Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr J A Hale a C E Lloyd fudd personol yng Nghofnod 42, "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015-2016";

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr A C S Colburn, S E Crouch, E W Fitzgerald, P R Hood-Williams, M H Jones, E J King, D J Lewis a P M Meara fudd personol yng Nghofnod 43, "Adroddiad Blynyddol Craffu 2015-2016”;

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr C A Holley ac M Thomas fudd personol yng Nghofnod 45, "Penodi Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol", gan nodi bod ganddynt oddefebau gan y Pwyllgor Safonau.

 

36.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2016.

 

37.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

 

38.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)       Cydymdeimlad

 

a)              Michael Cura, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Michael Cura, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Bu farw Michael ar daith feicio 560 milltir yr ysgol wrth fynd ar bererindod i Santiago de Compostela yn rhanbarth Galicia yn Sbaen.

 

Sefwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)       Llongyfarchiadau

 

a)       Tîm Pêl-droed Cymru

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o longyfarch tîm pêl-droed Cymru ar ôl eu perfformiad diweddar yn Ewro 2016. Dan reolaeth Chris Coleman o Abertawe, cyrhaeddodd y tîm y rownd gynderfynol ar ôl gorffen ar frig eu grŵp.

 

Yn dilyn Ewro 2016, dringodd Cymru uwchben Lloegr i'r 11fed safle yn rhestr detholion y byd Fifa. Gobeithio y bydd ymgyrch Ewro 2016 Cymru'n eu paratoi'n dda at y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2016.

 

3)       Cyfarfodydd y cyngor

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol fod cyfarfod arfaethedig y cyngor ar 25 Awst 2016 wedi'i ganslo. 

 

Datganodd hefyd fod cyfarfod seremonïol y cyngor (urddo'r Arglwydd Faer) a drefnwyd ar gyfer 19 Mai 2017 wedi'i aildrefnu. Cynhelir y cyfarfod bellach am 2.00pm ddydd Gwener, 26 Mai 2017.

 

4)       Meirion Howells, “Cadeirydd y Pwyllgor Safonau”

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Meirion Howells, am ei wasanaeth o ran gwella moesau a safonau'r awdurdod hwn. Penodwyd Meirion Howells i'r Pwyllgor Safonau ar 1 Awst 2008. Ar ôl gwasanaethu am 2 gyfnod, daw ei gyfnod yn y swydd i ben ar 31 Gorffennaf 2016. 

 

Yn ystod ei 8 mlynedd ar y Pwyllgor Safonau, ymdriniodd Meirion Howells â nifer o gwynion Côd Ymddygiad; fodd bynnag, roedd yn braf nodi bod gwaith y pwyllgor wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ... gobeithio o ganlyniad i ymddygiad gwell gan gynghorwyr.

 

5)       Newidiadau/diwygiadau i wŷs y cyngor

 

1)       Eitem 14 yr Agenda, “Aelodaeth Pwyllgorau”

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu.

 

2)       Eitem 15 yr Agenda, “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor”

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at y newidiadau canlynol y mae eu hangen i'r adroddiad Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

i)        Tudalen 65, Paragraff 4.2, Tabl Portffolio'r Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad

 

Datblygu Cynaliadwy. Dylid dangos hyn fel "Ychwanegwch" yn hytrach na "Dilëer" yng ngholofn 2.

 

ii)        Tudalen 69, Tabl Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf.

 

Eitem 1) “Gwasanaethau Masnachol: Nodi Modelau Masnachol Newydd a'u Rhoi ar Waith”. Ychwanegwch y canlynol at y golofn "Ymgynghorai Aelodau'r Cabinet":

 

“Pob Aelod perthnasol y Cabinet”.

 

iii)       Tudalen 69, Tabl Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf.

 

Dilëer Eitem 15) "Datblygu Cynaliadwy" ac ychwanegwch hi at Dabl Trawsnewid a Pherfformiad, a ddangosir ar dudalen 70. Hefyd, ychwanegwch y canlynol at y golofn "Ymgynghorai Aelodau'r Cabinet:

 

“Pob Aelod perthnasol y Cabinet”.

 

3)       Eitem 17 yr Agenda, “Rhybudd o Gynnig”

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol fod Rhybudd o Gynnig diwygiedig wedi'i ddosbarthu.

 

39.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)       Brexit – Llythyr at y Prif Weinidog

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor ei fod eisoes wedi dosbarthu i bob cynghorydd ei lythyr at y Prif Weinidog. Yn y llythyr, ceisiodd sicrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn darparu'r un swm o arian, neu fwy, ag a geir gan yr UE ar hyn o bryd.

 

2)       Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe – Bwriadau'r Dyfodol ar gyfer    Stadiwm Liberty

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn y broses o drafod bwriad y cyngor ar gyfer Stadiwm Liberty â'r clwb pêl-droed ac a fyddai'n cynnwys ei ehangu, ei werthu neu'r ddau.

 

3)       Anrhydeddau Haf yr Arglwydd Faer

 

Roedd Arweinydd y Cyngor yn falch o ddatgan bod 45 o fyrddau wedi'u gwerthu ar gyfer Dawns Anrhydeddau Haf yr Arglwydd Faer, yr un gyntaf o'i bath. Diolchodd i J R Events am eu cefnogaeth i hyrwyddo'r digwyddiad.

 

40.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)       Gofynnodd Tony Beddow gwestiynau i Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio am Gofnod 44, "Polisi Budd Cymunedol Dinas a Sir Abertawe".

 

"O ran cytundebau Adran 106, a yw'n gyfreithlon i'r awdurdod atgyfnerthu'r gofyniad drwy osod gofyniad bond wedi'i adneuo ar ddatblygwyr er mwyn sicrhau y gwarentir yr elfen budd cynllunio?"

 

Datganodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       Gofynnodd Lis Davies gwestiwn i Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach am Gofnod 49, “Cwestiynau'r Cynghorwyr – Cwestiwn 11”.

 

"Beth yw enw'r chwynladdwr a ddefnyddir gan yr awdurdod ar briffyrdd a llwybrau cerdded?"

 

Datganodd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

 

41.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

 

42.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/2016. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Meirion Howells, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/2016, er gwybodaeth. Disgrifia'r adroddiad y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau ac Is-bwyllgor Safonau'r Cynghorau Cymuned/Tref o fis Mehefin 2015 i fis Mai 2016.

 

43.

Adroddiad Craffu Blynyddol 2015/16. pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu Adroddiad Blynyddol Craffu 2015/16, er gwybodaeth. Amlinellodd yr adroddiad waith craffu'r cyfnod hwnnw.

 

44.

Dinas a Sir Abertawe Polisi Budd Cymunedol. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a ddiweddarodd y fenter Y Tu Hwnt i Frics a Morter i fod yn bolisi budd cymunedol sy'n cynnwys holl weithgareddau'r awdurdod lle gall budd cymunedol ychwanegu gwerth. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau cynllunio, contractau gwaith, gwasanaethau a chyflenwi, gwerthu tir ar gyfer datblygu, yn ogystal â phrosiectau adeiladu ac adfywio.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)       Ehangu cwmpas gwreiddiol y fenter Y Tu Hwnt i Frics a Morter i gynnwys yr holl weithgareddau lle gall budd cymunedol ychwanegu gwerth fel a bennir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad;

 

2)       Cymeradwyo dogfen Polisi Budd Cymunedol Dinas a Sir Abertawe a atodir i'r adroddiad.

 

45.

Penodi Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a geisiodd gadarnhau penodiad Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau David Howes yn ei swydd, sef Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

46.

Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman. pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio ystyried a ddylid rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei gyfraniad i chwaraeon a'r ddinas, yn benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant gyda thîm pêl-droed Cymru.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)       Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Chris Coleman i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r ddinas, yn benodol ei arweinyddiaeth a'i lwyddiant gyda thîm pêl-droed Cymru.

 

47.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad diwygiedig a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

i)                Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau

Tynnu'r Cynghorydd R D Lewis

Ychwanegu'r Cynghorydd J W Davies

 

ii)              Pwyllgor Penodiadau

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole

Ychwanegu'r Cynghorydd M Thomas

 

iii)             Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu'r Cynghorydd D G Sullivan

Ychwanegu'r Cynghorydd R D Lewis

 

iv)            Pwyllgor Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu'r Cynghorydd D J Lewis

Ychwanegu'r Cynghorydd P N May

 

v)              Pwyllgor Cynghori'r Cabinet (PCC) ar Gymunedau

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole a swydd wag y Grŵp Ceidwadol

Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis ac Y V Jardine

 

vi)            PCC ar Wasanaethau Corfforaethol

Tynnu'r Cynghorydd J E Burtonshaw a swydd wag y Ceidwadwyr

Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis a H M Morris

 

vii)           Pwyllgor Cynghori'r Cabinet (PCC) ar Ddatblygu

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole a swydd wag y Grŵp Ceidwadol

Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis a G J Tanner

 

viii)         Cydbwyllgor Cydnerthu

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole

Ychwanegu'r Cynghorydd C E Lloyd

 

ix)            Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ac Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole

Ychwanegu'r Cynghorydd C Anderson

 

x)              Pwyllgor Trwyddedu Statudol ac Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole

Ychwanegu'r Cynghorydd C Anderson

 

xi)            Pwyllgor Cynllunio

Tynnu'r Cynghorydd I M Richard

Ychwanegu'r Cynghorydd H M Morris

 

xii)           Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu'r Cynghorydd D W Cole

Ychwanegu'r Cynghorydd F M Gordon

 

xiii)         Panel Herio

Ychwanegu'r Cynghorydd P N May

 

xiv)         Panel Llywodraethwyr yr ALl

Tynnu D W Cole

Ychwanegu'r Cynghorydd U C Clay

 

xv)          Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu'r Cynghorydd M B Lewis

 

xvi)         Grŵp Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Ychwanegu'r Cynghorwyr R D Lewis a P N May

 

xvii)       Grŵp Partneriaeth AoHNE Gŵyr

Tynnu'r Cynghorydd R D Lewis

Ychwanegu'r Cynghorydd L James

 

48.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Dirprwy Swyddog Monitro a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a amlinellodd nifer o newidiadau a wnaed gan Arweinydd y Cyngor i bortffolios y Cabinet o fewn Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Datganodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi'i ddiwygio fel a amlinellir yng nghyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd P M Black am i restr ddiweddaraf o bortffolios a meysydd cyfrifoldeb y Cabinet gael eu dosbarthu i bob cynghorydd.

 

Datganodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth.

 

49.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

a)              Cwestiwn 1.  Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

 

"A ystumiwyd y broses dendro gan y gost ychwanegol o gael gwared ar asbestos o hen adeilad Oceana?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

b)       Cwestiwn 3.

 

i)                 Gofynnodd y Cynghorydd M. H. Jones y canlynol:

 

"Beth fydd yn digwydd i'r pafiliynau a'r gwaith o gynnal a chadw pafiliynau os bydd clwb bowls yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw lawntiau neu os nad oes clwb bowls lleol ar gael i wneud hynny?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

ii)               Gofynnodd y Cynghorydd J Newbury am ddadansoddiad llawn a'r diweddaraf am sefyllfa pob lawnt fowlio yn yr awdurdod.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

c)       Cwestiwn 6.  Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y canlynol:

 

"Faint o dai cyngor Dinas a Sir Abertawe a oedd wedi'u gwella i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

ch)     Cwestiwn 7.  Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley y canlynol:

 

"Mae'n ymddangos bod rhaid i staff y cyngor sy'n parcio yn y Ganolfan Ddinesig brynu trwydded barcio, ond nid oes angen i staff sy'n gweithio i'r GIG yn y Ganolfan Ddinesig dalu am drwydded barcio. Pam?”

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.

 

50.

Rhybudd o gynnig - Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, C Richards, J P Curtice, A S Lewis, J A Hale, M C Child, J E C Harris, M Thomas, C Anderson, R Francis-Davies, M H Jones, J W Jones, PM Black, L G Thomas, T H Rees, AM Day, P M Meara, C L Philpott, R J Stanton a J Newbury.

 

Yn dilyn y Refferendwm diweddar, mae'r cyngor hwn yn ailadrodd ei fod yn sefyll ac yn cefnogi holl aelodau cymdeithas ni waeth beth yw eu hoedran, eu hil, eu cenedl, eu crefydd neu eu tueddfryd rhywiol. Mae Abertawe'n parhau i fod yn Ddinas Noddfa. Rydym oll wedi'n siomi gan yr adroddiadau o wahaniaethu a chasineb yn erbyn aelodau'r cyhoedd, staff a phlant ysgol. Rydym yn falch ein bod yn byw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes lle i hiliaeth, senoffobia a chasineb yn ein dinas nac yn ein gwlad. Fel cyngor, rydym yn condemnio gweithredoedd o'r fath yn llwyr. Ni fyddwn yn gadael i fynegiannau o gasineb fod yn rhywbeth derbyniol.

 

Byddwn ni, Gynghorwyr Dinas a Sir Abertawe yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, cyrff lleol, a'r cyhoedd i herio hiliaeth, senoffobia, gwahaniaethu a chasineb.

 

Byddwn yn sefyll gyda'n gilydd gydag unigolion a sefydliadau sy'n gweithio i hyrwyddo cydfodolaeth heddychlon pob grŵp yn ein cymunedau, a lle bynnag y bo'n bosib, byddwn yn darparu’r gefnogaeth a'r adnoddau y mae eu hangen.

Rydym am sicrhau'r holl bobl sy'n byw yn Ninas a Sir Abertawe eu bod yn aelodau gwerthfawr o'n cymuned.

 

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R C Stewart fod cynnig diwygiedig wedi'i ddosbarthu. Datganodd fod y rhan fwyaf o'r rhai a gyflwynodd y cynnig gwreiddiol yn cefnogi'r cynnig diwygiedig. Y cynnig diwygiedig oedd y prif gynnig i'w drafod.

 

Cynigiwyd y cynnig diwygiedig gan y Cynghorydd R C Stewart ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd C A Holley.

 

Ar ôl y refferendwm diweddar, mae'r cyngor yn datgan eto ei fod yn cefnogi pob aelod o'r gymdeithas, heb ystyried ei oedran, ei hil, ei ryw, ei grefydd na'i dueddfryd rhywiol. Mae Abertawe'n parhau i fod yn Ddinas Noddfa. Rydym i gyd wedi'n brawychu gan adroddiadau am wahaniaethu a chasineb yn erbyn aelodau'r cyhoedd, staff a phlant ysgol. Rydym yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes unrhyw le i hiliaeth, senoffobia a chasineb yn ein dinas a'n gwlad. Fel cyngor, rydym yn condemnio gweithredoedd o'r fath yn ddiamwys. Ni fyddwn yn caniatáu i fynegi casineb fod yn dderbyniol. 

 

Byddwn ni, gynghorwyr Dinas a Sir Abertawe, yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, cyrff lleol a'r cyhoedd i herio hiliaeth, senoffobia, gwahaniaethu a chasineb o unrhyw fath.

 

Byddwn yn sefyll gydag unigolion a sefydliadau sy'n gweithio i hyrwyddo cydfodoli heddychlon rhwng pob grŵp yn ein cymunedau, ac yn rhoi'r gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol, lle bo'n bosib.

 

Fel cyflogwr, byddwn yn arwain drwy esiampl. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth ac mae'n polisi'n datgan bod gwahaniaethu oherwydd hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig) yn gamymddwyn difrifol. Mae'n rhaid i bob gweithiwr drin ei gydweithwyr ac aelodau'r cyhoedd yn barchus. Rydym yn annog cyflogwyr eraill yn Abertawe i osod safonau tebyg i'w gweithwyr.

 

Rydym yn sicrhau pawb sy'n byw yn Ninas a Sir Abertawe ei fod yn aelod gwerthfawr o'n cymuned.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig fel a amlinellir uchod: