Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorwyr R Francis Davies, C Richards ac R C Stewart fudd personol yng Nghofnod 56, "Cwestiynau gan y Cyhoedd";

 

2)            Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan fudd personol yng Nghofnod 58, "Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol - Dinas a Sir Abertawe";

 

3)            Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan fudd personol yng Nghofnod 59, "Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe";

 

4)            Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, R A Clay, T J Hennegan, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, P M Meara, D Phillips, R V Smith, C Thomas, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 60, "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2015/16";

 

5)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, C A Holley ac L G Thomas fudd personol yng Nghofnod 68, "Cwestiynau gan y Cynghorwyr".

52.

Cofnodion. pdf eicon PDF 73 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)        Cynhaliwyd cyfarfod seremonïol o'r cyngor ar 28 Gorffennaf 2016, yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd N M Woollard at y cynghorwyr a oedd yn bresennol;

 

2)        Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol o'r cyngor ar 28 Gorffennaf 2016, yn amodol ar ddiwygio cofnod 38,  “Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol”, “3) Cyfarfodydd y Cyngor” i ddarllen:

 

“Datganodd yr Aelod Llywyddol fod cyfarfod arfaethedig y cyngor ar 25 Awst 2016 wedi'i ganslo.

 

Datganodd hefyd fod cyfarfod seremonïol y cyngor (urddo'r Arglwydd Faer) a drefnwyd ar gyfer 19 Mai 2017 wedi'i aildrefnu.  Cynhelir y cyfarfod bellach am 2.00pm ddydd Gwener, 26 Mai 2017.”

53.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor.

54.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)       Cydymdeimlad

 

a)              Jeremy Thomas, a fu gynt yn gyfreithiwr cyfarwyddiaeth, Pennaeth Craffu ac Ysgrifennydd Cabinet

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Jeremy Thomas. Bu Jeremy gynt yn gyfreithiwr cyfarwyddiaeth, Pennaeth Craffu ac Ysgrifennydd Cabinet gyda'r awdurdod cyn gadael yn 2005 i dderbyn rôl Pennaeth Cyfraith a Llywodraethu gyda Chyngor Dinas Rhydychen.

 

Yn drist,  oedd yn sâl Jeremy ar ôl cymryd rhan mewn digwyddiad beicio 50 milltir Bike Oxford, yn 47 oed.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)       Llongyfarchiadau

 

a)       Tîm PF – Gemau Olympaidd Rio 2016

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Dîm PF ar eu llwyddiant diweddar yng Ngemau Olympaidd Rio 2016. Daeth Tîm PF yn 2il yn y tabl medalau gyda 67, gan gynnwys 27 medal aur.

 

b)       Nofiwr Paralympaidd PF – Aaron Moore – Rio 2016

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y nofiwr Paralympaidd Aaron Moore am ennill medal aur yn rownd derfynol y gystadleuaeth nofio dull broga SB14 dros 100m.

 

c)       Tîm PF – Gemau Paralympaidd Rio 2016

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Dîm PF ar eu llwyddiant diweddar yng Ngemau Paralympaidd Rio 2016. Daeth Tîm PF yn 2il yn y tabl medalau gyda 147, gan gynnwys 64 medal aur.

 

ch)      Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion – Enillwyr Gwobr y Gynghrair Dysgu               Carcharorion

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol fod yr Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion wedi sefydlu'r Gynghrair Dysgu Carcharorion (PLA) ym mis Tachwedd 2012 gyda'r nod o ddarparu arbenigedd a gweledigaeth strategol i lywio blaenoriaethau, polisïau ac arferion y dyfodol o ran addysg, dysgu a sgiliau yn y carchar.

 

Roedd y PLA am gydnabod a gwobrwyo'r bobl hynny sy'n mynd gam ymhellach i hyrwyddo ac annog pobl i ddysgu yn y carchar; felly, sefydlwyd seremoni wobrwyo'r Gynghrair Dysgu Carcharorion.

 

Llongyfarchodd Vicky Dickeson a Valerie Samuel (o Wasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe) ar ennill gwobrau yn y categori "unigolion rhagorol" yn seremoni wobrwyo'r Gynghrair Dysgu Carcharorion. Roedd y ddwy'n bresennol i dderbyn y wobr.

 

d)              Cystadleuaeth Poster Presenoldeb yn yr Ysgol

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Cora Ellacott ar ennill y gystadleuaeth poster ddiweddar i dynnu sylw at bwysigrwydd presenoldeb da mewn ysgolion ar draws yr awdurdod.

 

Roedd dyluniad buddugol Cora'n un o gannoedd o gynigion gan ddisgyblion ar gyfer ein cystadleuaeth poster presenoldeb ddiweddar. Y dyluniad a'r archarwr "Mighty Attender" fydd canolbwynt Rhaglen Ysgogi Presenoldeb yr awdurdod. Caiff y Rhaglen Ysgogi Presenoldeb ei lansio cyn bo hir gyda'r nod o hybu a hyrwyddo presenoldeb ar draws holl ysgolion Abertawe.

 

Roedd Cora Ellacott yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

dd)     Enillydd Abertawe yn ei Blodau 2016

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol fod Pwyllgor Abertawe yn ei Blodau'n grŵp gwirfoddol a gefnogir gan yr awdurdod. Mae'n cynnal cystadleuaeth flynyddol i annog busnesau, ysgolion a phreswylwyr i addurno eu heiddo gydag arddangosfeydd blodeuol hardd, gan wneud eu cymuned leol, ac Abertawe'n gyffredinol, yn lle mwy atyniadol i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef.

 

Cyhoeddodd fod Dinas a Sir Abertawe wedi derbyn gwobr arbennig gan y pwyllgor am yr arddangosfeydd o flodau gwyllt sydd wedi lledu ar draws y ddinas a gwella'r amgylchedd yn sylweddol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.

 

Mae'r awdurdod wedi cynnal y cynllun blodau gwyllt ers oddeutu 5 mlynedd ac mae bellach yn cynnwys bron 200 safle ar draws y ddinas. Ariennir cost deunyddiau a gwaith gosod yn rhannol gan gynghorwyr lleol a chynghorau cymuned/tref ac fel y sylwch o nifer y safleoedd mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant mawr.

 

Roedd Peter Lewis, David Smith a Dave Stares yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

e)       Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Abertawe

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dyfarnwyd Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Abertawe am helpu teuluoedd lleol i gael yr wybodaeth angenrheidiol i wneud yn fawr o'u bywydau.

 

Mae Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn broses sicrhau ansawdd genedlaethol ac yn ddull o wella ansawdd a lunnir i helpu i gadw teuluoedd wrth wraidd ein gwaith a helpu'r GGiD i roi gwybodaeth safon aur.

 

Datblygwyd y wobr gan y Gymdeithas Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Genedlaethol (NAFIS) ar y cyd â'r Adran Addysg a Chyngor Sir Suffolk fel dull o fesur effeithiolrwydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd awdurdod lleol a dengys sut mae'n bodloni gofynion statudol Deddf Gofal Plant 2006 (Dyletswydd Gwybodaeth, Adran 27) a Chôd Ymarfer Anghenion Addysg Ychwanegol ac Anabledd (SEND) 2014.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y ddyletswydd gwybodaeth fel rhan o'i Deddf Gofal Plant ei hun ac mae'n cefnogi NAFIS wrth iddi weithio gyda'r 22 GGiD yng Nghymru i sicrhau bod y safonau'n hwyluso rôl asesu ddeublyg yn erbyn gofynion Adran 27 (y ddyletswydd gwybodaeth) Deddf Gofal Plant Cymru.

 

Roedd Allison Williams, Claire Bevan, Gary Mahoney, Christopher Jones, Sian Fennell a Finley'r Arth yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

3)       Cyfarfod Seremonïol o'r Cyngor

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y cyngor fod cyfarfod seremonïol o'r cyngor wedi'i drefnu ar gyfer 5.00pm nos Iau, 20 Hydref 2016. Bydd y cyfarfod yn seremoni i gyflwyno Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Chris Coleman.

 

4)       Dymuniadau Gorau am Wellhad Cyflym

 

Estynnodd yr Aelod Llywyddol ddymuniadau gorau am wellhad cyflym o'u clefydau gwahanol i'r Cynghorwyr V M Evans a P M Matthews.

 

5)       LC, Gwobr Aur Abertawe

 

Rhoddodd Arweiniodd yr Wrthblaid fwyaf wybod i'r Aelod Llywyddol a'r cyngor am Wobr Aur ddiweddar yr LC.

