Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

1)        Y Cynghoryddwyr C Anderson, M Bailey, P N Bentu, P M Black, J P Curtice, A Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty, R Francis-Davies, N Furlong, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam, T J Hennegan, V A Holland, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, A J Jeffrey, D H Jenkins, J W Jones, L R Jones, M H Jones, M Jones, S M Jones, S A Joy, S E Keeton, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, P Lloyd, M W Locke, N L Mathews, P M Matthews, P N May, J D McGettrick, F O’Brien, A O’Connor, D Phillips, C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard, S J Rice, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, W G Thomas, M S Tribe, G D Walker, L V Walton, T M White & R A Williams - Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt - Personol

 

2)      Y Cynghoryddwyr V M Evans & P Lloyd - Hysbysiad o Gynnig - Toriadau i Wasanaethau Bws - Personol

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M Bailey, P N Bentu, P M Black, J P Curtice, A Davis, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, R A Fogarty, R Francis-Davies, N Furlong, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, H J Gwilliam, , T J Hennegan, V A Holland, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, A J Jeffrey, D H Jenkins, J W Jones, L R Jones, M H Jones, M Jones, S M Jones, S A Joy, S E Keeton, E J King, E T Kirchner,  A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, P Lloyd, M W Locke, N L Matthews, P M Matthews, P N May, J D McGettrick, F D O'Brien, A O'Connor, D Phillips, C L Philpott, J E Pritchard, S Pritchard, S J Rice, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, W G Thomas, M S Tribe, G D Walker, L V Walton, T M White ac R A Williams gysylltiad personol â Chofnod 36, "Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt”.

56.

Cofnodion. pdf eicon PDF 409 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2023.

57.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

58.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)             Cydymdeimladau

 

i)               Margaret Smith - Cyn-gynghorydd, Cyn-Arglwydd Faer a Henadur Anrhydeddus

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Margaret Smith. Roedd Margaret Smith yn Gyn-gynghorydd, cyn Arglwydd Faer 2004-2005, ac yn Henadur Anrhydeddus.

 

Cynrychiolodd Margaret Smith Ward Pennard am tua 30 o flynyddoedd ar:

Ø    Gyngor Dinas Abertawe 1976 - 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe 1995 - 2012.

 

ii)             Adeline Evans, Mam y Cynghorydd Chris Evans

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Adeline Evans, mam y Cynghorydd Chris Evans.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b)            Adolygiad Cymunedol Abertawe

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal adolygiad o ffiniau cymunedau Abertawe. Agorodd y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ar 25 Medi 2023 ac mae'n cau ar 19 Tachwedd 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar gael ar-lein yn www.cffdl.llyw.cymru/arolygon/09-23/swansea-community-review

 

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad i consultations@boundaries.cymru neu Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Hastings House, Fitzalan Place, Caerdydd CF24 0BL.

 

c)             Adolygiad Dosbarth Etholiadol a Man Pleidleisio 2023

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Swyddog Canlyniadau'n cynnal Adolygiad Dosbarth Etholiadol a Man Pleidleisio 2023. Agorodd y Cyfnod Ymgynghori ar 8 Tachwedd 2023 ac mae'n cau ar 20 Rhagfyr 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar gael ar-lein yn https://swansea.gov.uk/article/25356/Review-of-Polling-Districts-and-Polling-PlacesStations-2023

 

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad at etholiadau@abertawe.gov.uk neu drwy lenwi ffurflen ar-lein https://online1.snapsurveys.com/pollingdistrictreview

59.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)             Cronfa Bwyd y Gwyliau

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, tua diwedd tymor yr haf, fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddant yn parhau â'r ymrwymiad dros dro i brydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf. Ymatebodd y cyngor yn gyflym i'r her drwy sefydlu Cronfa Bwyd y Gwyliau i helpu teuluoedd sy'n cael trafferth gyda chaledi a'r argyfwng Costau Byw i ddarparu bwyd i blant oed ysgol yn ystod gwyliau'r haf.

 

Dyrannodd y cyngor gyllid a Swyddogion o'r Tîm Trechu Tlodi a'r Tîm Partneriaethau a Chomisiynu a ddaeth at ei gilydd yn gyflym i ddatblygu cronfa newydd, a lansiwyd ar 1 Awst 2023, a thargedwyd dros 130 o wasanaethau mewnol, partneriaid a sefydliadau cymunedol presennol sydd wedi gweithio gyda theuluoedd a phlant oed ysgol i helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd bwyd yn ystod gwyliau haf yr ysgol eleni. Cefnogwyd y Tîm gan gydweithwyr yn y Tîm Gwe a Chyfathrebu i gefnogi'r mynediad digidol at y gronfa.

