Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y
Cynghorwyr 1) Y Cynghorwyr F D O’Brien gysylltiad
personol a rhagfarnol â Chofnod 168 Cwestiynau Cyhoeddus a gadawsant y cyfarfod
cyn y drafodaeth. 2) Y Cynghorwyr J P Curtice, M Durke, C A
Holley, E J King, M Jones, T M White & A Williams gysylltiad persono a
Chofnod 168 – Datganiad Polisi Tâl
2023/24. 3) Y Cynghorwyr F O’Brien gysylltiad personol a rhagfarnol â
Chofnod 168 Datganiad Polisi Tâl 2023/24 a gadawsant y cyfarfod cyn y
drafodaeth. 4) Y Cynghorwyr S J Rice gysylltiad personol a rhagfarnol â
Chofnod 171 – Cwestiynau gan y Cynghorwyr a gadawsant y cyfarfod cyn y
drafodaeth. Swyddog 5) T Meredith and B Smith gysylltiad
personol a rhagfarnol â Chofnod 167 – Cynllun Gwerthuso Swyddi Prif Swyddogion a
gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth. 6) G Borsden, A Chard, C Davies, H Evans, T
Meredith, M Nicholls, and B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 168
- Datganiad Polisi Tâl 2023/24 a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth. Sylwer: Ni adawodd A Chard a H G Evans
gan fod angen iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a
chofnodi'r penderfyniad. 7) T Meredith gysylltiad personol a
rhagfarnol â Chofnod 169 – Opsiynau ar gyfer y penodiad ar gyfer Swydd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a gadawsant y cyfarfod cyn y
drafodaeth. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorydd F D
O'Brien gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 166 “Cwestiynau gan y
Cyhoedd a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod. 2)
Datganodd y Cynghorwyr J P
Curtice, M Durke, C A Holley, E J King, M Jones, F D O’Brien, M S Tribe, T M
White ac A Williams gysylltiad personol â chofnod rhif 168 “Datganiad Polisi
Tâl 2023/24”. 3)
Datganodd y Cynghorydd S J
Rice gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 171 “Cwestiynau'r
Cynghorwyr” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod. Swyddogion 4)
Datganodd T Meredith a B Smith
gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 167 “Cynllun Gwerthuso'r Prif
Swyddog” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. 5)
Datganodd G Borsden, A Chard,
C Davies, H Evans, T Meredith, M Nicholls, a B Smith gysylltiad personol a
rhagfarnol â chofnod rhif 168 "Datganiad Polisi Cyflog 2023/24" a
gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. Nodyn: Ni adawodd A Chard a H Evans gan fod angen iddynt
aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a chofnodi'r penderfyniad. 6)
Datganodd T Meredith
gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 169 “Opsiynau ar gyfer Penodi
Swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r
eitem gael ei hystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod
arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023. 2) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Y Cynghorydd Mair Baker Croesawodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Mair Baker i'w chyfarfod cyntaf o'r
cyngor. Etholwyd y Cynghorydd Baker yn dilyn Is-etholiad Penderi a gynhaliwyd
ar 28 Ebrill 2023. b)
Tarian Dewar Amlinellodd yr Aelod Llywyddol mai Cystadleuaeth Tarian Dewar
Ysgolion Cymru yw'r Gystadleuaeth Ysgolion hynaf yn y byd Rygbi. Roedd hi'n falch
iawn o longyfarch Ysgolion Abertawe am ennill Tarian fawreddog Dewar yn ddiweddar am y nawfed tro, gyda buddugoliaeth o
24-22 yn erbyn Ysgolion Pontypridd yn y rownd derfynol yn Stadiwm Principality. c)
Darllediad byw Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bob aelod o'r cyhoedd fod y cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw. Nododd fod yn rhaid bod yn ofalus i osgoi unrhyw sylwadau
sarhaus neu ddifrïol yn erbyn Swyddogion, Cynghorwyr neu aelodau eraill o'r
cyhoedd. d)
Aros yn eistedd wrth siarad Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bawb a oedd yn bresennol i barhau i eistedd
wrth siarad yn Siambr y Cyngor, gan fod hynny'n ei gwneud yn haws i bobl eich
clywed a'ch gweld. e)
Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor Amlinellodd yr Aelod
Llywyddol y byddai Eitem 9 "Cynllun Gwerthuso Swyddi'r Prif Swyddog"
