Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns MBE. Cofnodion: Croesawodd
y Dirprwy Arglwydd Faer, Arglwydd Raglaw, Uchel Siryf, arweinwyr dinesig,
gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Kevin Johns i gyfarfod seremonïol o'r
cyngor. Cyfeiriodd
Arweinydd y cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2022
(cyfeirir ato yng Nghofnod 79) lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er
Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns. Siaradodd
Arweinydd y Cyngor, arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau
gwleidyddol eraill o blaid y cynnig. Ganed
Kevin Johns ym Mhlas-marl, Abertawe ac mae'n wyneb adnabyddus ym myd adloniant.
Mae wedi ymroi ei fywyd i adloniant ac i waith elusen. Mae Kevin Johns wedi
cael ei alw’n "Mr Abertawe" ac yn y blynyddoedd diweddar bu ar frig
pleidlais Eiconau Abertawe. Penderfynwyd
rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin
Johns. Cyflwynodd
yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Kevin Johns gan roi Rhyddid
Dinas a Sir Abertawe iddo. Ymatebodd
Kevin Johns drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd. |