 

Roedd y canlyniadau mewn cyfnod mor fyr yn anhygoel. Trwy broses asesu a chymeradwyo dreigl, llwyddodd 43 o geisiadau yn ystod mis Awst, gan arwain at ddyrannu £140,080.27 ar gyfer sefydliadau ar draws cymunedau Abertawe, gan gynnwys defnyddio parseli bwyd, bwyd ar gyfer digwyddiadau lleol, gweithdai coginio a thalebau bwyd. Roedd hyn yn cyfateb i dros 65,000 o brydau bwyd i blant oed ysgol yn ystod gwyliau'r haf.

 

Arddangosodd hyn bartneriaethau cydweithredol rhagorol ein timau gyda sefydliadau cymunedol ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod nifer o adrannau wedi cydweithio'n gyflym i sicrhau bod y gefnogaeth fawr ei hangen yn cyrraedd miloedd o deuluoedd a phobl ifanc.

 

Gan adeiladu ar lwyddiant yr ymagwedd hon yn yr haf, mae'r un cydweithwyr wedi lansio 'Cronfa Galluogi Cymunedau 2023/24' yn ddiweddar i ddarparu gweithgareddau, bwyd gwyliau ysgol a mannau croesawgar cynnes yn Abertawe'r gaeaf hwn.

 

Roedd nifer o swyddogion o'r tîm yn bresennol: Anthony Richards, Yvonne Bennett, a Sian Denty (Tîm Trechu Tlodi) a Mark Gosney, Stephen Cable, Spencer Martin a Lisa Evans (Tîm Comisiynu a Phartneriaethau). Diolchodd i'r rhai a oedd ynghlwm â Chronfa Bwyd y Gwyliau.

 

b)            Dydd y Cofio a Gwrthdaro Presennol

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Abertawe'n falch o'i statws fel Dinas Noddfa ac i fod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru. Dywedodd, wrth i ni baratoi i nodi penwythnos y Cofio, ei fod yn gyfle amserol i droi ein meddyliau at y rhai sy'n cael eu dal mewn gwrthdaro ar draws y byd.

 

Rydym i gyd yn drist iawn i glywed am ddigwyddiadau yn Israel a Gaza. Mae Israeliaid a Phalestiniaid yn dioddef yn ofnadwy, ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi'u heffeithio gan y gwrthdaro hwn. Yn yr Wcráin, mae cymaint o fywydau'n parhau i gael eu colli ac mae nifer o drefi, dinasoedd a chymunedau'n cael eu chwalu.

 

Fel cynrychiolwyr pobl Abertawe, rydym i gyd yn meddwl am y rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro hyn a'r nifer o achosion eraill o wrthdaro sy'n digwydd ar draws y byd. Heno, caiff Neuadd y Ddinas heno ei goleuo yn lliwiau Baner Heddwch y Byd.

 

Byddwn yn parhau i gydweithio â'n holl gymunedau a grwpiau ffydd i gefnogi pawb yr effeithir arnynt, a'r rhai yn ein dinas sy'n poeni am eu teulu a'u ffrindiau.

 

Safodd pawb am funud o dawelwch dros ddioddefwyr gwrthdaro yn y gorffennol a'r presennol.

 

c)             Gyda'n gilydd dros y Nadolig

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023. Anogodd aelodau i'w gefnogi ac i helpu.

60.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

61.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2022/23. pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2022-2023. Mae'r adroddiad yn bodloni'r gofyniad statudol i gyhoeddi hunan-asesiad blynyddol ac adroddiad lles blynyddol o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu trefn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cyhoeddi'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2022-2023.

62.

Cynnig i dderbyn penderfyniad newydd i beidio â chyflwyno trwyddedau casino a diwygiadau arfaethedig i Bolisi Gamblo'r Cyngor pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio ystyried canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino; a diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad o Egwyddorion (Polisi Gamblo) Dinas a Sir Abertawe. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio penderfyniad ynghylch cymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Ystyried canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino a diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad Egwyddorion Dinas a Sir Abertawe (Polisi Gamblo).

 

2)             Ystyried y materion a nodir ym Mharagraff 4 yr adroddiad a chytuno ar benderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino.

 

3)             Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo i'w gyhoeddi a nodi 7 Rhagfyr 2023 fel y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

 

Sylwer: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai'n trefnu Seminar ar gyfer Cynghorwyr i amlinellu gwaith yr Adran Drwyddedu a'r Pwyllgor Trwyddedu.

63.

Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. pdf eicon PDF 479 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio diwygio Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2022 a thu Hwnt. Y cynnig yw caniatáu i Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig Statudol hawlio eu Lwfans TGCh yn uniongyrchol gan y cyngor cyn i'r eitem(au) gael eu prynu. Nod y cynnig hwn yw atal caledi ariannol gan roi cydraddoldeb i bawb.

 

Cynigiodd yr adroddiad hefyd ychwanegu adran, gan awgrymu bod Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig Statudol yn yswirio eu hoffer TGCh rhag difrod.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyir y diwygiadau i Baragraffau 6.2, 6.6, 9.3 ac Atodiad 1 i Bolisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt fel yr amlinellir yn yr adroddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol eraill.

 

2)             Cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig ar wefan y cyngor a'i rhannu â'r holl Gynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig Statudol.

64.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 316 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o ddiwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y diwygiadau'n ymwneud â phenderfyniad gan y cyngor ar 7 Medi 2023 i ddiwygio'r Cynllun Deisebau, a chreu Pwyllgor Deisebau. Roedd yr adroddiad yn ceisio sefydlu'r Pwyllgor Deisebau, gan nodi ei faint, ei aelodaeth, a'i gylch gorchwyl. Mae hefyd yn diwygio'r Cynllun Deisebau.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Creu Pwyllgor Deisebau sy'n cynnwys 9 Cynghorydd yn unol â chymesuredd y Pwyllgor.

 

2)             Caiff Cynghorwyr eu neilltuo i wasanaethu ar Gyrff y Cyngor yn unol â'r enwebiadau a dderbyniwyd gan Grwpiau Gwleidyddol. Y Cynghorwyr yw P M Black, O G James, D H Jenkins, S E Keeton, A J O’Connor, S Pritchard, S J Rice, M S Tribe & T M White.

 

3)             Cymeradwyo Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Deisebau fel a amlinellwyd:

 

"Y Pwyllgor Deisebau

 

1.             Derbyn ac ystyried Deisebau sy'n bodloni'r meini prawf yng Nghynllun Deisebau'r Cyngor (ac eithrio Deisebau y mae'n rhaid eu cyfeirio'n uniongyrchol at gorff arall o dan y cynllun).

 

2.             Gwneud adroddiad sy'n amlinellu casgliadau, sylwadau, argymhellion etc mewn perthynas â'r Ddeiseb i Aelod y Cabinet, y Cabinet neu'r Swyddog perthnasol.

 

3.             Nodi a gwahodd cynrychiolydd/cynrychiolwyr o sefydliadau eraill i ddod i gyfarfod y Pwyllgor Deisebau yn ôl yr angen i gynnig gwybodaeth neu i gynghori/annerch y Pwyllgor ar faterion sy'n peri pryder.

 

4.             Mae amlder y cyfarfodydd yn fater i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau gan ddibynnu ar lwyth gwaith; Fodd bynnag, rhagwelir y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ôl y gofyn i ystyried Deisebau."

 

4)             Dileu Adran 10 y Cynllun Deisebau yn ei gyfanrwydd a rhoi'r canlynol ar waith yn ei lle:

 

“10.    Beth sy'n digwydd yn y Pwyllgor Deisebau?

 

10.1    Unwaith y bydd eich deiseb wedi'i chymeradwyo, bydd dyddiad cyfarfod y Pwyllgor yn cael ei nodi. Bydd hyn yn dibynnu ar lwyth gwaith y Pwyllgor a'r amser a gymerir i gwblhau'r broses ddilysu.

 

10.2    Gellir gwahodd y canlynol i'r Pwyllgor Deisebau:

i)               Y Prif Ddeisebydd a tua dau gefnogwr.

ii)             Cynghorydd(wyr) Ward Lleol.

iii)            Y Deiliad Portffolio'r Cabinet perthnasol,

iv)            Y swyddogion perthnasol.

Sylwer: Mae Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau'n cadw'r hawl i ddiwygio'r rheini a wahoddir fel bo'n briodol iddo.