yn cael ei ystyried cyn Eitem 8 "Datganiad Polisi Tâl 2023-2024". |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Y Cynghorydd Mair Baker Croesawodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Mair Baker i'w chyfarfod cyntaf o'r cyngor yn dilyn ei hetholiad diweddar yn Ward Penderi. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Gofynnodd dri
aelod o’r cyhoedd gwestiynau a oedd yn ymwneud â chofnod 158 “Cwestiynau
Cynghorwyr - Cwestiwn 9.” Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad ac ymrwymodd i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mr Bettany. |
|
Cynllun Gwerthuso Swyddi Prif Swyddogion. PDF 439 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer cynigion Cynllun Gwerthuso Swyddi newydd i Brif Swyddogion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo argymhellion yr ymgynghorwyr annibynnol fel y
manylir yn Adrannau 2 i 10 yr adroddiad. 2)
Cytuno ar yr argymhellion y manylir arnynt yn Adran 11 yr
adroddiad i fabwysiadu cynllun gwerthuso swyddi'r Gymdeithas Llywodraeth Leol
(CLlL) ar gyfer Prif Swyddogion i'w ddefnyddio yn y dyfodol. 3)
Gwneud y newidiadau priodol i'r Polisi Tâl o ganlyniad i
benderfyniad 2. 4)
Nodi'r crynodeb o'r bandiau cyflog presennol a amlinellir
ym mharagraff 11.6 ac Atodiad D o'r adroddiad. |
|
Datganiad Polisi Tâl 2023/24. PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y Datganiad Polisi Tâl
diweddaraf ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2023/24 i'w gymeradwyo. Penderfynwyd cymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Polisi
Tâl 2023-2024 diweddaraf fel a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Opsiynau ar gyfer y penodiad ar gyfer Swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad ynghylch
yr opsiynau ar gyfer rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r opsiynau a nodir yn yr adroddiad. 2)
Cymeradwyo Opsiwn 2 - Hysbysebu'r Rôl ar sail Ran-amser
barhaol. 3)
Recriwtio'r swydd yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Penodi
Swyddog y Cyd-gyngor Cenedlaethol. |
|
Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu. PDF 398 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu'r Strategaeth
Ymgynghori ac Ymgysylltu. Penderfynwyd mabwysiadu Strategaeth Ymgynghori ac
Ymgysylltu a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad. Nodyn: Dywedodd y Cynghorydd E W Fitzgerald na chynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch Llwybr Beicio Penlle'r-gaer. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y caiff ymateb ysgrifenedig ei ddarparu a fydd yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan y cyngor. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 261 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’ Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol
y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt
isod. Cwestiwn 1 Gofynnodd y Cynghorydd P N May gwestiwn technegol ynglŷn â dyfnder yr
arwyneb newydd y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio a'r dulliau o atgyweirio
tyllau yn y ffordd a ddefnyddir ar gyfer cywasgu etc. Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu
gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd. Cwestiwn 6 i)
Dywedodd y Cynghorydd S
Bennett ei fod yn "pryderu am faint o ollyngiadau carthion sy'n mynd i
mewn i'r Afon Tawe. Mae ewyn parhaol, sef blŵm algâu yn ôl yr hyn dwi
wedi'i glywed, ar y Tawe. Gollyngwyd carthion i'r Tawe gyfanswm o 1,818 o weithiau
yn 2022 - gan bara 13,981 o oriau. Mae'r ymateb yn cyfeirio at ollyngiadau'n digwydd
yn ystod stormydd a glaw trwm yn unig. Rwy'n gwerthfawrogi ein bod yn cael
llawer o law ond nid cymaint â hyn. Gwelaf nad oes llawer o fanylion yn yr
ymateb ynghylch sut mae'r cyngor yn gweithio gyda Dŵr Cymru neu Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) ynglŷn ag atal ollyngiadau parhaus i'r Tawe. Sut fydd y cyngor yn mynd i'r afael â hyn?" ii)
Gofynnodd y Cynghorydd P M
Black "Pa drafodaethau ydy'r cyngor wedi'u cael gyda Dŵr Cymru ynglŷn
â gwella'u safle trin carthion ar Fabian Way?" Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai ymatebion ysgrifenedig i'r uchod yn cael
eu darparu gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad. Amlinellodd y byddai hefyd yn codi'r materion a godwyd gyda Llywodraeth
Cymru a Dŵr Cymru. 2) Rhan B
‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd naw (9) cwestiwn Rhan B 'Cwestiynau nad oedd angen cwestiynau
atodol ar eu cyfer’. |