanegu'r Cynghorydd A C S Colburn.

152.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd deunaw (18) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.