Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

34.

Ymgynghori ar Deitl Henadur Anrhydeddus yn unol ag adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972 - Y Cyn-gynghorwr Byron G Owen. pdf eicon PDF 202 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y Dirprwy Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio cytundeb mewn egwyddor er mwyn cyflwyno'r teitl 'Henadur Anrhydeddus' i'r cyn-Gynghorydd Byron G Owen.

 

Bu'r cyn-Gynghorydd Owen yn gwasanaethu cymunedau Mynydd-bach a Phenderi, a bu’n Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer blwyddyn ddinesig 1991-1992. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe - 10 Mai 1973 tan 5 Mai 1976;

Ø    Cyngor Dinas Abertawe - 3 Mai 1979 tan 31 Mawrth 1996;

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 tan 10 Mehefin 2004;

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 1 Mai 2008 tan 18 Mawrth 2016.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno'r teitl Henadur Anrhydeddus i'r cyn-Gynghorydd Byron G Owen i gydnabod ei wasanaeth blaenllaw i Ddinas a Sir Abertawe a'i awdurdod blaenorol.