Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol. Cofnodion: Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 17
a 18 Hydref 2022 yn argymell unrhyw ymgeiswyr am gyfweliad ar gyfer swydd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. Penderfynwyd: 1)
Nodi
penderfyniad y Pwyllgor Penodiadau. 2)
Bod y Prif Weithredwr yn cyflwyno adroddiad i'r cyngor yn
amlinellu'r opsiynau ar gyfer y swydd. |