Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

118.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)            Datganwyd buddiannau personol a rhagfarnol yng nghofnod rhif 125 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor" gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw, N J Davies, A M Day, P M Downing, E T Kirchner, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P M Meara, C L Philpott, C Richards, C Thomas, T M White ac N M Woollard gan dynnu'n ôl o'r cyfarfod cyn y drafodaeth;

 

2)            Datganwyd budd personol a rhagfarnol yng nghofnod rhif 128 "Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 19 Mai 2015 ac 18 Mai 2016" gan y Cynghorwyr P M Black, A C S Colburn, J P Curtice, N J Davies, J W Jones, E T Kirchner ac L V Walton.

 

3)            Datganodd y Cynghorydd R V Smith fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 129 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 4" a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

4)                  Datganodd y Cynghorydd G J Tanner fudd personol yng Nghofnod 129 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 9”.

119.

Cofnodion. pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016.

120.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor.

121.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Salwch Cynghorwyr

 

Estynnwyd dymuniadau gorau ac adferiad cyflym gan yr Aelod Llywyddol i'r Cynghorwyr Bob Clay, Uta Clay a Hazel Morris

 

2)         Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2017

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd anrhydeddau Blwyddyn Newydd.

 

a)         Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)          Chris Coleman.  Rheolwr. Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru.  Am wasanaethau i bêl-droed;

 

ii)         Thomas Stephen Potokar.  Sefydlydd.  Interburns.  Am wasanaethau i Ofal Llosgiadau ac Atal Dramor.  (Abertawe);

 

iii)        John Andrew Straw.  Cyn Brif Weithredwr.  Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Am wasanaethau i lywodraeth leol.  (Abertawe);

 

iv)        Paul Harold Valerio.  Llywydd. Ceidwadwyr Gorllewin Abertawe.  Am wasanaethau i ddatganoli Cymru.  (Abertawe);

 

v)         Yr Athro Michael Alan Hewlett Williams.  Prif Weithredwr. Grŵp Gwalia Cyf.  Am wasanaethau i iechyd, tai a phobl ddigartref yng Nghymru.  (Abertawe).

 

b)        Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)          Thomas Michael Hughes.  Sefydlwr Rhaglen Astudio Preswyl Silicon Valley.  Am wasanaethau i raddedigion Prydeinig yn Silicon Valley a San Francisco.  (Abertawe);

 

ii)         Richard Craig Owen.  Swyddog Carchar.  Carchar EM Abertawe. Am wasanaethau i garcharorion a'r gwasanaeth gwirfoddol i gyn-weithwyr y gwasanaeth.  (Rhydaman, Sir Gâr);

 

iii)        Aaron Moores.  Am wasanaethau i nofio.  (Sgeti, Abertawe);

 

iv)        Anthony John Parfitt.  Gwyliwr y Glannau Gwirfoddol.  Gwylwyr y Glannau EM y Mwmbwls, Abertawe.  Am wasanaethau i ddiogelwch morol.  (Abertawe).

 

c)         Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)             Karen Ann Hughes.  Am wasanaethau gwirfoddol i bobl ifanc yn Abertawe.  (Tŷ Coch, Abertawe);

 

ii)            Joyce Monica Jenkins.  Am wasanaethau i'r gymuned yn Abertawe.  (Gŵyr, Abertawe).

 

ch)      Medal Gwasanaeth Tân y Frenhines (QFSM)

 

i)             Christopher Davies.  Prif Swyddog Tân.  Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

3)         Llongyfarchiadau

 

a)            Safon Iechyd Gorfforaethol – Gwobr Blatinwm

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ar 12 Ionawr 2017, cafodd yr awdurdod ei asesu gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn erbyn Safon Iechyd Corfforaethol Blatinwm Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd ei fod yn falch bod yr awdurdod yn llwyddiannus ac wedi ennill y Wobr Blatinwm.  Yn ogystal, canmolwyd yr awdurdod am ei flaengaredd, ei gynhwysiad, ei arweinyddiaeth, ei fentrau lles a chynaladwyedd ar draws y saith 6 maen prawf craidd, sef: Teithio, Adeiladu Cyfalaf , Rheoli Cyfleusterau, Cyflogaeth a Sgiliau, Caffael; a Chynnwys y Gymuned .

