Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

44.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Y Cynghorydd  M Durke Eitem 8 Adroddiad Blynyddol 2022/23 - Prif Swyddog

Y Gwasanaethau Cymdeithasol.  – personol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorydd M Durke gysylltiad personol â Chofnod 50 “Adroddiad Blynyddol 50/2022 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol”.

45.

Cofnodion. pdf eicon PDF 423 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir yn amodol ar ychwanegu enw'r Cynghorydd B Hopkins at y rhestr o'r rheini a oedd yn bresennol:

 

1)             Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 7 Medi 2023.

46.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

47.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)             Gwasanaethau Adeiladu a Thimau Tai - Enillwyr Gwobr APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus)

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwasanaethau Adeiladu a Gwasanaeth  Timau Tai'r cyngor wedi ennill Gwobr APSE ar y cyd ar gyfer y Tîm Gwasanaethau Gorau yn y categori Gwasanaethau Tai, Adeiladu ac Adeiladau. Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

b)            Tîm Heneiddio'n Dda - ar restr fer Gwobr APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus)

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Tîm Heneiddio'n Dda y Cyngor ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr APSE yn y categori menter Iechyd a Lles orau. Mae hyn ar gyfer eu tro wythnosol er lles, mewn partneriaeth ag Action for Elders, a gychwynnwyd yn dilyn cyfnod clo COVID. Er nad oedd wedi ennill y wobr, roedd cyrraedd y rhestr fer o dros 300 o gyflwyniadau yn gyflawniad eithriadol. Llongyfarchodd y tîm a diolchodd iddynt am eu hymroddiad a'u hymrwymiad tuag at gefnogi ein poblogaeth hŷn. Maent yn cael effaith sylweddol ar fywydau llawer o'n preswylwyr o bob rhan o'r ddinas ac yn eu cefnogi i fyw'n dda a heneiddio'n dda.

 

c)             Gwasanaeth Ieuenctid Evolve - ar restr fer ar gyfer Gwobr Diogelwch Cymunedol

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwasanaeth Ieuenctid Evolve y cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Diogelwch Cymunedol am waith rhagorol. Mae'n gyflawniad gwych i fod ar y rhestr fer ac i gydnabod yr effaith y mae Gweithwyr Allgymorth Ieuenctid yn ei chael gyda'n pobl ifanc yn ein cymunedau ar draws y ddinas. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 17 Hydref 2023, ac ar ran y cyngor, dymunodd bob lwc iddynt.

 

d)            Pont Bae Copr – Gwobrau Dylunio Dur Adeiladu 2023 2023

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr holl staff a oedd yn gysylltiedig â phont eiconig Bae Copr sydd bellach yn croesi Oystermouth Road, gan gysylltu canol y ddinas â'r arena a'r parc arfordirol. Yng Ngwobrau Dylunio Dur Adeiladu 2023 yn ddiweddar, enillodd penseiri'r cyngor, ACME, wobr am eu safon ddylunio ragorol y bont.

 

e)             Arolwg i Breswylwyr

Dywedodd yr Aelod Llywydd fod y cyngor wedi lansio Arolwg i Breswylwyr yn ddiweddar yn gofyn beth yw eu barn am wasanaethau a staff y cyngor. Gobeithir y bydd yr adborth yn helpu i wella eto yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud drwy ymateb i farn preswylwyr. Mae hefyd yn gyfle iddynt ddweud pa wasanaethau y byddent yn eu blaenoriaethu a'u rhoi mewn trefn blaenoriaeth, a bydd hyn yn bwydo i mewn i'n trafodaethau cyllidebol yn ystod y misoedd nesaf. Mae'r arolwg i'w gael yn www.abertawe.gov.uk/arolwgpreswylwyr

 

f)              Adolygiad Cymunedol Abertawe

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal adolygiad o ffiniau cymunedau Abertawe. Agorodd y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol ar 25 Medi 2023 ac mae'n cau ar 19 Tachwedd 2023. Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar gael yn www.cffdl.llyw.cymru/arolygon/09-23/swansea-community-review

 

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad i consultations@boundaries.cymru neu Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Hastings House, Fitzalan Place, Caerdydd CF24 0BL.

48.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Ni wnaeth Arweinydd y Cyngor unrhyw gyhoeddiadau.

49.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Gofynnodd David Davies gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 52 "Cynnydd Ymrwymiadau Polisi".

