Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

197.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M C Child, R A Clay, U C Clay, S E Crouch, N J Davies, C R Evans, F M Gordon, J E C Harris, Y V Jardine, M H Jones, A J Jones, J W Jones, E J King, R D Lewis, D J Lewis, C E Lloyd, P M Matthews, G Owens, D Phillips, C L Philpott, J A Raynor, R J Stanton, L G Thomas ac N M Woollard.

198.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorwyr P M Black, R Francis-Davies, C A Holley, P N May, D G Sullivan a C Thomas fudd personol yng nghofnod 199 “Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse”.

199.

Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer, Arglwydd Raglaw, Uchel Siryf, Arweinwyr Dinesig, Gwesteion Adnabyddus, Aelodau'r Cyngor a Mel Nurse i Gyfarfod Seremonïol o'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at benderfyniad yng Nghyfarfod Arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2016 (cofnod 193) lle gwnaeth y cyngor bleidleisio i roi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r ddinas, yn benodol ei ran allweddol a'i arweinyddiaeth wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

Cefnogodd Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf ac Arweinydd y Grŵp Gwleidyddol arall y cynnig.

 

PENDERFYNWYD rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r ddinas, yn arbennig ei ran allweddol a'i arweinyddiaeth wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid i Mel Nurse gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo.

 

Ymatebodd Mel Nurse drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.