Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

103.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)            Datganodd y Cynghorydd S M Jones a T M White fudd personol yng Nghofnod 114 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 2";

 

2)            Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw fudd personol yng Nghofnod 114 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 3", gan nodi ei bod wedi cael esgusodeb gan y Pwyllgor Safonau;

 

3)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, S E Crouch, R Francis-Davies, A S Lewis, P Lloyd, P M Meara, C L Philpott, C Richards a L V Walton fudd personol yng Nghofnod 115 "Rhybudd o Gynnig".

 

Swyddogion

 

1)           Datganodd C Sivers fudd personol yng Nghofnod 115 “Rhybudd o Gynnig”.

104.

Cofnodion. pdf eicon PDF 101 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi'r cofnodion canlynol fel cofnod cywir, yn amodol ar Gofnod 86 "Datgeliadau o Fuddiannau personol a rhagfarnol" 2) yn cael ei ddiwygio i gynnwys y Cynghorydd L V Walton, nid L V Walker:

 

1)            Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2016.

105.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

106.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)            Y Cynghorydd A Mike Day - Salwch Chris Day (gwraig)

 

Nododd yr Aelod Llywyddol ei fod wedi derbyn neges gan y Cynghorydd Mike Day yn diolch iddynt oll am eu dymuniadau da yn ystod salwch diweddar ei wraig.  Roedd y Cynghorydd Day yn falch o ddatgan bod Chris yn gwneud cynnydd araf ond cyson, yn dilyn llawdriniaeth hir. Ni fydd y Cynghorydd Day yn anfon cardiau Nadolig; bydd y rhoi cyfraniad i gefnogi ymchwil canser pancreatig yn lle.  Mae'r Cynghorydd Day a Chris yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac mae'n edrych ymlaen at eich gweld ym mis Ionawr.

 

2)            Gwellhad buan a dymuniadau gorau i'r holl Gynghorwyr

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol wellhad buan i Chris, a dymunodd yn dda i'r Cynghorwyr, Swyddogion a'u teuluoedd.

 

3)         Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Peter May – Gradd Meistr

 

Gwnaeth yr Aelod Llywyddol longyfarch y Cynghorydd Peter N May ar ôl iddo ennill ei Radd Meistr mewn Arfer Addysgol yn ddiweddar.

 

3)            Pluen Eira - Gwobr i Ddarparwyr Gofal Plant Cofrestredig

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod y Gystadleuaeth Pluen Eira, a sefydlwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, wedi'i lansio ym mis Hydref 2016.  Mae'n cyfuno sawl agwedd ar waith y GGD ac ymgyrch Dechrau Gorau Abertawe o ran meithrin datblygiad a chyrhaeddiad ein plant sy'n cael gofal plant cofrestredig yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Mae'r awdurdod yn cydnabod bod ganddo weithlu gofal plant cofrestredig cymwys y mae eu gwybodaeth a'u sgiliau'n hanfodol i gefnogi gofal a datblygiad cyfannol plant.  Mae'r gweithlu hwn yn sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed a'u bod yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar eu gofal plant.

 

Mae'r Nadolig hefyd yn adeg arbennig i bawb ac yn enwedig i'r sector gofal plant, felly mae'r Wobr Pluen Eira'n dathlu cyflawniadau staff a phlant yn dod ynghyd i greu arddangosfa dymhorol o ansawdd.

 

Beirniadwyd yr arddangosfeydd yn ôl y meini prawf canlynol:

 

i)             Tystiolaeth o blant yn cymryd rhan yn y penderfyniadau a wnaed am thema'r arddangosfa;

ii)            Tystiolaeth o blant yn cael eu cynnwys wrth greu'r arddangosfa;

iii)           Wedi'i gwneud o unrhyw gyfrwng gan roi ystyriaeth briodol i'r adnoddau a ddefnyddiwyd a ddylai fod yn rhad neu am ddim e.e. gwastraff ailgylchadwy.

 

Rhennir y Wobr Pluen Eira yn 3 chategori:

 

Ø    Gwarchodwyr plant

Ø    Meithrinfeydd Dydd, Gofal Sesiynol, Canolfannau Plant a Theuluoedd

Ø    Gofal y tu allan i'r ysgol

 

Yr enillwyr oedd:

 

i)             Gwarchodwr Plant - Jennifer Light (Treboeth);

 

ii)            Meithrinfa Ddydd, Gofal Sesiynol, Canolfannau Plant a Theuluoedd - Meithrinfa Ddydd Forge Fach, Clydach;

 

iii)           Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol - Clwb ar ôl ysgol Sunshine, Canolfan Blant Abertawe, Penlan.

 

Gwnaeth longyfarch enillwyr y Gwobrau Pluen Eira, ac roedd pob un ohonynt yn bresennol i dderbyn eu gwobrau.

107.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Y Cynghorwyr W Evans a V M Evans - Gwellhad Buan

 

Dymunodd Arweinydd y Cyngor wellhad buan i'r Cynghorwyr W Evans a V M Evans.

