Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â darpariaethau'r
Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd P N Bentu, P Downing, M Durke, C M J Evans, Y V
Jardine, L James, J W Jones, M H Jones, S J Rice, K M Roberts, G D Walker, T M
White gysylltiad personol â Chofnod 77 “Gweithredu Deddf Rhentu
Cartrefi (Cymru) 2016.”; 2)
Datganodd y Cynghorydd N L Matthews gysylltiad
personol â rhagfarnol a Chofnod 79 “ Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe - Kevin Johns MBE” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r
eitem gael ei hystyried 3)
Datganodd y Cynghorydd C M J Evans gysylltiad
personol â Chofnod 80 “ Cwestiynau
gan y Cynghorwyr– c5”; Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a
allai fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd
Gynghorwyr a Swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w
ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â
darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd
y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, P Downing, M Durke, C M
J Evans, Y V Jardine, L James, J W Jones, M H Jones, S J Rice, K M Roberts, G D
Walker, T M White gysylltiad personol â Chofnod 77 "Gweithredu Deddf
Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016." 2)
Datganodd y Cynghorydd N L Matthews bod iddo Fudd
Personol a Rhagfarnol o Gofnod 79 "Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir
Abertawe - Kevin Johns MBE" a gadawodd cyn i'r eitem gael ei hystyried. 3)
Datganodd y Cynghorydd C M J Evans gysylltiad personol â
Chofnod 80 "Cwestiynau i Gynghorwyr – C5". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r
cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin y cyngor a
gynhaliwyd ar 6 Hydref 2022. 2)
Cyfarfod Arbennig y Cyngor a
gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad
gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng
nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor. Nododd y Cynghorydd C A Holley ei fod hefyd wedi chwilio am wybodaeth am
drosglwyddo adeiladau mewn perthynas ag ymateb 3. Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a)
Cydymdeimladau i)
Iris Richard, cyn-Arglwydd Faeres Mynegodd yr Aelod Llywyddol
ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Iris Richard, cyn-Arglwydd
Faeres. Roedd Iris yn wraig i'r cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd, yr
Henadur Anrhydeddus Ioan M Richard. ii)
Y Cyn-gynghorydd Miles Thomas Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Miles Thomas. Bu Miles yn
cynrychioli Ward Newton yn Ninas a Sir Abertawe rhwng 21 Hydref 2010 a 4 Mai
2017. iii)
Y Cyn-gynghorydd Sonya Morris Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio
at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Sonya
Morris. Bu Sonya yn cynrychioli Ward yr Uplands yng Nghyngor Dinas Abertawe o 1992 i 1996. Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd
fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. b)
Gwobrau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl)
2022 Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn sawl categori yng Ngwobrau
CPALl 2022.
Mae'r Gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth ym maes buddsoddiadau cronfeydd
pensiwn. Cyhoeddir yr enillwyr ar 15 Rhagfyr 2022. Y categorïau ar y rhestr fer
yw: i)
Cronfa CPLlL y Flwyddyn (Asedau dan £2.5
biliwn ar 31 Mawrth 2022). ii)
Strategaeth Buddsoddi CPLlL y Flwyddyn. iii) Y Strategaeth Newid yn yr
Hinsawdd Orau. c)
Gwobrau Estates Gazette 2022 Cyhoeddodd yr Aelod Llywydd fod Dinas a Sir
Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Dinas y Flwyddyn Gwobrau
Estates Gazette 2022. Nod
y Wobr yw dathlu dinasoedd y DU a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud i greu lleoedd
anheddol a llwyddiannus. Cyhoeddir yr enillwyr ar 2 Tachwedd 2022. ch) Y
rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tai Cymru 2022 Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Cyngor Abertawe
wedi cyrraedd y rhestr fer mewn sawl categori ar gyfer Gwobrau Tai Cymru 2022.