 

Dinas a Sir Abertawe yw'r ail awdurdod lleol yn unig i gyflawni'r lefel hon ers iddi ddechrau yn 2005, hefyd dyma'r awdurdod dinesig mawr cyntaf erioed i dderbyn y fath gydnabyddiaeth.

 

Cafodd y gwaith ar gyfer y wobr ei gydlynu gan y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch, Rheolaeth a Lles Brys Corfforaethol, a greodd adroddiadau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos y gwobrau wrth arwain grŵp lles a oedd yn cynrychioli'r holl gyfarwyddiaethau a rhanddeiliaid allweddol yr awdurdod.

 

Dewiswyd y gwasanaeth datblygu gwaith, sy'n dathlu ei 10fed blwyddyn eleni, fel yr astudiaeth achos olaf, gan roi cyfle i'r aseswyr gwrdd â'r 15 o aelodau staff a'r defnyddwyr gwasanaeth a chlywed yn uniongyrchol am yr hyn a wnaeth y tîm i helpu rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymuned i ganfod cyflogaeth, datblygu sgiliau a chyflawni llwyddiannau mawr.

 

Disgwylir adroddiad llawn gan Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Chwefror, a disgwylir iddo ganmol yr awdurdod fel enghraifft o arfer gorau a chydnabod ei fod yn mynd y tu hwnt i'w gyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol i gyflwyno'r gorau ac gyfer ei gymunedau a'i staff.

 

b)           Cleddyf Dacre – Sgwadron Cadetiaid Awyr 215 (Dinas Abertawe)

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y cyngor fod yr awdurdod wedi dyfarnu rhyddid y ddinas i Sgwadron Cadetiaid Awyr 215 (Dinas Abertawe).  Dywedodd ei fod yn falch o longyfarch Kathryn Rhiannon Flower am gael ei gwobrwyo â Chleddyf Dacre yn ddiweddar.  Rhoddir Cleddyf Dacre unwaith y flwyddyn i'r cadlanc gorau yn y DU.

 

Dyma bedwerydd tro'r sgwadron i dderbyn y wobr sy'n rhywbeth newydd ar gyfer sgwadronau yng Nghymru, ac unwaith yn unig y mae hyn wedi digwydd yn rhywle arall yn y DU.

 

c)            Tanya Nash – Arweinydd Tîm Datblygu Cynaliadwy

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Tanya Nash (Arweinydd Tîm Datblygu Cynaliadwy) yn gadael yr awdurdod yfory ar ôl 17 mlynedd o wasanaeth.  Yn ystod yr 17 o flynyddoedd hynny, mae wedi helpu i godi proffil yr awdurdod fel yr awdurdod cyhoeddus arweiniol ar gynaladwyedd.

 

Ar ran yr awdurdod, diolchodd i Tanya am ei holl ymdrechion dros y blynyddoedd gan ddymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol yn ei rôl newydd fel Pennaeth Perfformiad yn swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

122.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)        Morlyn Llanw - y diweddaraf

 

Rhoddwyd y diweddaraf gan Arweinydd y cyngor ar statws presennol y Morlyn Llanw.

 

2)         Caffael Gweithredwr Arena

 

Rhoddwyd y diweddaraf gan Arweinydd y cyngor ar gaffael gweithredwr arena.

123.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)            Gofynnodd Lis Davies i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 129, Cwestiynau 'Cynghorwyr' - Cwestiwn 9".

 

Nid oes unrhyw sôn yn yr adroddiad am Glôs Edgemoor, Cilâ Uchaf.  Nid yw preswylwyr sydd wedi byw yn yr eiddo am dros 45 mlynedd erioed wedi cael ceginau neu ystafelloedd ymolchi newydd.  Maent hefyd yn gorfod defnyddio hen systemau gwres canolog nwy nad ydynt yn rhoi dŵr twym iddynt yn syth ac nid ydynt yn addas at y diben.

 

a)            Pam mae preswylwyr Clôs Edgemoor yn cael eu diystyru dros denantiaid eraill mewn ardaloedd eraill yn Abertawe sydd eisoes wedi elwa o welliannau cartref sylfaenol iawn?

 

b)            Fyddai Aelod y Cabinet yn fodlon cwrdd â dau denant y cyngor er mwyn trafod y mater hwn ymhellach?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Dyfodol y byddai'n llunio ymateb ysgrifenedig ac y byddai'n fodlon cwrdd â dau breswylydd o Gilâ Uchaf

124.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

125.

Mabwysiadu Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn flynyddol p'un ai i ddiwygio neu newid Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad i naill ai fabwysiadu cynllun newydd neu ail-fabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2017.  Gofynnwyd hefyd iddo ail-fabwysiadu'r cynllun presennol fel a nodir yn Adran 3 yr adroddiad ar gyfer 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol

 

1)            Dylid nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd;

 

2)            Dylid nodi'r newidiadau arfaethedig i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor drafft (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diffygiadau) (Cymru) 2017, i'w hystyried a'u cymeradwyo gan CCC ar 17 Ionawr 2017;

 

3)            Dylid nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Rhagfyr 2014 ar feysydd disgresiwn y cynllun presennol;

 

4)            Sicrhau bod y cynllun presennol (2016-2017) o ran y meysydd disgresiwn (fel a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad) yn aros yn ddigyfnewid ar gyfer 2017-2018.

 

5)        Bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad a bod unrhyw newidiadau i'r rheoliadau gan CCC yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun.

126.

Adolygu Polisi Effaith Gronnol Canol y Ddinas. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Adfywio a Datblygu adroddiad a oedd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r Polisi Effaith Gynyddol/Polisi Arbennig sydd yn Natganiad Polisi Trwyddedu'r cyngor.

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

1)            Ystyried yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i'r Polisi Effaith Gronnol/Polisi Arbennig a bod y newidiadau arfaethedig yn cael eu cymeradwyo a bod y polisi diwygiedig yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu.

127.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar lafar rai newidiadau ychwanegol hwyr i aelodaeth pwyllgorau.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu

Tynnu enw’r Cynghorydd N M Woollard.

Ychwanegu enw’r Cynghorydd M B Lewis.

 

2)            Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw’r Cynghorydd P M Meara.

Ychwanegu enw’r Cynghorydd C A Holley.

128.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 19 Mai 2015 - 18 Mai 2016. pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er gwybodaeth a oedd yn amlinellu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod 19 Mai 2015 i 18 Mai 2016.  Amlinellodd yr adroddiad waith craffu'r cyfnod hwnnw.

129.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd (11) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Mae'r cwestiynau atodol sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig yn cael eu rhestru isod:

 

Cwestiwn 4

 

Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

 

"A wnaiff yr Aelod Cabinet dros Addysg rannu canlyniadau PISA a wahanwyd ar gyfer Abertawe y cyfeiriodd atynt yn awr?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg y byddai'n dosbarthu'r canlyniadau PISA a wahanwyd ar gyfer Abertawe.

 

Cwestiwn 9

 

Y Cynghorydd E W Fitzgerald:

 

A wnaiff Aelod y Cabinet ddarparu rhestr o'r gwaith arfaethedig i foderneiddio stoc tai'r cyngor ym Mhenllergaer oherwydd bod preswylwyr y cyngor yno'n credu eu bod yn mynd i gael ystafelloedd ymolchi newydd eleni?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y byddai'n llunio ymateb ysgrifenedig.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.