Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J C Bayliss, M C Child, R A Clay, U C Clay, S E Crouch, N J Davies, C R Evans, R Francis-Davies, J A Hale, Y V Jardine, A J Jones, J W Jones, D J Lewis, R D Lewis, P N May, H M Morris, G Owens, J A Raynor, T H Rees, R J Stanton, D G Sullivan, C M R W D Miles, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd ac N M Woollard. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2016 - 2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd R C Stewart, wedi'i eilio gan y
Cynghorydd A S Lewis, y dylid ethol y Cynghorydd David H Hopkins yn Arglwydd
Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016 - 2017. Arwisgwyd y Cynghorydd D H Hopkins â mantell a Chadwyn Swyddogol yr
Arglwydd Faer. Arwisgwyd y Cynghorydd Beverley Hopkins â Chadwyn Swyddogol yr Arglwydd
Faeres. Yna llofnododd yr Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. Bu'r Cynghorydd D H
Hopkins (Arglwydd Faer) yn llywyddu |
|
Anerchiad Agoriadol Yr Arglwydd Faer Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd C A Holley, wedi'i
eilio gan y Cynghorydd C L Philpott, y dylai'r cyngor ddiolch i'r Cynghorydd J
Newbury am ei gyfnod llwyddiannus fel Arglwydd Faer ac i Bernardine Jennings
fel Arglwydd Faeres. Cyflwynodd yr
Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer sy'n ymddeol, y
Cynghorydd J Newbury, ac i'r Arglwydd Faeres sy'n ymddeol, Bernardine Jennings. Mewn ymateb i'r
diolchiadau, diolchodd y Cynghorydd J Newbury i'r cyngor am ei gefnogaeth yn
ystod ei gyfnod yn y swydd. Myfyriodd
hefyd ar ei ddyletswyddau niferus yn ystod ei gyfnod fel Arglwydd Faer. |
|
Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016 - 2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd J E C Harris, wedi'i eilio gan y
Cynghorydd R V Smith, y dylid ethol y Cynghorydd Phil Downing yn Ddirprwy
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016 - 2017. Arwisgwyd y Cynghorydd P Downing â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy
Arglwydd Faer. Arwisgwyd Mrs Lilian Downing â Chadwyn Swyddogol y Dirprwy Arglwydd Faeres. Yna llofnododd y Dirprwy Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. |
|
Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol Cofnodion: PENDERFYNWYD ar gynnig y Cynghorydd C A Holley, wedi'i