Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 635757
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod cyffredinol yn cyngor a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2015 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. |
|
Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd Chris Davies, y Prif Swyddog Tân, yn rhoi'r diweddaraf i Aelodau ar yr heriau daearyddol, ardal yr awdurdod, perfformiad y gwasanaeth yn Abertawe, gwerth cyhoeddus, effeithlonrwydd a gwerth am arian. Yna ceir sesiwn holi ac ateb. |
|
Adroddiad Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach. |
|
Polisi Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMO) 2016. PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth. |
|
Adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio. |
|
Adolygu'r Polisi Gamblo. PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad. |
|
Adroddiad yr Arweinydd. |
|
Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Caniatâd absenoldeb ar gyfer cynghorydd - Y Cynghorydd B G Owen. PDF 49 KB |
|
Penodi Cynghorydd Cymuned/Tref i fod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau. PDF 99 KB |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig: Cynghorwyr C E Lloyd, R C Stewart, C Richards, M C Child, W Evans, R Francis-Davies, J E C Harris, D H Hopkins, A S Lewis a J A Raynor. Mae'r cyngor hwn yn gwrthwynebu cyflwyno Bil Undebau
Llafur 2015. Rydym yn gofyn
i'r cyngor hwn ysgrifennu'n
syth i annog Llywodraeth Ceidwadol y DU yn San
Steffan i roi'r gorau i'r Bil hwn ac ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â symudiad yr Undebau Llafur i gyflawni cymdeithas decach. Credwn fod y bil hwn yn cael ei arwain gan ideoleg y Ceidwadwyr ac mae'n
ymateb sydd wedi dyddio i heriau'r
21ain ganrif. Mae'r bil yn wrthgynhyrchiol, yn ddialgar, yn ymrannol yn gymdeithasol, a bydd yn arwain at fwy o berthnasoedd gwrthdaro rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac yn pen draw yn tanseilio yn hytrach na chefnogi cyflwyno gwasanaeth cyhoeddus pwysig. Mae gan Gyngor Abertawe eisoes draddodiad hir o berthnasoedd da gyda'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur ac yn cydnabod yn llawn y rôl hynod bwysig sydd ganddynt yn y sefydliad hwn, y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r gymuned ehangach. Ein barn ni hefyd yw bod Cyngor Abertawe'n ddigon abl i benderfynu sut mae'n rhyngweithio â'i weithwyr a'r Undebau Llafur ac nid oes angen deddfwriaeth arno ar gyfer y mater hwn. Mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth. |
|
Rhybudd o Gynnig: Cynghorwyr R C Stewart, C Richards, A S Lewis, J A Raynor, R Francis-Davies, D H Hopkins, W Evans, M C Child, C E Lloyd a J E C Harris. GOSTYNGIAD ARFAETHEDIG MEWN TARIFFAU CYFLENWI TRYDAN AR
GYFER CYNLLUN YNNI ADNEWYDDADWY Mae'r cyngor hwn yn protestio yn y termau cryfaf posib am
faint y gostyngiad mewn tariffau cyflenwi trydan ar gyfer gosodiadau
ffotofoltaidd solar a'r rhybudd annigonol am y newidiadau, a fydd yn cael
effaith andwyol sylweddol ar gyflwyno holl gynlluniau ynni adnewyddadwy yn y
dyfodol yn Abertawe a'r DU. Mae'r cyngor yn cydnabod y manteision arwyddocaol i'r
amgylchedd, yr economi ac i'r gymdeithas o hyrwyddo'r gosodiadau hyn a dulliau
eraill o ynni adnewyddadwy. Rhoddwyd cymhorthdal i'r cynlluniau hyn gan Dariffau
Cyflenwi Trydan (FiT) y Llywodraeth. Mae'r FiT wedi bod yn llwyddiant enfawr ac
wedi helpu awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a grwpiau
ynni cymunedol i adeiladu modelau busnes hyfyw ar gyfer eu prosiectau, gan
helpu i leihau a datganoli gwariant ynni, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a
chreu incwm i'w ail-fuddsoddi yn yr ardal. Mae'r FiT hefyd wedi bod yn
llwyddiannus yn sefydlu diwydiant ynni adnewyddadwy sydd bellach yn cyflogi
oddeutu 2,010 o bobl yng Nghymru. Mae'r manteision hyn bellach mewn perygl o
gael eu colli, gydag oddeutu 1,608 o swyddi (80%) mewn perygl o ganlyniad i'r
toriad arfaethedig gwerth 87% i'r FiT. Mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Ganolog i ailystyried eu sefyllfa wrth adolygu raddfa'r toriad yn FiT a gweithredu trefn sy'n gwneud gosodiadau ffotofoltaidd solar yn fforddiadwy i gymunedau lleol a sicrhau bod newidiadau'n cael eu cyflwyno fel bod gan y diwydiant ddigon o amser i addasu, gan roi sefydlogrwydd a chynnal hyder buddsoddwyr mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy. |