Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

73.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)            Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw fudd personol yng Nghofnod 80 “Datganiad Cyllideb Canol Tymor 2016/17”;

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M C Child, C A Holley, P M Meara a M Thomas fudd personol yng Nghofnod 82 “Adroddiad Blynyddol 2015/16 -Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”;

 

3)            Datganodd y Cynghorydd A S Lewis fudd personol yng Nghofnod 83 "Aelodaeth Pwyllgorau";

 

4)            Datganodd M Thomas fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 83 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 8" a  gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

5)            Datganodd y Cynghorydd C L Philpott fudd personol yng Nghofnod 85 "Hysbysiad o Gynnig".

 

Swyddogion

 

1)            Datganodd Phil Roberts (Prif Weithredwr) fudd personol yng nghofnod 82 “Adroddiad Blynyddol 2015/16 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”.

74.

Cofnodion. pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016.

75.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

76.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

Llongyfarchiadau

 

a)            Gwobrau Gwaith Cymdeithasol Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) Cymru 2016

 

Roedd yr aelod llywyddu'n falch iawn o gyhoeddi y bu nifer o swyddogion y cyngor yn llwyddiannus yng Ngwobrau Gwaith Cymdeithasol BASW Cymru 2016.  Mae'r gwobrau poblogaidd hyn sydd bellach yn eu 7fed blwyddyn yn agored i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru; p'un ai ydynt yn aelodau BASW neu beidio.  Mae Gwobrau Gwaith Cymdeithasol BASW Cymru'n ceisio hyrwyddo agweddau cadarnhaol ar y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol, arfer gwaith cymdeithasol a sefydliadau cefnogol.

 

Enillodd Vanessa Chambers y Wobr Ysbryd Gwaith Cymdeithasol ar gyfer yr arweiniad "I am me" a ddatblygwyd ganddi sy'n ymwneud ag arwain plant i ddeall eu taith drwy fywyd.

 

Derbyniodd Dîm Maethu Abertawe Dystysgrif Cyflawniad ar gyfer y Wobr Tîm Gwaith Cymdeithasol.

 

Roedd Vanessa Chambers, Amanda Etherington, Martin Chapman a Thîm Maethu Abertawe'n bresennol i dderbyn eu gwobrau.

77.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Ymweliad Masnach â Tsieina

 

Nododd arweinydd y cyngor fod yntau, yr Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres wedi bod ar ymweliad masnach ddiweddar â Tsieina.  Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau â Shanghai, Nantong a Wuhan.  Nododd fod yr ymweliadau masnach wedi bod yn werth chweil ac y byddai ymweliadau gan gynrychiolwyr o Tsieina'n digwydd yn y flwyddyn newydd.

 

2)            Tân yng Nghampws Tŷ Coch, Coleg Gŵyr Abertawe

 

Diolchodd arweinydd y cyngor i swyddogion y cyngor am eu gwaith gwych wrth gynorthwyo Coleg Gŵyr Abertawe yn dilyn y tân diweddar ar eu campws yn Nhŷ Coch.

 

3)            Bargen Ddinesig

 

Rhoddodd arweinydd y Cyngor y diweddaraf am y Fargen Ddinesig.

78.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)        Gofynnodd David Davies gwestiwn i Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc yn ymwneud â Chofnod 82 “Adroddiad Blynyddol 2015/16 – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”:

 

i)             Tudalen 69 "Dinas sy'n Gofalu", Paragraff 2.

 

"Mae'n arbennig o bleserus i ddarllen y geiriau bod ein dinas yn cael ei chydnabod fel rhywle llawn gobaith, sy'n noddfa o gasineb neu erledigaeth. Ers Prydael, mae troseddau casineb wedi cynyddu, wedi'u hannog gan iaith gwleidyddion sy'n hyrwyddo eu hideoleg ddiegwyddor eu hunain.  Rwyf wedi bod yn dyst i ddau achos o hiliaeth eithafol yr wyf yn mynd ar eu trywydd.  Mae'r teimladau a ddaw o Stori Abertawe yn ysbrydoliaeth.

 

A allai'r Uwch-swyddogion a'r Aelodau Cabinet sy'n gyfrifol, gael eu cydnabod fel enghreifftiau o'r hyn sy'n dda yn ein cymdeithas heddiw, ac a fydd modd datgelu pwy ydyn nhw yn ein cyfarfod nesaf?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc y byddai datganiad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

79.

Cyflwyniad Cyhoeddus - CREST.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

80.

Datganiad Cyllideb Tymor Canolig 2016/17. pdf eicon PDF 277 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad  a oedd yn amlinellu perfformiad ariannol y flwyddyn gyfredol ynghyd ag asesiad wedi'i ddiweddaru o'r gofynion arbedion sy'n debygol dros gyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Rhoddodd Arweinydd y cyngor ei ymateb i'r datganiad ar ffurf cyflwyniad i'r cyngor.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            odi'r sylwadau a wnaed yn yr adroddiad a mabwysiadu'r rhagolwg adnoddau diwygiedig a'r rhagolwg o bwysau gwario o ran cynllunio'r gyllideb yn y dyfodol;

 

2)            Nodi'r rhagolwg ariannol o ran y flwyddyn gyfredol a'r camau gweithredu y bydd eu hangen er mwyn symud tuag at gymeradwyo alldro refeniw mwy cytbwys ar gyfer 2015-2016.

 

3)            Nodi'r sylwadau am y cyllid ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf a amlinellir yn yr adroddiad, a pharhau i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol drwy bolisi sy'n cwmpasu'r holl asedau sy'n cael eu gwerthu.

81.

Adolygiad o'r Cronfeydd Cyllid Wrth Gefn a'r Polisi Cronfeydd Wrh Gefn. pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo ailddosbarthu'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd:

 

Categori'r Gronfa Wrth Gefn a Glustnodwyd

Gweddill

Cyfredol

31/3/15

£’000

Newid

Arfaethedig

 

£’000

Sefyllfa

Argymelledig

 

£’000

 

 

 

 

Technegol/Trydydd Parti

1,027

0

1,027

Yswiriant

14,092

0

14,092

Gwerthuso swyddi

0

2,500

2,500

Trawsnewidiad ac effeithiolrwydd

2,292                                

0

2,292                                  

Cronfeydd wrth gefn dirprwyedig ysgolion

9,547

0

9,547

Cronfeydd wrth gefn cyfartalu

52

0

52

Symiau gohiriedig

5,122

0

5,122

Cronfeydd atgyweirio ac adnewyddu

2,935

0

2,935

Cyfran yr elw o eiddo a werthwyd

1,121

0

1,121

Cronfeydd wrth gefn y gwasanaeth a glustnodwyd

4,840

 

4,840

Cronfeydd cyfalaf wrth gefn

5,496

0

5,496

Cronfa wrth gefn costau ailstrwythuro

9,497

-2,500

6,997

 

 

 

 

Cyfanswm y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd

56,021

0

56,021

 

82.

Adroddiad Blynyddol 2015/16 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-2016 er gwybodaeth.

83.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar lafar rai newidiadau ychwanegol hwyr i aelodaeth pwyllgorau.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau canlynol i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod:

 

1)            Cytundeb rhwng Awdurdodau ar gyfer Gwastraff Bwyd

Tynnu enw'r Cynghorydd M C Child;

Ychwanegu'r Cynghorydd A S Lewis.

 

PENDERFYNWYD diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu

Tynnu enwau'r Cynghorwyr P M Matthews a G J Tanner.

Ychwanegu'r Cynghorwyr J C Bayliss ac N M Woollard.

 

2)            Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol

Tynnu enwau'r Cynghorwyr C R Doyle a J A Hale.

Ychwanegu'r Cynghorwyr J C Bayliss ac E T Kirchner.

 

3)            Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Tynnu enwau'r Cynghorwyr V M Evans, B Hopkins a P B Smith.

Ychwanegu'r Cynghorwyr J C Bayliss, N M Woollard a Swydd Wag Grŵp Annibynnol.

 

4)            Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu enw'r Cynghorydd D J Lewis.

Ychwanegu Swydd Wag Grŵp Annibynnol.

84.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

Cwestiwn 1

 

a)            Gofynnodd y Cynghorydd M. H. Jones y canlynol:

 

i)             "Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Ryngwladol Abertawe.  A yw'r toriadau ariannol wedi cael unrhyw effaith andwyol?"

 

ii)            "Allwch chi esbonio pam rydym yn talu £31,500 ar gyfer Arddangosfa Dylan Thomas, sy'n rhaglen a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a £143,000 ar gyfer Canolfan Dylan Thomas?"

 

iii)           "Mae Abertawe'n aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop.  Beth yw'r costau sy'n gysylltiedig â hyn a pha fudd a ddaw ohono i Abertawe?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

b)           Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

 

i)             "Pam y mae naid fawr yn y cyllid ar gyfer Neuadd Brangwyn pan fo'r rhaglen gerddoriaeth wedi'i therfynu?"

 

ii)            Pam y bu cynnydd yn y cyllid ar gyfer Canolfan Dylan Thomas pan ariennir yr arddangosfa ar wahân gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 6

 

Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones,

 

"A yw'r arian a fenthycir yn cael ei gronni er mwyn ei ddefnyddio yn y dyfodol?  Ar gyfer beth y defnyddir y benthyciad hwn?”

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

 

Cwestiwn 7

 

Gofynnodd y Cynghorydd I M Richards:

 

"Mewn cyfarfod â'r gymuned yn ddiweddar iawn, nododd pedwar o uwch-reolwyr prosiect INNOGY y byddai'r prosiect (os caiff ei gyflawni o gwbl) yn 33.6 MW ac nid fel yr oeddent bob amser wedi dweud yn flaenorol sef 48MW (er ei fod yn dweud 32MW i 48MW ym mhrint mân cudd y Cais Cynllunio).

 

Gofynnaf am eglurhad a'r ffigurau gwirioneddol; nid hen ffigurau:

 

Dylai'r ffigur manwl gywir terfynol yn yr ateb i'r cyngor adlewyrchu'r ffigur gallu gwirioneddol a bennwyd yn awr sef 33.6MW.

 

Yn y cyfarfod cymunedol diweddar hwn, derbyniodd INNOGY hefyd, heb anghytuno, y byddai allbwn cyfartalog Mynydd y Gwair bellach yn 8MW yn unig.

 

Cadarnhaodd INNOGY hefyd y byddai gostwng y gallu cynhyrchu o 48MW i 33.6MW yn lleihau'r Gronfa Gymunedol o £240,000 i £168,000 y flwyddyn. (£72,000 yn llai!).

 

Nawr ceir y darn cymhleth, sy'n cael ei 'newid' gan yr holl gynhyrchwyr Ynni Adnewyddadwy, sef y ffaith fod ganddynt Gontractau Tystysgrif Rhwymo i Ynni Adnewyddadwy. Mae hyn yn golygu bod y Grid Cenedlaethol Pŵer Trydan yn gorfod derbyn y cyfan maent yn ei gynhyrchu. Mae eu hallbynnau'n amrywio drwy'r amser oherwydd amodau gwynt a haul anwadal ac nid oes modd eu rhagweld yn union.  Felly, yn syml, mae'r rhaid i ffynonellau pŵer eraill "ildio", a pho fwyaf y ffynonellau ynni adnewyddadwy y cawn, mwyaf cymhleth yw'r sefyllfa. Mae gweithrediad pŵer glo yn rhy araf i ildio. Mae ynni niwclear yn rhy anniogel i'w drin yn ddi-hid, felly ni all ildio.  Felly, pŵer nwy sy'n ildio am ei fod yn gallu ymateb yn gyflym i alw ac ymateb yn gyflym wrth gynyddu neu leihau pŵer.

 

Mae'r grid yn gynhwysor cymhleth iawn. Yn y chwe degau pan fûm yn gweithio yng Nghwmni Dur Cymru (SCOW), byddem o bryd i'w gilydd yn cael galwadau ffôn brys gan y Grid Cenedlaethol i atal ein melin oeri a rholio dur  i ganiatáu i'r Grid gynnal llif yn ystod argyfwng pŵer. Yr enw ar hyn oedd colli llwyth.  Roedd yr un felin hon yn defnyddio'r un faint o ynni a thref ddomestig maint Castell-nedd, a byddai SCOW yn derbyn iawndal.  Nawr mae ganddynt "ynni troelli wrth gefn”, cronfa wrth gefn wastraffus a chostus.

 

Felly beth gaiff ei wneud; maen nhw'n arafu'r mewnbwn hawsaf ei reoli - pŵer nwy i ganiatáu derbyn y rhai adnewyddiadau dan eu contractau rhwymo.  Y darn cymhleth yw bod y Datblygwyr Adnewyddadwy ar lefelau presennol eu hallbynnau yn rhoi ystadegau arbedion carbon fel pe baent yn disodli pŵer carbon pur glo (neu'r cymysgedd o bŵer). Mae'r arbedion carbon wedyn yn cael eu chwyddo fel ffigurau camarweiniol. Y gwirionedd yw eu bod yn dadleoli NWY sy'n cynnwys hydrogen yn bennaf a llawer llai o garbon, ac yn cynhyrchu ager yn bennaf ac nid carbon.  Felly roedd fy nghwestiwn yn gofyn am y ffigurau dadleoli carbon gwirioneddol yn ôl gwir sefyllfa'r Grid "sigledig".

 

Mae hyn yn rhywbeth y mae angen ei ddeall. Dyna pam dewisais y "balŵn" fel enghraifft. Dyna pam maen nhw'n nawr yn gobeithio adeiladu Gorsaf Bŵer Nwy rhwng Ward Mawr a Llangyfelach i losgi nwy o Iran a Rwsia drwy Aberdaugleddau i sefydlogi'r grid sigledig fel y daw mwyfwy o dyrbinau gwynt a phaneli solar a llanwau adnewyddadwy i mewn i'r Grid.  Ac eithrio ynni'r llanw mae'r ddau arall yn anwadal ac yn anrhagweladwy - yn y tymor byr neu'r tymor hir.

 

Hefyd wrth roi ystadegau dadleoli carbon, maent bob amser yn eu cymharu â gallu neu uchafswm ynni adnewyddadwy a byth â realiti'r allbynnau cyfartalog gwirioneddol - 25% ar gyfer gwynt a 10% ar gyfer solar ac nid yr anwiredd o 100% ar gyfer y ddau!  Gor-ddweud neu anwiredd enfawr!"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 8

 

Gofynnodd y Cynghorydd M. H. Jones y canlynol:

 

"A all Aelod y Cabinet roi diffiniad syml o "Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.

85.

Rhybudd o gynnig - Cynghorwyr R C Stewart, J E Burtonshaw, C Richards, J P Curtice, D W W Thomas, A S Lewis, J E C Harris, J A Hale, M Thomas, C Anderson, M C Child & R Francis-Davies.

Gwneud y cyfrifiad nesaf ar gyfer ein cymuned Lluoedd Arfog

 

 

Cynnig Drafft i gefnogi Count Them In

 

Mae'r cyngor hwn yn nodi:

 

1.     Y rhwymedigaethau sy'n ddyledus ganddo i gymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe fel a nodwyd yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; sef ni ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais wrth ddarparu gwasanaethau a bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig rheiny sydd wedi rhoi fwyaf.

 

2.     Diffyg ystadegau swyddogol a chynhwysfawr ar faint, neu ddemograffeg cymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys personél rheolaidd a'r rhai wrth gefn, cyn-filwyr, a'u teuluoedd.

 

3.     Bydd argaeledd data o'r fath yn cynorthwyo'r cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol, a Llywodraeth genedlaethol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Yn sgîl yr uchod, mae'r cyngor hwn yn symud i gefnogi a hyrwyddo galwad Y Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys pwnc newydd yng nghyfrifiad 2021 sy'n ymwneud â'r gwasanaeth milwrol ac aelodaeth gymuned y Lluoedd Arfog. Rydym ni hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU, a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau bod cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau ynglŷn â chymuned y Lluoedd Arfog.

 

 

Cofnodion:

Cynigiwyd y cynnig canlynol gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw ac R C Stewart.

 

"Sicrhau bod y cyfrifiad nesaf yn cyfrif ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yma

 

Cynnig i gefnogi ''Count Them In' (Cyfrifwch Nhw)

 

Noda'r cyngor:

 

1.            Ei rwymedigaethau i gymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe fel y'u corfforir yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; na ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais o ran y gwasanaethau a ddarperir a bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi'r mwyaf.

 

2.            Absenoldeb ystadegau penodol a chynhwysfawr am faint neu ddemograffig cymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys personél rheolaidd ac wrth gefn, cyn filwyr a'u teuluoedd.

 

3.            Byddai argaeledd data o'r fath yn cynorthwyo'r cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol a'r Llywodraeth genedlaethol yn fawr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i fynd i'r afael ag anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog yn Ninas a Sir Abertawe.

 

O ystyried yr uchod, mae'r cyngor yn cynnig cefnogi a hyrwyddo galwad y Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys maes newydd yng nghyfrifiad 2012 sy'n ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodaeth cymuned y Lluoedd Arfog. Rydym hefyd yn galw ar Senedd y DU, a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol y cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau bod cyfrifiad 2012 yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog."

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig fel yr amlinellir uchod.