Mae'r Gwobrau’n dathlu rhagoriaeth o fewn sector Tai Cymru. Cyhoeddir yr
enillwyr ar 18 Tachwedd 2022. Y categorïau ar y rhestr fer yw: i)
Categori:
Darparu
Cartrefi o Ansawdd Uchel. Prosiect ar y rhestr fer: Adeiladu
Cartrefi Gwell. Hillview. Sefydliad: Cyngor Abertawe ii)
Categori:
Tîm Tai y Flwyddyn. Prosiect ar y rhestr fer: Tîm Rhenti Tai. Sefydliad: Cyngor Abertawe. iii)
Categori:
Gweithio
mewn Partneriaeth. Prosiect ar y rhestr fer: Safon Abertawe – Darparu Tai Carbon Isel
Fforddiadwy ar gyfer y Dyfodol. Cyflwynwyd
gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru (YPC). Sefydliad: Amgylchedd Adeiledig Carbon
Isel (LCBE), Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Abertawe. iv)
Categori:
Cynaliadwyedd mewn Tai. Prosiect ar y rhestr fer: Ôl-osod Tŷ
Cyfan i’w wneud yn fwy Ynni Effeithlon mewn 6 byngalo teras yn Abertawe er mwyn
cyrraedd targedau carbon sero. Cyflwynwyd gan Ysgol
Pensaernïaeth Cymru (YPC). Sefydliad: Amgylchedd Adeiledig Carbon
Isel (LCBE), Ysgol Pensaernïaeth Cymru a
Chyngor Abertawe. d) 26
Ionawr Cyfarfod y Cyngor Cyhoeddodd
yr Aelod Llywyddol, yn dilyn ymgynghoriad rhyngddi hi ac arweinwyr y grŵp
gwleidyddol, ac oherwydd
ansicrwydd ynglŷn â chyhoeddiadau'r
gyllideb, y byddai'r
cyfarfod yn cael ei symud yn ôl wythnos i 2 Chwefror 2022. Byddai
angen trefnu cyfarfod ychwanegol o'r cyngor hefyd
ym mis Ionawr, a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddau gyfarfod yn cael ei hanfon at Aelodau gan
y Gwasanaethau Democrataidd
maes o law. dd) Blancedi Cynnes ar gyfer Wcráin Cyhoeddodd
yr Aelod Llywyddol fod amryw o archfarchnadoedd
lleol yn parhau i gasglu eitemau, a gwerthfawrogir unrhyw roddion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: a) Y
Diweddaraf am y Gyllideb Amlinellodd yr
Arweinydd fod y sefyllfa bresennol yn hynod bryderus o ran cyllid i Lywodraeth
Leol yng Nghymru. Mae CLlC wedi amcangyfrif y
gallai'r twll du ariannol ar draws Cymru fod yn £750 miliwn. Mae hyn yn cael
ei yrru i raddau helaeth gan ddau ffactor sef y bydd llawer o'r cytundebau ynni
presennol sydd gan wahanol gynghorau a chyrff cyhoeddus ar hyn o bryd yn dod i
ben yn gynnar y flwyddyn nesaf, sef yr un pryd ag y mae'r cap presennol sy'n
cael ei ddarparu gan y DU hefyd yn dod i ben. Dywedodd y byddai
gwybodaeth ac eglurder pellach yn cael eu darparu ar 17 Tachwedd, gobeithio. Os nad yw'r cap
presennol yn cael ei estyn gallai bil ynni'r cyngor godi o £5m i £20m. Yn ychwanegol at
hynny mae dyfarniadau cyflog i staff hefyd yn agos at gael eu cytuno. Mae'r arian
ar gyfer y dyfarniadau cyflog hyn fel arfer yn cael ei ariannu gan
Lywodraethau'r DU a Chymru ond ar hyn o bryd nid oes ymrwymiad ar y cyllid
ychwanegol hwn a allai roi £10m o bwysau ychwanegol ar gyllideb yr awdurdod
hwn. Ar ben hynny mae
pob cyngor, busnes ac unigolyn yn wynebu pwysau ar hyn o bryd o ran chwyddiant. b) Cronfa
Adferiad Economaidd Oherwydd y pwysau
cyllidebol a amlinellir uchod, dywedodd ei fod wedi cytuno ar y cyd â'r Prif
Swyddog Cyllid y byddai ceisiadau i'r gronfa uchod yn cael eu hatal. Caiff ceisiadau
sydd wedi'u cyflwyno eu harchwilio a'u trafod yn unol â'r gwahanol opsiynau
cyllido sydd ar gael, a bydd yr Aelodau’n cael gwybod a fyddant yn mynd ymlaen
neu'n cael eu hatal am y tro. c) Gwobrau
Estates Gazette Amlinellodd ei
fod wedi mynd i’r gwobrau neithiwr lle’r enwebwyd Abertawe ar gyfer rownd
derfynol y wobr 'Dinas y Flwyddyn'. Yn anffodus nid oedd Abertawe'n
llwyddiannus, a Birmingham, a oedd wedi cynnal gemau'r Gymanwlad yn gynharach
yn y flwyddyn, enillodd y wobr. Dyma'r tro cyntaf
i Abertawe gael ei henwebu am wobr mor fawreddog a diolchodd i'r Swyddogion am
y gwaith yr oedent wedi'i wneud i gyflawni'r prosiectau amrywiol ledled y
ddinas. ch) Gyda'n
Gilydd dros y Nadolig Amlinellodd
yr Arweinydd y bydd Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â JR Events & Catering, yn rhedeg menter Gyda'n Gilydd dros y Nadolig
unwaith eto eleni. Nod y digwyddiad yw darparu cinio Nadolig am ddim i'r rheini
sy'n ddigartref, yn unig neu mewn angen. Caiff gynnal rhwng 12pm a 3.00pm ddydd
Mawrth, 6 Rhagfyr 2022 yn Neuadd Brangwyn. Anogir
cynghorwyr ac eraill i wirfoddoli drwy e-bostio events@jr-eventsandcatrering.co.uk d) Tywydd Garw
Diweddar Talodd deyrnged
i'r gwaith a wnaed gan staff y cyngor yn gyffredinol yn ystod y tywydd garw
diweddar gan amlinellu'r galw enfawr am wasanaethau oherwydd y swm eithafol o
law a ddisgynnodd mewn cyfnod mor fyr, gan arwain at lifogydd mewn rhai
ardaloedd. Cafwyd rhai problemau o ran y gallu i ymateb i'r nifer enfawr o
alwadau/e-byst a dderbyniwyd mewn cyfnod mor fyr, a bydd hyn yn cael ei
adolygu. Yn anffodus,
oherwydd rhagolygon tywydd garw ar gyfer y penwythnos, dywedodd na fydd modd
cynnal y Digwyddiad Tân Gwyllt ar 5 Tachwedd ym Mae Abertawe ond bydd y Tîm
Digwyddiadau Arbennig yn canolbwyntio nawr ar gynnal Gorymdaith y Nadolig nos
Sul 20 Tachwedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael
eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd
amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda
ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Deilliannau Arolwg Estyn ar gyfer Llywodraeth Leol Gwasanaethau Addysg yn Abertawe. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau adroddiad a oedd yn amlinellu’r
canlyniadau sy'n deillio o Arolygiad Estyn 2022 ar gyfer Gwasanaethau Addysg
Llywodraeth Leol yn Abertawe, ac yn manylu arnynt. Penderfynwyd nodi canfyddiadau
Arolygiad Estyn 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Approved Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cynyddu
ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a'i goblygiadau ac i ystyried yr argymhelliad i roi
terfyn ar y defnydd o denantiaethau rhagarweiniol. Penderfynwyd 1) Nodi
goblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. 2) Bod y cyngor
yn cytuno i roi terfyn ar y defnydd o Denantiaethau Rhagarweiniol ac yn
caniatáu i'r holl
Denantiaid Rhagarweiniol presennol dderbyn contractau Meddiannaeth Diogel ar ôl rhoi'r Ddeddf Rhentu Cartrefi ar waith. 3) Rhoi
Contractau Meddiannaeth Diogel i bob tenant newydd Cyngor Abertawe o 1 Rhagfyr
2022. #Sylwer: Cytunodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau i gynnal
Seminar Aelodau i edrych ar y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol a godwyd yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem hon. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Polisi Trwyddedu HMO. PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn cyflwyno'r gofyniad i gynnwys adendwm ym Mholisi Trwyddedu HMO 2020 o ran
Ward y Glannau. Penderfynwyd rhoi
cymeradwyaeth i gynnwys adendwm yn y Polisi Trwyddedu HMO presennol i newid
enwau'r ward yn y polisi i Uplands, Castell, St
Thomas a'r Glannau fel a nodir yn Atodiadau B, C, D ac E i'r adroddiad ac
ychwanegu'r atodiadau hyn at y Polisi Trwyddedu HMO. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe - Kevin Johns MBE. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad a oedd yn gofyn i’r aelodau ystyried rhoddi’r teitl Rhyddid
er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns MBE. Penderfynwyd 1) Rhoddi'r
teitl Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns
MBE. 2) Cynnal cyfarfod
seremonïol o'r cyngor ar 8 Rhagfyr 2022 am 2.00pm i roddi'r teitl
Rhyddid er Anrhydedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 361 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’ Cyflwynwyd un
deg pedwar (14) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng
Ngwŷs y Cyngor. Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd
angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod. Cwestiwn 7 Gofynnodd y Cynghorydd
Stuart Rice gwestiwn mewn perthynas â'r dadansoddiad
o fuddsoddiadau sy'n ymwneud â'r gwahanol brosiectau y mae'r cyngor yn eu hariannu neu sy'n dod o'r sector preifat neu
gyhoeddus. Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Cwestiwn 10 Gofynnodd
y Cynghorydd Angela O'Connor gwestiwn mewn perthynas â chyflogi'r swyddog cyswllt cymunedol a pha gam o'r broses ydyn ni
wedi'i gyrraedd gyda'r penodiad ar hyn o
bryd. Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau Rhan B nad oes
angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd tri
(3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Mabwysiadu Diffiniad o Islamoffobia. PDF 223 KB Penderfyniad: Approved Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard a'i eilio gan y Cynghorydd R C
Stewart. Mae Abertawe’n falch o'i hamrywiaeth ac mae ganddi
hanes cryf o hyrwyddo cydlyniant a chroesawu pobl o bob cwr o'r byd. Mae ei
phreswylwyr bob amser wedi dod ynghyd a chefnogi’i gilydd yn y frwydr yn erbyn
hiliaeth a gwahaniaethu o bob math. Mae'r cyngor hwn
felly’n croesawu, yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu diffiniad APPG (Grŵp
Hollbleidiol Seneddol) o Islamoffobia[1], gan gynnwys
ei holl enghreifftiau a ddyfynnir yn llawn fel a ganlyn: "MAE GWRAIDD
ISLAMOFFOBIA MEWN HILIAETH AC MAE'N FATH O HILIAETH SY'N TARGEDU MYNEGIADAU O
FWSLEMIAETH NEU'R HYN SY'N CAEL EI AMGYFFRED FEL MWSLEMIAETH. Gallai enghreifftiau
cyfoes o Islamoffobia mewn bywyd cyhoeddus, y cyfryngau, ysgolion, y gweithle,
ac mewn cyfarfyddiadau rhwng crefyddau a'r rheini nad ydynt yn grefyddau yn y
maes cyhoeddus, gan ystyried y cyd-destun cyffredinol, gynnwys, ond heb fod yn
gyfyngedig i: ·
Alw am, cynorthwyo, annog neu gyfiawnhau lladd neu
niweidio Mwslimiaid yn enw ideoleg hiliol/ffasgaidd, neu farn eithafol ar
grefydd. ·
Gwneud honiadau celwyddog, diraddiol neu ystrydebol am
Fwslimiaid fel y cyfryw, neu am Fwslimiaid fel grŵp cyfunol megis, yn
enwedig ond heb fod yn gyfyngedig i, gynllwynion am ymdreiddiad Mwslimaidd mewn
gwleidyddiaeth, llywodraeth neu sefydliadau cymdeithasol eraill; y myth fod gan
hunaniaeth Fwslimaidd dueddiad unigryw ar gyfer terfysgaeth a honiadau o
'fygythiad' demograffig a achosir gan Fwslimiaid, neu o Fwslimiaid yn 'cymryd
drosodd'. ·
Cyhuddo Mwslimiaid fel grŵp o fod yn gyfrifol am
ddrygioni go iawn neu ddychmygol a gyflawnwyd gan un person Mwslimaidd neu
grŵp o unigolion Mwslimaidd, neu hyd yn oed am weithredoedd a gyflawnwyd
gan bobl nad ydynt yn Fwslimiaid. ·
Cyhuddo Mwslimiaid fel grŵp, neu wladwriaethau sy'n
bennaf Fwslimaidd, o ddyfeisio neu or-ddweud Islamoffobia, glanhau ethnig neu
hil-laddiad yn erbyn Mwslimiaid. ·
Cyhuddo dinasyddion Mwslimaidd o fod yn fwy ffyddlon i'r
'Ummah' (cymuned Fwslimaidd drawswladol) neu i wledydd eu genedigaeth neu i
flaenoriaethau honedig Mwslimiaid ledled y byd, nag i fuddiannau eu cenhedloedd
eu hunain. ·
Gwrthod yr hawl i hunanbenderfyniad i boblogaethau
Mwslimaidd e.e., drwy honni mai ymgais terfysgol yw bodolaeth Palesteina neu
Kashmir annibynnol. ·
Defnyddio safonau dwbl drwy ddisgwyl i Fwslimiaid ymddwyn
mewn ffordd nad yw'n ddisgwyliedig nac yn cael ei mynnu gan unrhyw grwpiau
eraill mewn cymdeithas, e.e. profion ffyddlondeb. ·
Defnyddio'r symbolau a'r delweddau sy'n gysylltiedig ag
Islamoffobia clasurol. ·
Dal Mwslimiaid i gyfrif ar y cyd am weithredoedd unrhyw
wladwriaeth fwyafrifol Fwslimaidd, boed yn seciwlar neu'n gyfansoddiadol
Islamaidd. Felly, galwn ar: 1.
Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu
at lywodraeth y DU yn gofyn iddynt wrando ar gymunedau Mwslimaidd a'r grŵp
trawsbleidiol o ASau ac arglwyddi. 2. Y Cyngor i fabwysiadu'r diffiniad
hwn o Islamoffobia yn ffurfiol, sy'n dynodi gwahaniaethu yn erbyn Mwslimiaid
fel math o hiliaeth. Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef
"Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
pleidleisio fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |