Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 635757 

Eitemau
Rhif Eitem

200.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorwyr canlynol R A Clay, U C Clay, S E Crouch, J E C Harris, M H Jones, C E Lloyd, J Newbury, D Phillips, C L Philpott, R J Stanton and L G Thomas.

201.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Hale fudd personol yng Nghofnod 207 "Cyflwyniad Cyhoeddus - Disgyblion Ysgol St Thomas";

 

2)              Datganodd y Cynghorydd C A Holley fudd personol yng Nghofnod 209 "Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020" a nododd ei fod wedi cael ei eithrio o'r Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio ar unrhyw eitem sy'n ymwneud â materion gwasanaethau cymdeithasol, cyflogaeth gyffredinol staff, materion cyllidebol a materion gwasanaethau cymdeithasol eraill heblaw am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ei ferch gan gyfeirio'n benodol at ei swydd;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol yng Nghofnod 209 "Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020" a nododd ei fod wedi cael ei eithrio o'r Pwyllgor Safonau i aros a siarad a phleidleisio ar unrhyw eitem sy'n ymwneud â chyflogaeth gyffredinol staff, materion cyllidebol heblaw am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ei wraig gan gyfeirio'n benodol at ei swydd;

 

4)              Datganodd y Cynghorwyr M C Child, V M Evans, R Francis-Davies, A J Jones, E T Kirchner, A S Lewis, P M Meara, C Richards, R V Smith ac R C Stewart fudd personol yng Nghofnod 211 “Adroddiad Blynyddol y Partneriaethau Hamdden 2014/15”.

202.

Cofnodion. pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2016;

 

2)       Cyfarfod arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016;

 

3)       Cyfarfod seremonïol o'r cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2016 ar yr amod y nodir bod y Cynghorydd T H Rees yn bresennol;

 

4)       Cyfarfod arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2016.

203.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 46 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r Cyngor.

204.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)       Newidiadau/diwygiadau i wŷs y cyngor.

 

a)       Eitem 9 "Aelodaeth Pwyllgorau".

 

Dosbarthwyd adroddiad diwygiedig.

 

2)       Dyfarniad Safon Iechyd Corfforaethol Aur

 

Nododd yr Aelod Llywyddol y cyflwynwyd Dyfarniad Safon Iechyd Corfforaethol Aur Llywodraeth Cymru yn swyddogol i'r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol ar 11 Mawrth 2016 ar ran yr awdurdod.  Mae'r dyfarniad yn dilyn asesiad deuddydd gan Cymru Iach ar Waith a fu, yn ei adroddiad, yn canmol diwylliant, safonau cefnogaeth, cyflwyniad a buddsoddiad yr awdurdod mewn lles gweithwyr.

 

Roedd hyn o ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad y gwasanaeth, lles y gweithgor, gwirfoddolwyr, gweithwyr ac undebau llafur a fu'n rhan o hyrwyddo a gwella diogelwch a lles ar draws y sefydliad.  Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i gefnogaeth y tîm Safonau Rheoli Straen, Iechyd Galwedigaethol, Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a chyflwyniad gwasanaeth Help Llaw.  Teimlai'r aseswyr fod yr awdurdod wedi gwneud gwelliannau sylweddol o ran cynnwys, ymrwymiad, dull o'r brig i'r gwaelod a diwylliant mewn perthynas ag ymgorffori lles fel rhan o'r ffordd rydym yn gwneud busnes.

 

Roedd Craig Gimblett, Gary Davies, Ray Mitchell, Helen Lewis, Liz Thomas-Evans, Caroline Ford, Sarah Owens, Katja Davies, Alison Cosker a Jackie Griffiths (Undeb Llafur GMB) yn bresennol i dderbyn y dyfarniad.

 

3)       Tanya Nash, Tîm Datblygu Cynaliadwy - Gwobrau Arwain Cymru

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Tanya Nash, o'r Tîm Datblygu Cynaliadwy, am gyrraedd rhestr fer o dri yn y categori Arweinydd y Genhedlaeth Nesaf yng Ngwobrau Arwain Cymru 2016.  Mae Tanya wedi helpu'r cyngor i gyflawni llwyddiant sylweddol, a gydnabuwyd y llynedd fel enillydd gwobr Sefydliad Sector Cyhoeddus Mwyaf Cynaliadwy'r DU.

 

4)       Gwasanaethau Cyfreithiol - Lexcel

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol staff y Gwasanaethau Cyfreithiol sydd wedi ymgymryd ag asesiad blynyddol llwyddiannus arall gan Gymdeithas Gyfreithiol Lexcel yn ddiweddar.  Dyma'r trydydd asesiad yn olynol sydd wedi nodi nad oes unrhyw elfennau na chydymffurfir â hwy; cyflawniad y dylid ei longyfarch.

 

5)       Jazz Carlin

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Jazz Carlin ar gyflawni'r amser gofynnol ar gyfer y 400m dull rhydd yn Rio drwy ennill mewn 4:04:33 yn Glasgow ac felly llwyddo deirgwaith ym Mhencampwriaethau Prydain. Enillodd y rasys 200m a 400m hefyd.

 

6)       Ras Enfys Tŷ Hafan

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol bawb a gymerodd ran yn Ras Enfys Tŷ Hafan ar draeth Abertawe ar 23 Ebrill 2016.  Cymerodd dros 2,000 o bobl ran gan helpu i godi arian hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yng Nghymru.

 

Mae'r digwyddiad yn annog cyfranogwyr i wisgo gwyn ac wrth iddynt redeg y 5km (3.1 milltir) cânt eu gorchuddio â phaent powdr lliwiau gwahanol.  Nododd ei fod wedi clywed ei fod yn ddigwyddiad llawn hwyl a'i fod yn gobeithio y byddai llawer o gynghorwyr yn cymryd rhan y flwyddyn nesaf.

 

7)       Marathon Llundain

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol holl staff y cyngor a phobl Abertawe a gymerodd ran ym Marathon Llundain ar 24 Ebrill 2016.

 

8)       Gwobrau Rhedeg Cenedlaethol 2016

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol ras 10k Bae Abertawe Admiral y cyngor a ddaeth yn ail yng nghategori Ras 10k Orau Gwobrau Rhedeg Cenedlaethol 2016.  Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 22 Ebrill 2016.  Casglodd Nigel Jones, o'r tîm Digwyddiadau Arbennig, y wobr ar ran yr awdurdod.

 

Dyma gyflawniad arbennig gan mai categori'r Ras 10k Orau oedd y categori mwyaf o holl gategorïau'r gwobrau ac felly'r un a gafwyd y mwyaf o gystadleuaeth ynddo.

 

Llongyfarchodd Hanner Marathon JCP Abertawe hefyd a ddaeth yn 2il yn y categori Hanner Marathon gan wneud Abertawe'r unig ddinas neu dref a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dau gategori.  Nododd fod hyn yn newyddion gwych i'n dyheadau i fod yn Ddinas Chwaraeon.

 

9)       Cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth 2016

 

Nododd yr Aelod Llywyddol mai elusen addysgol gwrth-hiliaeth yw Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth â'r nod o fynd i'r afael â hiliaeth drwy greu modelau rôl (pêl-droedwyr yn bennaf ond ddim yn unig) i gyflwyno neges wrth-hiliaeth i bobl ifanc ac eraill.

 

Roedd y gystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru yn ffordd hygyrch a diddorol i annog disgyblion i feddwl am y materion sy'n ymwneud â hiliaeth.

 

Nododd fod yn bleser ganddo gyhoeddi bod Ysgol Gynradd San Helen, Ysgol Gynradd Terrace Road ac Ysgol Ffynone House wedi ennill gwobrau yn y seremoni neithiwr yng Nghaerdydd.

 

10)     Dean Taylor - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol ar ran y cyngor i Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, am ei ymroddiad a'i broffesiynoldeb wrth drawsnewid a moderneiddio agweddau ar yr awdurdod dan raglen Abertawe - Yn Addas i'r Dyfodol.

 

Nododd fod Dean Taylor bellach ar wyliau ac ar ddiwedd ei wyliau daw ei gyflogaeth â'r awdurdod i ben.  Dymunodd yn dda iddo ar ei fentrau newydd.

 

11)     Non Stanford, Gemau Olympaidd Rio

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y dreiathletwraig Non Stanford am ei llwyddiant diweddar yn Cape Town a chael ei chynnwys yn Nhîm Treiathlon PF ar gyfer Gemau Olympaidd Rio.

205.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)       Dean Taylor

 

Ategodd Arweinydd y Cyngor eiriau'r Aelod Llywyddol gan ddiolch i Dean Taylor am ei waith caled a'i broffesiynoldeb wrth weithio gyda'r awdurdod.

 

2)       Hillsborough

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i'r 96 o gefnogwyr Lerpwl a fu farw yn Hillsborough 27 o flynyddoedd yn ôl.  Fel arwydd o barch, bydd bŵau'r Brangwyn yn cael eu goleuo'n goch - lliwiau Clwb Pêl-droed Lerpwl - heno a byddant yn parhau i wneud hynny tan ddydd Llun.  Bydd baneri yn lleoliadau'r cyngor hefyd yn chwifio ar eu hanner.

 

Ni fyddwn byth yn anghofio'r hyn a ddigwyddodd yn Hillsborough 27 o flynyddoedd yn ôl.  Ni all yr ymgyrch am gyfiawnder gan y teuluoedd a dinas Lerpwl yn ei chyfanrwydd newid yr hyn a ddigwyddodd, ond mae'r ymgyrch a'r canlyniadau terfynol a glywsom o'r cwest yr wythnos hon wedi newid hanes.

 

Bydd cefnogwyr Lerpwl yn Abertawe'r penwythnos hwn ar gyfer y gêm ddydd Sul ac rydym am iddynt wybod, fel ein gwesteion, ein bod yn sefyll ochr yn ochr â hwy yn ystod y cyfnod hwn i gofio yn ogystal â chydnabod y cyfiawnder a gafwyd o'r diwedd.

 

Ni all unrhyw un osgoi cael ei effeithio gan ddigwyddiadau'r wythnos hon ac urddas parhaus teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr y 96.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Arglwydd Faer am gytuno i ysgrifennu at bobl Lerpwl gan ddangos cefnogaeth yr awdurdod.

 

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i bawb a oedd yn bresennol sefyll am funud o dawelwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

206.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet.

 

A)       Rhestrir meysydd y cwestiynau nad oes angen ymateb ysgrifenedig ar eu cyfer isod:

 

a)       Eitem 12 “Adroddiad Blynyddol y Partneriaethau Hamdden 2014-2015”;

 

b)       Eitem 11 “Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol i Blant a Phobl Ifanc 2013 - Y Diweddaraf”.

 

B)       Nid oedd unrhyw gwestiwn yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

207.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Disgyblion Ysgol St Thomas.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) gan Mrs Blyth, Mr Dwyer (Pennaeth Ysgol Gynradd St Thomas), Katie Spendiff, Helen Dale (Y Ddraig Ffynci) a Lewi Cook, Tegan Tweed, Syeda Ahmed, Jackson Williams (disgyblion o Ysgol Gynradd St Thomas) a Chloe-Marie Richards a Ffion Morgan (disgyblion o Ysgol Gyfun Cefn Hengoed).   Cytundeb hawliau dynol yw'r CCUHP sy'n pennu hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, iechyd a diwylliannol plant.

 

Diolchodd y Cynghorydd C Richards (Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc) am y cyflwyniad.

208.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 50 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Hefyd amlinellodd unrhyw ddiwygiadau ychwanegol a oedd wedi cael eu cyflwyno.

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor wedi gwneud y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod:

 

1)       Bay Leisure

Tynnu'r Cynghorydd A S Lewis.

Ychwanegu'r Cynghorydd A J Jones.

 

2)       Cyngor Iechyd Cymunedol (CHC) - Bwrdd Abertawe Bro Morgannwg

Ychwanegu'r Cynghorwyr J E C Harris, E J King ac E T Kirchner.

 

3)       Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Ychwanegu Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorwyr J P Curtice, C E Lloyd ac M Thomas.

 

4)       Pwyllgor Cydlynu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Ychwanegu Arweinydd y Cyngor neu unrhyw un o'r cynrychiolwyr enwebedig o Gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

PENDERFYNWYD y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)       Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu'r Cynghorwyr J E Burtonshaw, J P Curtice a D W W Thomas.

Ychwanegu'r Cynghorwyr A M Cook, Y V Jardine, A J Jones ac E J King.

 

2)       Pwyllgor Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu'r Cynghorwyr J A Hale a D G Sullivan.

Ychwanegu'r Cynghorwyr D J Lewis a D G Walker.

 

3)       Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau

Tynnu'r Cynghorwyr J P Curtice a B Hopkins.

Ychwanegu'r Cynghorwyr J E Burtonshaw ac U C Clay.

 

4)       Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu

Tynnu'r Cynghorydd J C Bayliss.

Ychwanegu'r Cynghorydd C R Doyle.

 

5)       Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddiwygio Gofal Cymdeithasol ac

Ataliaeth

Tynnu'r Cynghorydd P Lloyd.

Ychwanegu'r Cynghorydd J A Hale.

 

 

6)       Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu'r Cynghorwyr A M Cook, J P Curtice a R V Smith.

Ychwanegu'r Cynghorwyr C Anderson, C R Evans ac E J King.

 

209.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016 - 2020. pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi manylion Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)       Y dylid cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020.

210.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 2013 - y diweddaraf. pdf eicon PDF 239 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)       Y dylid nodi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn.

211.

Adroddiad Partneriaeth Blynyddol. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Les a Dinas Iach a Menter, Datblygu ac Adfywio adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnwys gwybodaeth am weithrediadau partner cyfleusterau allweddol o fewn portffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)       Y dylid nodi'r adroddiad.

212.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

213.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Roedd ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol.

 

a)       Cwestiwn 2.  Y Cynghorydd P M Meara:

 

“Faint o'r Gweithwyr Masnach hyn oedd wedi bod dan ofal yr awdurdod yn flaenorol?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B.