 

2)            Sonia Hansford - Ymddeoliad

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr wrthblaid fwyaf i Sonia Hansford (CP i Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor) am ei 42 flynedd o wasanaeth ffyddlon i'r awdurdod, gan ddymuno ymddeoliad hir ac iach iddi.

 

3)            Digwyddiad Siwmperi Nadolig

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Aelod Llywyddol a'r Dirprwy Aelod Llywyddol am drefnu a darparu'r lluniaeth ar gyfer y digwyddiad siwmperi, teis, ffrogiau, crysau a sgertiau Nadoligaidd cyn cyfarfod y cyngor a drefnwyd er mwyn codi arian ar gyfer pobl ddigartref y ddinas.

 

4)            Dileu Ffioedd Claddu Plant

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cabinet wedi cytuno, yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2016, i gynnwys ymrwymiad cyllidebol i ddileu ffioedd claddu plant fel rhan o'r gyllideb sydd ar ddod. Anogodd yr holl Gynghorwyr i gefnogi'r mesur hwn.

 

5)            Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf ar gynnydd y Fargen Ddinesig.

 

6)            Y Cynghorydd Elliott J King - Priodas

 

Dymunodd Arweinydd y Cyngor y gorau i'r Cynghorydd Elliot J King ar gyfer ei briodas sydd ar ddod â Richard Clatworthy ar 19 Rhagfyr 2016.

108.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd unrhyw gwestiwn yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

109.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

110.

Adroddiad ar Bartneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Abertawe. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

111.

Eitem Frys

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylai'r "Adroddiad Cynnydd Blynyddol - Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe" gael ei ystyried fel mater o frys.

112.

Children and Young People's Rights Scheme in Swansea - Annual Progress Report

Cofnodion:

Rheswm am y Brys: Roedd gwall gweinyddol ar Wŷs y cyngor, ac felly nid oedd yr "Adroddiad Cynnydd Blynyddol - Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe" wedi'i gynnwys yng Ngwŷs wreiddiol y Cyngor. Canfuwyd y gwall ar 12 Rhagfyr 2016 a chafodd yr adroddiad ei gyhoeddi a'i ddosbarthu i'r holl gynghorwyr ar y diwrnod hwnnw.

 

Nid yw hwn yn adroddiad gwneud penderfyniadau; mae'n gofyn i'r cyngor nodi cynnydd yn unig. Gan ystyried bod nifer o bobl ifanc wedi cael eu gwahodd i roi cyflwyniad i'r cyngor, derbyniwyd y dylid ystyried yr adroddiad hwn fel mater brys.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc adroddiad a oedd yn cyflwyno cynnydd blynyddol y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc sydd ar waith yn Abertawe.

 

Ym mis Medi 2013, cytunodd y cyngor i greu dyletswydd sylw priodol a chynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) 1989 yn Fframwaith Polisi'r Awdurdod, a hyrwyddo ymagweddau cadarnhaol at hawliau plant a phobl ifanc fel rhan o bolisi a swyddogaethau Dinas a Sir Abertawe. Mae'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn rhoi'r penderfyniad hwn ar waith, a chafodd ei fabwysiadu'n ffurfiol ar 21 Hydref 2014.

 

Rhoddodd disgyblion a oedd yn cynrychioli Ysgol Gyfun Pentrehafod (Sumaiya Hoque, Leila-May Simon, Sumaiya Choudhury, Maddison Williams, Callum Green, Finley Simon, Tomos Hopkins, Sean Huxtable a Jessica Mogridge) gyflwyniad am y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe:

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi Cynllun a Chynllun Gweithredu'r Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc.

113.

Rheoli'r Drysorfa - Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn 2016/17. pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth adroddiad gwybodaeth a amlinellodd Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn Rheoli’r Drysorfa 2016-17.

114.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau atodol a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.

115.

Rhybudd o Gynnig - y Cynghorwyr C E Lloyd, J A Hale, A S Lewis, R Francis-Davies, J A Raynor a J E C Harris.

Mae'r cyngor hwn yn galw ar y Llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran pensiwn y wladwriaeth i'r holl fenywod a anwyd ar 6 Ebrill 1951, neu ar ôl hynny, sydd wedi gorfod dygymod â'r codiad annheg yn OEDRAN PENSIWN y wladwriaeth heb unrhyw rybudd o gwbl. Galwn ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i bwysleisio barn y cyngor ar y mater pwysig hwn.

Cofnodion:

Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd C E Lloyd ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd C Richards.

 

Mae'r cyngor hwn yn galw ar y Llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran pensiwn y wladwriaeth i'r holl fenywod a anwyd ar 6 Ebrill 1951, neu ar ôl hynny, sydd, yn annheg, wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn OEDRAN PENSIWN y wladwriaeth heb unrhyw rybudd o gwbl. Galwn ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i bwysleisio barn y cyngor ar y mater pwysig hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig fel yr amlinellir uchod.