 

i)               "A fyddai cystadleuaeth ledled Abertawe yn briodol lle gallai pob ysgol enwebu ei Darllenydd y Flwyddyn, bachgen a merch; byddent yn ymddangos gerbron Panel a drefnwyd gan y cyngor a fyddai'n beirniadu'r enillwyr ac yn cyflwyno Cwpan iddynt hwy a'r ysgol. Efallai y gallai ein Gweinidog Addysg ddewis llyfr penodol ar gyfer y cystadleuwyr ac yna asesu eu gwerthusiad beirniadol ohono a'u dychymyg.

 

Cymru yw gwlad y beirdd a gallai'r gystadleuaeth hon ysbrydoli darpar awduron y dyfodol. Mae gan Gaerdydd ei Chanwr y Byd, gadewch i Abertawe gael ei Darllenwyr y Flwyddyn."

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu yr awgrym a dywedodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

50.

Adroddiad Blynyddol 2022/23 - Prif Swyddog Y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn darparu ei gyfrif ef o daith wella'r cyngor i 2022-2023, a pha mor dda y mae'r cyngor yn bodloni ei ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr adroddiad yn adolygu meysydd ar gyfer gwella’r llynedd a'r heriau a wynebwyd ac roedd yn gosod blaenoriaethau newydd. Roedd yr adroddiad yn nodi'r newidiadau sydd wedi digwydd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau lles cenedlaethol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/2023.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiwn yn ymwneud â'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS). Gofynnodd "Beth yw'r amserlen ar gyfer ymweliad ar ôl atgyfeirio?"

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir ymateb ysgrifenedig.

51.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2022-23. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu gwaith craffu ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023.

52.

Cynnydd Ymrwymiadau Polisi. pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad gwybodaeth a oedd yn crynhoi cynnydd yr Ymrwymiadau Polisi a fabwysiadwyd gan y cyngor ym mis Gorffennaf 2022.

 

Sylwer:

 

1)             Gofynnodd y Cynghorydd P M Black, "Beth yw amserlen cyflwyno Wi-Fi Am Ddim i'r Cyhoedd ac i ba raddau y gwneir hyn?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)             Gofynnodd y Cynghorydd P N May, "Faint o bwyntiau gwefru cerbydau trydan oedd ar gael cyn i'r targed gael ei osod? Beth yw'r targed rhifiadol nawr?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

53.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd tri (3) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.

 

Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd P N May, "A ellir dosbarthu copi o'r canllawiau ar gyfer strwythurau presennol?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

54.

Hysbysiad o Gynnig - Coetir Coffa. pdf eicon PDF 108 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y cynnig diwygiedig

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol a amlinellwyd isod gan y Cynghorydd C M J Evans, M W Locke / S Bennett.

 

"Rydym yn galw am adroddiad i'r cyngor a all amlinellu sut y gellir darparu a chynnal coetir coffa, i nodi can mlynedd ers codi'r senotaff a'r aberth a wnaed gan ein lluoedd arfog wrth wasanaethu ein gwlad. Byddai coeden yn cael ei phlannu yn enw pob person a enwir ar y Senotaff, a chaiff cofnod ei greu ar-lein ar eu cyfer y gellir ei gyrchu drwy gôd QR, sy'n amlinellu manylion eu bywydau a'u teuluoedd i sicrhau nad yw eu henwau a'u haberth yn cael eu colli i hanes".

 

Cyn y cyfarfod, cyflwynodd y Grŵp Llafur Gynnig diwygiedig, a dderbyniwyd gan y cynigwyr gwreiddiol. Y cynnig isod oedd y cynnig gwreiddiol.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd C M J Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd W G Lewis.

 

"Rydym yn galw am adroddiad i'r Cabinet a allai amlinellu'r opsiynau ar gyfer darparu a chynnal coetir coffa, i nodi canmlwyddiant y senotaff a'r aberth a wnaed gan bobl o bob cymuned sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog wrth wasanaethu ein gwlad.

 

Bydd yr opsiynau'n ystyried sefyllfa'r gyllideb, strategaeth plannu coed bresennol y cyngor a'r gwaith cyfredol i fapio rhannau o dir y cyngor i gynyddu gorchudd coed ymhellach fel rhan o'i strategaeth sero net. Dylai'r adolygiad ystyried yr opsiynau i blannu coeden yn enw pob person, a chreu cofnod ar-lein y gellir ei gyrchu drwy gôd QR, sy'n amlinellu manylion bywydau a theuluoedd y bobl hyn i sicrhau nad yw eu henwau a'u haberth yn cael eu colli i hanes".

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod.