Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P M Black, J E Burtonshaw, J P Curtice, R Francis-Davies, T J Hennegan, P R Hood-Williams, M H Jones, E J King, D J Lewis, C E Lloyd, I M Richard, P B Smith, R V Smith, R J Stanton, G J Tanner, C Thomas a L G Thomas.

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)            Datganodd y Cynghorydd J C Bayliss Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 29 “Cynllun Datblygu Lleol – Drafft Adnau” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei thrafod;

 

2)            Datganodd y Cynghorydd J A Raynor Fudd Personol yng Nghofnod 29 “Cynllun Datblygu Lleol – Drafft Adnau

 

Swyddogion

 

3)            Datganodd Huw Evans, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 29 “Cynllun Datblygu Lleol – Drafft Adnau” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei thrafod.

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 205 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)         Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mai 2016;

 

2)         Cyfarfod seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2016.

24.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 52 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

25.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)         Cydymdeimladau

 

a)            Ymosodiad Dryll yng nghlwb nos Pulse, Orlando, Fflorida

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol yn llawn cydymdeimlad at yr ymosodiad dryll diweddar yng nghlwb nos Pulse, Orlando, Fflorida lle lladdwyd 49 o bobl ac anafwyd 53. Dywedodd fod Baner yr Enfys yn chwifio ar ei hanner yn Swyddfeydd y Cyngor fel arwydd o barch ac undod ar gyfer y gymuned Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT), ac fel cofeb ac arwydd o barch i'r rhai a gollodd eu bywydau yn nhrasiedi Orlando yr wythnos ddiwethaf. 

 

Mae gostwng y faner yn symbol o'n hundod â'r gymuned LGBT, yn enwedig yn ystod y cyfnod trist hwn, a bydd hefyd yn symboleiddio'n hymrwymiad parhaus i ddod â rhagfarn, casineb a gwarthnod i ben.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol ar eu traed fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)         Llongyfarchiadau

 

a)         Grŵp Diogelwch Galwedigaethol Abertawe a Gorllewin Cymru

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol wedi cyrraedd y rhestr fer i ennill gwobrau ym meysydd Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch Blaengar, yn ogystal â'r darian gyffredinol ar gyfer holl ddarpariaeth diogelwch a lles Grŵp Diogelwch Galwedigaethol Abertawe a Gorllewin Cymru.

 

Cydnabyddwyd y gwasanaeth, a derbyniodd wobrau am Berfformiad Diogelwch Rhagorol, ac am y tro cyntaf enillodd y darian Sefydliad Mawr gan guro Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Ceredigion, 3Ms a Dŵr Cymru a oedd hefyd ar y rhestr fer. Roedd hyn yn ogystal â'r gydnabyddiaeth ddiweddar o ennill Gwobr Aur Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru.

 

Hefyd, enwebwyd David Price Deer o Ddigwyddiadau Arbennig fel gweithiwr y flwyddyn, a ddaeth yn ail oherwydd y gydnabyddiaeth o'i waith rhagorol a'i ymroddiad i wella diogelwch digwyddiadau i staff a miloedd o ymwelwyr sy'n mynychu digwyddiadau a gynhelir gan y Tîm yn flynyddol.

 

Roedd Craig Gimblett, Katja Davies a Tracy Williams yn bresennol i dderbyn y dyfarniad.

 

b)           Dawns Anrhydeddau Haf yr Arglwydd Faer

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi y byddai Dawns Anrhydeddau Haf yr Arglwydd Faer yn cael ei chynnal yn Neuadd Brangwyn nos Wener, 29 Gorffennaf 2016. Bydd y Ddawns yn cefnogi Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer gan godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Maggie, Cronfa Paul Popham ac elusen The Princes Gate.

 

Bwriad y Ddawns Anrhydeddau yw cydnabod y bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn Abertawe drwy helpu i wneud Abertawe'n lle mor arbennig. Caiff pobl o bob cefndir eu hanrhydeddu yn y digwyddiad mawreddog hwn, a bydd hefyd yn cydnabod y rheini sy'n codi proffil Abertawe ar draws y byd.

 

Bydd yr anrhydeddau agoriadol hyn yn arddangos amrywiaeth eang o bobl eithriadol ym myd busnes, chwaraeon, y celfyddydau, elusen ac adloniant. Mae'r tocynnau'n costio £45 yr un.

 

c)        Ymddiriedolaeth Penllergaer – Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol  2016

 

Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi fod Ymddiriedolaeth Penllergaer wedi derbyn Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol 2016 mewn cydnabyddiaeth o'i gwaith o atgyweirio a chynnal a chadw hen-safle Ystâd Dillwyn Llewelyn, Penllergaer.

 

ch)      Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o longyfarch Dinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn ystod Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

 

a)            Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)             Margaret Hilary Dawson, MBE. Prif Weithredwr ac Ysgrifenyddes Gyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA Cymru).  Ar gyfer gwasanaethau i addysg yng Nghymru (Abertawe, Gorllewin Morgannwg).

 

b)            Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)             Sidney Frederick Hugh Kidwell.  Hyrwyddwr dros Bobl Hŷn yn Abertawe.  Am wasanaethau i'r Gymuned yn Abertawe. (Abertawe);

 

ii)            Dr Susan Mary Mitchell. Pennaeth Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Yng Nghymru Ioan Fedyddiwr, Aberdâr. Am wasanaethau i Addysg yng Nghymru. (Abertawe);

 

iii)           Helen Murray. Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Tŷ Olwen, Ysbyty Treforys, Abertawe.  Am wasanaethau gwirfoddol i Ofal Lliniarol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. (Abertawe).

 

c)            Medal Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)             Ruth Drusilla Janette Lewis. Swyddog â Gofal, Adran Llwchwr, Ambiwlans Sant Ioan.  Am wasanaeth gwirfoddol i Gymorth Cyntaf. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg);

 

ii)            David James Edmond MacKen.  Am wasanaethau i Eglwys San Pedr a'r gymuned yn Abertawe. (Abertawe);

 

iii)           Andrea Dawn Pridmore.  Rheolwr Gwasanaethau Digidol, DVLA.  Am wasanaethau i Weinyddu Cyhoeddus a Cherddoriaeth Gymunedol drwy Fand Gorymdaith Silver Rythmaires Abertawe. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg).

 

3)         Cywiriadau/Newidiadau i wŷs y cyngor.

 

i)          Eitem 10 "Lwfansau a Threuliau'r Cynghorwyr 2015-2016"

"Nodiadau" tudalen 51, ar waelod y dudalen. Hepgor y frawddeg mewn perthynas â'r Cynghorydd R C Stewart a gêm Y Gweilch yn erbyn Toulouse. Ni fynychodd y Cyng. Stewart, a gwrthododd y gwahoddiad.

 

ii)            Eitem 11 "Aelodaeth Pwyllgorau”

 

a)           Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau

Tynnu'r Cynghorydd H M Morris oddi ar y panel.

Ychwanegu'r Cynghorydd M B Lewis.

 

b)           Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Diwygio Gofal Cymdeithasol

Tynnu'r Cynghorydd C Anderson oddi ar y panel.

Ychwanegu'r Cynghorydd H M Morris.

26.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Cydymdeimladau, Jo Cox, AS Llafur Batley a Spen

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor yn llawn cydymdeimlad at farwolaeth Jo Cox, AS Llafur dros Batley a Spen yn gynharach y diwrnod hwnnw. Cafodd Jo Cox ei gadael yn gwaedu ar y llawr ar ôl i rywun ymosod arni yn Birstall, Gorllewin Swydd Efrog.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol ar eu traed fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)            Morlyn Llanw

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod diweddar yr oedd ef wedi ei gael gyda Chadeirydd Adolygiad Annibynnol ar Forlynnoedd Llanw, y Gwir Anrhydeddus Charles Hendry.

 

Dywedodd fod yr adolygiad yn asesu a allai'r morlynnoedd llanw chwarae rôl gwerth am arian fel rhan o gymysgedd ynni'r DU. Pwysleisiodd bwysigrwydd prosiect y morlyn llanw o'i gymharu â manteision amgylcheddol amlwg (lleihau allyriadau a thrydan carbon isel dibynadwy), i'r effeithiau cadarnhaol ar yr economi leol a chynlluniau adfywio a thu hwnt i hyn o ran cynhwysiad cymdeithasol a manteision iechyd.

27.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y rhai a oedd am ofyn cwestiynau mewn perthynas ag Eitem 9 "Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl - Ymgynghoriad Cyhoeddus Adnau" y byddai cwestiynau ond yn cael eu hateb os oeddynt yn ymwneud â'r broses ymgynghori.

 

Doedd y cyfarfod ddim yn gyfle i ail ystyried y penderfyniad i gynnwys y safleoedd tai ac ardaloedd datblygu arfaethedig y cytunwyd arnynt fis Medi'r llynedd.

 

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet.  Rhestrir y cwestiynau hynny nad oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)            ofynnodd Lis Davies wrth Arweinydd y Cyngor gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 30 "Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr 2015-2016".

 

"Lwfans TGCh. Gan ddilyn etholiad 2012 derbyniodd pob Cynghorydd £1,008 i brynu cyfarpar TGCh a £800 yn ychwanegol dros weddill cyfnod y swydd, os oedd angen. Mae hwn gwerth dros £130,000.

 

A fydd y polisi hwn yn dal i gael ei weithredu ar ôl etholiad mis Mai 2017?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)            Gofynnodd Lis Davies i Arweinydd y Cyngor gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 32 "Cwestiynau Cynghorwyr".

 

“Tudalen 58.  Cwestiwn 7. Ers mis Ebrill 2016 mae 128 o eiddo gwag yng nghanol y ddinas, gan gynnwys 33 mangre manwerthu neu fwytai yn ardaloedd manwerthu pennaf ac eilaidd y ddinas (heb gynnwys Ffordd y Brenin).

 

Sawl eiddo manwerthu gwag a gafwyd yn ystod 2011-2012 a'r cyfnodau dilyniannol rhwng 2012 a 2016?

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

28.

Cyflwyniad Cyhoeddus -

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gyflwyniadau Cyhoeddus.

29.

Cynllun Datblygu Lleol - Drafft Adnau. pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r ddogfennaeth ategol.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Cymeradwyo'r Cynllun Datblygu Lleol Adnau sy'n cynnwys y datganiad ysgrifenedig a'r Map Cynigion er mwyn ymgynghori'n gyhoeddus arno;

 

2)        Llunio Cytundeb Cyflawni CDLl diwygiedig er mwyn ymgynghori'n gyhoeddus arno gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cadarnhau'r amserlen ar gyfer cyflawni camau'r CDLl yn y dyfodol sy'n arwain at fabwysiadu'r cynllun;

 

3)        Cytuno ar ganfyddiadau'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Arfarniad Cynaladwyedd.;

 

4)        Ehangu'r cyfnod ymgynghori tan 5.00pm ar 12 Awst 2016.

30.

Lwfansau a Threuliau'r Cynghorwyr 2015-2016 pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cyflwyno swm y lwfansau a threuliau a dalwyd i bob Cynghorydd ac Aelod Cyfetholedig yn ystod 2015-2016 yn ôl Cynllun Lwfansau Cynghorwyr.

31.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i gyrff allanol yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)            Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau

Tynnu'r Cynghorydd H M Morris oddi ar y panel.

Ychwanegu'r Cynghorydd M B Lewis.

 

2)            Cyd-bwyllgor Cydnerthu

Ychwanegu'r Cynghorwyr D W Cole, T J Hennegan, M H Jones, C Richards a D G Sullivan.

 

3)         Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddiwygio Gofal Cymdeithasol ac           Ataliaeth

Tynnu'r Cynghorydd C Anderson oddi ar y panel.

Ychwanegu'r Cynghorydd H M Morris.

 

4)             Panel Llywodraethwyr yr ALl

Tynnu'r Cynghorydd L J Tyler-Lloyd oddi ar y panel.

Ychwanegu'r Cynghorydd A C S Colburn.

 

5)            Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu'r Cynghorydd M Lewis oddi ar y panel.

Ychwanegu'r Cynghorydd K E Marsh

32.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pump (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

a)         Cwestiwn 2.  Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones:

 

"Pryd bydd y broses blaenoriaethu symud arwyddion dangos cyflymder sydd wedi eu pweru â solar i gyflenwad trydan yn cychwyn, ac a fydd Cynghorwyr yn rhan o'r broses?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) o 'Gwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' yn Rhan B.