Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

68.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

69.

Cofnodion. pdf eicon PDF 432 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2023.

70.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

71.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)             Cydymdeimladau

 

i)              Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Huw Mowbray. Huw oedd Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol y cyngor. Roedd Huw yn gyfaill ac yn gydweithiwr gwych i lawer ac roedd yn cael ei barchu'n fawr gan Gynghorwyr a Swyddogion am ei broffesiynoldeb a'i ymroddiad.

 

Am flynyddoedd lawer, helpodd Huw i lunio'r broses o adfywio Canol y Ddinas ac roedd yn cael ei barchu'n fawr gan ein Partneriaid a'n Datblygwyr. Gellir gweld effaith Huw ar y Ddinas heddiw yn y datblygiadau niferus sydd wedi helpu i drawsnewid Canol y Ddinas.

 

Dywedodd fod meddyliau a chydymdeimlad y cyngor gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Huw.

 

ii)             Patrick Arran - Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Patrick Arran. Roedd Patrick yn gyn-bennaeth y gwasanaethau cyfreithiol. Dywedodd fod meddyliau a chydymdeimlad y cyngor gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Patrick.

 

Safodd bawb fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b)            Adolygiad Dosbarth Etholiadol a Man Pleidleisio 2023

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Swyddog Canlyniadau'n cynnal Adolygiad Dosbarth Etholiadol a Man Pleidleisio 2023. Agorodd y Cyfnod Ymgynghori ar 8 Tachwedd 2023 ac mae'n cau ar 20 Rhagfyr 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar gael ar-lein yn https://swansea.gov.uk/article/25356/Review-of-Polling-Districts-and-Polling-PlacesStations-2023

 

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad at etholiadau@abertawe.gov.uk neu drwy lenwi ffurflen ar-lein https://online1.snapsurveys.com/pollingdistrictreview

 

c)             Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2023

Dywedodd yr Aelod Llywyddol gynhaliwyd y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel cyntaf yn ddiweddar yng Ngwesty'r Village, Abertawe. Nod y gwobrau yw dathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sy'n mynd ati i wneud cymunedau'n fwy diogel ar draws Cymru. Mae'r Gwobrau'n arddangos y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar draws Cymru i atal a lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn erbyn Menywod a Merched, a Chamfanteisio ac i wneud cymunedau'n fwy diogel o ran y meysydd hynny.

 

Dywedodd ei bod yn hapus iawn i gyhoeddi bod pedwar prosiect  Cyngor Abertawe yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y gwobrau:

 

·                Cafodd brosiect Flip the Streets y Tîm Integreiddio Cymunedol gymeradwyaeth uchel yn y categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant.

·                Cafodd brosiect Caban y Nadolig Abertawe Mwy Diogel y Tîm Integreiddio Cymunedol ei ganmol yn fawr yn y categori Partneriaethau.

·                Cafodd panel CMET (Coll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunol) mewn Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gymeradwyaeth uchel yn y categori Diogelu.

·                Y Tîm Cydlynu Ardaloedd Lleol mewn Gwasanaethau i Oedolion, y Gwasanaeth Atal a Threchu Tlodi oedd yr enillwyr cyffredinol yn y categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant.

 

Rhoddodd longyfarchiadau i'r Tîm Cydlynu Ardaloedd Lleol ar ennill y wobr hon a diolchodd iddynt am eu gwaith yn ein cymunedau. Dylent fod yn falch o'r effaith y maent yn ei chael ar wella bywydau unigolion a chysylltu ein cymunedau ar draws y ddinas.

 

d)            Gyda'n gilydd dros y Nadolig

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â JR Events & Catering, wedi cynnal menter Gyda'n gilydd dros y Nadolig ar 5 Rhagfyr 2023. Roedd y digwyddiad yn darparu cinio Nadolig am ddim i'r rheini sy'n ddigartref, yn unig neu mewn angen. Diolchodd i bawb a wnaeth helpu.

 

Dywedodd fod llawer o Gynghorwyr a Swyddogion yn gwisgo dillad Nadolig i gyfarfod y cyngor heno. Bydd yr arian a godir yn cael ei roi i gefnogi elusennau yn Abertawe.

72.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)             Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Heneiddio gyda Llywodraeth Cymru

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros y Gymuned wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Heneiddio gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hi'n cymryd rhan fel Arweinydd Heneiddio'n Dda. Bydd y rhestr o Gyrff Allanol yn cael ei newid yn unol â hynny.

 

b)            Cartrefi i Wcráin

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi ysgrifennu ato yn diolch i Swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a'u gwaith caled gyda'r rhaglen Cartrefi i Wcráin. Dywedodd y Gweinidog fod y cyngor yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau y gallai Cymru gyflawni ei huchelgais o fod yn Genedl Noddfa. Roedd gwesteion o Wcráin a noddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu lletya mewn tri lleoliad llety cychwynnol ar draws Abertawe, sef y Mercure, Gwesty'r Village a Gwesty'r Grand. Roedd y lleoliadau hyn yn darparu llety mawr ei angen i deuluoedd y mae angen amgylchedd diogel a gofalgar arnynt yn ystod cyfnod o ansicrwydd sylweddol yn dilyn dechrau'r rhyfel yn Wcráin.

 

c)             Gorymdaith y Nadolig

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Dîm Digwyddiadau Arbennig y Cyngor am gynnal Gorymdaith Nadolig ardderchog.

73.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

74.

Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2023/24.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2023-2024.

75.

Adolygu'r refeniw wrth gefn. pdf eicon PDF 469 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn ac yn ceisio cytundeb ar unrhyw ailddosbarthiad o gronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi bod Cronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalaf wedi cael ei chreu o'r tanwariant ar daliadau dyled a'r adolygiad sylfaenol gan y cyngor o'r cyfrifiad o'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw. Dylid ychwanegu at y gronfa wrth gefn hon lle bynnag y bo modd, trwy danwariant ariannu cyfalaf mewn blwyddyn, i helpu gydag unrhyw faterion amseru sy'n ymwneud â'r angen i ariannu unrhyw brosiectau'r Fargen Ddinesig cyn derbyn cyllid gan gyrff eraill.

 

2)             I'r graddau hyn, ac yn dilyn adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar hyn o bryd, cymeradwyo ailddosbarthu cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi fel y manylir isod ar yr adeg hon:

 

Categori Cronfa wrth Gefn a Glustnodwyd

Balans Cyfredol 31/03/23

£’000

Newid Arfaethedig

 

£’000

Sefyllfa a Argymhellir

 

£’000

Technegol/trydydd parti

2,815

0

2,815

Yswiriant

20,427

0

20,427

Trawsnewidiad ac effeithiolrwydd

15

2,800

2,815

Cronfeydd wrth gefn dirprwyedig ysgolion

20,155

0

20,155

Cronfeydd wrth gefn cyfartalu

23,386

0

23,386

Symiau cymudedig

8,025

0

8,025

Cronfeydd atgyweirio ac adnewyddu

2,311

0

2,311

Cyfran elw ar fentrau ar y cyd

1,694

0

1,694

Cronfeydd wrth gefn y gwasanaeth a glustnodwyd

36,431

0

36,431

Cronfa wrth gefn costau ailstrwythuro

2,800

-2,800

0

Wrth gefn

0

0

0

Cronfa Datblygu TG

2,250

0

2,250

Cronfa Adferiad

31,008

0

31,008

 

 

 

 

Cyfanswm y Cronfeydd wrth Gefn a Glustnodwyd

151,317

0

151,317

 

76.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2024/2025. pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2024/2025. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2024/2025.

 

2)             Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2024/2025:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

93,803

 

 

 

Ar gyfer ardaloedd Cynghorau Cymuned/Tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

2,014

 

Clydach

2,655

 

Gorseinon

3,322

 

Tregŵyr

2,015

 

Pengelli a Waungron

451

 

Llanilltud Gŵyr

347

 

Cilâ

2,173

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

519

 

Llangyfelach

969

 

Llanrhidian Uchaf

1,599

 

Llanrhidian Isaf

343

 

Llwchwr

3,497

 

Mawr

762

 

Mwmbwls

10,072

 

Penlle'r-gaer

1,538

 

Pennard

1,544

 

Pen-rhys

484

 

Pontarddulais

2,365

 

Pont-lliw a Thir-coed

1,037

 

Porth Einon

470

 

Reynoldston

312

 

Rhosili

196

 

Y Crwys

709

 

Cilâ Uchaf

593

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

66,063

 

77.

Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr a cheisiodd gymeradwyaeth i gynnwys arweiniad ar Ddefnydd o Logo'r Cyngor yn Adran C,  "Protocolau".

 

Trafododd Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yn ystod ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2023 ac argymhellodd Llawlyfr y Cynghorwyr diwygiedig a fyddai'n cynnwys Arweiniad ar Ddefnydd o Logo'r Cyngor i'r cyngor i'w fabwysiadu.

 

Penderfynwyd mabwysiadu Llawlyfr y Cynghorwyr diwygiedig a fyddai'n cynnwys yr Arweiniad ar Ddefnydd o Logo'r Cyngor.

78.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 354 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald:

i)               Oes modd i mi gael ateb 'ie' neu 'na' i'm cwestiwn ysgrifenedig?

ii)              Ble mae'r lleoliadau a nodwyd ar gyfer plannu coed yn dilyn yr Arolwg Canopi Coed?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

Cyflwynwyd chwe (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.