Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y
cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Cadarnhad o Benodiad ar gyfer Swydd y Cyfarwyddwr Lle. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mark Wade wedi ei benodi Cofnodion: Dywedodd yr Aelod
Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y
Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Lleoedd. Cynigiodd y dylid
rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar
waith er mwyn hepgor y gofyniad: 1) I'r ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor. 2) I’r cyngor
gynnal pleidlais ysgrifenedig. Penderfynwyd: 1) Rhoi Rheol 44
Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn
hepgor y gofyniad: 1) I'r ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor. 2) I’r cyngor gynnal
pleidlais ysgrifenedig. Yna rhoddodd y
Prif Weithredwr, Martin Nicholls, adborth o'r broses benodi a oedd yn ymwneud â
phenodi Cyfarwyddwr Lleoedd a rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i'r cyngor. Penderfynwyd : 2) Nodi'r
diweddariad llafar ar y broses asesu. 3) Y byddai Mark
Wade yn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Lleoedd. Sylwer: Yn dilyn
y penderfyniad hwn, gwahoddwyd Mark Wade i'r cyfarfod a chynigiwyd y swydd
iddo. Derbyniodd Mark
Wade y swydd. |