 

Dyfarnwyd Gwobr Aur arbennig i LC Abertawe dan Gynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr Croeso Cymru (VAQAS). Mae'r cynllun yn sicrhau yr asesir atyniadau yng Nghymru'n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol, yn ôl profiad cwsmeriaid, ac mae gwobr VAQAS gan 11 lleoliad ar draws Abertawe ar hyn o bryd.

55.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)        Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y newyddion diweddaraf i'r cyngor am gynnydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

2)         Ymweliad gan gynrychiolwyr o Wuhan, Tsieina

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ymweliad diweddar gan gynrychiolwyr o Wuhan, Tsieina. Dywedodd fod yr ymweliad yn un pwysig ac roedd llawer o fanteision posib i'r awdurdod. Roedd trafodaethau wedi dechrau o ran creu cytundeb cyfeillgarwch.

 

3)         Cinio Rhyddid er Anrhydedd ar gyfer Chris Coleman

 

Atgoffodd Arweinydd y Cyngor gynghorwyr fod tocynnau ar gael o hyd ar gyfer Cinio Rhyddid er Anrhydedd ar gyfer Chris Coleman yn Neuadd Brangwyn ar 20 Hydref 2016. Dywedodd hefyd y byddai'r Manic Street Preachers yn canu eu cerddoriaeth yn ystod y digwyddiad.

 

4)         Cabinet – 20 Hydref 2016

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai cyfarfod y Cabinet a drefnir ar gyfer dydd Iau, 20 Hydref 2016 yn dechrau am 3.00pm.

56.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)        Gofynnodd Tony Beddow gwestiwn i Arweinydd y Cyngor o ran cofnod 58, “Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol – Dinas a Sir Abertawe”:

 

i)             "Beth yw gwerth presennol Stadiwm Liberty, Abertawe?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

57.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

58.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio'r Datganiadau Ariannol - Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 478 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd John Herniman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2015-2016 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, gan Swyddfa Archwilio Cymru".

 

Ymatebodd John Herniman (SAC) i gwestiynau technegol ac ymatebodd Mike Hawes (Swyddog Adran 151) i gwestiynau am sefyllfa Dinas a Sir Abertawe.

59.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio'r Datganiadau Ariannol - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 476 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd John Herniman, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2015-2016 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, gan Swyddfa Archwilio Cymru".

 

Ymatebodd John Herniman (SAC) i gwestiynau technegol ac ymatebodd Mike Hawes (Swyddog Adran 151) i gwestiynau am sefyllfa Dinas a Sir Abertawe.

60.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2015/16. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Meirion Howells, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/2016, er gwybodaeth. Nododd yr adroddiad waith y Pwyllgor Archwilio yn ystod y cyfnod.

61.

Datganiad Cyfrifon 2015/16. pdf eicon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu’r amserlen berthnasol i gwblhau ac archwilio Datganiad o Gyfrifon y cyngor ar gyfer 2015-2016. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, dywedodd y byddai'n rhaid i'r cyngor gymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2015-2016 erbyn 30 Medi 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2015-2016.

62.

Adroddiad Blynyddol Rheolaeth y Drysorlys 2015/16 pdf eicon PDF 244 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu gweithgareddau rheoli Trysorfa'r cyngor yn ystod 2015-2016 ac a gymharai’r perfformiad go iawn yn erbyn y strategaeth a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

 

Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd J W Jones at Atodiad 1 ar dudalen 79 yr adroddiad a gofynnodd beth oedd ffigur gwreiddiol y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyledion allanol cyn iddo gael ei newid i "606,216,000."

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

63.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015/16. pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu’r adolygiad blynyddol o drefniadau llywodraethu ar gyfer 2015-2016.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015-2016.

64.

Adroddiad Datblygu Cynaliadwy 2015/16. pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu Adroddiad Datblygu Cynaliadwy 2015-2016.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi ar y cyd â'r Datganiad Blynyddol o Gyfrifon.

65.

Penodi Prif Swyddog Trawsnewid. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad o argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau o ran penodi Prif Swyddog Trawsnewid ar ôl i'r broses recriwtio a dethol gael ei chynnal.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        Cadarnhau Sarah Caulkin yn ei swydd fel Prif Swyddog Trawsnewid fel y'i hargymhellwyd gan y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod ar 25 Awst 2016.

66.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

i)             Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Tynnu enw'r Cynghorydd R D Lewis.

67.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

68.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd un ar ddeg (11) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.