Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Council Chamber, Guildhall, Swansea.

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

191.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J C Bayliss, J Newbury, G Owens, C L Philpott, C Richards, C Thomas, L Tyler-Lloyd ac L V Walton.

192.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor am y buddiannau personol a rhagfarnol a oedd efallai ar agenda Cynghorwyr a/neu Swyddogion.

                

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi atgoffa'r Cynghorwyr a Swyddogion y dylid cwblhau'r daflen "Buddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y Cynghorydd/Swyddog fuddiant gwirioneddol i'w ddatgan.  Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni.  Hysbyswyd y Cynghorwyr a Swyddogion fod rhaid datgan unrhyw fuddiant ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)       Datgelodd y Cynghorwyr P M Black, R Francis-Davies, C A Holley, P N May, R C Stewart ac L G Thomas Fudd Personol yng Nghofnod 193 "Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse";

 

Swyddogion

 

2)       Datganodd Mike Hawes a Chris Sivers Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 194 "Strwythur Uwch-reolwyr", a gadawodd y cyfarfod cyn i'r mater gael ei ystyried.

 

3)       Datganodd Phil Roberts Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 196 "Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymddeoliad Cynnar", a gadawodd y cyfarfod cyn i'r mater gael ei ystyried.

 

193.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse. pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a oedd yn ceisio ystyriaeth ynglŷn â chyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse, i gydnabod ei gyfraniad at chwaraeon a'r Ddinas, yn enwedig ei gyfranogaeth ac arweinyddiaeth allweddol wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)       Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Mel Nurse i gydnabod ei gyfraniad i chwaraeon a'r Ddinas, yn enwedig ei gyfranogaeth ac arweinyddiaeth allweddol wrth achub Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

 

194.

Strwythur Uwch-reolwyr. pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn cynnig Strwythur Uwch-reolwyr a oedd yn addas at y diben.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)  Cymeradwyo'r strwythur yn amodol ar yr ymgynghoriad, fel a fanylir yn yr adroddiad;

 

2)  Awdurdodi'r Prif Weithredwr i ymgynghori â'r holl staff y bydd hyn yn effeithio;

 

3)  Awdurdodi'r Prif Weithredwr i roi'r strwythur ar waith yn amodol ar argymhelliad 2) heb nodi unrhyw newid sylweddol;

 

4)  Nodi'r gostyngiad yn nifer yr uwch-swyddi a'r arbediad blwyddyn lawn blynyddol canlynol o ychydig dros £300,000;

 

5)   Bod y Prif Weithredwr yn adrodd nôl i'r cyngor am unrhyw 'gostau newid' ac ynghylch dyrannu dyletswyddau ar ôl yr ymgynghoriad.

 

Sylwer: Roedd Arweinydd y Cyngor wedi atgoffa'r Cynghorwyr y byddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn gadael yr awdurdod cyn bo hir. Ar ran yr holl Cynghorwyr, diolchodd yntau, Arweinydd yr Wrthblaid Wleidyddol Fwyaf, a'r Aelod Llywyddol i Mr Taylor am ei wasanaethau i Ddinas a Sir Abertawe.

 

195.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth iddo ystyried yr eitem(au) busnes a nodwyd yn yr argymhellion adroddiad(au) ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff cau allan Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, sy'n berthnasol i'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriwyd prawf budd y cyhoedd gan y cyngor wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol, fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) busnes canlynol.

 

SESIWN DDIRGEL

 

196.

Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol - Ymddeoliad Cynnar.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cais am ymddeoliad cynnar gan Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

CYTUNWYD y dylid:

 

1)       Cymeradwyo'r cais am ymddeoliad cynnar gan Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.