Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 635757
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a'u llofnodi fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Questions must relate to matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt within a 10 minute period. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Frack Free Wales. |
|
Mabwysiadu Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. PDF 270 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig: Y Cynghorwyr R C Stewart, A S Lewis, R A Clay, M C Child, U C Clay, C Anderson. C Thomas, W Evans, J E C Harris, J P Curtice, N J Davies, T M White & C R Evans. Datblygiad
Nwy Anghonfensiynol (Nwy Siâl,
Echdynnu Methan Gwelyau Glo, Nwyeiddio Glo Tanddaearol a “Ffracio”) Mae pryder cyhoeddus
cynyddol bod echdynnu nwy mewn ffyrdd anghonfensiynol yn peri peryglon
sylweddol i'r amgylchedd ac i iechyd a lles cymunedau cyfagos. Mae'r rhain yn
cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, lygredd aer posib, llygru ffynonellau
dŵr a diwydiannu mwy ar gefn gwlad. Mae pryder hefyd bod archwilio ac
echdynnu tanwyddau ffosil drwy ddulliau anghonfensiynol yn golygu tanseilio a
dargyfeirio adnoddau rhag buddsoddi mewn dyfodol ag ynni adnewyddadwy diogel. Mae'n ymddangos
nad yw gweithrediadau echdynnu nwy anghonfensiynol yn cael eu rheoleiddio a'u
craffu'n ddigonol yn y DU ac, o ganlyniad, mae perygl y bydd y gweithrediadau
hyn yn llygru cyrsiau dŵr bregus, natur a thwristiaeth sefydledig, a
hynny'n barhaol. Mae'r
posibilrwydd o echdynnu nwy anghonfensiynol yn ne Cymru wedi arwain at bryder
sylweddol ymhlith y boblogaeth leol, a gwelir hyn yn nifer y gwrthwynebiadau a
gafwyd i geisiadau cynllunio am ddrilio prawf a nifer cynyddol y deisebau sy'n
cael eu cyflwyno i Awdurdodau Cynllunio Lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch y
mater. Mae'r cyngor yn
nodi fod ganddo gyfrifoldeb i ddiogelu'r amgylchedd lleol a lles cymunedau
lleol, yn ogystal â gwneud ei ran i gefnogi'r rhaglen ynni adnewyddadwy barhaus
er mwyn darparu ynni cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nod y cyngor
yw cymryd camau o fewn ei bwerau statudol i weithio i ddefnyddio'r ffynonellau
ynni adnewyddadwy a chynaliadwy helaeth sydd ar gael, megis ein hamrediad llanw
diguro a'n bryniau gwyntog. Mae'r cyngor
yn bwriadu gweithio tuag at beidio â defnyddio unrhyw danwyddau ffosil erbyn
2025 ac mae'n gobeithio bod yn ddarparwr pŵer llanw a gwynt blaengar yn y
DU. Rhybudd o
Gynnig: Mae'r cyngor yn
bwriadu mabwysiadu polisi a fyddai'n cynnwys rhagdybiaeth, mewn perthynas â
pholisi cynllunio, na fyddai'n cefnogi ceisiadau i archwilio neu echdynnu nwy
mewn ffyrdd anghonfensiynol, gan gynnwys yr arfer a adnabyddir fel 'ffracio', o
fewn Dinas a Sir Abertawe. Byddai hyn hefyd yn cynnwys drilio prawf. Ni fyddai hyn yn atal ceisiadau cynllunio
rhag cael eu cyflwyno a byddai'n cymryd ffurf rhagdybiaeth wrthbrofadwy lle
caiff amgylchiadau unigol pob achos eu hystyried. Mae'n amlwg fod
Llywodraeth Cymru yn bryderus ynglŷn â'r mater o echdynnu olew a nwy
anghonfensiynol ac mae wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref
(Hysbysu) (Olew a Nwy Anghonfensiynol) (Cymru) 2015. Effaith y cyfarwyddyd hwn
yw na fydd unrhyw awdurdod lleol yn cael caniatáu cais am echdynnu
anghonfensiynol am gyfnod o 21 diwrnod sy'n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru
benderfynu ar y cais. Nid yw'r cyfarwyddyd yn berthnasol i ddrilio prawf ac
mae'r cyngor o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys drilio prawf yn y
cyfarwyddyd. Drwy gymryd yr
ymagwedd hon, mae'r cyngor yn gobeithio y bydd ei ymrwymiad i ddyfodol ynni
glanach yn dangos i weddill Cymru pa mor bwysig yw diogelu ein hamgylchedd ar
gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn ein galluogi i sefyll gydag awdurdodau lleol
arloesol eraill. Yn ogystal â hyn,
mae'r cyngor wedi penderfynu: 1) Y dylai
Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio lunio adroddiad manwl i'r cyngor ei
ystyried ym mis Mawrth sy'n nodi'r goblygiadau ac argymhelliad o ran y
posibilrwydd o fabwysiadu newid i'r polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu
olew a nwy anghonfensiynol. 2) Y dylai Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac awgrymu y dylid estyn y cyfarwyddyd er mwyn cynnwys drilio at ddibenion archwilio ac echdynnu nwy anghonfensiynol yn unig. |
|
Adolygiad Barnwrol - Jewish Human Rights Watch. |
|
Cyfarfod nesaf - 5pm ar 25 Chwefror 2016. |