Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

153.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J P Curtice, J A Hale, C A Holley, S M Jones, E J King, A S Lewis, R D Lewis ac R C Stewart ddiddordeb personol yng nghofnod rhif 160 “Polisi Cyflogau 2017-2018”;

 

2)           Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, C A Holley, A J Jones, K E Marsh, C Thomas, M Thomas a T M White ddiddordeb personol yng nghofnod rhif 160 “Polisi Cyflogau 2017-2018” gan nodi eu bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau;

 

3)           Datganodd y Cynghorwyr P Downing, S M Jones, K E Marsh, P N May, R D Lewis ac C L Philpott ddiddordeb personol yng Nghofnod 163 “Trefniadau Derbyn 2018-2019”;

 

4)        Datganodd y Cynghorwyr M C Child, J P Curtice, J E Harris, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, M H Jones, R D Lewis a K E Marsh ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 165 “Cymeradwyo Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Gŵyr”;

 

5)            Datganodd y Cynghorydd C R Doyle ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 166 “Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried;

 

6)           Datganodd y Cynghorwyr J W Jones, M H Jones, S M Jones, C L Philpott, J A Raynor ac C Richards ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 169 “Cwestiynau Cynghorwyr.”

 

Swyddogion

 

1)            Datganodd G Borsden, H Evans, M Hawes, T Meredith, P Roberts a D Smith ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 160 “Polisi Cyflogau 2017-2018” a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

2)            Datganodd T Meredith ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 161 “Ailstrwythuro'r Uwch-reolwyr - y Gyfarwyddiaeth Adnoddau” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

154.

Cofnodion. pdf eicon PDF 56 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2017;

 

2)       Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2017.

155.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymatebion ysgrifenedig.

156.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Ymosodiad San Steffan, Llundain

 

Cyfeiriodd y Llywydd at dristwch yr ymosodiad terfysgol ar San Steffan, Llundain ar 22 Mawrth 2017.  Hyd yn hyn, roedd 4 person wedi marw a 40 o bobl wedi'u hanafu, gyda 7 ohonynt yn dal i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.  Y rhai a fu farw oedd Aysha Frade, Kurt Cochran, PC Keith Palmer a'r ymosodwr.

 

Roedd y baneri y tu allan i adeiladau dinesig y cyngor ar eu hanner a chafwyd munud o dawelwch gan y staff am 09.33 fel arwydd o barch yn dilyn yr ymosodiad ar San Steffan.  Bu munud o dawelwch mewn mannau eraill hefyd ar draws y DU i nodi pryd dechreuodd y sesiwn seneddol yn Llundain.

 

Gwnaeth pawb a oedd yn bresennol godi fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)            Gwobrau Cyfleoedd Llywodraeth Genedlaethol (GO) 2017-2018

 

Cyhoeddodd y Llywydd fod Dinas a Sir Abertawe wedi ennill yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus Cyfleoedd Llywodraeth Genedlaethol 2017-2018 a gynhaliwyd ym Manceinion ar 21 Mawrth 2017.  Y seremoni oedd pinacl Gŵyl Gaffael Gogledd Lloegr a mynychodd bron 600 o gynrychiolwyr o gymuned caffael cyhoeddus y DU gan fynd ben ben i ennill y brif wobr GO.

 

Enillodd tîm "Y Tu Hwnt i Frics a Morter" yr awdurdod "Wobr Menter Gyflogaeth Orau GO" a noddwyd gan Epson am ei waith rhagorol a'i bolisi manteision cymunedol.  Ar ran yr awdurdod, gwnaeth longyfarch a diolch i bawb a gymerodd ran.

 

Cyflwynwyd Helen Beddow a Lee Wyndham o'r tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter â'r wobr.

157.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi'i llofnodi ar 20 Mawrth 2017.  Y fargen hon yw'r buddsoddiad mwyaf erioed yn yr ardal; gellid cyflwyno 10,000 o swyddi i'r rhanbarth gan roi hwb gwerth £1.3 miliwn i'r economi.  Talodd deyrnged i'r tîm o bobl a gynorthwyodd i gyflawni hyn.

 

2)            Stadiwm Liberty

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Arweinydd y Cyngor ar y trafodaethau ar gyfer cytundeb prydles newydd ar gyfer Stadiwm Liberty.

158.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)        Gofynnodd David Davies gwestiynau am Gofnod 165 “Cymeradwyo Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)”.

 

a)            “Tudalen 199.  Paragraff 3.38.  Mae colli arian Ewropeaidd ar gyfer trafnidiaeth o ganlyniad i Brexit yn creu problemau ariannol i'r awdurdod hwn, yn arbennig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru'n cynllunio system drafnidiaeth integredig genedlaethol.

 

i)             A yw'n debygol yr effeithir ar wasanaeth Gower Explorer y Sul?

 

ii)            A fydd y bartneriaeth rhwng y Cyngor a DANSA sy'n gwasanaethu Tregŵyr i Lanrhidian yn parhau i dderbyn arian ac a oes gan y cyngor unrhyw gynlluniau i ehangu’r gwasanaethau cludiant cymunedol, amwynder a gyflwynwyd gan y Cyngor Llafur hwn sy'n stori o lwyddiant?

 

Datganodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant y darperir ymateb ysgrifenedig.

159.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

160.

Polisi Cyflogau 2017/18. pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Polisi Cyflogau 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Mabwysiadu Polisi Cyflogau 2017-2018.

161.

Strwythur Uwch-reoli - Cyfarwyddiaeth Adnoddau'r. pdf eicon PDF 278 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cynnig strwythur Uwch-reoli yn dilyn ymddeoliad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Adnoddau) ddiwedd mis Mai 2017.  Gwnaeth un newid i Atodiad 1 yr adroddiad drwy nodi y dylai "Etholiadau a Chofrestru ar gyfer Etholiadau" sef "y Gwasanaethau Etholiadol" ddod o dan y pennawd Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Y dylai'r strwythur, yn amodol ar ymgynghoriad a nodwyd yn yr adroddiad, gael ei gymeradwyo;

 

2)            Rhoddir caniatâd i'r Prif Weithredwr ymgynghori â phob un yr effeithir arno;

 

3)            Bod hawl gan y Prif Weithredwr roi'r strwythur ar waith yn amodol ar newid 2) uchod i nodi nad oes newidiadau sylweddol.

162.

Ymateb i'r ymgynghoriad - Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad. pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth mewn egwyddor i'r ymatebion i'r Papur Gwyn "Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad" a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu llunio ymateb manwl erbyn y dyddiad cau, sef 11 Ebrill 2017..

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Bod y cyngor yn ystyried y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, ac mae'n rhoi caniatád i'r Prif Weithredwr lunio ymateb mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor yn unol â'r ymatebion awgrymedig a amlygir mewn du yn yr adroddiad hwn.

163.

Trefniadau Derbyn 2018/2019. pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd am bennu trefniadau derbyn ysgolion a gynhelir ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig y Meithrin ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad;

 

2)            Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig y dosbarth Derbyn ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad;

 

3)            Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig Blwyddyn 7 ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad;

 

4)            Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer trosglwyddo yng nghanol y flwyddyn ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad;

 

5)            Cymeradwyo trefniadau derbyn arfaethedig/meini prawf derbyn ar gyfer chweched dosbarth ar gyfer 2018-2019 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad;

 

6)            Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau yn Atodiad Ch yr adroddiad;

 

7)            Nodir niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn Atodiad D yr adroddiad.

164.

Datganiad Lles 2017/18. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn nodi amcanion lles a datganiad lles 2017/2018 i'r cyngor fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Bod 5 blaenoriaeth allweddol y cyngor a fynegwyd yn ei Gynllun Corfforaethol presennol ar gyfer 2016/2017 yn parhau yn 2017/2018 fel amcanion lles y cyngor;

 

2)            Cymeradwyo Datganiad Lles y cyngor ar gyfer 2017/2018;

 

3)            Bod y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i adolygu amcanion lles y cyngor yn parhau ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol gyda'r Weinyddiaeth newydd etholedig i 2017/2018, a bod Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

165.

Cymeradwyaeth Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwyr (AoHNE). pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr fel Polisi'r Cyngor ac fel Canllaw Cynllunio Atodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo a mabwysiadu Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr fel Polisi'r Cyngor ac fel Canllaw Cynllunio Atodol i'r Cynllun Datblygu Unedol a'r Cynllun Datblygu Lleol sydd yn yr arfaeth.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald y cwestiwn canlynol:

 

“Tudalen 192, Paragraff 3.9.  Ail frawddeg.  A wnaiff yr Aelod Cabinet egluro pa ganolfan y cyfeirir ati?

 

Datganodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

166.

Asesiad o Boblogaeth Bae'r Gorllewin. pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin; er mwyn awdurdodi Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi dolen i'r Asesiad Poblogaeth ar wefan y cyngor ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Pobl i gyflwyno Asesiad Poblogaeth i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a bwrdd iechyd yn rhanbarth Bae'r Gorllewin.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gan Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol (Dave Howes) a Chyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin (Sara Harvey) ar Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Y dylid cymeradwyo Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin;

 

2)            Rhoi caniatâd i Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi dolen i'r Asesiad Poblogaeth ar wefan y cyngor;

 

3)            Rhoi caniatâd i'r Cyfarwyddwr Pobl gyflwyno Asesiad Poblogaeth i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn rhanbarth Bae'r Gorllewin.

167.

Dyddiadur y cyngor 2017-2018. pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Llywydd, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu dyddiadur drafft y cyngor ar gyfer 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo Dyddiadur y Cyngor ar gyfer 2017-2018;

 

2)            Ailgyflwyno dyddiadur y Cyngor ar gyfer 2017-2018 i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 25 Mai 2017 i'w ystyried ymhellach yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ar 4 Mai 2017;

 

3)            Cynnal Arolwg Amserau Cyfarfodydd y Cyngor yn Hydref/Gaeaf 2017.

168.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

169.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.