Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

86.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)            Datganodd C Anderson, J A Hale, T J Hennegan a G D Walker fudd personol yng nghofnod 93 "Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân";

 

2)            Datganodd y cynghorwyr C Anderson, J C Bayliss, P M Black, J E Burtonshaw, R A Clay, U C Clay, A C S Colburn, D W Cole, A M Cook, S E Crouch, N J Davies, P Downing, C R Doyle, W Evans, E W Fitzgerald, F M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, Y V Jardine, A J Jones, J W Jones, M H Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, D J Lewis, M B Lewis, R D Lewis, C E Lloyd, K E Marsh, P M Matthews, P N May, P M Meara, H M Morris, G Owens, D Phillips, C L Philpott, J A Raynor, T H Rees, I M Richard, C Richards, P B Smith, R V Smith, R J Stanton, R C Stewart, D G Sullivan, C Thomas, C M R W D Thomas, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walker a T M White fudd personol yng nghofnod 97 "Adroddiad Blynyddol Drafft 2017-2018, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – 2017-2018 Ymgynghoriad";

 

3)            Datganodd y cynghorwyr C Anderson, J C Bayliss, P M Black, J E Burtonshaw, R A Clay, U C Clay, A C S Colburn, D W Cole, A M Cook, S E Crouch, N J Davies, P Downing, C R Doyle, W Evans, E W Fitzgerald, F M Gordon, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, Y V Jardine, A J Jones, J W Jones, M H Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, D J Lewis, M B Lewis, R D Lewis, C E Lloyd, K E Marsh, P M Matthews, P N May, P M Meara, H M Morris, G Owens, D Phillips, C L Philpott, J A Raynor, T H Rees, I M Richard, C Richards, P B Smith, R V Smith, R J Stanton, R C Stewart, D G Sullivan, C Thomas, C M R W D Thomas, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walker a T M White fudd personol yng nghofnod 98 "Lwfansau band eang a ffôn, TGCh a ffonau symudol Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt".

 

4)            Datganodd y cynghorwyr J W Jones, M H Jones, R D Lewis, K E Marsh, P M Meara, J A Raynor a C Thomas fudd personol yng nghofnod 101 "Cwestiynau'r Cynghorwyr".

87.

Cofnodion. pdf eicon PDF 55 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir yn amodol ar ychwanegu'r cynghorydd L V Walton at restr yr ymddiheuriadau am absenoldeb:

 

1) Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016.

88.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

89.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)        Cydymdeimladau

 

a)            Y cyn-gynghorydd David Raymond (Ray) Beech

 

Cyfeiriodd yr aelod llywyddu at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd Ray Beech. Datganodd fod y cyn-gynghorydd Beech wedi gwasanaethu ward etholiadol Canol Gorseinon yr hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw.

 

Cododd pawb a oedd yn bresennol i nodi eu cydymdeimlad a'u parch.

90.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)        Cefnogaeth ar gyfer y Fargen Ddinesig

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y gefnogaeth a dderbyniwyd ar gyfer y Fargen Ddinesig gan Ganghellor y Trysorlys yn ystod datganiad y Gyllideb ym mis Tachwedd.  Dywedodd yr oedd hyn yn cyd-fynd â'r gefnogaeth a roddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru.  Amcangyfrifir y gallai'r Fargen Ddinesig fod yn werth £1.3 biliwn i'r economi ranbarthol.

 

2)      Siop dan yr Unto ar gyfer Cam-drin yn y Cartref

 

Atgoffwyd cynghorwyr gan Arweinydd y Cyngor fod Siop dan yr Unto ar gyfer Cam-drin yn y Cartref Abertawe wedi trefnu diwrnod agored ddydd Gwener, 25 Tachwedd 2016.  Dywedodd fod y siop ar Stryd Singleton.  Ceir rhagor o wybodaeth am y siop yn http://swanseawomenscentre.co.uk/2015/blog/domestic-abuse-one-stop-shop

 

 

3)        Sefydliad Addysgiadol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) – Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd Dysgu

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd C E Lloyd wedi dychwelyd yn ddiweddar o Tsieina ar ôl bod i gynhadledd Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd Dysgu UNESCO.  Dywedodd fod Dinas a Sir Abertawe wedi arwain yn y fenter Dinas Ddeallus.

91.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd unrhyw gwestiwn yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

92.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

93.

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Chris Davies (Prif Swyddog Tân) ar waith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Gofynnwyd sawl cwestiwn i'r Prif Swyddog Tân.

 

Rhoddwyd diolch am y cyflwyniad gan y cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor.

94.

Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru. pdf eicon PDF 254 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Steve Barry, Swyddfa Archwilio Cymru, yn amlinellu Adroddiad Gwella Blynyddol Abertawe 2015-2016 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Diolchwyd i Steve Barry am ddod i'r cyfarfod ac am ateb cwestiynau gan Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)           Derbyn a nodi Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2015-2016;

 

2)        Nodi’r camau gweithredu a gymerwyd eisoes a’r rhai arfaethedig er mwyn mynd i'r afael â’r meysydd gwelliant fel rhan o broses gwella perfformiad y cyngor.

95.

Strategaeth Mwy o Dai'r Cyngor pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf adroddiad a oedd yn ceisio sefydlu strategaeth ar gyfer darparu mwy o dai cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i’w rhoi ar waith.

96.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2017/18 pdf eicon PDF 23 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifiad Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Chynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2017-2018.  Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2017/2018 erbyn 31 Rhagfyr 2016.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)     Cymeradwyo cyfrifo Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2017/2018;

 

2)   Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru), fel y'u diwygiwyd, mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyfrifo'r canlynol ar gyfer y flwyddyn 2017-2018:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

89,465

 

 

 

Ar gyfer ardaloedd cynghorau cymuned:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,965

 

Clydach

2,603

 

Gorseinon

3,136

 

Tregŵyr

1,944

 

Pengelli

407

 

Llanilltud Gŵyr

319

 

Cilâ

2,074

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

488

 

Llangyfelach

946

 

Llanrhidian Uchaf

1,581

 

Llanrhidian Isaf

332

 

Llwchwr

3,385

 

Mawr

733

 

Y Mwmbwls

9,623

 

Penllergaer

1,360

 

Pennard

1,456

 

Penrhys

410

 

Pontarddulais

2,277

 

Pontlliw a Thircoed

1,028

 

Porth Einon

427

 

Reynoldston

289

 

Rhosili

187

 

Y Crwys

715

 

Cilâ Uchaf

566

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

62,254

 

97.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2017-2018 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn hysbysu'r cyngor o Drafft Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2017-2018 ac amlinellodd benderfyniadau arfaethedig yr IRPW.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft i'r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        Mabwysiadu’r sylwadau a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb yr awdurdod i ymgynghoriad yr IRPW mewn perthynas â'i Drafft Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2017-2018.

98.

Lwfansau Band Eang, Ffonau, TGCh a Ffonau Symudol i Gynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt. pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Trawsnewid adroddiad a oedd yn adolygu'r polisi "TGCh Cynghorwyr - mis Mai 2012 a'r tu hwnt", gan sicrhau felly fod pob cynghorydd yn derbyn darpariaeth TGCh sy'n addas ar gyfer ei anghenion, ac sy'n cydymffurfio â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW).

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at baragraff 3.1 yr adroddiad a dywedodd fod yr IRPW wedi cadarnhau ei fod yn briodol i gynnig tâl cefnogi i gynrychiolydd cyngor cymuned/tref y pwyllgor safonau.

 

Yn dilyn trafodaeth, newidiwyd sawl paragraff yn Atodiad A yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Parhau â'r trefniadau presennol o ran cynghorwyr yn prynu eu hoffer TGCh eu hunain;

 

2)            Nodi bod angen mynediad i Office 365 er mwyn galluogi technoleg y cwmwl i gael system rhannu gwybodaeth fwy diogel a chadarn, yn amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus;

 

3)            Nodi lwfans TGCh y cynghorwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

4)            Nodi lwfans band eang a ffôn y cynghorwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

5)            Nodi lwfans ffôn symudol y cynghorwyr fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

6)            Nodi cynnwys yr adran sy'n ymwneud â hunanwasanaeth i gynghorwyr;

 

7)            Cymeradwyo'r lwfans TGCh a'r lwfans band eang a ffôn arfaethedig i aelodau cyfetholedig

 

8)            Nodi penderfyniad y cyngor y dylai holl agendâu ac adroddiadau craffu etc. ddefnyddio meddalwedd Modern.gov erbyn mis Mai 2017;

 

9)            Anfon adroddiad diwygiedig i'r Cabinet gydag argymhellion y cyngor.

 

Sylwer: Gofynnodd y cynghorydd D Phillips y cwestiwn canlynol:

 

"Awgrymodd yr IRPW fod angen cefnogaeth ddigonol ar gynghorwyr gan yr awdurdod er mwyn iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau sy'n cynnwys cyfleusterau ffôn ac e-byst a mynediad electronig. Yn unol â'r egwyddor hon, dylai'r awdurdod geisio trafod trefniad â CThEM lle byddai aelodau'n talu treth ar sail lefel defnydd personol y cytunwyd arni yn hytrach nag ar y lwfans llawn."

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu yn dilyn trafodaethau â CThEM.

99.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu

Tynnu enw'r cynghorydd J C Bayliss.

Ychwanegu'r cynghorydd P M Matthews.

100.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio diwygio Cyfansoddiad y Cyngor at ddiben ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

1)            Rhan 4 – Rheolau Gweithdrefnau Ariannol;

 

Yn dilyn trafodaeth, newidiwyd y diwygiad a restrwyd yn yr adroddiad ychydig er mwyn egluro y byddai'n rhaid i’r tri a restrir awdurdodi dileu dyledion dros £10,000.

 

PENDERFYNWYD y dylid dileu Rheol Gweithdrefn Ariannol 11.6 a rhoi’r canlynol yn ei lle:

 

“Mae'n rhaid dileu dyledion na ellir eu hadennill.  Mae'n rhaid i'r Prif Swyddog Cyllid gymeradwyo  pob dyled i’w ddileu hyd at £10,000. Gall dyledion dros £10,000 gael eu dileu gyda chymeradwyaeth y Prif Swyddog Cyllid, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth perthnasol”.

101.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau atodol a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.

102.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.