Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y
buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu
swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr
a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid
oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Cynghorwyr 1) Datganodd y Cynghorydd S M Jones Gysylltiad
Personol a Rhagfarnol â Chofnod 114 "Deiseb - Meysydd Chwarae
Waunarlwydd" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. 2) Datganodd y Cynghorwyr C A Holley, D H
Jenkins, E J King, A Pugh ac M T Tribe
Gysylltiad Personol â Chofnod 115 "Datganiad Polisi Cyflog 2023/24" 3) Datganodd y Cynghorydd P N May Gysylltiad
Personol a Rhagfarnol â Chofnod 119 "Hysbysiad o Gynnig – Bil Gwasanaeth
Gofynnol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. Swyddogion 4) Datganodd
G Borsden, A Chard, C Davies, H G Evans, T Meredith, M Nicholls, a B Smith
Gysylltiad Personol a Rhagfarnol â Chofnod 115 "Datganiad Polisi Cyflog
2023/24" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. Sylwer: Ni adawodd A Chard a H G Evans gan fod angen
iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a chofnodi'r
penderfyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022. 2)
Cyfarfod
Seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022. 3)
Cyfarfod
Arbennig y cyngor a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y
cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i) Tad y Cynghorydd Fiona Gordon Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar tad y Cynghorydd Fiona
Gordon. ii) Clare Drakeford, gwraig
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Clare Drakeford,
gwraig Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Safodd pawb a oedd yn
bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. b)
Darllediad Byw Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bob aelod o'r cyhoedd
fod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw. Nododd fod yn rhaid bod yn ofalus i
osgoi unrhyw sylwadau sarhaus neu ddifrïol yn erbyn Swyddogion, Cynghorwyr neu
aelodau eraill o'r cyhoedd |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er
Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cynghorydd Hyrwyddo Beicio Mae'r Cynghorydd
Joe A Hale wedi cael ei benodi'n Gynghorydd Hyrwyddo Beicio. Gellir gweld
rhestr o Gynghorwyr Hyrwyddo yn www.abertawe.gov.uk/CynghorwyrHyrwyddo b)
Llwyddiant Cais
Codi'r Gwastad Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Llywodraeth y DU
wedi cymeradwyo cais codi'r gwastad gan Gyngor Abertawe ar gyfer y prosiect,
sy'n bwriadu adfywio Cwm Tawe Isaf. Mae'r prosiect mawr newydd a fydd yn diogelu treftadaeth
ddiwydiannol Abertawe yn rhoi bywyd newydd i goridor afon Tawe ac yn creu
swyddi a buddsoddiad wedi cael hwb ariannol o £20 miliwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Gofynnodd David
Davies Gwestiwn Cyhoeddus mewn perthynas â Chofnod 118 "Hysbysiad o Gynnig
- Bil Gwasanaeth Gofynnol". Ymatebodd
Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Deiseb - Caeau Chwarae Waunarlwydd. PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd y ddeiseb - ni chymerwyd unrhyw gamau Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn amlinellu
manylion cefndir Deiseb Meysydd Chwarae Waunarlwydd a oedd yn cynnwys dros 500
o lofnodion. Anerchodd Suzanne
Jeffreys (Prif Ddeisebydd) y cyngor ac amlinellodd y sail a'r cefndir ar gyfer
ei chyflwyno. Ymatebodd Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth. Bu'r
cyngor yn trafod y Ddeiseb. Penderfynwyd nodi'r Ddeiseb, ac ni
chymerir unrhyw gamau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Polisi Tâl 2023/24. PDF 220 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth ar gyfer Polisi Cyflog Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2023/24. Penderfynwyd cymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Polisi
Cyflog 2023-2024 fel a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio
mabwysiadu Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. Penderfynwyd mabwysiadu'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus fel yr
amlinellir yn yr adroddiad a'i hychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorwyr L V Walton ac R C
Stewart i ystyriaeth gael ei rhoi, yn ystod adolygiad nesaf y Strategaeth, i
ychwanegu paragraff yn amlinellu pwysigrwydd y Pwyllgorau Datblygu
Corfforaethol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 542 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd chwe
(6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd
angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod. Cwestiwn 2 Amlinellodd y Cynghorydd S Bennett
bryderon yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Parc Arfordirol. Mae'n
debygol bod natur anghyflawn y Parc Arfordirol yn achosi llawer o'r ymddygiadau
gwrthgymdeithasol hyn. A all yr Aelod Cabinet ddarparu llinell amser clir ar
gyfer cwblhau'r Parc Arfordirol? Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. 2) ‘Cwestiynau nad oes angen
Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd dau
(2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Bil Isafswm Gwasanaeth. PDF 220 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan
y Cynghorydd M Jones. "Mae'r cyngor hwn wedi'i frawychu gan ddeddfwriaeth
ddrafft Llywodraeth y DU sy'n cynnig cyfyngu ar allu gweithwyr iechyd i arfer
eu hawl i streicio. Bydd y ddeddfwriaeth wael a diangen hon yn atal llawer o
alwedigaethau, gan gynnwys meddygon, nyrsys, a gweithwyr iechyd eraill rhag
streicio, neu'n eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn wynebu cael eu diswyddo. Mae safonau gwasanaeth gofynnol eisoes yn cael eu cynnal
o fewn y gwasanaeth iechyd yn ystod gweithredu diwydiannol, felly mae'r
ddeddfwriaeth hon yn gwbl ddiangen, ac yn edrych fel ymosodiad ideolegol ar
hawliau gweithwyr, ar adeg pan taw'r prif fygythiad i ddiogelwch cleifion yw'r
anallu i recriwtio staff oherwydd tâl annigonol ac amodau gwaith gwael. Mae'r cyngor yn nodi bod y ddeddfwriaeth hon yn dod o'r
un Llywodraeth Dorïaidd a oedd, yn ystod pandemig COVID, yn ein hannog ni i gyd i glapio ar gyfer y
meddygon a'r nyrsys hyn a oedd yn peryglu eu bywydau ddydd ar ôl dydd, tra
roedd gweinidogion y Llywodraeth Dorïaidd, a'r prif
weinidog ei hun ar y pryd, yn cynnal partïon ac yn torri'r rheolau roedden
nhw'n disgwyl i'r wlad gyfan eu dilyn. Mae'r cyngor hwn yn condemnio camau Llywodraeth y DU wrth
gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ac yn galw ar y prif weinidog a'i weinidogion i
dynnu'r cynigion dybryd hyn yn ôl. Rydym hefyd yn galw ar Arweinydd y Cyngor i
ysgrifennu at y prif weinidog yn y telerau cryfaf posib i amlinellu ein
pryderon." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef
"Pleidleisio", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
pleidleisio fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r
Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |