Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

79.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Y Cynghorydd  P Downing & R A Fogarty personol a rhagfarnol a'i adael cyn trafodaeth Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.”

 

 Y Cynghorydd  D H Jenkins & P M Matthews gysylltiad personol â   Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor”.

 

Y Cynghorydd  C Anderson, M Baker & T J Hennegan personol a rhagfarnol a'i adael cyn trafodaethGosod Rhenti CRT 2024/25.”

 

 

Y Cynghorydd A Davies, P Downing, N Furlong & T M White gysylltiad personol â  “.Gosod Rhenti CRT 2024/25.”

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol.

 

1)             Datganodd y Cynghorwyr P Downing ac R A Fogarty fudd personol a rhagfarnol â Chofnod Rhif 87, "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor” a gadawsant cyn y drafodaeth.

 

2)             Datganodd y Cynghorwyr D H Jenkins a P M Matthews gysylltiad personol â Chofnod 87 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor."

 

3)             Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M Baker a T J Hennegan fudd personol a rhagfarnol â Chofnod 88 "Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25" a gadawsant cyn y drafodaeth.

 

4)             Datganodd y Cynghorwyr A Davies, P Downing, N Furlong a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 88, "Gosod Rhenti'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25.”

80.

Cofnodion. pdf eicon PDF 369 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023.

81.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

82.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

For Information

Cofnodion:

i)               Cydymdeimladau

 

a)             Y Cyn-gynghorydd Nortridge Perrot

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Nortridge Perrott. Roedd Nortridge yn cynrychioli Ward Uplands ar:

Ø    Gyngor Dinas Abertawe 1994 - 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 1995/1999.

 

Safodd bawb fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

ii)             Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at y Dinasyddion o Abertawe a oedd wedi derbyn dyfarniadau yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

a)             Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

i)               Robert Terence Grey. Perchennog a Hyfforddwr Campfa Paffio yn ddiweddar, Clwb Paffio Amatur Gwent. Am wasanaethau i Baffio Amatur yn Abertawe.

 

ii)              Alfred Oluwafemi Oyekoya. Cyfarwyddwr, Cefnogaeth Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig. Am wasanaethau i Gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

 

b)             Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

i)               Leslie John Want. Am wasanaethau i'r gymuned yn Sgeti ac Abertawe.

 

ii)             Santes Dwynwen

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei bod hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen heddiw (25-01-2024), y Nawddsant Cymreig a Cheltaidd ar gyfer cyfeillgarwch a chariad.  Mae poblogrwydd a dathliadau Dydd Santes Dwynwen wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cofiwch ddweud wrth eich partner eich bod chi'n ei garu.

 

iv)           Marchnad Dan Do Fawr Orau Prydain 2024

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain wedi dyfarnu gwobr Marchnad Dan Do Fawr Orau Prydain i Farchnad Abertawe. Roedd Marchnad Abertawe eisoes wedi ennill y wobr hon yn 2015 a 2020.

 

v)             Diwygiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

a)             Eitem Frys - Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ei bod yn meddwl y dylid trafod yr "Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel” yn y cyfarfod fel mater o frys.

 

Rheswm dros y Mater Brys: O ystyried bod Tata Steel wedi cyhoeddi yn ddiweddar eu bwriad i gael gwared ar filoedd o swyddi eleni, a fydd yn cael effaith enfawr yn lleol ac yn rhanbarthol, dyma'r unig gyfle i'r Cyngor hwn ystyried a thrafod y cynnig hwn i roi pwysau ar Tata Steel a'r Llywodraeth.

83.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

i)               Tata Steel

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyhoeddiad diweddar Tata Steel a fydd yn arwain at golli oddeutu 2,800 o swyddi. Dywedodd fod pob un o'r 22 o Arweinwyr Cyngor yng Nghymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i lobïo Tata Steel i ailystyried y penderfyniad.

 

Roedd effaith y cynnig yn ddinistriol gyda cholled amcangyfrifedig o £150m i'r economi ac o bosib dair gwaith hynny ar gyfer elfennau cysylltiedig y gadwyn gyflenwi.

84.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

85.

Addewidion Magu Plant Corfforaethol. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith a gwblhawyd gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn Abertawe, ynghylch dyletswydd y Cyngor i fod yn Rhieni Corfforaethol. Amlinellodd yr adroddiad y saith maes addewid sy'n ymwneud â hawliau plant, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng Cynghorwyr a phobl ifanc.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal sawl derbynnydd gofal i'r cyfarfod a gwahoddwyd Rose ac Aaron i annerch y Cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r adroddiad a'r addewidion a oedd ynghlwm wrtho.

