Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd
y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd y
Cynghorwyr R D Lewis, F D O’Brien & A H Stevens Gysylltiad
Personol a Rhagfarnol â Chofnod Rhif 148 “Cwestiynau gan y Cyhoedd” &
159 “Cwestiynau gan y
Cynghorwyr.” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. 2) Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, P N Bentu, J P Curtice, T
J Hennegan, R Francis-Davies, A S Lewis,
M B Lewis, P Lloyd, N L Matthews, S
Pritchard, SJ Rice, R V Smith, G D
Walker & T M White gysylltiad personol â Chofnod
Rhif 151 “Datganiad o Gyfrifon 2021/22.” 3) Datganodd y
Cynghorwyr P Downing, R A Fogarty, J W Jones, M H Jones, W G Lewis, N L
Matthews, C L Philpott & S J Rice gysylltiad personol â Chofnod
Rhif 152 “Trefniadau Derbyn Ysgolion
2024-2025.”; 4) Datganodd y
Cynghorwyr S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod Rhif 153 “Cynllun
Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Abertawe”; 5) Datganodd y
Cynghorwyr P M Black, C A Holley, P Lloyd & C L Philpott gysylltiad personol â Chofnod Rhif 155 “Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar
Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer
2023-2024”; 6) Datganodd y
Cynghorwyr P R Hood-Williams & L G Thomas gysylltiad personol â rhagfarnol
a Chofnod 155 Enwebu'r
Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar
Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer
2023-2024 a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes
gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr R D
Lewis, F D O'Brien ac A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 147
"Cwestiynau Cyhoeddus" a 158 "Cwestiynau Cynghorwyr" a
gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth". 2) Datganodd y Cynghorwyr
S Bennett, P N Bentu, J P Curtice, J A Hale, T J Hennegan, R Francis-Davies, H
Lawson, A S Lewis, M B Lewis, P Lloyd, N L Matthews, S Pritchard, S J Rice, R V
Smith, M S Tribe, G D Walker a T M White gysylltiad personol â Chofnod 150
"Datganiad o Gyfrifon 2021/22". 3) Datganodd y Cynghorwyr P
Downing, E W Fitzgerald, R A Fogarty, J W Jones, M H Jones, W G Lewis, N L
Matthews, C L Philpott ac S J Rice gysylltiad personol â Chofnod 151
"Trefniadau Derbyn Ysgolion 2024-2025". 4) Datganodd y Cynghorydd
S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod 152 "Cynllun Lles Lleol Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe". 5) Datganodd y Cynghorwyr
P M Black, C A Holley, P Lloyd ac C L Philpott gysylltiad personol â Chofnod 154
"Enwebu Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2023-2024". 6) Datganodd y Cynghorwyr
P R Hood-Williams ac L G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 154
"Enwebu Arglwydd Faer a Darpar Arglwydd Faer 2023-2024" a gadawsant y
cyfarfod cyn y drafodaeth. 7) Datganodd y Cynghorydd E W Fitzgerald
gysylltiad personol â Chofnod 156 “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cylch
Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad ac Aelodaeth a Rheolau Gweithdrefnau Ariannol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Y Cynghorydd Hazel Morris Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar
y Cynghorydd Hazel Morris. Cynrychiolodd Hazel Ward Penderi am tua 15 mlynedd:
Arweiniodd Arweinydd y Grŵp Llafur deyrnged i’r Cynghorydd Hazel
Morris. ii)
Y Cyngynghorydd June
Evans Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth
ddiweddar y Cyn-gynghorydd June Evans. Cynrychiolodd June Ward Llansamlet rhwng
y cyfnodau isod:
Cafwyd munud o ddistawrwydd gan bawb a oedd yn
bresennol i ddangos cydymdeimlad a pharch. b)
Ymddeoliad Karen Thomas, Gwasanaethau Democrataidd Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai Karen Thomas, neu Zippy,
yn ymddeol ar 31 Mawrth 2023, ar ôl gwasanaethu am 40 mlynedd gyda’r cyngor.
Roedd Karen wedi ymroi ei gyrfa i gefnogi Cynghorwyr. Ar ran y cyngor,
diolchodd i Karen. Diolchodd yr Aelod Llywyddol hefyd i'r holl Swyddogion eraill a oedd i fod
i ymddeol yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf am eu gwasanaeth a'u hymroddiad i'r
cyngor. c)
Diolch i'r Timau
Profi, Olrhain, Diogelu Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Llywodraeth Cymru wedi diolch yn ddiweddar i
bawb a fu’n rhan o’r Timau Profi, Olrhain, Diogelu am eu gwaith caled
eithriadol a’u hymrwymiad drwy gydol pandemig COVID-19. Ar ran y cyngor,
ychwanegodd ei diolch i'r Timau Profi, Olrhain, Diogelu am eu proffesiynoldeb
a'u gwaith yn ystod cyfnod mor anodd. d)
Darllediad byw Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bob aelod o'r cyhoedd fod y cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw. Nododd fod yn rhaid bod yn ofalus i osgoi unrhyw sylwadau sarhaus
neu ddifrïol yn erbyn Swyddogion, Cynghorwyr neu aelodau eraill o'r cyhoedd. e)
Aros yn eistedd
wrth siarad Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorwyr i aros ar eu heistedd wrth siarad
yn Siambr y Cyngor, gan ei wneud yn haws i bobl glywed a gweld. f)
Newidiadau/cywiriadau
i wŷs y cyngor i)
Eitemau 19 a 20
"Hysbysiad o Gynnig" Dylid dileu enw'r Cynghorydd Jan Curtis o'r ddau Hysbysiad o Gynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1)
Ffrwydrad yn Clydach Road, Treforys Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at farwolaeth drasig ddiweddar
Brian Davies yn dilyn ffrwydrad yn Clydach Road, Treforys. Mynegodd
gydymdeimladau'r cyngor i'r teulu ar ran y dioddefwr. Diolchodd hefyd i Swyddog Cyngor Abertawe, y Tîm
Tai a'r Gwasanaethau Brys am gefnogi'r gymuned. 2)
Porthladd Rhydd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot Croesawodd Arweinydd y Cyngor y cyhoeddiad bod
Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, fel rhan o
ddinas-ranbarth Bae Abertawe, wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i gael
porthladdoedd rhydd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot. 3)
Canmlwyddiant Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi bod i
ymweld ag Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw yn ddiweddar fel rhan o'u dathliadau
canmlwyddiant. 4)
Gwobrau MJ 2023 -
enwebiad ar gyfer gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn Dywedodd
Arweinydd y Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi'i enwebu ar gyfer Awdurdod
Lleol y Flwyddyn yng Ngwobrau MJ 2023. Dywedodd fod Cyngor Abertawe wedi dod yn
ail yn yr un categori yn 2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Gofynnodd chwe
aelod o’r cyhoedd gwestiynau a oedd yn ymwneud â Chofnod 158 “Cwestiynau
Cynghorwyr - Cwestiwn 1.” Ymatebodd
Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad
Corfforaethol ac ymrwymodd i ddarparu ymatebion ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Corfforaethol 2023/28. PDF 160 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Approved Cofnodion: Penderfynwyd
mabwysiadu Cynllun Corfforaethol 2023/28. Sylwer: Dywedodd y Cynghorydd S Bennett fod
"Paragraffau 3.84 a 3.94 yn cyfeirio at "fwy nag 1 o bob 5
ymatebydd..." a "Mwy nag 1 o bob 4 ymatebydd..." yn y drefn
honno. Beth oedd y mwyafrif yn ei ddweud h.y., y 4 mewn 5 a'r 3 mewn 4? Beth
mae'r paragraffau hyn yn ei olygu? Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe. PDF 355 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyflwynodd Derwyn
Owen, Archwilio Cymru "Adroddiad Archwilio Cymru, Archwilio Cyfrifon
2021-2022 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe". Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol. Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd C A Holley at
dudalen 171, Atodiad 3 a gofynnodd am beth oedd y cyngor yn ei brydlesu am
£284,851,000. Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad o Gyfrifon 2021/22. PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2021/22 fel y'i nodir yn Atodiad A yr
adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau Derbyn Ysgolion 2024-2025. PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer dosbarthiadau
meithrin fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad. 2)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2024-2025 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad. 3)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2024-2025 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad. 4)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2024-2025 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel a nodir yn Atodiad
Ch yr adroddiad. 5)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn/meini prawf derbyn
arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer dosbarthiadau'r chweched yn Atodiad D
yr adroddiad. 6)
Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau ar gyfer
ysgolion cynradd ac uwchradd fel a nodir yn Atodiad Dd yr adroddiad. 7)
Nodi'r
niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel a nodir yn Atodiad
E yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. PDF 292 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth i argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 6 Mawrth
2023 ac i benodi Aelod Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Penderfynwyd: 1) Penodi David Roberts yn Aelod Lleyg y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 2) Pum mlynedd yw cyfnod y swydd, rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2028. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2023-2024. PDF 408 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
Enwebu'r
Cynghorydd Graham Thomas yn Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2023-2024. 2)
Enwebu'r
Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn Ddirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer
2023-2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Arolwg o Amserau Cyfarfodydd y Cyngor a Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2023-2024. PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu
Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2023-2024 drafft yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol
yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 18 Mai 2023. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Roedd y diwygiadau’n ymwneud â Chylch
Gorchwyl y Gweithgor Cyfansoddiad ac i'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol. Penderfynwyd: 1)
Diwygio
paragraff 3.2 Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad fel a ganlyn: "3.2
Mae'r Grŵp hwn wedi'i eithrio o Reolau Cydbwysedd y Pwyllgor er mwyn
caniatáu'r aelodaeth a'r gynrychiolaeth ganlynol gan bob Grŵp Gwleidyddol:
Aelod Llywyddol, Dirprwy Aelod Llywyddol, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y
Grŵp Llywodraethu a'r Wrthblaid Fwyaf, Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol
eraill a’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am faterion cyfansoddiadol. Sylwer:
Gall arweinydd pob Grŵp Gwleidyddol amnewid eu Dirprwy Arweinydd
Grŵp Gwleidyddol gydag un o'u Haelodau Grŵp os oes angen ond rhaid
i'r aelodaeth gael ei chymeradwyo gan y cyngor." 2)
Y
bydd y Cynghorydd M H Jones yn cymryd lle'r Cynghorydd E W Fitzgerald fel
cynrychiolydd yr Wrthblaid Fwyaf ar Weithgor y Cyfansoddiad. 3)
Diwygio
paragraff 11.6 o'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol i ddarllen: "11.6
Rhaid dileu dyledion nad ydynt yn adenilladwy. Rhaid i'r Prif Swyddog
Cyllid gymeradwyo dileu’r holl ddyledion hyd at £10,000. Rhaid dileu dyledion
dros £10,000 gyda chymeradwyaeth y Prif Swyddog Cyllid a’r Prif Swyddog
Cyfreithiol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Gymunedau. PDF 233 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
y
bydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal Adolygiad Adran 26 o
gymunedau ar ran y cyngor. 2)
Diwygio
Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad i gynnwys: "Goruchwylio’r Adolygiad o Gymunedau
a bod yn gyfrifol am weithio gyda Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
i sicrhau bod unrhyw argymhellion yn adlewyrchu cymunedau Abertawe a Chylch
Gorchwyl yr Adolygiad o Gymunedau yn gywir.” 3)
Y
bydd Gweithgor y Cyfansoddiad yn ystyried "Polisi Maint y Cyngor" ac
yn argymell Polisi o'r fath i'r cyngor maes o law. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 431 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiynau
atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod. Cwestiwn 9 Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald am ddiffiniad
cliriach o'r hyn y mae "ffyrdd yn cael eu glanhau'n rheolaidd" yn ei
olygu. Holodd beth oedd yr union amserlen? Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) Rhan B
‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Perygl Brexit i'n Hawliau - Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir PDF 269 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd R A Fogarty a'i eilio
gan y Cynghorydd R C Stewart. "Hyd yma, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi niweidio
ein statws cenedlaethol yn y byd, wedi costio biliynau i'n heconomi o ran colli
masnach ac wedi creu ansicrwydd a gwaith papur i ddinasyddion a busnesau ledled
y DU. Mae 65% o'r cyhoedd ym Mhrydain o'r farn bod Llywodraeth y Ceidwadwyr yn
ymdrin â Brexit yn wael. Bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
yn rhoi’r gallu i Weinidogion y Llywodraeth ddewis a dethol pa reolau'r UE y
byddant yn eu cadw a pha rai i gael gwared arnynt. Mae hyn yn cynnwys amddiffyniadau sylfaenol, y brwydrwyd yn galed
drostynt, fel iechyd a diogelwch yn y gwaith, amddiffyniadau anabledd a hawliau
mamolaeth. Mae perygl y bydd hyn yn achosi niwed pellach ar adeg o anhawster
economaidd i lawer drwy rwygo 4,000 o hawliau ac amddiffyniadau sylfaenol gydag
ychydig iawn o graffu seneddol ac ymrwymo obsesiwn y Ceidwadwyr â dadreoleiddio
ar bob cyfrif i lyfrau statud y DU. Mae’n peri pryder arbennig i weld
ymdrechion i roi sofraniaeth y Senedd i’r cyrion ar adeg pan fo’n ymddangos bod
sgandal newydd yn ymwneud â Gweinidogion Llywodraeth y DU bob wythnos, gan
danseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein harweinwyr i wneud yr hyn sydd
er eu lles pennaf. Fel cymunedau ledled y DU, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio'n
fawr ar Abertawe, gyda phobl yn byw drwy gyfnod mwyfwy ansicr. Rhaid i flaenoriaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd fod i sicrhau
ffyniant economaidd, ac atal unrhyw niwed pellach rhag cael ei wneud gan y
rheini sy'n dymuno defnyddio Brexit fel cyfle i wanhau hawliau ac
amddiffyniadau y brwydrwyd yn galed drostynt. Felly, mae'r cyngor hwn yn: -
Annog y Llywodraeth i
ailystyried cyfreithiau'r UE drwy Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir. -
Galw ar Lywodraeth y DU i
wneud ymrwymiad i gynnal yr holl hawliau ac amddiffyniadau presennol a roddir i
ni yn neddfwriaeth yr UE. -
Gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu
at y Prif Weinidog yn amlinellu gwrthwynebiad cadarn y cyngor hwn i ymosodiadau
rheolaidd ei Lywodraeth ar hawliau dynol sylfaenol. -
Gofyn i'r Arweinydd hefyd
ysgrifennu at Arweinydd yr Wrthblaid yn San Steffan, i geisio sicrwydd, wrth
i'r Bil wneud ei ffordd drwy'r Senedd, y bydd pob cam yn cael ei gymryd i
frwydro yn erbyn yr ymosodiad llwyr hwn ar ddemocratiaeth Seneddol, gan gynnwys
drwy ffocysu craffu cyhoeddus ar yr hawliau a'r amddiffyniadau rydym ar fin eu
colli." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef
"Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
pleidleisio fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Bil Mewnfudo Anghyfreithlon. PDF 205 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd S Pritchard a'i eilio gan y Cynghorydd R C
Stewart. "Mae'r cyngor hwn wedi'i frawychu gan fil mewnfudo anghyfreithlon
llywodraeth y DU sy'n cynnig cadw ac yna symud unrhyw un sy'n cyrraedd y DU yn
ddiweddarach ar gwch bach sy'n golygu na fydd y Swyddfa Gartref yn ystyried
unrhyw un o'u ceisiadau am loches, p'un a ydynt wedi ffoi rhag rhyfel neu
erledigaeth am fod yn lleiafrif. Bydd y bobl hyn sy’n ceisio noddfa wedyn yn
cael eu hallgludo yn ôl i’r wlad y maent wedi ffoi
ohoni neu drydedd wlad ‘ddiogel’.Gallai'r drydedd
wlad hon fod yn Rwanda neu'n wlad arall y mae Llywodraeth y DU yn ei hystyried
yn ddiogel ond sydd â hanes amheus o ran hawliau dynol. Bydd y ddeddfwriaeth wael ac annynol hon yn cosbi'r bobl
fwyaf bregus o bob cwr o'r byd. Mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch
cyfreithlondeb y Bil ac a yw’n cydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar
Hawliau Dynol (ECHR) ac yn gyson â Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951. Mae’r Prif
Weinidog hefyd wedi datgan yn ysgrifenedig os byddwch yn dod i’r DU yn anghyfreithlon
“Ni allwch elwa o’n hamddiffyniadau caethwasiaeth fodern”. Mae’r cyngor hwn hefyd yn nodi ac yn condemnio’r iaith
beryglus ac annynol a ddefnyddiwyd i gefnogi’r Bil hwn. Mae'r
rhethreg hon yn meithrin diwylliant o gam-drin, hiliaeth a hyd yn oed trais yn
erbyn ffoaduriaid a lleiafrifoedd ac yn rhoi llwyfan iddo. Fel Dinas Noddfa, mae'r cyngor hwn a phobl Abertawe wedi
croesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae hyn wedi gwneud y ddinas
yn ddinas fwy diddorol, amrywiol a goddefgar. Mae'r cyngor hwn yn condemnio camau Llywodraeth y DU wrth
gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ac yn galw ar y prif weinidog a'i weinidogion i
dynnu'r cynigion dybryd hyn yn ôl. Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y
prif weinidog yn y telerau cryfaf posib i amlinellu ein pryderon. Byddem hefyd yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at
Ddinas Noddfa Abertawe i ailddatgan cefnogaeth y cyngor i'r gwaith y maent yn
ei wneud." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef
"Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
pleidleisio fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |