Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion mewn eitemau ar yr agenda. Atgoffodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gynghorwyr a swyddogion y dylid
llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fuddiannau i'w ddatgan Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol. Cofnodion: Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel
Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion arbennig, aelodau'r cyngor a Changen
Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol i gyfarfod seremonïol y cyngor. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod y cyngor a
gynhaliwyd ar 10 Medi 2020 lle penderfynodd y cyngor roddi Rhyddid er Anrhydedd
Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol. Siaradodd Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf,
Arweinydd y Grŵp Ceidwadol a'r Cynghorydd Hyrwyddo ar gyfer y Lluoedd
Arfog dros blaid y cynnig. Penderfynwyd rhoddi
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y
Llynges Fasnachol. Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl
Rhyddid er Anrhydedd i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol, gan
roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddi. Ymatebodd Capten Roy Griffiths o Gangen
Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol drwy ddiolch i'r cyngor am yr
anrhydedd. |