86.

Adroddiad Cynnydd ar Gynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Abertawe 2021-2023. pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau adroddiad a oedd ynamlinellu'r cynnydd a wnaed o ran rhoi dull Cyngor cyfan ar waith ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc wedi'i adnewyddu.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo adroddiad cynnydd 2021/2023 ar roi dull Cyngor cyfan ar waith ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc wedi'i adnewyddu.

 

2)       Rhoi caniatâd i ddiwygio'r cylch adrodd i bum mlynedd yn unol â Llywodraeth Cymru.  Bydd y gwaith yn mynd rhagddo drwy gydol y cyfnod hwn gydag adroddiadau cynnydd yn cael eu cynhyrchu ganol tymor ac ar ddiwedd y cylch.

 

3)       Diwygio Cynllun Hawliau Plant 2021 i adlewyrchu'r cylch adrodd diwygiedig.

87.

Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. pdf eicon PDF 360 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor presennol y Cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2024. Roedd hefyd yn argymell ailfabwysiadu'r cynllun presennol fel y nodir yn Adran 3 o'r adroddiad ar gyfer y cyfnod 2024/2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd.

 

2)       Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024 i'w hystyried gan Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2024.

 

3)       Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2023 ar feysydd dewisol y cynllun presennol.

 

4)       Y bydd meysydd dewisol y cynllun presennol (2023/2024) (fel a nodir yn Adran 3 o'r adroddiad) yn aros yr un fath ar gyfer y cyfnod 2024/2025.

 

5)       Y bydd y Cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn Adran 3 o'r adroddiad hwn, i gynnwys unrhyw ddiwygiadau gorfodol a all fod yn angenrheidiol o ganlyniad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024.

88.

Gosod Rhenti CRT 2024/25. pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad sy'n cynnig cynnydd mewn rhenti a ffioedd a thaliadau ar gyfer eiddo o fewn y CRT ar gyfer 2024/2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cynyddu rhenti'n unol â pholisi Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran 3.1 yr adroddiad.

 

2)       Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn Adran 3.2 yr adroddiad.

 

Sylwer:

 

1)             Dywedodd y Cynghorydd C A Holley ei fod yn cytuno na ddylai Cyngor Abertawe fod yn codi tâl gwasanaeth; fodd bynnag, hoffai gael esboniad ynghylch yr hyn y mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yn ei wneud mewn perthynas â Thaliadau Gwasanaeth.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)             Gofynnodd y Cynghorydd P M Black a oedd tâl gwasanaeth ar waith ar gyfer y Gwasanaeth Warden?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

89.

Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio. pdf eicon PDF 779 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y newidiadau arfaethedig i Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio ac i gytuno ar ymchwiliad pellach i symud nifer o leoliadau gorsafoedd pleidleisio o bosib.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio a grynhoir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

2)       Cymeradwyo'r cynigion terfynol i'r Dosbarthiadau Etholiadol a'r Mannau Pleidleisio fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

3)       Bod y Swyddog Canlyniadau yn parhau i fonitro Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar y pryd.

90.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 306 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o ddiwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y diwygiadau'n ymwneud ag argymhelliad gan Weithgor y Cyfansoddiad i ddiwygio'i Gylch Gorchwyl.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Diwygio Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad i gynnwys:

 

"e)      I ystyried unrhyw fater sy'n gofyn am drafodaeth ar draws y Grŵp Gwleidyddol".

91.

Mabwysiadu'r Polisi Enwi. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn argymell mabwysiadu Polisi Enwi.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Mabwysiadu'r Polisi Enwi.

92.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 543 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 3

Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice, "Beth yw'r dadansoddiad rhwng yr hyn y mae'r Cyngor wedi'i wario ar yr Arena a faint a ariannwyd drwy gyllid allanol?”

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi'n flaenorol fel rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe; fodd bynnag, byddai'n darparu ateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 8

Gofynnodd y Cynghorydd S Bennett, "Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gael gwared ar blastig o afon Tawe cyn i'r llanw uchel fynd ag ef i'r môr?

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

Cyflwynwyd deuddeg (12) ‘cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’ Rhan B.

93.

Eitem Frys - Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ei bod yn ystyried yr "Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, D H Hopkins, A S Lewis, C Anderson, A Anthony, R Francis-Davies, L S Gibbard, H J Gwilliam, E J King, R V Smith, A H Stevens, C A Holley, W G Lewis, M B Lewis, L V Walton ac N L Matthews mewn perthynas â Tata Steel fel mater o frys i’w drafod yn y cyfarfod.

 

Rheswm dros y Mater Brys: O ystyried bod Tata Steel wedi cyhoeddi yn ddiweddar eu bwriad i gael gwared ar filoedd o swyddi eleni, a fydd yn cael effaith enfawr yn lleol ac yn rhanbarthol, dyma'r unig gyfle i'r Cyngor hwn ystyried a thrafod y cynnig hwn i roi pwysau ar Tata Steel a'r Llywodraeth.

94.

Hysbysiad o Gynnig - Tata Steel

Cofnodion:

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A Holley.

 

"Mae'r Cyngor hwn yn bryderus iawn yn dilyn cyhoeddiad Tata a Llywodraeth y DU i roi'r gorau i gynhyrchu dur crai ym Mhort Talbot drwy gau'r ddwy ffwrnais chwyth a cholli tua 2,500 o swyddi.

 

Bydd colli 2,500 o swyddi yn golygu colled uniongyrchol flynyddol o dros £100m i'r economi leol a cholled o dros £300m bob blwyddyn, pan fyddwn yn ystyried y swyddi cysylltiedig a'r effeithiau ar y gadwyn gyflenwi.

 

Mae arweinwyr ar draws Cymru eisoes wedi mynegi eu dicter ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn.

 

Mae cynhyrchu dur yn y DU yn cael ei ystyried yn ddiwydiant strategol ac yn rhan o allu cenedlaethol hanfodol y DU.

 

Bydd cael gwared ar y gallu i greu dur crai yn y DU yn y modd hwn, gyda bwlch o sawl blwyddyn ac ansicrwydd sylweddol o ran buddsoddi mewn technoleg arc trydanol amgen, yn gwneud y DU yn gynyddol ddibynnol ar ddur wedi'i fewnforio.

 

Bydd hyn yn ailadrodd y camgymeriadau a wnaed yn y farchnad ynni drwy wneud y DU yn destun grymoedd y farchnad fel ei bod yn dibynnu ar bwerau tramor am ei chyflenwad dur.

 

Er ein bod yn llwyr gefnogi'r angen i ddatgarboneiddio'r economi a'r ffordd o gynhyrchu dur, rydym yn teimlo'n gryf bod yn rhaid i ni gael trosglwyddiad wedi'i reoli tuag at fod yn garbon isel a di-garbon.

 

Bydd cynnig Tata yn arwain at golledion swyddi uniongyrchol ar raddfa fawr a llawer mwy o golledion swyddi anuniongyrchol mewn cwmnïau a gwasanaethau cyflenwi cysylltiedig. I'r cymunedau dan sylw, bydd hyn yn drychinebus. Rydym wedi gweld effaith cau safleoedd diwydiannol mawr yng Nghymru o'r blaen ac nid yw llawer o'n cymunedau erioed wedi adfer yn llwyr o'r effaith y mae digwyddiadau o'r fath yn ei chael ar fywydau pobl.

 

Mae potensial enfawr ar gyfer diwydiant gwyrdd newydd yng Nghymru, sy'n gysylltiedig yn benodol â datblygiadau yn y diwydiant ynni adnewyddadwy a charbon isel, sy'n cael ei ariannu a'i gyflawni ar hyn o bryd gan y Fargen Ddinesig, a all ein helpu i drawsnewid i ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw a gweithio.

 

Byddai cadw un o'r ffwrneisi chwyth yn osgoi sefyllfa nad oes modd adfer ohoni. Byddai'n cynnal mwy o swyddi wrth ganiatáu mwy o amser ar gyfer addasiadau yn y farchnad lafur ac archwilio technolegau eraill a all ein galluogi i barhau i gynhyrchu dur crai yng Nghymru a'r DU.

 

Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i'r Arweinydd, fel Cadeirydd y Dinas-ranbarth, i ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Tata i fynnu bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Tata, a'r Undebau i archwilio pob cyfle i ddiogelu gallu'r DU i gynhyrchu dur a diogelu swyddi yn y diwydiant dur.

 

Gofynnwn i dasglu rhanbarthol cwbl gynrychioliadol gael ei sefydlu i archwilio'r holl opsiynau i ddiogelu swyddi a chyfleoedd gwneud dur."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.