 

10.3    Pwy all siarad yn y Pwyllgor Deisebau:

i)               Gall y Prif Ddeisebydd neu un o Gefnogwyr y Ddeiseb siarad mewn perthynas â'r Ddeiseb.

ii)             Y Cynghorydd(wyr) Ward Lleol

iii)            Y Deiliad Portffolio'r Cabinet perthnasol.

iv)            Mae gan y Prif Ddeisebydd neu un o gefnogwyr y ddeiseb, y Swyddog perthnasol a'r Deiliad Portffolio'r Cabinet perthnasol hawl terfynol i roi crynodeb ar ddiwedd y ddadl ar y mater. Byddai ganddynt hyd at 2 funud yr un fel arfer.

Sylwer: Mae gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ddisgresiwn absoliwt mewn perthynas â hyd areithiau.

 

10.4    Gall Cynghorwyr ar y Pwyllgor Deisebau ofyn cwestiynau mewn perthynas â'r mater(ion) a godwyd yn y Ddeiseb.

 

10.5    Ar ôl ystyried y ddeiseb, bydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud penderfyniad ynghylch y camau gweithredu i'w cymryd fel a ganlyn:

i)               Cytuno bod angen camau gweithredu pellach ar gyfer y mater(ion) a godwyd a chytuno i gyfeirio'r ddeiseb i Aelod y Cabinet, y Cabinet, Corff y Cyngor neu'r Swyddog perthnasol.

ii)              Cytuno nad oes angen camau gweithredu pellach ar y mater(ion) a godwyd.

 

10.6    Fe'ch cynghorir ynghylch penderfyniad y pwyllgor yn ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod gwaith clir o gyfarfod y Pwyllgor Deisebau.”

65.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Materion Cynllunio. pdf eicon PDF 143 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o ddiwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Nododd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf yng Nghyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â newidiadau i ddeddfwriaeth.

66.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 366 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

Cyflwynwyd pymtheg (15) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd W G Thomas, "Beth oedd y gost i'r cyngor ar gyfer y cynllun peilot i ddefnyddio Cerbydau Casglu Sbwriel Trydan?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 4

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald, "Pam nad yw'r cyngor yn gofyn i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag anghysondebau rhwng ei deddfwriaeth a'i Pholisïau a'i Arweiniad Cynllunio? Mae angen mynd i'r afael â'r gwrthddywediadau hyn."

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

Cyflwynwyd naw (9) cwestiwn Rhan B 'Cwestiynau nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’.

67.

Hysbysiad o Gynnig - Toriadau i Wasanaethau Bws. pdf eicon PDF 190 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Mae'r Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol wedi'i amlinellu isod.

 

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio'n agos gyda chynghorau lleol yng Nghymru i sefydlu ein cwmnïau bysiau ein hunain.

 

Mae angen i ni ddeall bod toriadau i wasanaethau'n cael effaith ar y gwasanaethau hanfodol i bawb ar draws Cymru, i bobl sy'n ceisio cyrraedd y gwaith, a gofal iechyd y mae'r gwasanaethau'n ei gefnogi.

 

Mae'n ddrwg gennym am y rownd bresennol o doriadau a roddir ar waith gan weithredwyr bysus preifat a fydd yn effeithio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

 

Gofynnwn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu i gefnogi'r Prif Weinidog."

 

Cyn y cyfarfod, cyflwynodd y Grŵp Llafur Gynnig diwygiedig, a dderbyniwyd gan y cynigwyr gwreiddiol. Y cynnig isod oedd y cynnig gwreiddiol.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Rydym yn nodi Bil Bysus Llywodraeth Cymru sydd ar ddod. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio'n agos gyda chynghorau lleol yng Nghymru i sefydlu ein cwmnïau bysiau ein hunain.

 

Mae angen i ni ddeall bod toriadau i wasanaethau'n cael effaith ar y gwasanaethau hanfodol i bawb ar draws Cymru, i bobl gyrraedd y gwaith, a gofal iechyd y mae'r gwasanaethau'n eu cefnogi.

 

Mae'n ddrwg gennym am y rownd bresennol o doriadau a roddir ar waith gan weithredwyr bysus preifat a fydd yn effeithio ar y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid canlyniadol i Gymru, fel y gwnaed i'r Alban a Gogledd Iwerddon, o brosiect HS2. Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn isadeiledd a gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru a gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gwell."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod.