Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog
Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a allai
fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen
"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad
oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid
datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r
Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cyflwyno Teitl yr Henadur Anrhydeddus. PDF 108 KB Cofnodion: Dywedodd yr Arglwydd Faer fod y cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2022
wedi penderfynu cyflwyno'r teitl Henadur Anrhydeddus i'r cyn-Gynghorwyr
canlynol, June E Burtonshaw, Mark C Child, D Gareth Sullivan a Des W W Thomas, i gydnabod eu gwasanaeth hir a nodedig i Ddinas a
Sir Abertawe a'i awdurdodau rhagflaenol. Cyflwynwyd y teitlau hynny mewn
Cyfarfod Seremonïol y cyngor. Daw'r teitl o'r hen deitl Seisnig “Ealdorman”,
sy'n golygu "dyn hŷn" yn llythrennol ac felly ‘henadur’, ac fe'i
defnyddiwyd gan y Prif Foneddigion a oedd yn llywyddu'r siroedd. Nid yw teitl
Henadur Anrhydeddus yn wleidyddol. Defnyddir y teitl yn Ninas a Sir Abertawe fel gwobr i unigolion er mwyn
cydnabod eu gwasanaethau hir ac amlwg i'r cyngor, ar yr amod bod y meini prawf
wedi'u cyflawni. June E Burtonshaw Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, June E Burtonshaw, yn
gwasanaethu cymuned Penderi. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2002
i 2003. Roedd ei chyfnodau o wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Dinas Abertawe. 5 Mai 1983 i 31 Mawrth 1996. Ø Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 9 Mai 2022. Mark C Child Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, Mark C Child, yn gwasanaethu
cymuned West Cross. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe yn 2020/2021.
Roedd ei gyfnodau o wasanaeth yn cynnwys: Ø Dinas a Sir Abertawe. 6 Mai 1999 i 9 Mai 2022. D Gareth Sullivan Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, D Gareth Sullivan, yn
gwasanaethu cymuned Llangyfelach. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o
2008 i 2009. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw. 7 Mai 1987 i 31 Mawrth 1996. Ø Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 9 Mai 2022. Des W W Thomas Bu’r cyn-Gynghorydd a'r cyn-Arglwydd Faer, Des W W
Thomas, yn gwasanaethu cymuned West Cross. Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir
Abertawe o 1996 i 1997. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys: Ø Cyngor Bwrdeistref Abertawe. 4 Mai 1972 i 31 Mawrth 1974. Ø Cyngor Dinas Abertawe. 1 Ebrill, 1974 tan 5 Mai 1976. Ø Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg. 1 Tachwedd 1979 i 31 Mawrth 1996. Ø Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 9 Mai 2022. Talodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid
Fwyaf deyrnged i wasanaeth hir a nodedig y cyn-Gynghorwyr hyn. Ymatebodd y
pedwar Henadur Anrhydeddus. |